Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion

Pwy syn gallu cwyno?

Mae'r Polisi yn datgan y gellir derbyn cwynion oddi wrth aelodau unigol o'r cyhoedd (neu ar eu rhan fel unigolyn) sy'n dymuno mynegi anfodlonrwydd ynghylch safon gwasanaeth y maent wedi ei gael gan y Cyngor neu fethiant, gan y Cyngor, i gyflenwi gwasanaeth y maent yn teimlo y dylent fod wedi ei gael.

Ni fydd cwynion yn cael eu derbyn gan neu ar ran sefydliadau, e.e. cynghorau cymuned neu gynghorau tref, a sefydliadau gwirfoddol, ond ni bai bod y gŵyn yn ymwneud â darpariaeth Gymraeg.

Lle darparwyd y gwasanaeth gan gorff neu sefydliad arall ar ran y Cyngor, gallai'r Cyngor gyfeirio'r mater at y corff neu'r sefydliad arall i'w ystyried o dan ei weithdrefn gwyno fewnol os bydd y pryder neu'r gŵyn yn ymwneud ag agwedd staff.

Bydd cwynion dienw o unrhyw natur yn cael eu nodi ond ni fydd Cyngor Sir Penfro yn ymchwilio iddynt. 

ID: 509, adolygwyd 16/07/2024