Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion

Taflen Ffeithiau Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion

Gwneud cwyn

Beth yw cwyn?

Edrych ar ôl eich data personol

Proses gwyno

Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gorfforaethol? 

Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gofal cymdeithasol?

Ble dwi'n mynd os nad ydw i'n fodlon gydag ymateb y cyngor i fy nghwyn?

Beth os oes gennyf ganmoliaeth neu sylw?

Cwynion Gofal Cymdeithasol: Alla i wneud cwyn at rywun arall?

Cyngor a chymorth arall sydd ar gael i achwynwyr

Gwneud cwyn

Caiff unrhyw aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys plentyn, a oedd nail ai’n derbyn neu a oedd â hawl i dderbyn gwasanaeth gan y cyngor wneud cywn. Mae hwn hefyd yn berthnasol os yw’r sawl wedi dioddef oherwydd gweithredu amhriodol neu ddiffyg gweithredu gan y cyngor.
Gallwch hefyd wneud cwyn ar ran rhywun arall:

  • Os yw’r unigolyn yn sâl neu wedi marw
  • Os yw’r unigolyn yr blentyn
  • Os nad oes gan yr unigolyn alluded (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005)
  • Os yw’r unigolyn wedi gofyn i rywun weithredu ar ei ran

Rydym bob amser yn anelu at safonau uchel, ond weithiau mae pethau’n mynd o chwith. Os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn dywedwch wrthym. Yna, gallwn ddefnyddio’r adborth hwn i wella’n gwasanaethau. Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut bydd y cyngor yn gweithio gyda’n cwsmeriaid i ddatrys cwynion. Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrthym sut mae’n rhaid i ni wneud hyn

Beth yw cwyn?

  • Mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder;
  • Wedi’i ysgrifennu neu ar lafar neu ei wneud drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
  • Wedi’i wneud gan un neu fwy o aelodau’r cyhoedd (rhywun neu grŵp sy’n derbyn gwasanaeth neu gwrthodwyd gwasanaeth y mae ganddo hawl iddo gan y darparwr gwasanaeth)
  • Am weithredu neu ddiffyg gweithredu darparwr gwasanaeth cyhoeddus neu safon y gwasanaeth a ddarperir
  • Rhywbeth sy’n gofyn am ymateb. Os ydych yn dod atom i ofyn am wasanaeth, ee rhoi gwybod am olau stryd diffygiol neu ofyn am apwyntiad, nid yw'r polisi hwn yn berthnasol. Os byddwch yn gwneud cais am wasanaeth ac yna'n anfodlon ar ein hymateb, byddwch yn gallu gwneud eich pryder yn hysbys fel yr ydym yn ei ddisgrifio isod.

Nid yw cwyn yn un o’r canlynol:

  • Cais am wasanaeth
  • Cais am apêl neu adolygiad yn erbyn penderfyniad sydd â phroses apêl neu adolygu penodedig
  • Modd i geisio newid deddfwriaeth
  • Modd i newid penderfyniad polisi
  • Modd i grŵp neu sefydliad lobïo geisio hyrwyddo eu hachos
  • Cwyn a godir gan berson nad yw’n derbyn gwasanaeth neu’n gweithredu ar ran rhywun nad yw’n cael gwasanaeth neu
  • Yn berthnasol pan fo cyfryngu neu ddatrysiad anghydfod arall yn briodol/yn cael ei ddefnyddio.

Edrych ar ôl eich data personol

Fel arfer, bydd angen i’r sawl sy’n edrych ar eich cwyn weld y ffeiliau sydd gennym sy’n berthnasol i’ch cwyn. Os nad ydych eisiau i hyn ddigwydd, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym. Ni fyddwn yn  trosglwyddo unrhyw wybodaeth oni bai ei fod yn ofynnol o dan y gyfraith, ac ni fyddwn ond yn trosglwyddo cymaint ag sy’n angenrheidiol. Gellir gweld yr Hysbysiad Preifatrwydd - Canmoliaeth, Pryderon A Chwynion

Proses gwyno

Fel rheol, gallwn ond roi sylw i’ch pryderon os ydych yn dweud wrthym amdanynt o fewn 6 mis (12 mis ar gyfer cwynion gofal cymdeithasol). Y rheswm am hyn yw oherwydd ei bod yn well ymchwilio i’ch cwynion pan fydd y materion dal yn newydd ym meddyliau pawb. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallwn edrych ar gwynion sy’n cael eu dwyn i’n sylw yn hwyrach na hyn. Gellir gwneud cwyn ynysgrifenedig; Adran Gwynion, Cyngor Sir Penfro, Neu add y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP, ar lafar; 01437 764551, Ffurflen Pryder / Cwyn arlein neu drwy e bost; corporatecomplaints@pembrokeshire.gov.uk / socialcarecomplaints@pembrokeshire.gov.uk

Mae dau gam i'r broses gwyno:

Cam 1: Datrysiad Anffurfiol

Ar gyfer cwynion corfforaethol bydd eich cwyn yn cael ei chydnabod o fewn 5 niwrnod gwaith. Bydd ymateb yn cael ei anfon atoch o fewn 10 niwrnod gwaith o ddyddiad derbyn y gŵyn.

Ar gyfer cwynion gofal cymdeithasol bydd eich cwyn yn cael ei chydnabod o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Bydd ymateb yn cael ei anfon atoch o fewn 15 niwrnod gwaith o ddyddiad derbyn y gŵyn.

Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn gyflym ar y cam hwn. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch ofyn i’r cwyn gael ei symud ymlaen i gam 2.

Cam 2: Datrysiad Ffurfiol

Ar gyfer cwynion corfforaethol bydd eich cwyn yn cael ei chydnabod o fewn 5 niwrnod gwaith. Yn dilyn hyn dylech ddisgwyl cael ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith.

Ar gyfer cwynion gofal cymdeithasol bydd eich cwyn yn cael ei chydnabod o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Ein nod yw darparu ymateb i'ch cwyn o fewn 25 niwrnod gwaith.

Penodir ymchwilydd i ymchwilio i’ch cwyn; byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw hwn. Yna bydd yr ymchwilydd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau cwmpas a chanlyniadau dymunol eich cwyn. Noder na fydd yr ymchwiliad yn dechrau nes eich bod chi, yr achwynydd, a’r ymchwilydd/cyngor yn cytuno ar gwmpas y gŵyn.

Unwaith y daw’r ymchwiliad i ben, cyflwynir adroddiad ffurfiol i’r tîm cwynion i’w gofnodi, a rhennir yr adroddiad hwn â’r rheolwr corfforaethol/pennaeth gwasanaeth neu’r cyfarwyddwr perthnasol er mwyn iddo ei ystyried. Bydd y rheolwr corfforaethol/pennaeth gwasanaeth neu’r cyfarwyddwr wedyn yn ymateb yn ffurfiol i chi drwy lythyr, gan gynnwys copi o’r adroddiad yn cadarnhau canlyniad y gŵyn ac unrhyw gamau gweithredu neu argymhellion y cytunwyd arnynt.

Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gorfforaethol? 

Efallai y bydd cwyn gennych am wasanaeth yr ydym wedi’i drefnu ar eich rhan gyda darparwr arall, megis contractiwr. Bydd gan bob sefydliad ei broses gwyno ei hun a byddwn yn hapus i’ch helpu i wneud cwyn am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn.

Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gofal cymdeithasol?

Efallai y bydd cwyn gennych am wasanaeth yr ydym wedi’i drefnu ar eich rhan gyda darparwr arall, megis cartref gofal preswyl, asiantaeth gofal cartref neu wasanaeth dydd. Bydd gan bob sefydliad ei broses gwyno ei hun a byddwn yn hapus i’ch helpu i wneud cwyn am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn. 

Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth yr ydym wedi’i ddarparu ar y cyd â sefydliad arall, e.e. pecyn gofal gan staff iechyd a gofal cymdeithasol, byddwn yn edrych ar eich cwyn gyda’n gilydd ac fel arfer yn anfon un ymateb atoch.

Ble dwi'n mynd os nad ydw i'n fodlon gydag ymateb y cyngor i fy nghwyn?

Mae’r ombwdsmon fel arfer yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw yn gyntaf a rhoi’r cyfle i ni unioni pethau. Os ydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor i’ch cwyn, gallwch ofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru  ymchwilio iddi.

Manylion cyswllt yr Ombwdsmon yw:

Gwefan Ombwdsmon Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cyfeiriad: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

Rhif ffôn: 0300 790 0203

Beth os oes gennyf ganmoliaeth neu sylw?

Os ydych yn fodlon am rywbeth yr ydych yn teimlo ein bod wedi’i wneud yn dda neu os oes gwasanaeth yr ydych yn hapus ag ef, neu os oes gennych awgrym ar sut y gallai’r cyngor wella, rhowch wybod i ni drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol:   

Cwblhau ffurflen ar-lein: Canmoliaeth / Ffurflen Sylwadau

Drwy ffonio ein canolfan gyswllt: 01437 764551

Anfon neges e-bost i: compliments@pembrokeshire.gov.uk  

Yn ysgrifenedig i: Canmoliaethau a Sylwadau, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

Cwynion Gofal Cymdeithasol: Alla i wneud cwyn at rywun arall?

Arolygiaeth Gofal Cymru

Sy’n rheoleiddio’r holl wasanaethau gofal yng Nghymru. Gallwch gwyno’n uniongyrchol ati am wasanaeth gofal a dderbynnir gan gartrefi gofal ac asiantaethau gofal cartref, yn ogystal â gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor. 

Cyfeiriad: Arolygiaeth Gofal Cymru, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ

Ffôn: 0300 7900 126   

Ffacs: 0872 437 7301

E-bost: AGC@llyw.cymru    

Gwefan Arolygiaeth Gofal Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ac mae ganddo’r pŵer i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn.

Cyfeiriad: Gofal Cymdeithasol Cymru, Tŷ South Gate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW

E-bost: info@ccwales.org.uk      

Gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Comisiynydd Plant Cymru

Gefnogi a chynghori plant a phobl ifanc ar eu hawliau.

Cyfeiriad: Comisiynydd Plant Cymru, Tŷ Llewellyn, Parc Busnes Glan Yr Harbwr, Heol Yr Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB

Ffôn: 01792 765 600     

Rhadffôn: 0808 801 1000

E-bost: post@complantcymru.org.uk

Gwefan Comisiynydd Plant Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Yn gwarchod a hyrwyddo hawliau pobl hŷn ledled Cymru. Mae’n rhoi cymorth a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn ac yn gweithio i rymuso pobl hŷn a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.

Cyfeiriad: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt, Caerdydd, CF10 5FL

Ffôn: 03442 640670 neu 02920 445030

E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Gwefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor a chymorth arall sydd ar gael i achwynwyr

Gall y sefydliadau canlynol eich cynorthwyo wrth wneud cwyn.

Os ydych chi'n dal yn ansicr o ran yr hyn sydd ei angen arnoch, neu os nad yw'r un sydd ei angen arnoch wedi'i restru isod, rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus i helpu i ddod o hyd i'r un cywir i chi.

Eiriolaeth i blant a phobl Ifanc

TGP Cymru

Cyfeiriad: Byngalo Min-y-Mor, Gerddi Wellington, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0BQ

Ffôn: 0808 168 2599   

E-bost: midandwestwales@tgpcymru.org.uk    

Gwefan TGP Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Oedolion ag anableddau dysgu

Pobl yn Gyntaf Sir Benfro

Cyfeiriad: Portcullis House, Old Hakin Road, Hwlffordd, SA61 1XE

Ffôn: 01437 762524         

E-bost: advocate@pembrokeshirepeople1st.org.uk  

Gwefan Pobl yn Gyntaf Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Plant ag Anableddau Dysgu

Gweithredu dros Blant

Cyfeiriad: Penfynnon, Hawthorn Rise, Hwlffordd, SA61 2AX

Ffôn: 01437 761 330        

Gwefan Gweithredu dros Blant (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor cyffredinol

Cyngor ar Bopeth Sir Benfro

Cyfeiriad: 36-38 High Street, Hwlffordd, SA61 2DA neu, 38 Meyrick Street, Doc Penfro, SA72 6UT

Ffôn: Hwlffordd 01437 767 936 / Doc Penfro 01646 623 104

Gwefan Cyngor ar Bopeth Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Eiriolaeth broffesiynol annibynnol

3CIPA (Tair Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol Sirol)

Ffôn: 0800 206 1387   

E-bost: info@cipawales.org.uk

Gwefan CIPA Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Eiriolaeth Cwynion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Llais Cymru

Cyfeiriad: Llais Aberdaugleddau, Swît 18 Cedar Court, Parc Busnes Havens Head, Aberdaugleddau, SA73 3LS

Ffôn: 01646 697610

E-bost: westwalesenquiries@llaiscymru.org

Gwefan Llais Cymru (yn agor mewn tab newydd)

ID: 9269, adolygwyd 14/08/2024