Canolbwynt Bywyd

Iechyd a Lles

Bwriad y Bywydfan: Iechyd a Lles yn Llyfrgell Doc Penfro yw helpu unigolion a chymunedau De Sir Benfro drwy ddarparu lle ble gall pobl ddod o hyd i daflenni gwybodaeth o ansawdd da, cylchgronau a llyfrau ar bynciau'n ymwneud â gwella iechyd a lles, a hynny mewn lleoliad anffurfiol a chyfleus. Mae'r bywydfan yn rhad ac am ddim ar gyfer y cyhoedd, grwpiau cymunedol lleol ac elusennau.

Lansiwyd y Bywydfan: sgiliau gwaith ac arian yn Llyfrgell Abergwaun ym mis Chwefror 2016.

Am y prosiect

Datblygwyd y Bywydfan yn Noc Penfro gan Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Penfro, ac fe'i gwnaed yn bosib drwy gyfrwng grant oddi wrth Lywodraeth Cymru, a'i gwnaeth hi'n bosib adnewyddu dwy ardal yn llyfrgell Water Street.

Mae gan yr ardal gyntaf seddi anffurfiol a llyfrau, DVDau, taflenni a chylchgronau ynghyd â chyfrifiadur personol a glustnodwyd ar gyfer rhoi gwybodaeth am iechyd.

Mae'r ail ardal yn ystafell ymgynghori fechan, breifat, y gellir mynd iddi mewn cadair olwyn, sy'n cynnwys seddi cyffyrddus a chyfleusterau gwneud paned.

Bwriad y bywydfan yw dod â gwybodaeth am iechyd a lles at ei gilydd er mwyn helpu trigolion lleol i wneud penderfyniadau doeth am eu hiechyd.

Agorwyd y cyfleuster yn swyddogol ar ddydd Mercher 25 Chwefror 2015 gan yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd.   

Beth sy'n cael ei gynnig?

Mae'r Bywydfan yn cynnig llyfrau, taflenni, cylchgronau a DVDau sy'n ymwneud ag iechyd, gan ymwneud â phynciau mor amrywiol â bwyta'n iach a chadw'n heini i leihau pwysau a rheoli salwch hirdymor.

Mae'r bywydfan hefyd yn darparu lleoliad ac adnoddau ble gall elusennau a sefydliadau perthnasol drefnu trafodaethau ymgynghorol preifat gyda chleientiaid a grwpiau bychain; cynnal sgyrsiau a chyflwyniadau. Ers i'r lle gael ei lansio, mae nifer o sefydliadau wedi elwa o'r ardal, gan gynnwys:

  • Hafal
  • Age Cymru
  • Cymunedau'n Gyntaf
  • Canolfan Hamdden Penfro
  • Cymdeithas Alzheimer's
  • Co-op Bwyd
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
  • Cymdeithas Strôc
  • Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion (RNIB)
  • Stopio Smygu Cymru  

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y Bywydfan, cysylltwch â Laura Evans (Swyddog Datblygu Llyfrgelloedd) ar 01437 776639 neu e-bostiwch: laura.evans@pembrokeshire.gov.uk

Gwefannau

Rydym hefyd wedi casglu rhestr o sawl gwefan iechyd a lles defnyddiol y gellir eu defnyddio i gefnogi gwaith y Bywydfan. 

ID: 257, adolygwyd 23/09/2022