Canolbwynt Bywyd

Gwefannau Defnyddiol

Sgiliau TG, Gwaith ac Arian

GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)

y lle gorau i ddod o hyd i wasanaethau'r Llywodraeth a gwybodaeth, gan gynnwys: budd-daliadau, busnes a hunangyflogedig; addysg a dysgu; tai a gwasanaethau lleol; arian a threth; gweithio, swyddi a phensiynau. 

Canolfan Byd Gwaith (yn agor mewn tab newydd)

Rhifau cyswllt ffôn defnyddiol. Cyngor ar hawlio Lwfans ceisio gwaith, dolenni i'r gwefan paru swyddi ar-lein a chyfrifiannell budd-daliadau.

Cymunedau Digidol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Yn gweithio i helpu pobl i gael mynediad i'r rhyngrwyd ac i'w ddefnyddio. Mae'n cynnwys adnoddau a chanllawiau cymorth ddefnyddiol.

Cyngor Ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor diduedd ar bynciau megis Budd-daliadau; Gwaith; Tai; Treth a mwy. Manylion cyswllt canolfannau lleol.

Money Helper (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor ariannol rhad ac am ddim a diduedd, a sefydlwyd gan y llywodraeth. Cyngor a chanllawiau ar wella eich sefyllfa ariannol. Offer a chyfrifianellau i'ch helpu i gadw cownt a chynllunio. Cefnogaeth bersonol, dros y ffôn ac ar lein. 

Gwefan Iechyd a lles

Galw Iechyd Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mae Galw Iechyd Cymru'n cynnig gwybodaeth a chyngor iechyd. Mae'r wefan yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am eich iechyd drwy gyfrwng gwyddoniadur A-Y a gallwch hefyd chwilio am wasanaethau GIG fel deintydd, fferyllydd neu grwpiau cefnogi yn eich ardal leol. I gael ateb i unrhyw gwestiwn iechyd cyffredinol sydd gennych, ceir gwasanaeth ymholiadau ar lein. Mae'r safle hefyd yn cynnig nifer o declynnau asesu ar lein, gan gynnwys gwiriwr symptomau.

Ychwanegu At Fywyd (yn agor mewn tab newydd)

Mae ‘Ychwanegu At Fywyd' yn wiriwr iechyd rhad ac am ddim gan GIG Cymru i'ch helpu i fyw yn hŷn, teimlo'n well, a dal i fod yn iach a llawn bywyd i'r dyfodol. Gall eich helpu i ddarganfod mwy am eich iechyd, dysgu  am y camau bach y gallwch eu cymryd i aros yn heini a darganfod gwasanaethau lleol i'ch helpu i wneud newid cadarnhaol i'ch bywyd.

Dewis Doeth (yn agor mewn tab newydd)

Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i benderfynu a oes angen sylw meddygol arnoch pan fyddwch yn sâl.  Mae'n esbonio beth mae pob un o wasanaethau'r GIG yn ei wneud, a phryd y dylid eu defnyddio.

Dim Smygu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Rhoi cymorth a gwybodaeth i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu.

Newid am Oes (yn agor mewn tab newydd)

Cynghorion a chyngor ar ddulliau i fod yn iach a heini.

British Liver Trust (yn agor mewn tab newydd)

Mae Love your liver yn ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol dan ofal Ymddiriedolaeth Afu Cymru. Mae'r wefan yn cynnig neges syml - Tri cham at afu iach, drwy fod yn ymwybodol o'r peryglon sy'n dod yn sgil alcohol, gordewdra a hepatitis firal. Gallwch wirio iechyd eich afu drwy gyfrwng asesiad ar lein.

British Heart Foundation (yn agor mewn tab newydd)

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnig gwybodaeth ddibynadwy a hawdd i'w ddeall am glefyd y galon, a chyngor ynghylch sut i'w rwystro.

British Lung Foundation (yn agor mewn tab newydd)

Mae'r BLF yn cefnogi pobl â chlefyd yr ysgyfaint eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac yn codi ymwybyddiaeth o glefydau'r ysgyfaint ar lefel leol a chenedlaethol.

Diabetes UK (yn agor mewn tab newydd)

Mae Diabetes UK yn helpu pobl i reoli'u diabetes yn effeithiol drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Stroke Association (yn agor mewn tab newydd)

Mae Sefydliad y Strôc yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion strôc, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Cancer Research UK (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cancer Research UK yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ymchwil ynghylch y mathau o ganser sydd ar gael, y triniaethau gwahanol a'r symptomau.

Macmillan Cancer Support (yn agor mewn tab newydd)

Mae Macmillan Cancer Support yn rhoi cefnogaeth ymarferol, feddygol, emosiynol ac ariannol i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser.

Mind (yn agor mewn tab newydd)

Mae Mind yn rhoi cyngor a chefnogaeth er mwyn grymuso unrhyw un sy'n mynd drwy brofiad iechyd meddwl. Maen nhw'n ymgyrchi i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.

Alzheimer's Society (yn agor mewn tab newydd)

Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn gweithio er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia, drwy ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau ymarferol a chefnogaeth.

ID: 259, adolygwyd 30/04/2026