Canolbwynt Bywyd
Iechyd a Lles
Bwriad y Bywydfan: Iechyd a Lles yn Llyfrgell Doc Penfro yw helpu unigolion a chymunedau De Sir Benfro drwy ddarparu lle ble gall pobl ddod o hyd i daflenni gwybodaeth o ansawdd da, cylchgronau a llyfrau ar bynciau'n ymwneud â gwella iechyd a lles, a hynny mewn lleoliad anffurfiol a chyfleus. Mae'r bywydfan yn rhad ac am ddim ar gyfer y cyhoedd, grwpiau cymunedol lleol ac elusennau.
Lansiwyd y Bywydfan: sgiliau gwaith ac arian yn Llyfrgell Abergwaun ym mis Chwefror 2016.
Am y prosiect
Datblygwyd y Bywydfan yn Noc Penfro gan Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Penfro, ac fe'i gwnaed yn bosib drwy gyfrwng grant oddi wrth Lywodraeth Cymru, a'i gwnaeth hi'n bosib adnewyddu dwy ardal yn llyfrgell Water Street.
Mae gan yr ardal gyntaf seddi anffurfiol a llyfrau, DVDau, taflenni a chylchgronau ynghyd â chyfrifiadur personol a glustnodwyd ar gyfer rhoi gwybodaeth am iechyd.
Mae'r ail ardal yn ystafell ymgynghori fechan, breifat, y gellir mynd iddi mewn cadair olwyn, sy'n cynnwys seddi cyffyrddus a chyfleusterau gwneud paned.
Bwriad y bywydfan yw dod â gwybodaeth am iechyd a lles at ei gilydd er mwyn helpu trigolion lleol i wneud penderfyniadau doeth am eu hiechyd.
Agorwyd y cyfleuster yn swyddogol ar ddydd Mercher 25 Chwefror 2015 gan yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd.
Beth sy'n cael ei gynnig?
Mae'r Bywydfan yn cynnig llyfrau, taflenni, cylchgronau a DVDau sy'n ymwneud ag iechyd, gan ymwneud â phynciau mor amrywiol â bwyta'n iach a chadw'n heini i leihau pwysau a rheoli salwch hirdymor.
Mae'r bywydfan hefyd yn darparu lleoliad ac adnoddau ble gall elusennau a sefydliadau perthnasol drefnu trafodaethau ymgynghorol preifat gyda chleientiaid a grwpiau bychain; cynnal sgyrsiau a chyflwyniadau. Ers i'r lle gael ei lansio, mae nifer o sefydliadau wedi elwa o'r ardal, gan gynnwys:
- Hafal
- Age Cymru
- Cymunedau'n Gyntaf
- Canolfan Hamdden Penfro
- Cymdeithas Alzheimer's
- Co-op Bwyd
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
- Cymdeithas Strôc
- Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion (RNIB)
- Stopio Smygu Cymru
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y Bywydfan, cysylltwch â Laura Evans (Swyddog Datblygu Llyfrgelloedd) ar 01437 776639 neu e-bostiwch: laura.evans@pembrokeshire.gov.uk
Gwefannau
Rydym hefyd wedi casglu rhestr o sawl gwefan iechyd a lles defnyddiol y gellir eu defnyddio i gefnogi gwaith y Bywydfan.
Sgiliau Gwaith ac Arian
Lansiodd y Bywydfan: Sgiliau Gwaith ac Arian newydd yn Llyfrgell Abergwaun ym mis Chwefror 2016. Wrth i'r prosiect ddatblygu, cadwch lygad ar ein gwefan a'n tudalen Weplyfr (yn agor mewn tab newydd) i gael manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd neu unigol.
Am y prosiect
Datblygwyd Bywydfan: Sgiliau Gwaith ac Arian gan Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Penfro mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith, ac mae'n dod o ganlyniad i ddyfarnu grant o £40,000 gan Lywodraeth Cymru.
Bwriad y fenter yw helpu pobl i dyfu drwy leihau rhwystrau i waith a gwella datblygu sgiliau yng Ngogledd Sir Benfro.
Ein rôl yn y Llyfrgell yw darparu cyfleusterau ar gyfer sefydliadau perthnasol er mwyn iddyn nhw gynnig trafodaethau ymgynghorol preifat â chleientiaid, darparu ystafell fwy o faint ar gyfer gweithgareddau grwpiau ffocws neu weithdai a darparu adnoddau gwybodaeth o safon uchel, drwy gyfrwng llyfrau, cylchgronau a thaflenni, i gefnogi'r gweithgareddau hyn.
Digwyddiadau/gweithgareddau
Dathlwyd y lansiad gyda sawl stondin wybodaeth dan nawdd sefydliadau partner: Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE); Doeth am Bensiwn gan Gyngor ar Bopeth; Canolfan Addysg Gymunedol Abergwaun; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Gyrfa Cymru; Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) ac Undeb Credyd Gorllewin Cymru.
Ers y lansiad, mae sawl sefydliad wedi defnyddio ystafell ymgynghori'r Bywydfan yn rheolaidd gan gynnwys PaCE; RNIB a Gwasanaeth Cwnsela Sir Benfro
Cynhaliodd Llyfrgell Abergwaun Ŵyl Ddysgu hefyd. Digwyddodd hynny dros gyfnod o wythnos, ac roedd yn cynnwys sesiynau blasu dan nawdd Coleg Penfro; cyflwyniad i wirfoddoli gan PAVS; gwybodaeth am gyrsiau oedd ar fin dechrau yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Abergwaun; cymorth a chyngor gan Swyddog Safonau Masnach CSP a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu; sesiynau blasu Cymraeg a'n gweithgaredd picio i mewn TG rheolaidd.