Canolbwynt Bywyd

Sgiliau Gwaith ac Arian

Lansiodd y Bywydfan: Sgiliau Gwaith ac Arian newydd yn Llyfrgell Abergwaun ym mis Chwefror 2016. Wrth i'r prosiect ddatblygu, cadwch lygad ar ein gwefan a'n tudalen Weplyfr (yn agor mewn tab newydd) i gael manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd neu unigol.

Am y prosiect

Datblygwyd Bywydfan: Sgiliau Gwaith ac Arian gan Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Penfro mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith, ac mae'n dod o ganlyniad i ddyfarnu grant o £40,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bwriad y fenter yw helpu pobl i dyfu drwy leihau rhwystrau i waith a gwella datblygu sgiliau yng Ngogledd Sir Benfro.

Ein rôl yn y Llyfrgell yw darparu cyfleusterau ar gyfer sefydliadau perthnasol er mwyn iddyn nhw gynnig trafodaethau ymgynghorol preifat â chleientiaid, darparu ystafell fwy o faint ar gyfer gweithgareddau grwpiau ffocws neu weithdai a darparu adnoddau gwybodaeth o safon uchel, drwy gyfrwng llyfrau, cylchgronau a thaflenni, i gefnogi'r gweithgareddau hyn.

Digwyddiadau/gweithgareddau

Dathlwyd y lansiad gyda sawl stondin wybodaeth dan nawdd sefydliadau partner: Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE); Doeth am Bensiwn gan Gyngor ar Bopeth; Canolfan Addysg Gymunedol Abergwaun; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Gyrfa Cymru; Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) ac Undeb Credyd Gorllewin Cymru. 

Ers y lansiad, mae sawl sefydliad wedi defnyddio ystafell ymgynghori'r Bywydfan yn rheolaidd gan gynnwys PaCE; RNIB a Gwasanaeth Cwnsela Sir Benfro

Cynhaliodd Llyfrgell Abergwaun Ŵyl Ddysgu hefyd. Digwyddodd hynny dros gyfnod o wythnos, ac roedd yn cynnwys sesiynau blasu dan nawdd Coleg Penfro; cyflwyniad i wirfoddoli gan PAVS; gwybodaeth am gyrsiau oedd ar fin dechrau yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Abergwaun; cymorth a chyngor gan Swyddog Safonau Masnach CSP a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu; sesiynau blasu Cymraeg a'n gweithgaredd picio i mewn TG rheolaidd. 

ID: 260, adolygwyd 03/11/2023