Canolfan Wybodaeth i Bobl Wcrain

Addysg

Gwneud cais am le mewn ysgol a gofal plant

Gall gwladolion Wcráin wneud cais am le mewn ysgol ar gyfer eu plentyn cyn gynted ag y byddan nhw wedi cyrraedd. Gall dechrau ysgol helpu plant i ymgartrefu a gwneud ffrindiau.

Gall rhiant wneud cais am le mewn ysgol ar gyfer eu plentyn. Fel arall, gallwch gwblhau’r cais ar ran y rhiant.

Gallwch wneud cais i’r plentyn ddechrau yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi neu ynghanol y flwyddyn ysgol.

Bydd y cais yn cael ei ystyried o dan drefniadau derbyn i ysgolion Sir Benfro, fel y mae pob cais. Bydd y canlyniad yn dibynnu ar nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion lleol.

Cynghorir gwesteion i gysylltu â Phartneriaeth Rhieni Sir Benfro ar pps@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 776354 i drafod eu plant yn ymuno ag ysgol leol, a chael gwybod sut i gwblhau’r broses derbyn i ysgolion.

Ceir rhagor o wybodaeth ar: Derbyniadau a thrafnidiaeth ysgol 

Cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol

Efallai y bydd plentyn eich gwestai yn gallu cael cludiant am ddim i’r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y mae’n byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddyn nhw. I fod yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim, rhaid i’ch plentyn:

  • Bod yn un o drigolion Sir Benfro
  • Bod o oedran ysgol gorfodol
  • Bod yn mynychu eu hysgol dalgylch sydd wedi'i dynodi gan y Cyngor i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu i'r ysgol addas agosaf
  • Byw o leiaf 2 filltir o'r ysgol os ydyn nhw yn yr ysgol gynradd neu o leiaf 3 milltir o'r ysgol os ydyn nhw yn yr ysgol uwchradd

Prydau ysgol am ddim a'r Grant Datblygu Disgyblion

Dim ond i ddisgyblion sy’n derbyn, neu y mae eu rhieni yn derbyn, un o’r budd-daliadau canlynol y darperir prydau ysgol am ddim:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm. Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn gymwys
  • Yr Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credydau Treth Plant yn unig, gydag incwm cartref blynyddol o lai na £16,190 *
  • Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol

O fis Medi 2022, bydd angen i deuluoedd gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim.  Yn ogystal â chael pryd maethlon iach, bydd teuluoedd yn dod yn gymwys yn awtomatig i gael y Grant Datblygu Disgyblion. Gellir defnyddio hwn i brynu cyfarpar ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, offer TG, bagiau ysgol, tripiau ysgol ac ati.

Os yw gwisg ysgol (neu eitemau eraill a ganiateir) eisoes wedi’i phrynu ar gyfer dysgwr a’i fod yn bodloni’r meini prawf uchod, gellir gwneud cais ôl-weithredol (o fewn y flwyddyn academaidd).

I gofrestru ar gyfer pryd ysgol am ddim, ewch i Prydau Ysgol am Ddim – Cyngor Sir Penfro neu, fel arall, siaradwch â'ch gweithiwr arweiniol am gymorth.

Mae ffurflenni cais ar gael hefyd:

  • o ysgol eich plant
  • drwy ffonio 01437 764551
  • drwy ysgrifennu at y Gwasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP

Gofal Plant

Bydd gwladolion Wcráin yn gallu cael cyngor a chymorth i ddod o hyd i ofal plant gan ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Ffôn: 07435 780910

E-bost: fis@pembrokeshire.gov.uk 

Gwefan: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

ID: 9073, adolygwyd 26/10/2022