Canolfan Wybodaeth i Bobl Wcrain
Cymorth gyda Chostau Byw
Gall noddwyr a gwesteion Wcreinaidd fod yn gymwys i gael Cymorth gyda Chostau Byw, sy’n cynnwys:
Cynllun Cymorth gyda Biliau Ynni
Bydd aelwydydd yn cael £400 o gymorth gyda’u biliau ynni trwy ehangu’r Cynllun Cymorth gyda Biliau Ynni.
Bydd y taliad llawn o £400 yn cael ei wneud fel grant yn awr ac ni fydd rhaid ei ad-dalu.
Bydd cyflenwyr ynni’n rhoi’r cymorth hwn i aelwydydd â mesurydd trydan yn y cartref dros gyfnod o chwe mis o fis Hydref. Bydd yr arian yn cael ei gredydu i gyfrifon cwsmeriaid debyd uniongyrchol a chredyd, tra bydd y taliad i gwsmeriaid â mesuryddion rhagdalu’n cael ei gymhwyso i’w mesurydd neu’n cael ei dalu trwy daleb.
Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad Treth Gyngor o £150 i aelwydydd yn Lloegr ym mandiau Treth Gyngor A-D.
Taliad Costau Byw o £650 i’r rhai ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd
Bydd aelwydydd ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd yn cael taliad o £650 eleni, a hwnnw’n cael ei wneud mewn dau randaliad. Mae hyn yn cynnwys yr holl aelwydydd sy’n cael y budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud y taliad mewn dau lwmp-swm – y cyntaf o fis Gorffennaf, a’r ail yn yr hydref. Bydd taliadau gan Cyllid a Thollau EM i’r rhai ar gredydau treth yn unig yn dilyn yn fuan ar ôl y naill a’r llall i osgoi taliadau dyblyg.
Ar gyfer derbynyddion budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau: I gael y Taliad Costau Byw cyntaf, rhaid eich bod yn rhywun â hawl i gael (neu’n rhywun y canfuwyd yn ddiweddarach fod gennych hawl i gael) naill ai:
- Credyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod rhwng 26 Ebrill 2022 a 25 Mai 2022 ii. Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod rhwng 26 Ebrill 2022 a 25 Mai 2022
- Ar gyfer derbynyddion credydau treth: I gael y taliad cyntaf, rhaid eich bod wedi cael taliad, neu ddyfarniad blynyddol o £26 o leiaf, mewn perthynas â chredydau treth ar unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod rhwng 26 Ebrill 2022 a 25 Mai 2022.
Bydd Cyllid a Thollau EM a’r Adran Gwaith a Phensiynau’n rhoi arweiniad pellach, a bydd y Llywodraeth yn nodi’r dyddiadau cymhwysol ar gyfer yr ail randaliad maes o law. Bydd y taliad hwn yn ddi-dreth, ni fydd yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau, ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ddyfarniadau presennol o ran budd-daliadau. Bydd y Llywodraeth yn gwneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i aelwydydd ledled y DU.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Taliad Costiau Byw
Taliad Costau Byw Unigol o £300 i Bensiynwyr
Bydd y taliad unigol ychwanegol hwn yn cael ei roi i aelwydydd ar bensiwn sy’n cael Taliad Tanwydd Gaeaf a bydd yn cael ei dalu ar ben unrhyw gymorth unigol arall y mae gan aelwyd ar bensiwn hawl iddo, er enghraifft lle maent ar gredyd pensiwn neu’n cael budd-daliadau anabledd. Mae aelwydydd cymwys yn cael £200-£300 ar hyn o bryd, felly bydd y taliad yn cynrychioli o leiaf ddwywaith y cymorth ar gyfer y gaeaf hwn. Nid yw’r Taliad Tanwydd Gaeaf (gan gynnwys y Taliad Costau Byw ychwanegol i Bensiynwyr) yn drethadwy ac nid yw’n effeithio ar gymhwystra i gael budd-daliadau eraill.
Bydd yr holl aelwydydd ar bensiwn yn cael y Taliad Costau Byw unigol i Bensiynwyr fel swm atodol ar ben eu Taliad Tanwydd Gaeaf blynyddol ym mis Tachwedd/Rhagfyr. I’r rhan fwyaf o aelwydydd ar bensiwn, bydd hwn yn cael ei dalu trwy ddebyd uniongyrchol.
Bydd pobl yn gymwys i gael y taliad hwn os ydynt dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (66 oed neu’n hŷn) rhwng 19 a 25 Medi 2022. Ceir rhai amgylchiadau penodol lle nad yw unigolyn sydd uwchlaw oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf ac mae’r rhain i’w gweld yma ar gov.uk (Taliadau Tanwydd Gaeaf)
Bydd y Llywodraeth yn gwneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i aelwydydd ledled y DU.
Taliad Costau Byw o £150 i Bobl Anabl
Bydd oddeutu chwe miliwn o bobl ledled y DU sy’n cael y budd-daliadau anabledd canlynol yn cael taliad unigol o £150 o fis Medi:
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Gweini
- Budd-daliadau Anabledd yr Alban
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Rhaid bod hawlyddion wedi cael taliad (neu y byddant yn cael taliad yn ddiweddarach) ar gyfer un o’r budd-daliadau cymhwysol hyn o ran y sefyllfa ar 25 Mai 2022 i gael y taliad. I’r llu o dderbynyddion budd-daliadau anabledd sy’n cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, bydd y £150 yma’n dod ar ben y £650 y byddant yn ei gael ar wahân.
Bydd y taliadau hyn wedi’u heithrio rhag treth, ni fyddant yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau, ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar ddyfarniadau presennol o ran budd-daliadau. Bydd y Llywodraeth yn gwneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i bobl gymwys ledled y DU.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Taliad Costau Byw
Cymorth i Aelwydydd
Ewch i weld pa gymorth arall sydd ar gael i helpu gyda chostau byw a darganfod sut i arbed arian gyda'n cynghorion arbed ynni.