Canolfan Wybodaeth i Bobl Wcrain
Iechyd a Lles
Cofrestru gyda meddyg teulu
Bydd angen i chi gofrestru gyda meddyg teulu wrth gyrraedd Sir Benfro. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at y cymorth a chyngor cywir gan mai meddygon teulu yw ein prif ddarparwyr gofal iechyd. Er mwyn dod o hyd i’ch meddygfa leol, ewch i’r cyfeiriadur o feddygfeydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd).
Cysylltwch â’r Hwb Cymunedol ar 01437 776301 os oes angen cymorth arnoch i lenwi’ch ffurflen gofrestru.
Rhaglenni brechu’r DU:
Os hoffech ragor o wybodaeth am y brechiadau sy’n cael eu cynnig yn y DU, ewch i’r canllaw ar gyfer brechiadau’r GIG (yn agor mewn tab newydd).
Brechlyn Covid-19 - Gall gwladolion Wcráin gael y brechlyn Covid-19 a'r pigiadau atgyfnerthu am ddim drwy'r GIG. Bydd angen iddyn nhw gofrestru gyda meddyg teulu.
Cael presgripsiwn
Bydd angen i wladolion Wcráin ymweld â'u meddyg teulu newydd i gael presgripsiwn. Yna, dylen nhw fynd â'u presgripsiwn i fferyllfa neu fferyllydd i dderbyn y feddyginiaeth. Efallai y bydd angen iddyn nhw dalu am feddyginiaethau presgripsiwn.
Gall fferyllwyr roi cyngor am ddim ar drin mân broblemau iechyd, fel annwyd a pheswch.
Dewch o hyd i fferyllfa leol (yn agor mewn tab newydd)
Cyngor iechyd gan 111
Mynnwch gyngor iechyd am ddim gan y GIG drwy ffonio 111 neu ewch i: 111 Wales (yn agor mewn tab newydd) Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.
Gwasanaethau deintyddiaeth
Gall gwladolion Wcráin gofrestru gyda deintydd naill ai fel claf y GIG neu fel claf preifat. Dewch o hyd i ddeintydd (yn agor mewn tab newydd)
Os yw eich gwestai'n derbyn Credyd Cynhwysol, dylen nhw roi gwybod i'r practis a chofrestru fel claf y GIG. Bydd archwiliadau a thriniaethau angenrheidiol yn rhad ac am ddim.
Gofal mamolaeth a gwasanaethau bydwreigiaeth
Gall meddyg teulu drefnu apwyntiadau gyda gwasanaethau mamolaeth a bydwreigiaeth.
Help i bobl sydd wedi profi digwyddiadau gofidus
Gall pobl sydd wedi profi digwyddiadau gofidus brofi amrywiaeth o ddigwyddiadau meddyliol/emosiynol a chorfforol. Gallwch:
- Siarad â'ch nyrs neu'ch meddyg, ac os oes angen cyfieithydd arnoch, rhowch wybod i'r derbynnydd pan wneir yr apwyntiad
- Ffoniwch C.A.L.L, llinell gymorth iechyd meddwl Cymru, ar 0800 132 737. Mae galwadau yn rhad ac am ddim a gallwch ofyn am gyfieithydd ar y pryd
Gall cefnogi rhywun sydd wedi profi trawma hefyd effeithio ar eich iechyd a'ch lles. Cofiwch y gallwch chi hefyd ofyn am gymorth.
Cefnogaeth emosiynol
Mae yna nifer o linellau cymorth sy'n cynnig cymorth emosiynol i bobl sydd wedi ffoi o Wcráin:
- Y Groes Goch Brydeinig - 0808 196 3651 (ar agor bob dydd 10am - 6pm) a gallwch ofyn am gyfieithydd os oes angen un arnoch
- Y Samariaid - os ydych chi'n teimlo'n ofidus iawn, ffoniwch Y Samariaid ar 116 123 neu e-bostiwch: jo@samaritans.org
Mae gan y Groes Goch Brydeinig hefyd set o adnoddau lles sy'n ymdrin â phynciau fel delio â thrawma ac ymdopi mewn argyfwng personol. Ewch i Red Cross (yn agor mewn tab newydd)
Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol
Mae'r tîm wedi'i leoli o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn rhoi cymorth i gymunedau amrywiol, gan gynnwys helpu pobl o Wcráin i:
- Gofrestru gyda meddygon teulu a deintyddion
- Cysylltu pobl â chymorth a all eu helpu
- Helpu i gael gafael ar wybodaeth iechyd yn eu dewis iaith
- Rhannu gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd
I gysylltu â'r tîm:
Ffoniwch 01554 899055
E-bostiwch: inclusion.hdd@wales.nhs.uk