Canolfan Wybodaeth i Bobl Wcrain
Cyngor ynghylch arian, budd-daliadau a hawliau
Gall pawb yn Sir Benfro gael cyngor annibynnol a diduedd rhad-ac-am-ddim ynghylch eu hawliau a’u cyfrifoldebau, gan gynnwys cymorth ariannol.
Gallai hyn gynnwys budd-daliadau lles / ffurflenni hawlio, rheoli dyled, addysg ariannol neu sgwrs i wirio eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Mae rhai cwmnïau cyfleustodau’n gweithredu cynlluniau i gynorthwyo’r rhai sy’n profi anawsterau neu y mae arnynt angen help i dalu eu biliau.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r canlynol:
Cymorth gyda Chostau Byw
Gall noddwyr a gwesteion Wcreinaidd fod yn gymwys i gael Cymorth gyda Chostau Byw, sy’n cynnwys:
Cynllun Cymorth gyda Biliau Ynni
Bydd aelwydydd yn cael £400 o gymorth gyda’u biliau ynni trwy ehangu’r Cynllun Cymorth gyda Biliau Ynni.
Bydd y taliad llawn o £400 yn cael ei wneud fel grant yn awr ac ni fydd rhaid ei ad-dalu.
Bydd cyflenwyr ynni’n rhoi’r cymorth hwn i aelwydydd â mesurydd trydan yn y cartref dros gyfnod o chwe mis o fis Hydref. Bydd yr arian yn cael ei gredydu i gyfrifon cwsmeriaid debyd uniongyrchol a chredyd, tra bydd y taliad i gwsmeriaid â mesuryddion rhagdalu’n cael ei gymhwyso i’w mesurydd neu’n cael ei dalu trwy daleb.
Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad Treth Gyngor o £150 i aelwydydd yn Lloegr ym mandiau Treth Gyngor A-D.
Taliad Costau Byw o £650 i’r rhai ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd
Bydd aelwydydd ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd yn cael taliad o £650 eleni, a hwnnw’n cael ei wneud mewn dau randaliad. Mae hyn yn cynnwys yr holl aelwydydd sy’n cael y budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud y taliad mewn dau lwmp-swm – y cyntaf o fis Gorffennaf, a’r ail yn yr hydref. Bydd taliadau gan Cyllid a Thollau EM i’r rhai ar gredydau treth yn unig yn dilyn yn fuan ar ôl y naill a’r llall i osgoi taliadau dyblyg.
Ar gyfer derbynyddion budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau: I gael y Taliad Costau Byw cyntaf, rhaid eich bod yn rhywun â hawl i gael (neu’n rhywun y canfuwyd yn ddiweddarach fod gennych hawl i gael) naill ai:
- Credyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod rhwng 26 Ebrill 2022 a 25 Mai 2022 ii. Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod rhwng 26 Ebrill 2022 a 25 Mai 2022
- Ar gyfer derbynyddion credydau treth: I gael y taliad cyntaf, rhaid eich bod wedi cael taliad, neu ddyfarniad blynyddol o £26 o leiaf, mewn perthynas â chredydau treth ar unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod rhwng 26 Ebrill 2022 a 25 Mai 2022.
Bydd Cyllid a Thollau EM a’r Adran Gwaith a Phensiynau’n rhoi arweiniad pellach, a bydd y Llywodraeth yn nodi’r dyddiadau cymhwysol ar gyfer yr ail randaliad maes o law. Bydd y taliad hwn yn ddi-dreth, ni fydd yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau, ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ddyfarniadau presennol o ran budd-daliadau. Bydd y Llywodraeth yn gwneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i aelwydydd ledled y DU.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Taliad Costiau Byw
Taliad Costau Byw Unigol o £300 i Bensiynwyr
Bydd y taliad unigol ychwanegol hwn yn cael ei roi i aelwydydd ar bensiwn sy’n cael Taliad Tanwydd Gaeaf a bydd yn cael ei dalu ar ben unrhyw gymorth unigol arall y mae gan aelwyd ar bensiwn hawl iddo, er enghraifft lle maent ar gredyd pensiwn neu’n cael budd-daliadau anabledd. Mae aelwydydd cymwys yn cael £200-£300 ar hyn o bryd, felly bydd y taliad yn cynrychioli o leiaf ddwywaith y cymorth ar gyfer y gaeaf hwn. Nid yw’r Taliad Tanwydd Gaeaf (gan gynnwys y Taliad Costau Byw ychwanegol i Bensiynwyr) yn drethadwy ac nid yw’n effeithio ar gymhwystra i gael budd-daliadau eraill.
Bydd yr holl aelwydydd ar bensiwn yn cael y Taliad Costau Byw unigol i Bensiynwyr fel swm atodol ar ben eu Taliad Tanwydd Gaeaf blynyddol ym mis Tachwedd/Rhagfyr. I’r rhan fwyaf o aelwydydd ar bensiwn, bydd hwn yn cael ei dalu trwy ddebyd uniongyrchol.
Bydd pobl yn gymwys i gael y taliad hwn os ydynt dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (66 oed neu’n hŷn) rhwng 19 a 25 Medi 2022. Ceir rhai amgylchiadau penodol lle nad yw unigolyn sydd uwchlaw oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf ac mae’r rhain i’w gweld yma ar gov.uk (Taliadau Tanwydd Gaeaf)
Bydd y Llywodraeth yn gwneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i aelwydydd ledled y DU.
Taliad Costau Byw o £150 i Bobl Anabl
Bydd oddeutu chwe miliwn o bobl ledled y DU sy’n cael y budd-daliadau anabledd canlynol yn cael taliad unigol o £150 o fis Medi:
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Gweini
- Budd-daliadau Anabledd yr Alban
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Rhaid bod hawlyddion wedi cael taliad (neu y byddant yn cael taliad yn ddiweddarach) ar gyfer un o’r budd-daliadau cymhwysol hyn o ran y sefyllfa ar 25 Mai 2022 i gael y taliad. I’r llu o dderbynyddion budd-daliadau anabledd sy’n cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, bydd y £150 yma’n dod ar ben y £650 y byddant yn ei gael ar wahân.
Bydd y taliadau hyn wedi’u heithrio rhag treth, ni fyddant yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau, ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar ddyfarniadau presennol o ran budd-daliadau. Bydd y Llywodraeth yn gwneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i bobl gymwys ledled y DU.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Taliad Costau Byw
Cymorth i Aelwydydd
Ewch i weld pa gymorth arall sydd ar gael i helpu gyda chostau byw a darganfod sut i arbed arian gyda'n cynghorion arbed ynni.
Canolfan Wybodaeth i Bobl Wcrain
Wrth i'r sefyllfa yn Wcráin barhau, mae Sir Benfro yn ymestyn ei chynnig o gymorth a chefnogaeth i'r rhai sy'n ein cyrraedd yn dilyn yr amgylchiadau ofnadwy.
Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am fyw yn Sir Benfro, gan gynnwys cymorth ariannol, cyflogaeth, tai, gofal iechyd, addysg, a llawer mwy.
Tai
Mae gan Gyngor Sir Penfro ystod eang o Wasanaethau Cymorth Tai ar gael a rhwydwaith eang o asiantaethau cymorth sy'n darparu gwasanaethau ychwanegol i drigolion Sir Benfro.
O fewn yr Awdurdod Lleol, mae’r Tîm Cyngor ar Dai yn darparu cymorth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gallant roi cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.
Mae gennym gynllun cofrestr tai cymdeithasol o’r enw Cartrefi Dewisiedig@Sir Benfro lle gall ymgeiswyr gynnig am dai cymdeithasol sydd ar gael. Mae’r cynllun yn cynnwys eiddo'r Awdurdod Lleol ac eiddo'r ddwy gymdeithas dai: Ateb a Thai Wales and West.
O fewn yr Awdurdod Lleol, mae'r Tîm Sector Rhentu Preifat yn cynnig cyngor i landlordiaid a thenantiaid ynghylch gorchmynion troi allan; maent hefyd yn cynnal Arolygiadau Safonau Tai ar gyflwr llety yn yr ardal.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'n tîm Grant Cymorth Tai. Rydym yn comisiynu gwasanaethau gan ddarparwyr i gynnig gwasanaeth Cefnogi Tenantiaeth i'r rhai sydd angen cymorth i ddod o hyd i denantiaeth a’i rheoli a'i chynnal, waeth beth fo'u deiliadaeth.
Llety gyda theuluoedd sy'n cynnig llety
Rydych chi'n lletya gyda theulu sy'n cynnig llety ar hyn o bryd. Gall y teulu ond hawlio £500 y mis fel diolch.
Pan fyddwch yn derbyn incwm, er enghraifft trwy weithio ac ennill cyflog neu drwy dderbyn Credyd Cynhwysol, mae disgwyl i chi gyfrannu at gostau’r cartref. Dylech fod yn prynu eich bwyd eich hun neu'n cyfrannu at gostau wythnosol siopa bwyd os dyma'r cytundeb sydd gennych â’r unigolyn neu deulu sy’n cynnig y llety. Dylech hefyd fod yn cyfrannu at gost biliau cyfleustodau fel nwy, trydan a threthi dŵr. Mae cost gyfredol biliau cyfleustodau yn uchel iawn, a dyna pam mae’n bwysig eich bod yn blaenoriaethu cyfrannu at y gost. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn eich annog i'w drafod gyda'r unigolyn neu’r teulu sy’n cynnig llety i gytuno ar yr hyn sy'n gyfraniad rhesymol. Am ragor o wybodaeth, gweler y daflen ffeithiau costau byw.
Mae teuluoedd sy'n cynnig llety yn gallu derbyn y taliad ‘diolch’ am hyd at 12 mis. Ar ôl 12 mis, disgwylir y bydd llety tymor hwy wedi'i ganfod er mwyn eich galluogi i fyw'n annibynnol.
Beth fydd yn digwydd os bydd angen i chi adael eich llety yn gynnar?
Os na fyddwch chi a'ch noddwr yn gallu parhau i breswylio gyda'ch gilydd am ba bynnag reswm, mae angen i chi roi gwybod i'ch gweithiwr arweiniol cyn gynted â phosibl. Gorau po fwyaf o amser sydd gennym i’ch helpu i ddod o hyd i lety arall, oherwydd efallai nad oes llety ar gael bob amser yn yr ardal rydych chi’n byw ynddi ar hyn o bryd.
Os oes angen i chi adael ar unwaith, mae manylion isod ar sut i gysylltu â ni:
- Dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm – Hyb Cymunedol Wcráin 01437 776301 ukrainecommunityresponse@pembrokeshire.gov.uk neu ein canolfan gyswllt ar 01437 764551 neu housing@pembrokeshire.gov.uk
- Y tu allan i oriau swyddfa – dydd Llun i ddydd Gwener 5pm i 9am, dydd Sadwrn a dydd Sul – 0300 333 2222
Os bydd angen i chi adael ar fyr rybudd, byddwn yn ceisio eich paru â llety yn y ffyrdd canlynol:
- Llety gyda phobl sy'n cynnig llety: Rydym wedi cael cynnig nifer cyfyngedig o ystafelloedd gwely i'w defnyddio fel llety gan deuluoedd sy'n cynnig llety. Oherwydd y prinder llety fforddiadwy yn Sir Benfro, mae angen i ni sicrhau ein bod yn parhau i'ch paru chi â phobl sydd wedi cynnig llety yn eu cartrefi. Rydym yn ceisio eich cadw mewn ardal debyg i ardal eich llety blaenorol, ond bydd hyn yn dibynnu ar argaeledd.
- Lleoliadau brys: Weithiau ni fydd gennym lety ar gael ar fyr rybudd, felly efallai y bydd angen i ni eich rhoi mewn gwely a brecwast neu westy tra byddwn yn ceisio dod o hyd i le arall sy'n addas. Bydd y llety brys hwn mewn lleoliad lle mae lleoedd gwag ar y pryd.
Dod o hyd i lety arall
Bydd eich gweithiwr arweiniol yn cynnal adolygiad llety ar ôl tri mis gyda chi a'r person neu deulu sy'n cynnig y llety i drafod y sefyllfa o’r ddwy ochr ac i drafod eich bwriadau y tu hwnt i'r chwe mis. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i sicrhau bod eich anghenion llety hirdymor yn cael eu deall. Os gwelir bod eich trefniant ar gyfer llety yn dod i ben yn gynt na hynny, bydd eich gweithiwr arweiniol yn eich cyfeirio at swyddog tai a all gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol
Ar ôl preswylio gyda'ch noddwr am y chwech i 12 mis, bydd staff y Gwasanaeth Tai yn gweithio gyda chi i'ch cynorthwyo i ddod o hyd i lety tymor hwy arall. Bydd apwyntiad yn cael ei wneud â swyddog tai a fydd yn trafod eich opsiynau gyda chi ac yn nodi unrhyw feini prawf penodol a allai fod gennych ar gyfer eich llety yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol efallai na fyddwn yn gallu bodloni eich holl ofynion oherwydd y galw presennol am dai yn Sir Benfro.
Rydym yn gobeithio gweithio gyda theuluoedd sy'n cynnig llety i nodi unrhyw leoliadau a allai barhau am gyfnod hwy na 12 mis y cynllun Cartrefi i Wcráin ac i weld a allwch ddod i gytundeb mwy ffurfiol er mwyn aros yn y llety hwnnw. Gall hyn olygu bod yn ‘lojer’ neu'n ‘denant’ os yw eich llety'n hunangynhwysol.
Os na allwch aros yn eich llety am gyfnod hwy, yna bydd y swyddogion tai yn rhoi cymorth i chi i edrych ar opsiynau tai eraill. Mae hyn yn debygol o gynnwys:
- Sector Rhentu Preifat: Llety gan landlord preifat, sydd fel arfer yn llety hunangynhwysol, a byddai gennych gytundeb gyda'r landlord ac yn talu rhent yn uniongyrchol iddo bob mis. Efallai y gallwn eich cynorthwyo gyda'r costau y mae angen eu talu ymlaen llaw er mwyn sicrhau'r llety, megis bond a rhent y mis cyntaf ymlaen llaw, cyn belled â bod yr eiddo'n addas ac yn fforddiadwy. Bydd y swyddog tai yn cadarnhau'r hyn a ystyrir yn addas ac yn fforddiadwy i chi ar sail eich amgylchiadau unigol.
- Tai Cymdeithasol: Mae Sir Benfro yn gweithredu cynllun Cartrefi Dewisiedig@Sir Benfro ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hon yn rhestr sy’n cynnwys eiddo Cyngor Sir Penfro, Ateb a Chymdeithas Dai Wales and West. Os hoffech aros yn Sir Benfro, mae holl wladolion Wcráin yn gymwys i ymuno â chofrestr Cartrefi Dewisedig@Sir Benfro. Bydd eich swyddog tai yn eich cynorthwyo i gwblhau'r ffurflenni hyn pan fo angen. Byddwch yn ymwybodol bod galw enfawr am dai cymdeithasol yn Sir Benfro, gyda dros 5,300 o aelwydydd wedi'u cofrestru ac yn aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, ac mae'n debygol y byddwch yn aros am amser hir am y math hwn o lety.
Fforddio talu am eich llety
Wrth chwilio am lety, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gallu fforddio talu'r rhent, biliau cyfleustodau ac unrhyw gostau eraill sy'n gysylltiedig â'r eiddo.
Pan fyddwch yn dod yn denant unrhyw fath o lety, chi fydd yn gyfrifol am dalu:
- Rhent
- Y dreth gyngor
- Trwydded deledu
- Defnydd o drydan
- Costau tanwydd i wresogi
- Dŵr a charthffosiaeth
(Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr)
Efallai eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yma: Lleihad yn y Dreth Gyngor
Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio cymorth ariannol ychwanegol tuag at gostau’r rhent trwy Gredyd Cynhwysol, sef yr elfen cyfraniad tai. Os ydych chi’n gweithio, ond bod gennych chi incwm is, mae’n bosibl y byddwch chi’n dal yn gymwys ar gyfer yr elfen cyfraniad tai o’r Credyd Cynhwysol, hyd yn oed os nad ydych chi’n gymwys i gael y lwfans personol.
Mae’r canllaw sylfaenol i’w weld isod yn nodi uchafswm yr elfen cyfraniad costau tai y byddech yn ei dderbyn er mwyn i chi ystyried fforddiadwyedd. Mae'r gyfradd y byddwch yn ei derbyn yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch. Gall eich swyddog tai roi cyngor pellach ar gyfer eich gofynion penodol.
Nifer yr Ystafelloedd Gwely sydd eu Hangen |
Uchafswm Swm Wythnosol |
---|---|
Person sengl o dan 35 oed |
£60.00 |
Angen un ystafell wely – cwpl neu berson sengl dros 35 oed |
£78.25 |
Dwy ystafell wely |
£98.96 |
Tair ystafell wely |
£120.82 |
Pedair ystafell wely neu fwy |
£143.84 |
Sefydliadau / asiantaethau eraill
Gallai nifer o sefydliadau neu asiantaethau eraill eich cynorthwyo. Efallai y gallant eich cynorthwyo i ddod o hyd i lety arall neu sicrhau dodrefn / nwyddau gwynion, ac rydym wedi rhestru rhai y gallech gysylltu â nhw isod.
- Pathway Lettings: Asiantaeth gosod tai cymdeithasol (a gwasanaeth cyfryngu tenantiaeth) yw Pathway Lettings. Rydym yn cynorthwyo ein cleientiaid i chwilio am dai ac yn cynnig cyfraddau cystadleuol i landlordiaid a thenantiaid
- FRAME yn casglu nwyddau cartref nad oes eu heisiau ond y gellir eu hailddefnyddio, gan gynnwys dodrefn, dillad a thrugareddau, yn rhad ac am ddim. Mae eitemau y gellir eu hailddefnyddio ar gael i’r cyhoedd yn eu hystafelloedd arddangos yn Hwlffordd a Doc Penfro. Bydd gofyn gwneud cyfraniad. Bydd gostyngiad ar eitemau i'r rhai sy'n derbyn budd-dal neu bensiwn y wladwriaeth, ar ôl dangos prawf o dderbyn y budd-dal neu bensiwn.
- Mewn achosion o galedi neu argyfwng eithafol, gall FRAME ddarparu eitemau angenrheidiol o ddodrefn a nwyddau cartref yn rhad ac am ddim. Derbynnir atgyfeiriadau ysgrifenedig ar gyfer y gwasanaeth hwn gan weithwyr cymdeithasol, Gweithredu ar gyfer y Digartref yn Sir Benfro (PATH), gweithwyr cymorth cymunedol, llochesi ac asiantaethau cydnabyddedig eraill. Darperir y gwasanaeth hwn yn amodol ar argaeledd nwyddau ac asesiad o angen gan un o'r grwpiau neu unigolion y cyfeiriwyd atynt eisoes.
- Cyngor ar Bopeth: Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb ynglŷn â'u hawliau a’u cyfrifoldebau.
- Shelter: Elusen sy'n rhoi cyngor ar dai
- SHAPES: yn darparu offer i'ch galluogi i gynnal eich bywyd bob dydd a chynnal eich annibyniaeth gartref.
Addysg
Gwneud cais am le mewn ysgol a gofal plant
Gall gwladolion Wcráin wneud cais am le mewn ysgol ar gyfer eu plentyn cyn gynted ag y byddan nhw wedi cyrraedd. Gall dechrau ysgol helpu plant i ymgartrefu a gwneud ffrindiau.
Gall rhiant wneud cais am le mewn ysgol ar gyfer eu plentyn. Fel arall, gallwch gwblhau’r cais ar ran y rhiant.
Gallwch wneud cais i’r plentyn ddechrau yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi neu ynghanol y flwyddyn ysgol.
Bydd y cais yn cael ei ystyried o dan drefniadau derbyn i ysgolion Sir Benfro, fel y mae pob cais. Bydd y canlyniad yn dibynnu ar nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion lleol.
Cynghorir gwesteion i gysylltu â Phartneriaeth Rhieni Sir Benfro ar pps@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 776354 i drafod eu plant yn ymuno ag ysgol leol, a chael gwybod sut i gwblhau’r broses derbyn i ysgolion.
Ceir rhagor o wybodaeth ar: Derbyniadau a thrafnidiaeth ysgol
Cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol
Efallai y bydd plentyn eich gwestai yn gallu cael cludiant am ddim i’r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y mae’n byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddyn nhw. I fod yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim, rhaid i’ch plentyn:
- Bod yn un o drigolion Sir Benfro
- Bod o oedran ysgol gorfodol
- Bod yn mynychu eu hysgol dalgylch sydd wedi'i dynodi gan y Cyngor i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu i'r ysgol addas agosaf
- Byw o leiaf 2 filltir o'r ysgol os ydyn nhw yn yr ysgol gynradd neu o leiaf 3 milltir o'r ysgol os ydyn nhw yn yr ysgol uwchradd
Prydau ysgol am ddim a'r Grant Datblygu Disgyblion
Dim ond i ddisgyblion sy’n derbyn, neu y mae eu rhieni yn derbyn, un o’r budd-daliadau canlynol y darperir prydau ysgol am ddim:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm. Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn gymwys
- Yr Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credydau Treth Plant yn unig, gydag incwm cartref blynyddol o lai na £16,190 *
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Cynhwysol
O fis Medi 2022, bydd angen i deuluoedd gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim. Yn ogystal â chael pryd maethlon iach, bydd teuluoedd yn dod yn gymwys yn awtomatig i gael y Grant Datblygu Disgyblion. Gellir defnyddio hwn i brynu cyfarpar ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, offer TG, bagiau ysgol, tripiau ysgol ac ati.
Os yw gwisg ysgol (neu eitemau eraill a ganiateir) eisoes wedi’i phrynu ar gyfer dysgwr a’i fod yn bodloni’r meini prawf uchod, gellir gwneud cais ôl-weithredol (o fewn y flwyddyn academaidd).
I gofrestru ar gyfer pryd ysgol am ddim, ewch i Prydau Ysgol am Ddim – Cyngor Sir Penfro neu, fel arall, siaradwch â'ch gweithiwr arweiniol am gymorth.
Mae ffurflenni cais ar gael hefyd:
- o ysgol eich plant
- drwy ffonio 01437 764551
- drwy ysgrifennu at y Gwasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
Gofal Plant
Bydd gwladolion Wcráin yn gallu cael cyngor a chymorth i ddod o hyd i ofal plant gan ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Ffôn: 07435 780910
E-bost: fis@pembrokeshire.gov.uk
Cyflogadwyedd
Siaradwch â'ch Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith neu Weithiwr Arweiniol a enwir o Gyngor Sir Penfro ynghylch sut y gallwch gael gafael ar y cymorth hwn.
Bydd ein mentoriaid cyflogaeth yn darparu cymorth 1-i-1 a byddan nhw’n datblygu cynllun gweithredu gyda'ch gwestai i oresgyn unrhyw rwystrau i gyflogaeth.
I gael gwybod mwy, e-bostiwch getinvolved@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 776609.
Dod o hyd i waith
Gallwch gael cymorth personol am ddim gyda:
- Cyngor ac arweiniad gyrfaoedd
- Creu cynllun gweithredu
- Help gyda cheisiadau am swyddi, creu neu ddiweddaru eich CV
- Gweithgareddau a chyrsiau magu hyder
- Hyfforddiant a chymwysterau cysylltiedig â gwaith am ddim
- Trosglwyddo eich cymwysterau byd-eang
- Dosbarthiadau Saesneg, fel ail iaith neu iaith dramor (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
- Cydgysylltu â chyflogwyr lleol
- Sgiliau a dillad cyfweliad
- Rhoi cynnig ar swyddi trwy dreialon gwaith a phrofiad gwaith
- Trefnu cyfleoedd gwaith gyda chyflogwyr lleol
- Cyngor ar fudd-daliadau a chyfrifiadau 'gwell eich byd' i sicrhau eich bod yn well eich byd yn ariannol mewn gwaith
- Cymorth i dalu costau teithio ar gyfer mynd i apwyntiadau a hyfforddiant
- Help i dalu am ofal plant neu ofal amgen fel y gallwch fynd i apwyntiadau a hyfforddiant
- Cefnogaeth arbenigol i bobl ag anableddau, anableddau dysgu ac awtistiaeth sydd eisiau gweithio
Dechrau gwaith
Gallwch gael cefnogaeth ar gyfer y canlynol:
- Cymorth i dalu am ddillad, iwnifform a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer gwaith
- Help i dalu am gostau eraill fel gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu gofrestriadau proffesiynol
- Rhywfaint o help i dalu costau teithio ar gyfer teithio i'r gwaith
- Rhywfaint o help i dalu am ofal plant neu ofal amgen
- Help i gyflogwyr greu cyfle gwaith i chi
- Cefnogaeth arbenigol i bobl ag anableddau, anableddau dysgu ac awtistiaeth a all fod angen addasiadau neu addasiadau i ddechrau gweithio
Dechrau eich busnes eich hun
Gallwch gael:
- Cymorth i ddechrau eich busnes eich hun
- Cefnogaeth i wneud cais am gyllid ar gyfer eich busnes/syniad busnes
- Lle i weithio ohono gyda band eang cyflym
Aros yn y gwaith
Gallwch gael:
- Cymorth i wella eich rhagolygon gwaith (cynyddu oriau, dod o hyd i swydd wahanol, cael contract parhaol)
- Sgiliau a chymwysterau tra byddwch yn y gwaith
- Sesiynau cwnsela a therapïau cyflenwol i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith os ydych yn sâl
- Cefnogaeth arbenigol i bobl ag anableddau, anableddau dysgu ac awtistiaeth a all fod angen addasiadau neu addasiadau i aros mewn gwaith
Cymorth parhaus
Gallwch gael:
- Cyngor am wasanaethau cymorth – gofal cymdeithasol, banciau bwyd, budd-daliadau ac arian, cymorth meddyg teulu, cymorth iechyd meddwl, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau gwybodaeth ac ati.
- Gwasanaethau cyfieithu
- Dosbarthiadau Saesneg fel ail iaith neu iaith dramor (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
- Cyngor ac arweiniad ar fudd-daliadau
Canolfan Byd Gwaith
Mae swyddfeydd lleol yn Hwlffordd, Aberdaugleddau a Doc Penfro. Gallwch gysylltu â nhw ar 0800 169 0190.
Ewch i: Gov.UK
Costau Byw
Siarad am gostau byw
Mae o gymorth mawr bod noddwyr a gwesteion yn cael sgyrsiau agored i drafod pwy fydd yn talu tuag at wahanol gostau byw megis bwyd, cludiant a biliau cyfleustodau. Mae’n golygu bod pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldeb a beth yw’r disgwyliadau ohonynt a fydd, gobeithio, yn helpu i osgoi unrhyw broblemau posibl.
Bydd amgylchiadau gwesteion yn newid dros amser – boed trwy gael Credyd Cynhwysol neu swydd – felly gall sgyrsiau rheolaidd fod yn ddefnyddiol.
Pwy ddylai fod yn talu am gostau byw megis bwyd, llety a biliau cyfleustodau?
Dywed Llywodraeth y DU fod noddwyr yn gyfrifol am ddarparu llety yn unig. Nid oes disgwyl i noddwyr dalu costau bwyd a threuliau byw, er y bydd rhai’n dymuno cynorthwyo yn y dyddiau cynnar, yn enwedig pan fydd eu gwesteion yn cyrraedd, e.e. mae rhai noddwyr yn cynnig prydau bwyd.
Gall noddwyr ofyn i westeion am y canlynol:
- Cyfraniad at gost bwyd
- Cyfraniad rhesymol a chymesur (yn ôl defnydd) ar gyfer dŵr, nwy a thrydan a ddefnyddir neu y ceir cyflenwad ohonynt i’r llety neu i unrhyw gyfleusterau a rennir.
Nid oes hawl gan noddwyr codi tâl am rent gan westeion sy’n cyrraedd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.
Mae gwesteion sy’n aros mewn llety hunangynhwysol yn atebol am dalu treth gyngor ond gallant wneud cais am ostyngiad os ydynt yn cael Credyd Cynhwysol.
Pan fydd yn cyrraedd, bydd pob gwestai Wcreinaidd yn cael taliad interim o £200 i helpu gyda chostau cynhaliaeth. Ewch i’n tudalen Taliad Interim am ragor o wybodaeth.
O dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, mae gan bobl fynediad at wasanaethau cyhoeddus, gwaith a budd-daliadau hefyd. Pryd bynnag y mae gwestai Wcreinaidd yn cael Credyd Cynhwysol, dylid defnyddio hwn i gyfrannu at gostau’r aelwyd gan bod y budd-dal hwn wedi’i fwriadu i dalu treuliau byw. Yn yr un modd, pan fo gwestai Wcreinaidd yn cael swydd ac yn cael incwm rheolaidd, byddai’n rhesymol gofyn am gyfraniad at gostau byw.
I gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol, ewch i’n tudalen am Fudd-daliadau.
Ni ddylid ei gwneud yn ofynnol i Wcreiniaid ymgymryd neu barhau â chyflogaeth er mwyn cynnal eu llety. Ni ddylid disgwyl i lafur fod am ddim na thalu cyflog is na’r isafswm cyflog penodedig amdano, gan gynnwys gwasanaethau domestig a gwaith amaethyddol tymhorol, yn gyfnewid am lety a/neu fwyd.
Iechyd a Lles
Cofrestru gyda meddyg teulu
Bydd angen i chi gofrestru gyda meddyg teulu wrth gyrraedd Sir Benfro. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at y cymorth a chyngor cywir gan mai meddygon teulu yw ein prif ddarparwyr gofal iechyd. Er mwyn dod o hyd i’ch meddygfa leol, ewch i’r cyfeiriadur o feddygfeydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cysylltwch â’r Hwb Cymunedol ar 01437 776301 os oes angen cymorth arnoch i lenwi’ch ffurflen gofrestru.
Rhaglenni brechu’r DU:
Os hoffech ragor o wybodaeth am y brechiadau sy’n cael eu cynnig yn y DU, ewch i’r canllaw ar gyfer brechiadau’r GIG.
Brechlyn Covid-19 - Gall gwladolion Wcráin gael y brechlyn Covid-19 a'r pigiadau atgyfnerthu am ddim drwy'r GIG. Bydd angen iddyn nhw gofrestru gyda meddyg teulu.
Cael presgripsiwn
Bydd angen i wladolion Wcráin ymweld â'u meddyg teulu newydd i gael presgripsiwn. Yna, dylen nhw fynd â'u presgripsiwn i fferyllfa neu fferyllydd i dderbyn y feddyginiaeth. Efallai y bydd angen iddyn nhw dalu am feddyginiaethau presgripsiwn.
Gall fferyllwyr roi cyngor am ddim ar drin mân broblemau iechyd, fel annwyd a pheswch.
Dewch o hyd i fferyllfa leol
Cyngor iechyd gan 111
Mynnwch gyngor iechyd am ddim gan y GIG drwy ffonio 111 neu ewch i: 111 Wales Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.
Gwasanaethau deintyddiaeth
Gall gwladolion Wcráin gofrestru gyda deintydd naill ai fel claf y GIG neu fel claf preifat. Dewch o hyd i ddeintydd
Os yw eich gwestai'n derbyn Credyd Cynhwysol, dylen nhw roi gwybod i'r practis a chofrestru fel claf y GIG. Bydd archwiliadau a thriniaethau angenrheidiol yn rhad ac am ddim.
Gofal mamolaeth a gwasanaethau bydwreigiaeth
Gall meddyg teulu drefnu apwyntiadau gyda gwasanaethau mamolaeth a bydwreigiaeth.
Help i bobl sydd wedi profi digwyddiadau gofidus
Gall pobl sydd wedi profi digwyddiadau gofidus brofi amrywiaeth o ddigwyddiadau meddyliol/emosiynol a chorfforol. Gallwch:
- Siarad â'ch nyrs neu'ch meddyg, ac os oes angen cyfieithydd arnoch, rhowch wybod i'r derbynnydd pan wneir yr apwyntiad
- Ffoniwch C.A.L.L, llinell gymorth iechyd meddwl Cymru, ar 0800 132 737. Mae galwadau yn rhad ac am ddim a gallwch ofyn am gyfieithydd ar y pryd
Gall cefnogi rhywun sydd wedi profi trawma hefyd effeithio ar eich iechyd a'ch lles. Cofiwch y gallwch chi hefyd ofyn am gymorth.
Cefnogaeth emosiynol
Mae yna nifer o linellau cymorth sy'n cynnig cymorth emosiynol i bobl sydd wedi ffoi o Wcráin:
- Y Groes Goch Brydeinig - 0808 196 3651 (ar agor bob dydd 10am - 6pm) a gallwch ofyn am gyfieithydd os oes angen un arnoch
- Y Samariaid - os ydych chi'n teimlo'n ofidus iawn, ffoniwch Y Samariaid ar 116 123 neu e-bostiwch: jo@samaritans.org
Mae gan y Groes Goch Brydeinig hefyd set o adnoddau lles sy'n ymdrin â phynciau fel delio â thrawma ac ymdopi mewn argyfwng personol. Ewch i Red Cross
Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol
Mae'r tîm wedi'i leoli o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn rhoi cymorth i gymunedau amrywiol, gan gynnwys helpu pobl o Wcráin i:
- Gofrestru gyda meddygon teulu a deintyddion
- Cysylltu pobl â chymorth a all eu helpu
- Helpu i gael gafael ar wybodaeth iechyd yn eu dewis iaith
- Rhannu gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd
I gysylltu â'r tîm:
Ffoniwch 01554 899055
E-bostiwch: inclusion.hdd@wales.nhs.uk
Gwybodaeth am Fudd-daliadau
Credyd Cynhwysol
Taliad i helpu gyda chostau byw, er enghraifft talu am bethau fel dŵr, trydan, nwy, bwyd a chludiant, yw Credyd Cynhwysol. Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith neu os na allwch weithio am resymau eraill.
Gall eich gweithiwr arweiniol roi arweiniad i chi a'r person neu'r teulu sy'n cynnig llety i chi ar sut i wneud cais am hwn ar y wefan ganlynol: Credyd Cynhwysol – Gwneud Cais
Os oes angen help i dalu biliau neu gwrdd â chostau eraill wrth ddisgwyl am y taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gellir gwneud cais am ragdaliad. Y swm uchaf y gellir ei dalu fel rhagdaliad yw swm y taliad amcangyfrifedig cyntaf. Gall yr ymgeisydd wneud cais am ragdaliad trwy ei gyfrif ar-lein neu drwy anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith. Bydd angen i’r ymgeisydd:
- egluro pam fod angen y rhagdaliad
- profi pwy ydyw (bydd yn gwneud hyn pan fydd yn ymgeisio ar-lein neu ar y ffôn gydag anogwr gwaith)
- darparu manylion cyfrif banc ar gyfer y rhagdaliad
Fel arfer bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod yr un diwrnod a yw’n gallu cael rhagdaliad. Bydd angen ad-dalu’r rhagdaliad. Maent yn dechrau ei ad-dalu o’u taliad cyntaf.
Gallwch ddewis dros sawl mis rydych yn ad-dalu’r rhagdaliad, o fewn y terfyn amser. Fel arfer, rhaid i chi ad-dalu’r rhagdaliad o fewn 24 mis. Nid ydych yn talu llog arno – yr un yw’r cyfanswm yr ydych yn ei ad-dalu.
Os oes gennych gwestiynau am sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio, gallwch ffonio:
- 0800 328 5644 i siarad â Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol
- 0800 144 8444 i siarad â Help i Hawlio, Cyngor ar Bopeth
Cymorth i'r rhai sy'n rhag y gwrthdaro yn Wcrâin - Deall Credyd Cynhwysol
Credyd Pensiwn
Os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth ac ar incwm isel, mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i dalu'ch costau byw.
Mae Credyd Pensiwn ar wahân i bensiwn y wladwriaeth, a gallwch ei gael hyd yn oed os oes gennych incwm arall.
I ddarganfod faint allech chi ei gael, defnyddiwch y Cyfrifiannell Credyd Pensiwn.
Buddion eraill
Yn dibynnu ar amgylchiadau a/neu oedran, gall ffoaduriaid o Wcráin fod yn gymwys i gael:
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Bersonol
- Lwfans Byw i Blant Anabl
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Gweini
Gall y rhai sy'n bodloni'r meini prawf fod yn gymwys i gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 'Arddull Newydd' sy'n seiliedig ar gyfraniadau neu Lwfans Ceisio Gwaith 'Arddull Newydd'. Y Ganolfan Waith neu Gyngor ar Bopeth sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar hawliau budd-daliadau yn seiliedig ar amgylchiadau.
I dderbyn Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill, bydd angen i'ch gwestai agor cyfrif banc. Maen nhw’n gallu agor cyfrif banc drwy ymweld ag unrhyw fanc. Bydd angen iddyn nhw gael dogfennau sy'n dangos eu hunaniaeth, eu statws mewnfudo a'u prawf o gyfeiriad, o bosibl. Mae rhai banciau'n fwy hyblyg ynglŷn â'r gofynion prawf o gyfeiriad, felly gall fod yn werth gwneud rhywfaint o ymchwil a siopa o gwmpas. Gall eu Gweithiwr Arweiniol hefyd ddarparu llythyr dilysu os yw hynny'n ofynnol gan y banc.
Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael i helpu newydd-ddyfodiaid gyda cheisiadau dros y ffôn, a gall Hyfforddwyr Gwaith yng Nghanolfan Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau gefnogi pobl sy'n gwneud hawliadau ar-lein.
Mae staff yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn darparu cymorth wyneb yn wyneb ychwanegol i'r rhai sydd ei angen – gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i waith a chyngor ar hawlio budd-daliadau.
Entitledto
Mae Entitledto yn gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol a all helpu pobl i nodi budd-daliadau y gallent fod yn gymwys i'w cael. Mae gwesteion Wcreinaidd yn gymwys i hawlio yr un budd-daliadau lles â dinasyddion y DU am gyfnod eu fisa.
Cyngor Mewnfudo
Er mwyn cael gwybodaeth yn ymwneud â mewnfudo, cyfeiriwch at wefan Llywodraeth Cymru – Wcráin, sy'n esbonio'r gwahanol fathau o fisâu sydd ar gael i ddinasyddion Wcráin, neu ffoniwch os ydych yn gwybod eich bod yn dod i Gymru.
Mae'r Ganolfan Gyswllt yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener a byddant yn cael ei staffio rhwng 09:00 o’r gloch a 17:00 o'r gloch
Rhadffôn o fewn y DU: 0808 1751508
O'r tu allan i'r DU: 020 4542 5671 / +44 (0)20 4542 5671
Cyngor Mewnfudo Pro Bono
Grŵp o gyfreithwyr cymwys, gwirfoddol yw Ukraine Advice Project sy'n darparu cyngor cyfreithiol am ddim ar fisâu’r DU a rheolau ffoaduriaid. Sylwch mai ond gwasanaeth Saesneg y maent yn ei ddarparu, felly efallai y bydd angen i ffrind neu aelod o'r teulu gyfieithu i chi.
Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol a Chynghorwyr Mewnfudo
Os ydych ar incwm isel ac mae arnoch angen cymorth i gael gafael ar gyfreithiwr mewnfudo, chwiliwch drwy'r rhestr o sefydliadau cymorth cyfreithiol a ddarparwyd.
GOV.UK – Cynghorwyr Cymorth Cyfreithiol
Sylwch mai yn Abertawe y mae'r cynghorwyr cymorth cyfreithiol agosaf sy'n arbenigo mewn materion yn ymwneud â mewnfudo.
Fel arall, gallwch ddod o hyd i gynghorydd mewnfudo drwy ddefnyddio teclyn dod o hyd i gynghorydd y Swyddfa Gartref. Gallwch ddewis lefel y cyngor sydd ei hangen arnoch a hidlo ar gyfer gwasanaethau â thâl a rhai sy'n rhad ac am ddim.
Y Swyddfa Gartref – Dod o hyd i Gynghorydd
Trwyddedau Preswylio Biometrig (BRP)
Bydd angen i’ch gwesteion gysylltu â'r Swyddfa Gartref i ofyn am BRP o fewn 90 diwrnod i gyrraedd er mwynymestyn eu harhosiad am hyd at 3 blynedd a chael trwydded breswylio fiometrig (BRP) fel tystiolaeth o'u statws mewnfudo.
Y Swyddfa Gartref sy'n delio â’r rhain. Mae'r broses fel a ganlyn:
- Ar ôl cyrraedd y DU, bydd gan wladolion naill ai stamp wedi'i roi yn eu pasbort neu os nad oes ganddyn nhw basbort, bydden nhw wedi cael dogfen o'r enw IS116.
- Bydd gwladolion Wcráin sydd â Phasbort Wcráin dilys yn gallu gwneud eu ceisiadau am fisa ar-lein.
- Ar ôl cyrraedd y DU, mae ganddyn nhw 90 diwrnod i gysylltu â'r Swyddfa Gartref i ofyn am eu BRP.
- Bydd ganddyn nhw hyd at chwe mis i gyflwyno eu BRP ac unwaith y bydd hyn wedi'i wneud, byddan nhw wedyn yn cael aros am dair blynedd yn y DU.
- Bydd pobl heb basbort yn cael fersiwn papur o’r fisa yn y Ganolfan Cais am Fisa wrth i’w BRP gael ei gadarnhau yn Ewrop. Byddan nhw hefyd yn cael dogfen IS116.
Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd y Swyddfa Gartref yn hysbysu drwy lythyr unwaith y bydd y BRP yn barod i gael ei gasglu o Swyddfa Bost enwebedig.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gwblhau hyn ar GOV.UK
Cyngor ar Bopeth Sir Benfro
Efallai y cewch gymorth ac arweiniad gan ein swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol. Ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan – Cyngor ar Bopeth
Gellir cysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 01437 806070 yn ystod yr amseroedd agor canlynol:
Dydd Llun: 10:00am - 1:00pm
Dydd Mawrth: 10:00am - 1:00pm
Dydd Mercher: Ar gau
Dydd Iau: 10:00am - 1:00pm
Dydd Gwener: Ar gau
Fel arall, gallwch gwblhau eu ffurflen ar-lein pe bai’n well gennych gyfathrebu'n electronig.
Prosiect Wcráin Cymru
Mae gwasanaeth cyngor mewnfudo newydd ar gyfer Wcreiniaid yng Nghymru yn cynnig apwyntiadau cyngor untro AM DDIM i’ch helpu i ddeall eich statws mewnfudo a sut i fynd â’ch achos eich hun yn ei flaen.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: s.mcgarrity@asylumjustice.org.uk
Taliad Cyfamser
Mae pobl Wcreinaidd sy’n cyrraedd dan y cynllun Cartrefi i Wcráin yn gymwys i gael taliad interim o £200 gan Lywodraeth y DU ar gyfer costau cynhaliaeth i’w cynnal nes eu bod yn gallu cael mynediad at ffynonellau incwm eraill. Gellir defnyddio’r arian hwn ar gyfer eitemau hanfodol a hefyd fel cyfraniad at gostau bwyd a chludiant. Caiff hwn ei weinyddu gan Gyngor Sir Penfro. Nid oes angen ad-dalu’r taliad ac mae’n eiddo i’r gwestai Wcreinaidd.
Bydd hwn yn cael ei dalu fel arfer trwy ddyroddi cerdyn credyd rhagdaledig ond mewn rhai achosion bydd yn cael ei roi fel arian parod.
Bydd gweithwyr arweiniol yn sicrhau eich bod yn cael eich taliad interim yn dilyn un o’r ymweliadau cyntaf a byddant yn rhoi cyngor ynghylch eich cais am Gredyd Cynhwysol. Gall gymryd 4-6 wythnos i’r Adran Gwaith a Phensiynau brosesu hwn.
Cysylltwch â ni ar ukrainecommunityresponse@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 776301 os nad ydych wedi derbyn eich taliad.
Cludiant a Gyrru
Gwasanaethau Bws a Thrên
Hyd at 31 Mawrth, mae'r gwasanaethau canlynol ar gael i westeion o Wcráin am ddim:
- Pob gwasanaeth bws lleol
- Gwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru
- Gwasanaethau bws a gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru sy’n croesi i Loegr os ydynt naill ai'n dechrau neu’n gorffen yng Nghymru
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i chi fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- Meddu ar basbort dilys (‘ffoaduriaid’ o Wcráin yn unig) hyd nes eich bod wedi eich prosesu gan y Swyddfa Gartref
- Wedi derbyn llythyr gan y Swyddfa Gartref
- Meddu ar drwydded breswylio Brydeinig fiometrig gyda marc i nodi bod yr unigolyn yn ‘ffoadur’
- Meddu ar brawf o fod yn ‘ffoadur’ sydd â diogelwch dyngarol
- Bod yn rhywun a all gyflwyno trwydded breswylio Brydeinig nad yw’n cynnwys yr ymadroddion hyn ond sydd hefyd yn gallu cyflwyno llythyr neu e-bost sy’n dweud ei fod wedi cael statws ffoadur / diogelwch dyngarol
Yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus, mae gan Sir Benfro nifer o opsiynau o ran trafnidiaeth gymunedol, sy'n arbennig o ddefnyddiol mewn ardaloedd mwy gwledig. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Bws Fflecsi
- Country Cars, Dial a Ride, Scooters a Take Me Too – cysylltwch â PACTO ar 0800 783 1584 neu ewch i: PACTO
- Bysiau lleol
Llwybrau ac Amserlenni Bws – Cyngor Sir Penfro
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol
Gyrru yn Sir Benfro
Rhaid i chi fod â thrwydded yrru lawn ac yswiriant modur cyfredol i yrru cerbyd ar ffyrdd y DU. Yn dibynnu ar y math o drwydded yrru sydd gennych, bydd rheolau gwahanol yn berthnasol i chi.
Deiliaid Trwydded Car a Beic
Mae'r DVLA yn cynghori, os gwnaethoch basio eich prawf gyrru y tu allan i’r UE/AEE, y caniateir i chi yrru am 12 mis ar ôl cyrraedd.
Mae hyn yn golygu, os oes gennych drwydded yrru Wcráin, gallwch ei defnyddio am y 12 mis yr ydych yn aros yma.
Ar ôl y cyfnod o 12 mis, bydd yn rhaid i chi wneud un o'r canlynol:
- Cyfnewid eich trwydded
- Gwneud cais am drwydded dros dro a sefyll prawf theori ac ymarferol yn y DU
Cyfnewid eich trwydded
Ar ôl 12 mis, gallwch gyfnewid eich trwydded – mae modd dosbarthu hyn fel a ganlyn:
- Os gwnaethoch basio’ch prawf gyrru cyn 28 Rhagfyr 2021, gallwch ond cyfnewid eich trwydded am drwydded y DU sy’n caniatáu ichi yrru cerbydau awtomatig.
- Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru ar neu ar ôl 28 Rhagfyr 2021 a bod eich trwydded gyfredol yn caniatáu ichi yrru cerbydau llaw, gallwch ei chyfnewid am drwydded y DU sy’n caniatáu ichi yrru cerbydau llaw.
- Os oes gennych chi drwydded beic modur, ni allwch ei chyfnewid am drwydded gyfatebol yn y DU. Bydd gofyn i chi wneud cais am drwydded dros dro a sefyll prawf theori ac ymarferol yn y DU.
Sylwch, os gwnaethoch basio eich prawf gyrru cyn 28 Rhagfyr 2021 a'ch bod am yrru cerbydau llaw yn y DU, bydd angen i chi hefyd i wneud cais am drwydded dros dro a sefyll prawf theori ac ymarferol yn y DU.
Deiliaid Trwydded Lorïau a Bysiau
Os oes gennych drwydded yrru Wcráin sy'n caniatáu i chi yrru lorïau a/neu fysiau, nid ydych yn gymwys i'w gyrru yn y DU. Bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded a phasio prawf gyrru Prydeinig yn y cerbyd priodol.
Os nad yw'ch trwydded o'r UE/AEE / gwlad ddynodedig. Gallwch yrru unrhyw gategori o gerbyd bach a ddangosir ar eich trwydded am hyd at 12 mis o'r amser y byddwch yn dod yn breswylydd.