Canolfan Wybodaeth i Noddwyr

Diogelu

Mae pobl sy'n cyrraedd o Wcráin mewn perygl o brofi'r pedwar prif fath o gaethwasiaeth fodern: cam-fanteisio ar lafur, cam-fanteisio troseddol, cam-fanteisio rhywiol, a chaethwasanaeth domestig.

Mae yna lawer o wahanol arwyddion o gaethwasiaeth fodern sy'n dibynnu ar y math o gam-fanteisio. Mae Unseen UK wedi cynhyrchu gwybodaeth am arwyddion caethwasiaeth fodern  i gadw golwg amdanynt. Mae yna lawer o adnoddau rhad ac am ddim ar gaethwasiaeth fodern

Mae gwybodaeth ac adnoddau hygyrch ac amlieithog ar gaethwasiaeth fodern hefyd ar gael mewn ffynonellau ar-lein gan gynnwys y canlynol:

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chaethwasiaeth fodern, ffoniwch Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar 08000 121 700 neu adrodd eich pryderon ar-lein.

Os byddwch yn dod yn ymwybodol bod gwestai o Wcráin wedi mynd ar goll o'ch safle, dylech gysylltu â'r awdurdod lleol a all wneud ymholiadau a dilyn y weithdrefn ar gyfer pobl ar goll.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch neu lesiant eich gwesteion o Wcráin, cysylltwch â'r awdurdod lleol i godi'r pryderon hyn mewn modd cyfrinachol.

Hyfforddiant Diogelu

Nid oes unrhyw ddisgwyliad y byddwch yn cwblhau'r hyfforddiant hwn ond gan y bydd rhai Wcreniaid wedi dioddef trawma ac y gallent fod yn agored i niwed, efallai y bydd eich staff yn dymuno cael mynediad i'n hyfforddiant rhad ac am ddim ar ddiogelu ac arfer sy'n ystyriol o drawma.

Modiwl Hyfforddiant Diogelu Ar-lein. Mae hwn ar gael gan ddefnyddio Google Chrome fel porwr gwe: Cwrs: Hyfforddiant Diogelu – Cefnogi Ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru (nhs.wales) Ewch i mewn fel gwestai i gael mynediad am ddim.

Mae hyfforddiant rhagarweiniol gwasanaethau sy'n ystyriol o drawma ar gael yn: https://www.youtube.com/watch?v=YfFCMtyvGtI

Rheoli Honiadau / Pryderon yn erbyn gwesteiwyr o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin

Efallai y bydd achlysur pan fydd rhywun yn gwneud honiad neu'n codi pryder yn eich erbyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gwesteiwr sy'n lletya yn wirfoddolwr ac yn berson mewn safle o ymddiriedaeth, fel y nodir yn adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019.

Gall gwesteiwr ar ryw adeg ddod yn destun honiad ei fod wedi achosi niwed i oedolyn neu blentyn mewn perygl, sef:

  • Gall gwesteiwr fod wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio neu a allai fod wedi niweidio oedolyn neu blentyn mewn perygl
  • Cyflawni trosedd o bosibl yn erbyn plentyn neu oedolyn mewn perygl neu un sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar y plentyn neu oedolyn mewn perygl
  • Ymddwyn tuag at blentyn neu oedolyn mewn perygl mewn ffordd sy’n dangos ei fod yn anaddas i fod yn westeiwr

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i reoli honiadau a phryderon ynghylch gwesteiwyr, a gwneir hyn gan Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol. 

Mae diogelu yn fusnes i bawb. Rhaid i unrhyw un sy'n dod yn ymwybodol o honiad / pryder adrodd eu pryderon i’r gwasanaethau cymdeithasol a/neu’r heddlu. 

Beth sy'n digwydd pan wneir honiad / pan godir pryder?  

Lle gwneir honiad / codir pryder bod plentyn neu oedolyn wedi cael ei niweidio, bydd Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol yn trafod â rheolwr Tîm Asesu Gofal Plant y gwasanaethau cymdeithasol neu reolwr y Tîm Diogelu Oedolion ac yn penderfynu pa gamau pellach a gymerir a beth a ddywedir wrthych am yr honiad a wneir yn eich erbyn. 
 

Pa gamau y gellir eu cymryd?

Bydd y gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu yn penderfynu p'un a oes angen i'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol gynnal ymchwiliad llawn.  

Mewn rhai achosion, gall yr heddlu benderfynu bwrw ymlaen ag ymchwiliad troseddol, efallai y cewch eich cyfweld dan rybudd neu eich gwahodd i gynorthwyo’r heddlu â’u hymholiadau.  Mae gennych hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol y gellir ei threfnu gan yr heddlu yn yr orsaf. 
 

Ymchwiliad mewnol

Mae'n bosibl y bydd angen i'r adran Cartrefi i Wcráin o fewn yr awdurdod lleol gynnal ymchwiliad mewnol a chwblhau asesiad risg. Gall hyn olygu y bydd angen symud eich gwesteion o'ch cartref nes bod y broses wedi dod i ben a bod yr achos wedi dod i ganlyniad. 

Cymorth

Gall y broses hon fod yn amser llawn straen a phryder, bydd eich gweithiwr arweiniol neu swyddog enwebedig yn cynnig cefnogaeth i chi drwy gydol y broses ac yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen. 
 

Cadw cofnodion

Bydd cofnod cynhwysfawr yn cael ei gadw yn eich ffeil bersonél cyfrinachol a’i gadw yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Mae hyn yn cynnwys ymchwiliadau nas profwyd. 
 

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol i roi gwybod i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU os oes penderfyniad wedi’i wneud i ddod â’ch rôl fel gwesteiwr i ben yn seiliedig ar ganlyniad yr ymchwiliad.  

ID: 9151, adolygwyd 17/03/2023