Canolfan Wybodaeth i Noddwyr
Helpu Eich Gwesteion Wcráin
Mae'n swnio'n amlwg, ond treuliwch ychydig amser yn dod i adnabod eich gwestai a darganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw. Gall pethau bach gynnig cysur a helpu pobl i deimlo’n gartrefol, felly gall gwybod pethau – fel a oes ganddyn nhw ffydd, beth yw eu hoff fwydydd, beth maen nhw’n hoffi ei wneud fwyaf yn eu hamser hamdden, a’r gallu i siarad am deulu a ffrindiau ac ati – wneud gwahaniaeth
Bydd llawer o bobl sy'n cyrraedd o Wcráin heb fawr ddim o eiddo gyda nhw. Ar wahân i gynnig lle yn eich llety a sicrhau bod ganddyn nhw’r pethau sylfaenol, fel digon o fwyd a chyflenwadau hanfodol fel pethau ymolchi, gallwch chi eu helpu nhw ymhellach yn y ffyrdd canlynol:
Casglu o'r maes awyr/porthladd
Er nad oes rhaid ichi wneud hyn, gallwch drefnu i gasglu'r unigolyn rydych yn ei letya o'r maes awyr neu'r porthladd pan fydd yn cyrraedd y DU. Os nad oes modd ichi wneud hyn, dylech roi gwybod iddo am y ffordd orau o gyrraedd eich cartref o'r pwynt lle mae'n cyrraedd y DU.
Trafnidiaeth a dod o hyd i’w ffordd o gwmpas
Mae'n annhebygol y bydd yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn gyfarwydd â’ch ardal leol, nac yn gwybod sut i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn hawdd. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddech yn gallu rhoi cyngor arferol ar faterion megis teithio i'ch cartref, ble mae'r siopau lleol, a ble i ddal y bws neu'r trên.
Dolen i erthygl 9066
Help i gael cerdyn SIM a rhif ffôn y DU
Bydd unigolion o Wcráin yn aml yn cyrraedd heb rif ffôn symudol y DU. Mae'n bwysig helpu i ddod o hyd i gerdyn SIM cyn gynted â phosibl. Gallwch gael cardiau SIM am ddim gan y Groes Goch Brydeinig, neu gall eich gwestai ddefnyddio rhan o'i Daliad Interim i hwyluso hyn.
Cofrestru gyda meddyg teulu
Hyd yn oed os nad yw’r unigolyn yn sâl, mae cofrestru gyda meddyg teulu lleol cyn gynted â phosibl yn rhan hollbwysig o helpu rhywun i ymgartrefu yn y DU. Rydym yn eich cynghori i helpu’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu letya i wneud hyn.
Dolen i erthygl Iechyd a Lles 9069
Cofrestru gyda deintydd
Yn ogystal â chofrestru gyda meddyg teulu, dylai'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya gofrestru gyda deintydd.
Rydym yn cydnabod na fydd gan rai deintyddfeydd gapasiti ar gyfer cleifion o dan y GIG efallai.
Ymhlith yr opsiynau mae:
- cysylltu â rhai deintyddfeydd lleol sydd o dan y GIG a’u holi
- cysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol drwy eu llinell gymorth (GIG 111 Cymru - Gwasanaethau yn agos atoch chi: Deintydd), gan fod ganddynt restr o ddeintyddfeydd neu
- os yw’n argyfwng, cysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647
Dolen i erthygl Iechyd a Lles 9069
Agor cyfrif banc
Mae'n bwysig bod pobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yn agor cyfrif banc cyn gynted â phosibl. Byddai'n ddefnyddiol rhoi gwybod iddynt fod amrywiaeth o fanciau y gellir dewis ohonynt, gan gynnwys rhai sy'n darparu gwasanaethau ar-lein yn unig. Er mwyn agor cyfrif banc, fel rheol bydd angen i unigolyn ddangos dogfen i brofi pwy ydyw megis pasbort neu drwydded yrru neu gerdyn adnabod cydnabyddedig, yn ogystal â phrawf o'i gyfeiriad.
Mae rhai banciau'n fwy hyblyg ynglŷn â'r gofynion prawf o gyfeiriad, felly gall fod yn werth gwneud rhywfaint o ymchwil a siopa o gwmpas. Gall eu Gweithiwr Arweiniol hefyd ddarparu llythyr dilysu os yw hynny'n ofynnol gan y banc.
Ffurflen Gredyd Cynhwysol
Os yw'r unigolyn neu aelodau’r teulu rydych yn eu lletya yn ddigon hen i weithio, bydd modd iddynt wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Yn ystod y broses gais, dylid gofyn am ragdaliadau os bydd angen arian arnynt cyn pen 5 wythnos. Bydd llawer o’r unigolion sy’n cyrraedd yn gymwys am hyn, ond bydd yn rhaid gwneud cais penodol am ragdaliadau.
Dolen i erthygl Gwybodaeth am Fudd-daliadau 9063
Cefnogi o ran mynediad at addysg
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc sy'n cyrraedd o dan y cynlluniau i helpu pobl Wcráin yr hawl i gael mynediad at addysg a gofal plant tra byddant yn y DU.
Bydd mynediad at addysg yn allweddol i blant, o ran sicrhau bod y cyfnod o amharu ar eu haddysg mor fyr â phosibl, ond i sicrhau hefyd eu bod yn teimlo bod croeso iddynt ac yn dechrau ymgartrefu yn eu cymunedau newydd.
Dolen i erthygl Addysg 9073
Dod o hyd i swydd
Mae gan bobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yr hawl i weithio ar unwaith ar ôl iddynt gael fisa i aros yn y DU o Wcráin.
Caiff cymorth i bobl o Wcráin sydd yn ceisio cyflogaeth ei reoli gan Lywodraeth y DU yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd cymorth cyflogaeth yn cael ei asesu ar lefel leol gan dimau adsefydlu. Bydd Anogwyr Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfeirio unigolion at gymorth cyflogadwyedd a sgiliau addas.
Bydd yr Anogwyr Gwaith yn cynnal asesiadau unigol. Bydd gan bobl o Wcráin fynediad at amrywiaeth o gymorth cyflogadwyedd a sgiliau sydd wedi ei deilwra at eu hanghenion unigol.
Dolen i erthygl Cyflogadwyedd 9071
Cymorth iaith
Yr ieithoedd amlycaf yn Wcráin yw Wcreineg a Rwsieg. Ni ddylech ddisgwyl i'ch gwesteion allu siarad neu ddarllen Saesneg. Gallai gwasanaethau cyfieithu ar-lein am ddim fod yn ddefnyddiol wrth gyfathrebu yn y dyddiau cynnar; fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi nad yw'r rhain bob amser yn gywir.
Os yw'r gwestai'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, efallai y bydd angen cyfieithwyr. Wrth ddefnyddio gwasanaethau Iechyd, mae dyletswydd ar ddarparwyr y GIG i ddarparu gwasanaeth cyfieithu. Fel rheol, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ddod o hyd i wasanaethau cyfieithu hefyd pan ofynnir amdanynt. Yn anffodus, ni fydd gan bob gwasanaeth ddarpariaeth gyfieithu, ond mae bob amser yn werth gofyn.
Dyma rai ymadroddion sylfaenol a allai fod yn ddefnyddiol yn ystod y dyddiau a'r wythnosau cyntaf:
- Hei — Привіт / Pryvit
- Helô – Добрий день / Dobryi den'
- Esgusoda fi — Вибачте /vybachte/
- Sut wyt ti? — Як справи? /Yak spravy
- Da iawn — Дуже добре / Duzhe dobre
- Croeso i ti (Будь ласка) / Bud' laska
- Diolch — Дякую / Dyakuyu
- Ffarwél, yn ffurfiol — До побачення / Do pobatchennya
Os mai ychydig o Saesneg sydd gan eich gwestai/gwesteion, yna gallwch ystyried:
- Gwasanaethau ac Apiau cyfieithu ar-lein e.e. iTranslate, Google Translate, SayHi, TripLingo ac ati.
- Wrth gyrchu gwasanaethau cyhoeddus, gofynnwch am ddehonglydd.
- Saesneg fel Ail Iaith – mae dosbarthiadau Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) am ddim i oedolion ar gael yng Nghanolfannau Cymunedol Sir Benfro yn Dysgu ledled y sir ac ar-lein.
Gwefan: Addysg i Oedolion
Rhadffôn: 0808 100 3302
Ar gyfer ymholiadau ac atgyfeiriadau cychwynnol:
marina.evans@pembrokeshire.gov.uk
neu i drafod yn fanylach
jenni.griffiths@pembrokeshire.gov.uk
- Cardiau iaith – Gallwch ddod o hyd i'r rhain ar-lein ac fe allan nhw helpu gyda chyfarchion sylfaenol ac i ddysgu ymadroddion hanfodol
- Mae’r Hyb Cymunedol yn recriwtio gwirfoddolwyr iaith a allai gynorthwyo mewn rhai amgylchiadau. Ffoniwch 01437 776301 neu ukrainecommunityresponse@pembrokeshire.gov.uk