Canolfan Wybodaeth i Noddwyr
Plant ar eu pennau eu hunain yn ceisio lloches
CFAB – Plant a Theuluoedd ar Draws Ffiniau
CFAB yw’r unig elusen yn y Deyrnas Unedig sydd â thîm gwaith cymdeithasol plant rhyngwladol a’r unig aelod yn y DU o’r rhwydwaith Gwasanaethau Cymdeithasol Rhyngwladol (ISS). Mae’n nodi ac yn amddiffyn y plant mwyaf agored i niwed sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd mewn sefyllfaoedd cymhleth a pheryglus yn aml oherwydd gwrthdaro, masnachu mewn pobl, mudo, chwalfa deuluol neu faterion yn ymwneud â lloches.
Gan weithio gyda phartneriaid mewn 130 o wledydd, maent yn arbenigwyr mewn gwaith cymdeithasol mewn cyd-destun rhyngwladol, achosion amddiffyn plant trawsffiniol, achosion gofal sy’n gofyn am gydweithrediad trawsffiniol, a lleoliadau tramor.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch eu llinell gyngor am ddim ar 020 7735 8941 (llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3.30pm) neu ewch i CFAB | Cangen y DU o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Rhyngwladol