Canolfannau Ddysgu Gymunedol

Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro

Sgwâr Albion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6XF

Ffôn: 01437 770170 (amser tymor yn unig)

Am ymholiadau y tu fas i'r tymor byddwch cystal â ffonio 01437 770130

E-bost: pembrokedock.learning@pembrokeshire.gov.uk


Mae Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhan amser i oedolion.  Mae ynddi awyrgylch croesawgar ac ymlaciol a staff sy'n hynod dwymgalon a chyfeillgar.

Lleolir y Ganolfan yn hen Ysgol Fabanod Albion Square, sydd gam neu ddau o'r brif ganolfan siopa. Mae ganddi gyfleusterau rhagorol sy'n cynnwys yr offer TG diweddaraf un a byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob un o'r ystafelloedd dosbarth.  Mae'r holl ystafelloedd dosbarth wedi eu lleoli ar y llawr gwaelod.

Yn Charlton Place y mae'r fynedfa i'r maes parcio sydd wrth ochr yr adeilad. Mae chwe cilfach barcio i bobl ag anabledd yn ogystal â thoiled hygyrch.  Mae teclyn clywed ar gael hefyd. 

ID: 1961, adolygwyd 27/03/2023