Canolfannau Ddysgu Gymunedol
Ein Canolfannau
Yn yr adran hon, gallwch ddod o hyd i leoliadau ein Canolfannau Dysgu Cymunedol, y cyfleusterau sydd ar gael yno a sut i gysylltu â nhw.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol, cysylltwch ag un o'n canolfannau a restrir uchod, neu ffoniwch Gwasanaethau Canolog ar 01437 770130 neu anfonwch e-bost at: learn@pembrokeshire.gov.uk
Canolfannau Dysgu Cymunedol Gogledd Sir Benfro dros ardaloedd Abergwaun, Crymych, Trefdraeth a Thyddewi
Ysgol Bro Gwaun, Heol Dyfed, Abergwaun, Sir Benfro, SA65 9DT
Ffôn: 01437 770140 (amser tymor yn unig)
Am ymholiadau y tu fas i'r tymor byddwch cystal â ffonio 01437 770130
E-bost: NorthPembs.Learning@pembrokeshire.gov.uk
Fe gewch chi groeso cynnes bob amser yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol Abergwaun, sydd wedi'i lleoli ar gampws Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys:
- 4 Ystafell Hyfforddiant
(Pob un a Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol) - Derbynfa
- Bar coffi a lolfa a'r holl offer angenrheidiol
- Mannau parcio oddi ar y ffordd
- Toiledau i Bobl ag Anabledd
- Ar ôl 4pm ac yn ystod penwythnosau/gwyliau ysgol bydd pob un o'r Ystafell Dosbarth, Neuadd yr Ysgol, y Gampfa yn Ysgol Bro Gwaun, ar gael i'w defnyddio gan y gymuned.
- Prif Swyddfa Menter Iaith Sir Benfro
Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd i bob un o'r ystafelloedd dosbarth yn y Ganolfan Ddysgu Gymunedol. Mae teclyn clywed cludadwy ar gael yn y brif swyddfa, i'w ddefnyddio yn y ganolfan. Mae offer arbenigol arall ar gael hefyd yn ganolog i fyfyrwyr sydd ag anghenion penodol. Os oes gyda chi unrhyw anghenion penodol, yna cofiwch roi gwybod i'r swyddog gweinyddol amdanynt - cyn ichi gyrraedd.
Canolfannau Dysgu Cymunedol Canolbarth Sir Benfro dros ardaloedd Hwlffordd, Aberdaugleddau a Neyland
Yr Archifdy, Prendergast, Hwlffordd, SA61 2PE
I'ch helpu i ddod o hyd i'r ganolfan mae gennym fideo y gallwch ei wylio cyn i chi ddod. Sut i Dodd o Hyd i Ni - Canolfan Dysgu Cymunedol Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Ardal Hwlffordd: 01437 770150
E-bost: MidPembs.learning@pembrokeshire.gov.uk
Ardaloedd Neyland/Aberdaugleddau: 01437 770165
E-bost: MidPembs.learning@pembrokeshire.gov.uk
Mae croeso cynnes ar gael bob amser yng Nghanolfan Dysgu Cymunedol Hwlffordd. Mae wedi'i lleoli y tu cefn i Archifdy Sir Benfro yn Prendergast, taith gerdded fer o brif ganolfan siopa tref Hwlffordd, ac mae'r ganolfan yn cynnig:
- 4 ystafell hyfforddi gyda byrddau clyfar
- Cyfleusterau cynadledda/cyfarfod gyda bwrdd clyfar
- 1 ystafell TG â'r holl gyfarpar
- Parcio oddi ar y ffordd
Mae pob ystafell ddosbarth yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae dolen clyw gludadwy ar gael o'r brif swyddfa i'w defnyddio yn y ganolfan. Mae offer arbenigol eraill ar gael yn ganolog i fyfyrwyr sydd ag anghenion arbennig. Os oes gyda chi unrhyw anghenion penodol cofiwch roi gwybod i'r swyddog gweinyddol amdanynt cyn ichi gyrraedd.
Canolfan Gymunedol Arberth
Canolfan Gymuned Tŷ Bloomfield, Redstone Road, Arberth, Sir Benfro, SA67 7ES
Ffôn: 01437 770136
E-bost: Narberth.Learning@pembrokeshire.gov.uk
Caiff Canolfan Gymuned Tŷ Bloomfield House ei rheoli gan Gymdeithas Chwaraeon a Chymuned Arberth a'r Cylch. Mae hi'n darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau ar ran Sir Benfro yn Dysgu.
Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli 300 llath o ganol Arberth ac mae ganddi faes pario gwych, sydd wedi'i oleuo'n dda. Ar ddydd Mawrth, Mercher a Gwener bydd Bws Bloomfield yn cynnig gwasanaeth mynd a dod yn ôl, i'r pentrefi lleol hynny nad ydynt yn cael gwasanaeth bws fel arfer. Dim ond ¾ milltir draw o'r fan hon y mae gorsaf reilffordd Arberth.
Yn y ganolfan gymuned brysur hon mae cyfleusterau toiledau hygyrch ac ystafelloedd dosbarth, ac mae lifftiau'n mynd at y llawr cyntaf. Ar ben hynny mae yno gyfleusterau i wneud te a choffi.
Yn Arberth hefyd y mae swyddfeydd TG Gymunedol Sir Benfro yn Dysgu. Yn yr adeilad mae dwy ystafell hyfforddiant TG, yn gyflawn o offer, lle bydd amrywiaeth eang o gyrsiau cyfrifiadurol yn cael eu darparu.
Yn ogystal â'r dosbarthiadau addysg a hamdden sy'n cael eu cynnig yma, mae amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol ar gael: cylch chwarae Cymraeg yn ystod y bore; Meithrinfa Ddydd a Chlwb Ar Ôl Ysgol, Canolfan Gofal Dydd y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chyfleusterau chwaraeon hefyd - cysylltwch â 01834 860293 neu e-bost ndcsa@outlook.com.
Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro
Sgwâr Albion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6XF
Ffôn: 01437 770170 (amser tymor yn unig)
Am ymholiadau y tu fas i'r tymor byddwch cystal â ffonio 01437 770130
E-bost: pembrokedock.learning@pembrokeshire.gov.uk
Mae Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhan amser i oedolion. Mae ynddi awyrgylch croesawgar ac ymlaciol a staff sy'n hynod dwymgalon a chyfeillgar.
Lleolir y Ganolfan yn hen Ysgol Fabanod Albion Square, sydd gam neu ddau o'r brif ganolfan siopa. Mae ganddi gyfleusterau rhagorol sy'n cynnwys yr offer TG diweddaraf un a byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob un o'r ystafelloedd dosbarth. Mae'r holl ystafelloedd dosbarth wedi eu lleoli ar y llawr gwaelod.
Yn Charlton Place y mae'r fynedfa i'r maes parcio sydd wrth ochr yr adeilad. Mae chwe cilfach barcio i bobl ag anabledd yn ogystal â thoiled hygyrch. Mae teclyn clywed ar gael hefyd.
Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-pysgod
Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7LB
Ffôn: 01437 770190 (amser tymor yn unig)
Am ymholiadau y tu fas i'r tymor byddwch cystal â ffonio 01437 770130
E-bost: tenby.learning@pembrokeshire.gov.uk
Mae Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-pysgod yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhan amser i oedolion. Mae yno awyrgylch groesawus ac ymlaciol ac mae'r staff yn hynod dwymgalon a chyfeillgar.
Lleolir y Ganolfan yn yr un fan â Llyfrgell Dinbych-y-pysgod a Chlwb Ieuenctid Dinbych-y-pysgod - gam neu ddau o'r brif ganolfan siopa a'r traeth.
Mae gan y ganolfan gyfleusterau ardderchog, fel yr offer TG diweddaraf un a'r byrddau gwyn rhyngweithiol sydd ar gael yn y rhan fwyaf o'r ystafelloedd dosbarth.
Gall pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn fynd i mewn i'r adeilad trwy fynedfa'r llyfrgell, lle mae mannau parcio i bobl anabl hefyd. Mae yno doiled hygyrch a theclyn clywed. Os oes gan ddysgwyr anawsterau symud rydym yn eu cynghori i gysylltu â'r ganolfan ymlaen llaw; os bydd rhaid, gallwn ni symud y dosbarthiadau er mwyn bodloni anghenion y bobl hyn.