Canolfannau Ddysgu Gymunedol

Canolfan Gymunedol Arberth

Canolfan Gymuned Tŷ Bloomfield, Redstone Road, Arberth, Sir Benfro, SA67 7ES 

Ffôn: 01437 770136

E-bost: Narberth.Learning@pembrokeshire.gov.uk


Caiff Canolfan Gymuned Tŷ Bloomfield House ei rheoli gan Gymdeithas Chwaraeon a Chymuned Arberth a'r Cylch.  Mae hi'n darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau ar ran Sir Benfro yn Dysgu.

Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli 300 llath o ganol Arberth ac mae ganddi faes pario gwych, sydd wedi'i oleuo'n dda. Ar ddydd Mawrth, Mercher a Gwener bydd Bws Bloomfield yn cynnig gwasanaeth mynd a dod yn ôl, i'r pentrefi lleol hynny nad ydynt yn cael gwasanaeth bws fel arfer.  Dim ond ¾ milltir draw o'r fan hon y mae gorsaf reilffordd Arberth.

Yn y ganolfan gymuned brysur hon mae cyfleusterau toiledau hygyrch ac ystafelloedd dosbarth, ac mae lifftiau'n mynd at y llawr cyntaf.  Ar ben hynny mae yno gyfleusterau i wneud te a choffi. 

Yn Arberth hefyd y mae swyddfeydd TG Gymunedol Sir Benfro yn Dysgu.  Mae un ystafell hyfforddiant TG, yn gyflawn o offer, lle bydd amrywiaeth eang o gyrsiau cyfrifiadurol yn cael eu darparu.

Yn ogystal â'r dosbarthiadau addysg a hamdden sy'n cael eu cynnig yma, mae amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol ar gael: cylch chwarae Cymraeg yn ystod y bore; Meithrinfa Ddydd a Chlwb Ar Ôl Ysgol, Canolfan Gofal Dydd y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chyfleusterau chwaraeon hefyd - cysylltwch â 01834 860293 neu e-bost ndcsa@outlook.com.

 

ID: 1959, adolygwyd 14/02/2025