Canolfannau Ddysgu Gymunedol

Canolfannau Dysgu Cymunedol Gogledd Sir Benfro dros ardaloedd Abergwaun, Crymych, Trefdraeth a Thyddewi

Ysgol Bro Gwaun, Heol Dyfed, Abergwaun, Sir Benfro, SA65 9DT

Ffôn: 01437 770140 (amser tymor yn unig)
Am ymholiadau y tu fas i'r tymor byddwch cystal â ffonio 01437 770130

E-bost: NorthPembs.Learning@pembrokeshire.gov.uk


Fe gewch chi groeso cynnes bob amser yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol Abergwaun, sydd wedi'i lleoli ar gampws Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun.  Mae'r cyfleusterau'n cynnwys:

  • 4 Ystafell Hyfforddiant 
    (Pob un a Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol)
  • Derbynfa
  • Bar coffi a lolfa a'r holl offer angenrheidiol 
  • Mannau parcio oddi ar y ffordd 
  • Toiledau i Bobl ag Anabledd
  • Ar ôl 4pm ac yn ystod penwythnosau/gwyliau ysgol bydd pob un o'r Ystafell Dosbarth, Neuadd yr Ysgol, y Gampfa yn Ysgol Bro Gwaun, ar gael i'w defnyddio gan y gymuned.
  • Prif Swyddfa Menter Iaith Sir Benfro

Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd i bob un o'r ystafelloedd dosbarth yn y Ganolfan Ddysgu Gymunedol.  Mae teclyn clywed cludadwy ar gael yn y brif swyddfa, i'w ddefnyddio yn y ganolfan.  Mae offer arbenigol arall ar gael hefyd yn ganolog i fyfyrwyr sydd ag anghenion penodol.  Os oes gyda chi unrhyw anghenion penodol, yna cofiwch roi gwybod i'r swyddog gweinyddol amdanynt - cyn ichi gyrraedd.  

ID: 1957, adolygwyd 21/02/2023