Canolfannau Ddysgu Gymunedol
TG Cymunedol
Dysgu TG yn y Gymuned, Canolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield, Heol Redstone, Arberth, SA67 7ES
Ffôn: 01437 770130
E-bost: communityIT.learning@pembrokeshire.gov.uk
Dysgu TG yn y Gymuned yn Sir Benfro
Mae pob un o'n cyrsiau cyfrifiadura yn cael eu gweinyddu yn ein swyddfeydd yng Nghanolfan Bloomfield yn Arberth, lle mae staff cyfeillgar wrth law i roi cyngor a chyfarwyddyd buddiol ynghylch y cwrs perffaith ar eich cyfer chi.
Caiff y dosbarthiadau eu cynnal ledled y Sir ac felly ni fydd rhaid ichi fyth deithio'n bell iawn er mwyn mynd ar y cwrs sy'n ateb eich diben chi. Mae'r cyrsiau'n amrywio o safon ragarweiniol hyd at safon uwch.
Mae 7 ystafell bwrpasol TG Gymunedol yn Sir Benfro. Mae lle i 10 dysgwr ar y mwyaf ym mhob ystafell ac maent yn llawn hyd y fyl o'r offer diweddaraf un. Maent hefyd yn fannau croesawgar a llawn ysgogiad lle gallwch chi feithrin eich sgiliau.
- Canolfan Bloomfield, Arberth
- Canolfan Ddysgu Gymunedol Abergwaun
- Canolfan Ddysgu Gymunedol Hwlffordd
- Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro
- Canolfan Ddysgu Gymunedol Y Preseli
- Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-pysgod
- Canolfan Ddysgu Gymunedol Aberdaugleddau (ystafell deithiol - gliniaduron)
Os na allwch chi ddod atom ni, gallwn ni ddod atoch chi!
Mae gan Dysgu TG yn y Gymuned yn Sir Benfro ystafell deithiol â gliniaduron sy'n gallu teithio o bentref i bentref er mwyn inni allu cynnal dosbarthiadau yng nghanol y gymuned.
Os hoffech inni ddod i'ch cymdogaeth chi, cofiwch ffonio TG Cymunedol ar 01437 770130 neu anfon e-bost at communityit.learning@pembrokeshire.gov.uk