Canolfannau Dydd

Canolfannau dydd

Yn darparu gwasanaethau dydd yn fewnol mewn chwe chanolfan dydd ar draws Sir Benfro.

Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt CSP ar 01437 774551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.

Ar y dudalen hon:

Ble mae'r canolfannau dydd?

Pryd mae'r canolfannau dydd ar agor? 

Beth mae'r canolfannau dydd yn ei ddarparu?

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Cludiant 



 

Ble mae'r canolfannau dydd?

Mae'r 4 canolfan ddydd yn:

  • Meadow Park,  Hwlffordd
  • Havenhurst, Aberdaugleddau
  • Wintern, Wdig
  • Bro Preseli, Crymych

 


Pryd mae'r canolfannau dydd ar agor?

Mae'r canolfannau dydd ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am - 3pm ac eithrio Bro Preseli yng Nghrymych (Dydd Llun, Mawrth a Gwener) ar hyd y flwyddyn ac eithrio gwyliau banc a diwrnodiau hyfforddiant staff dynodedig.

 


Sut mae cael mynediad i'r ganolfan ddydd?

Gall person gael mynediad i Ganolfan Ddydd yn dilyn asesiad ac atgyfeiriad gan y Tîm Rheoli Gofal Oedolion




Beth mae'r canolfannau dydd yn ei ddarparu?

Mae'r canolfannau dydd yn darparu gwasanaeth dydd i bobl hŷn sy'n byw yn y gymuned, sydd angen cymorth ychwanegol i'w galluogi i gadw eu hannibyniaeth, mewn partneriaeth gyda gofal cymdeithasol ac iechyd.

Pwrpas canolfannau dydd ydy darparu gwasanaeth sy'n:

  • Gwerthfawrogi ac yn parchu pobl fel unigolion
  • Hybu lles
  • Cefnogi a galluogi pobl i gynyddu eu hannibyniaeth
  • Cynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau y maent yn eu derbyn
  • Galluogi gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu

Mae'r canolfannau dydd yn darparu'r cyfleoedd canlynol:

  • Cymorth i fyw yn iach a lles
  • Gweithgareddau gan gynnwys cwisiau a gemau bwrdd
  • Ymarfer ysgafn
  • Pryd amser cinio a diodydd
  • Cymorth gyda gofal personol, cael bath a thrin gwallt
  • Celf a Chrefft
  • Ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau'n cael eu darparu'n fewnol gan staff y ganolfan ddydd ac eithrio trin gwallt a gweithgareddau allanol y bydd pobl yn talu'n uniongyrchol amdanynt.




Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol a wneir er mwyn penderfynu ar y gallu i dalu.

Mae'r tâl gofal dydd am Ganolfannau Dydd ym mherchnogaeth y Cyngor yn £26.53 y dydd.

Ar hyn o bryd mae tâl uchafswm o £100 yr wythnos am yr holl wasanaethau seiliedig yn y gymuned.  

Codir tâl o £4.77 y dydd ar hyn o bryd am ginio ac mae tâl ychwanegol am weithgareddau.

 


Cludiant

Gall pobl ddefnyddio eu dull teithio eu hunain i fynd i Ganolfannau Dydd neu efallai y caiff cludiant ei ddarparu os bydd y person yn gymwys ac os bydd cludiant ar gael.

Mae opsiwn hefyd o gludiant cymunedol y gellid ei ddefnyddio i deithio i ganolfan ddydd: cludiant y gwasanaethau cymdeithasol

ID: 1855, adolygwyd 14/07/2026