Canolfannau Dydd
Canolfannau dydd
Yn darparu gwasanaethau dydd yn fewnol mewn chwe chanolfan dydd ar draws Sir Benfro.
Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt CSP ar 01437 774551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.
Ar y dudalen hon:
Pryd mae'r canolfannau dydd ar agor?
Beth mae'r canolfannau dydd yn ei ddarparu?
Ble mae'r canolfannau dydd?
Mae'r chwe chanolfan ddydd yn:
- Meadow Park, Hwlffordd
- Havenhurst, Aberdaugleddau
- Wintern, Wdig
- Bro Preseli, Crymych
- Lee Davis, Arberth
Pryd mae'r canolfannau dydd ar agor?
Mae'r canolfannau dydd ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am - 3pm ac eithrio Bro Preseli yng Nghrymych (Dydd Llun, Mawrth a Gwener) ar hyd y flwyddyn ac eithrio gwyliau banc a diwrnodiau hyfforddiant staff dynodedig.
Sut mae cael mynediad i'r ganolfan ddydd?
Gall person gael mynediad i Ganolfan Ddydd yn dilyn asesiad ac atgyfeiriad gan y Tîm Rheoli Gofal Oedolion
Beth mae'r canolfannau dydd yn ei ddarparu?
Mae'r canolfannau dydd yn darparu gwasanaeth dydd i bobl hŷn sy'n byw yn y gymuned, sydd angen cymorth ychwanegol i'w galluogi i gadw eu hannibyniaeth, mewn partneriaeth gyda gofal cymdeithasol ac iechyd.
Pwrpas canolfannau dydd ydy darparu gwasanaeth sy'n:
- Gwerthfawrogi ac yn parchu pobl fel unigolion
- Hybu lles
- Cefnogi a galluogi pobl i gynyddu eu hannibyniaeth
- Cynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau y maent yn eu derbyn
- Galluogi gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu
Mae'r canolfannau dydd yn darparu'r cyfleoedd canlynol:
- Cymorth i fyw yn iach a lles
- Gweithgareddau gan gynnwys cwisiau a gemau bwrdd
- Ymarfer ysgafn
- Pryd amser cinio a diodydd
- Cymorth gyda gofal personol, cael bath a thrin gwallt
- Celf a Chrefft
- Ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau'n cael eu darparu'n fewnol gan staff y ganolfan ddydd ac eithrio trin gwallt a gweithgareddau allanol y bydd pobl yn talu'n uniongyrchol amdanynt.
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Mae hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol a wneir er mwyn penderfynu ar y gallu i dalu.
Mae'r tâl gofal dydd am Ganolfannau Dydd ym mherchnogaeth y Cyngor yn £26.53 y dydd.
Ar hyn o bryd mae tâl uchafswm o £100 yr wythnos am yr holl wasanaethau seiliedig yn y gymuned.
Codir tâl o £4.77 y dydd ar hyn o bryd am ginio ac mae tâl ychwanegol am weithgareddau.
Cludiant
Gall pobl ddefnyddio eu dull teithio eu hunain i fynd i Ganolfannau Dydd neu efallai y caiff cludiant ei ddarparu os bydd y person yn gymwys ac os bydd cludiant ar gael.
Mae opsiwn hefyd o gludiant cymunedol y gellid ei ddefnyddio i deithio i ganolfan ddydd - Cludiant y Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyngor Sir Benfro