Canolfannau Dydd

Cartref Gofal Havenhurst

Cartref Gofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn Sir Benfro ydy Cartref Gofal Havenhurst.

Rydym yn darparu gofal seibiant, cymorth asesu ac adsefydlu i oedolion sydd angen cymorth, gofal neu warchodaeth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd. 

Mae Cartref Gofal Havenhurst wedi ei gofrestru ac yn cael ei arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (yn agor mewn tab newydd)cssiw@wales.gsi.gov.uk.

Ble mae Cartref Gofal Havenhurst 

Cartref Gofal Havenhurst, Heol Sandhurst, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 3JU7

Pryd mae Cartref Gofal Havenhurst yn agored?

Mae Cartref Gofal Havenhurst ar agor 24 awr y dydd ar hyd y flwyddyn.

Sut i gael mynediad i Gartref Gofal Havenhurst?

I gael mynediad i Gartref Gofal Havenhurst rhaid i unigolyn gael asesiad trwy Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Sir Penfro.

Beth ydy pwrpas Cartref Gofal Havenhurst?

Mae Cartref Gofal Havenhurst yn darparu gwasanaeth sy'n:

 Darparu gofal mewn awyrgylch gartrefol, gyfeillgar a hamddenol

  • Cynorthwyo ac yn annog pobl i fyw bywyd mor llawn ac egnïol ag sydd modd
  • Sicrhau bod pawb yn cael yr hawl i fynegi eu daliadau eu hunain
  • Sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch a phreifatrwydd bob amser
  • Galluogi Gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu

Beth mae Cartref Gofal Havenhurst yn ei ddarparu?

Mae Cartref Gofal Havenhurst yn darparu 2 fath o wasanaeth:

  • Gofal Seibiant - Gellir archebu'r gwasanaeth gofal Seibiant drwy gydol y flwyddyn gan alluogi'r person a'i ofalwyr i gael gwyliau wedi eu cynllunio.
  • Adsefydlu - Mae gwasanaeth adsefydlu yn darparu cymorth i alluogi pobl i adennill a chynnal eu hannibyniaeth hyd y gellir. Mae byngalo wedi'i osod ar dir Havenhurst a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth hwn.
  • Gofal Preswyl (gofal hirdymor) ar gyfer unigolion sydd angen cymorth sylweddol gyda'u hanghenion bywyd beunyddiol.

 Mae Cartref Gofal Havenhurst yn darparu'r canlynol:

  • Cymorth i fyw yn iach a lles
  • Cymorth gydag anghenion gofal unigol
  • Amrywiol weithgareddau 
  • Prydau bwyd maethlon ac amrywiol sy'n darparu ar gyfer anghenion diet.
  • Golchi dillad

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Efallai y bydd tâl am aros yng Nghartref Gofal Havenhurst. Gofynnir i bobl gwblhau asesiad ariannol er mwyn penderfynu a ydynt yn gallu talu a faint a godir am wasanaethau seibiant. Ni ddisgwylir i bobl sy'n aros am gyfnod o amser ar asesiad gyfrannu'n ariannol.

Gwybodaeth bellach

Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt ar 01437 764551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.

Cysylltiadau Defnyddiol

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 2561, adolygwyd 07/05/2024