Canolfannau Dydd
Cartref Gofal Havenhurst
Cartref Gofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn Sir Benfro ydy Cartref Gofal Havenhurst.
Rydym yn darparu gofal seibiant, cymorth asesu ac adsefydlu i oedolion sydd angen cymorth, gofal neu warchodaeth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd.
Mae Cartref Gofal Havenhurst wedi ei gofrestru ac yn cael ei arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (yn agor mewn tab newydd); cssiw@wales.gsi.gov.uk.
Ble mae Cartref Gofal Havenhurst
Cartref Gofal Havenhurst, Heol Sandhurst, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 3JU7
Pryd mae Cartref Gofal Havenhurst yn agored?
Mae Cartref Gofal Havenhurst ar agor 24 awr y dydd ar hyd y flwyddyn.
Sut i gael mynediad i Gartref Gofal Havenhurst?
I gael mynediad i Gartref Gofal Havenhurst rhaid i unigolyn gael asesiad trwy Ofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Sir Penfro.
Beth ydy pwrpas Cartref Gofal Havenhurst?
Mae Cartref Gofal Havenhurst yn darparu gwasanaeth sy'n:
Darparu gofal mewn awyrgylch gartrefol, gyfeillgar a hamddenol
- Cynorthwyo ac yn annog pobl i fyw bywyd mor llawn ac egnïol ag sydd modd
- Sicrhau bod pawb yn cael yr hawl i fynegi eu daliadau eu hunain
- Sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch a phreifatrwydd bob amser
- Galluogi Gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu
Beth mae Cartref Gofal Havenhurst yn ei ddarparu?
Mae Cartref Gofal Havenhurst yn darparu 2 fath o wasanaeth:
- Gofal Seibiant - Gellir archebu'r gwasanaeth gofal Seibiant drwy gydol y flwyddyn gan alluogi'r person a'i ofalwyr i gael gwyliau wedi eu cynllunio.
- Adsefydlu - Mae gwasanaeth adsefydlu yn darparu cymorth i alluogi pobl i adennill a chynnal eu hannibyniaeth hyd y gellir. Mae byngalo wedi'i osod ar dir Havenhurst a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth hwn.
- Gofal Preswyl (gofal hirdymor) ar gyfer unigolion sydd angen cymorth sylweddol gyda'u hanghenion bywyd beunyddiol.
Mae Cartref Gofal Havenhurst yn darparu'r canlynol:
- Cymorth i fyw yn iach a lles
- Cymorth gydag anghenion gofal unigol
- Amrywiol weithgareddau
- Prydau bwyd maethlon ac amrywiol sy'n darparu ar gyfer anghenion diet.
- Golchi dillad
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Efallai y bydd tâl am aros yng Nghartref Gofal Havenhurst. Gofynnir i bobl gwblhau asesiad ariannol er mwyn penderfynu a ydynt yn gallu talu a faint a godir am wasanaethau seibiant. Ni ddisgwylir i bobl sy'n aros am gyfnod o amser ar asesiad gyfrannu'n ariannol.
Gwybodaeth bellach
Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt ar 01437 764551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.
Cysylltiadau Defnyddiol
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall
Cartref Preswyl Hillside
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu gwasanaeth gofal preswyl i oedolion dros 65 mlwydd oed yn bennaf, sydd angen cymorth, gofal, adferiad neu ddiogelwch gan gynnwys pobl sy'n gadael yr ysbyty; gweithio mewn partneriaeth gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Hywel Dda.
Mae Cartref Preswyl Hillside wedi ei gofrestru ac yn cael ei arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) (yn agor mewn tab newydd)
Ble mae'r Cartref Preswyl?
Cartref Preswyl Hillside, Troed y Rhiw, Wdig Sir Benfro, SA64 0AU.
Pryd mae'r Cartref Preswyl yn agored?
Mae Cartref Preswyl Hillside ar agor 24 awr y dydd ar hyd y flwyddyn ac mae ganddo wlâu gofal seibiant, gofal canolraddol a gofal parhaol.
Sut mae cael mynediad i Gartref Preswyl Hillside?
Gall person gael mynediad i Gartref Preswyl Hillside am wely Seibiant neu wely Parhaol yn dilyn asesiad o angen a chael ei gyfeirio gan Ofal Oedolion.
Er mwyn cael mynd i Gartref Preswyl Hillside am y gwasanaeth gofal canolraddol bydd angen i'r person gael asesiad gofal cymdeithasol ac iechyd ar y cyd.
Beth ydy pwrpas Cartref Preswyl Hillside?
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu gwasanaeth sy'n:
- Darparu gofal mewn awyrgylch gartrefol, gyfeillgar a hamddenol
- Cynorthwyo ac yn annog pobl i fyw bywyd mor llawn ac egnïol ag sydd modd
- Sicrhau bod pawb yn cael yr hawl i fynegi eu daliadau eu hunain
- Sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch a phreifatrwydd bob amser
- Galluogi Gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu
Beth mae Cartref Preswyl Hillside yn ei ddarparu?
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu 3 math o wasanaeth:
- Gofal Seibiant
Gellir archebu'r gwasanaeth gofal Seibiant drwy gydol y flwyddyn gan alluogi'r person a'i ofalwyr i gael gwyliau wedi eu cynllunio.
- Gofal Canolraddol
Mae'r gwasanaeth gofal canolraddol yn darparu therapi adfer am hyd at 6 wythnos i alluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth gyhyd ag y bo modd. Lle bo'n berthnasol gellir cynnig hyn i bobl o 45 mlwydd oed lle y nodwyd angen wedi ei asesu.
- Gwlâu Parhaol
Mae'r gwasanaeth gwlâu parhaol yn darparu cartref i'r rheiny sydd ei angen.
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu'r canlynol:
- Cymorth i fyw yn iach a lles
- Cymorth gydag anghenion gofal unigol
- Amrywiol weithgareddau
- Prydau bwyd maethlon ac amrywiol sy'n darparu ar gyfer anghenion diet.
- Golchi dillad
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Efallai y bydd tâl am aros yng Nghartref Hillside. Gofynnir i bobl gwblhau asesiad ariannol er mwyn penderfynu a ydynt yn gallu talu a faint fydd y pris a godir. Cyflawnir hyn fel rhan o'u hasesiad.
Gwybodaeth bellach
Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt CSP ar 01437 764551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.
Canolfannau dydd
Yn darparu gwasanaethau dydd yn fewnol mewn chwe chanolfan dydd ar draws Sir Benfro.
Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt CSP ar 01437 774551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.
Ar y dudalen hon:
Pryd mae'r canolfannau dydd ar agor?
Beth mae'r canolfannau dydd yn ei ddarparu?
Ble mae'r canolfannau dydd?
Mae'r 4 canolfan ddydd yn:
- Meadow Park, Hwlffordd
- Havenhurst, Aberdaugleddau
- Wintern, Wdig
- Bro Preseli, Crymych
Pryd mae'r canolfannau dydd ar agor?
Mae'r canolfannau dydd ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am - 3pm ac eithrio Bro Preseli yng Nghrymych (Dydd Llun, Mawrth a Gwener) ar hyd y flwyddyn ac eithrio gwyliau banc a diwrnodiau hyfforddiant staff dynodedig.
Sut mae cael mynediad i'r ganolfan ddydd?
Gall person gael mynediad i Ganolfan Ddydd yn dilyn asesiad ac atgyfeiriad gan y Tîm Rheoli Gofal Oedolion
Beth mae'r canolfannau dydd yn ei ddarparu?
Mae'r canolfannau dydd yn darparu gwasanaeth dydd i bobl hŷn sy'n byw yn y gymuned, sydd angen cymorth ychwanegol i'w galluogi i gadw eu hannibyniaeth, mewn partneriaeth gyda gofal cymdeithasol ac iechyd.
Pwrpas canolfannau dydd ydy darparu gwasanaeth sy'n:
- Gwerthfawrogi ac yn parchu pobl fel unigolion
- Hybu lles
- Cefnogi a galluogi pobl i gynyddu eu hannibyniaeth
- Cynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau y maent yn eu derbyn
- Galluogi gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu
Mae'r canolfannau dydd yn darparu'r cyfleoedd canlynol:
- Cymorth i fyw yn iach a lles
- Gweithgareddau gan gynnwys cwisiau a gemau bwrdd
- Ymarfer ysgafn
- Pryd amser cinio a diodydd
- Cymorth gyda gofal personol, cael bath a thrin gwallt
- Celf a Chrefft
- Ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau'n cael eu darparu'n fewnol gan staff y ganolfan ddydd ac eithrio trin gwallt a gweithgareddau allanol y bydd pobl yn talu'n uniongyrchol amdanynt.
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Mae hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol a wneir er mwyn penderfynu ar y gallu i dalu.
Mae'r tâl gofal dydd am Ganolfannau Dydd ym mherchnogaeth y Cyngor yn £26.53 y dydd.
Ar hyn o bryd mae tâl uchafswm o £100 yr wythnos am yr holl wasanaethau seiliedig yn y gymuned.
Codir tâl o £4.77 y dydd ar hyn o bryd am ginio ac mae tâl ychwanegol am weithgareddau.
Cludiant
Gall pobl ddefnyddio eu dull teithio eu hunain i fynd i Ganolfannau Dydd neu efallai y caiff cludiant ei ddarparu os bydd y person yn gymwys ac os bydd cludiant ar gael.
Mae opsiwn hefyd o gludiant cymunedol y gellid ei ddefnyddio i deithio i ganolfan ddydd: cludiant y gwasanaethau cymdeithasol
Gofal Seibiant i Oedolion
Beth yw gofal seibiant?
- Gofal seibiant yw arhosiad byr mewn cartref gofal neu gartref nyrsio.
- Fel arfer, mae gofal seibiant yn cael ei ddefnyddio am un wythnos ar y tro, ond gall fod am gyfnod hirach.
- Mae’n rhoi seibiant o waith gofalu i aelodau’r teulu a gofalwyr.
Pethau pwysig i’w gwybod
- Bydd eich lwfans gofal seibiant yn cael ei gytuno gyda’ch gweithiwr cymdeithasol a’i gofnodi yn eich cynllun gofal.
- Mae eich lwfans gofal seibiant yn adnewyddu bob blwyddyn ar y dyddiad y cymeradwywyd eich cynllun gofal.
- Efallai y bydd eich lwfans gofal seibiant yn newid ar ôl adolygiad, felly gwiriwch eich cynllun gofal.
- Gallwch ddewis cartref gofal a all ddiwallu eich anghenion chi.
- Gallwch ddefnyddio’ch gofal seibiant pryd bynnag y mae’n gyfleus i chi yn ystod y flwyddyn.
- Os yw’r cartref gofal a ddewiswch yn codi mwy na’r gost a gytunwyd yn eich cynllun gofal, bydd angen i chi ofyn i rywun dalu’r gost ychwanegol.
- Bydd yn rhaid talu eich cyfraniad asesedig hyd yn oed os yw rhywun arall yn talu’r gost ychwanegol.
Sut i drefnu gofal seibiant
- Cysylltwch â’r cartref gofal neu’r cartref nyrsio yr hoffech ei ddefnyddio.
- Gofynnwch a oes ganddyn nhw le ar gyfer y dyddiadau y mae eu hangen arnoch chi.
- Efallai y bydd y cartref yn gofyn am gyfarfod â’r unigolyn a fydd yn cael gofal seibiant, neu am weld copi o’i asesiad gofal i wneud yn siŵr y gallant ddiwallu ei anghenion.
- Os oes lle ar gael yn y cartref a bod y cartref yn gallu diwallu anghenion yr unigolyn, gallwch neilltuo lle ar gyfer arhosiad gofal seibiant yno.
- Cysylltwch ag Uned Fusnes Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro a gofynnwch am drefnu contract ar gyfer yr arhosiad gofal seibiant.
- Bydd yr Uned Fusnes Gofal Cymdeithasol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar eich cofnod gofal seibiant ac yn trefnu i’r contract, ar gyfer y gofal seibiant, gael ei anfon i’r cartref gofal.
Talu am ofal seibiant
Bydd angen i’r unigolyn sy’n cael y gofal seibiant dalu cyfraniad tuag at y gost, os asesir bod angen iddo wneud hynny.
Bydd Gofal Cymdeithasol yn talu’r cartref gofal ac yna’n anfon anfoneb atoch am eich cyfraniad asesedig.
Mae eich cyfraniad asesedig yn seiliedig ar eich asesiad ariannol. Byddwch wedi cwblhau ffurflen datganiad modd ar gyfer yr asesiad ariannol. Y cyfraniad mwyaf yw £100 yr wythnos.
Costau ychwanegol
Mae rhai cartrefi gofal yn codi tâl sy’n fwy na’r swm wythnosol a delir gan y cyngor.
Os gwnânt hynny, gallant ofyn am gyfraniad ychwanegol at y gost (a elwir weithiau yn ffi atodol).
Cyn neilltuo lle, mae’n bwysig gofyn i’r cartref a oes unrhyw gostau ychwanegol.
Rhaid i unrhyw gost ychwanegol gael ei thalu gan drydydd parti, megis perthynas, ffrind, neu unigolyn arall sy’n cytuno i wneud y taliad.
Gofal seibiant brys
Os oes arnoch angen gofal seibiant brys, mae’r un broses yn berthnasol.
Os oes arnoch angen help i ddod o hyd i leoliad neu drefnu gofal seibiant ar fyr rybudd, cysylltwch â’r canlynol:
- Gwasanaethau Gofal Oedolion Sir Benfro: Rhif ffôn: 01437 764551 a gofynnwch i gael siarad â’r gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd
- Gwasanaeth y tu allan i oriau: Rhif ffôn: 0300 123 5519
Os oes arnoch angen unrhyw gyngor neu gymorth pellach, cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Gofal Oedolion gan ddefnyddio’r rhifau uchod.
Rhestr wirio cyflym
Cyn neilltuo lle ar gyfer gofal seibiant:
- gwiriwch faint o ofal seibiant sydd ar ôl gennych
- chwiliwch am ddarparwr addas
- canfyddwch y costau a’r hyn sydd ar gael
- cysylltwch a’r Uned Fusnes Gofal Cymdeithasol
- cadwch gofnod o bob cyfnod o ofal seibiant a ddefnyddir.
Canolfan ty Milffwrd
Mae Canolfan Tŷ Milffwrd yn darparu gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid â phroblemau iechyd meddwl y mae arnynt angen cymorth.
Mae'r ganolfan yn cynnwys:
- Yr Hafan - llety â chymorth 24 awr sy'n cynnwys 5 gwely adsefydlu
- Haven View – llety â chymorth 24 awr yn darparu seibiant ac asesiad.
- Y Nyth – Fflat 3 llofft, lle mae staff yn darparu cymorth drwy’r Grant Cymorth Tai yn seiliedig ar angen a aseswyd ar sail tymor byr.
- Prosiect Heol Trafalgar - 6 fflat sengl, lle mae staff yn darparu cymorth drwy'r Grant Cymorth Tai yn seiliedig ar angen a aseswyd ar sail tymor byr.
Er mwyn cael y gwasanaeth hwn mae'n rhaid mynd trwy broses asesiad tîm iechyd meddwl.
Y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC):
Y Gogledd – 01437 773157
Y De – 01437 774042
Uned Sant Caradog / Gwasanaeth Datrys Argyfwng (GDA): Ffôn: 01437 772854