Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

Archebion ar gyfer Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

Mae angen archebu lle ymlaen llaw ar gyfer pob un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu (tomenni). Gallwch archebu slot ar yr un diwrnod nawr mewn Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu ar draws Sir Benfro.

Mae dwy ffordd i archebu lle:

Cadwch eich lle nawr trwy Fy Nghyfrif                       

  • Yn gyflymach – nid oes angen rhoi eich manylion cyswllt eto
  • Rheoli eich archeb ar-lein – canslo a gweld archebion sydd ar ddod

Heb gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif? Cofrestrwch i gael Fy Nghyfrif am ddim

Neu

Cadwch eich lle nawr heb Fy Nghyfrif

Wrth gyrraedd, gofynnir i chi wneud y canlynol: :

Archebwch eich slotiau yn y Ganolfan Wastraff ac Ailgylchu

 

Mae archebu slot ar yr un diwrnod ar gael nawr yn y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

 



Canllawiau ar gyfer Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

1.   Ni ddylech ymweld â’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu os ydych chi neu rywun yr ydych yn byw gyda hwy’n hunanynysu neu’n dangos symptomau COVID-19.

2. Bydd Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu’n agor i aelwydydd a defnyddwyr masnachol/ busnes Sir Benfro yn unig.

3. Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu ddewis a ydynt yn dod â gwastraff y cartref ynteu gwastraff masnachol/ busnes i’r Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu wrth archebu.

  • Diffinnir Gwastraff y Cartref fel gwastraff sy’n deillio o eiddo domestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl at ddibenion llety byw, neu fan addoli.
  • Diffinnir gwastraff masnachol fel gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu sy’n deillio o unrhyw weithgareddau masnach neu fusnes, diwydiannol, adeiladu, amaethyddol neu fasnachol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cael taliad am gario gwastraff o unrhyw ffynhonnell (gan gynnwys cartrefi/domestig) neu sy’n cynhyrchu gwastraff o’u gwaith.

4. Ceir cyfyngiadau ar gerbydau ar gyfer y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, ac mae’r canllawiau i’w gweld isod.

5. 

Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr gwastraff y cartref ddewis pa fath o slot y mae ei angen arnynt hefyd wrth archebu; mae hyn yn seiliedig ar y math o gerbyd, pa un a ddefnyddir trelar neu a oes arwyddion masnachol ar y cerbyd.

Opsiwn 1 – Car neu fan fach gyda, neu heb ôl-gerbyd blwch ag un echel, lle nad yw hyd y gwely (heb gynnwys y bachiad) - yn hwy na 1.45 metr o hyd - er eglurder mae hyn yn cynnwys ceir stad, 4x4, SUV, cerbydau cludo criw, tryciau agored a fan tebyg i gar a chanddo ffenestri ar yr ochr yn y cefn ac ail res o seddi, gan gynnwys cerbydau wedi eu haddasu ar gyfer pobl anabl. Mae’r holl gerbydau heb arwyddion masnachol. Bydd y slotiau hyn yn 15 munud o hyd – dim terfyn ar nifer y slotiau y gellir eu harchebu mewn blwyddyn

Opsiwn 2 – Unrhyw gerbyd math opsiwn 1 gydag ôl-gerbyd ag un echel lle mae hyd y gwely (heb gynnwys y bachiad) rhwng 1.46m a 2.44 metr o hyd, ôl-gerbyd ag echel ddwbl nad yw’n hwy na 2.44 metr o hyd neu faniau mawr/panel neu gerbydau nwyddau ysgafn 3.5 tunnell neu lai gan gynnwys cerbydau gwely gwastad, loriau codi, cerbydau â’u hochrau’n cwympo, faniau bocs a cherbydau cawell. Y cwbl heb arwyddion masnachol. Bydd aelwydydd yn gyfyngedig i 12 slot bob 12 mis ar gyfer y mathau hyn o gerbydau – bydd hyn yn cael ei wirio yn erbyn yr eiddo. 30 munud o hyd fydd y slotiau hyn.

Opsiwn 3 – Unrhyw gerbyd ag arwyddion masnachol gyda neu heb drelar (hyd at 2.44 metr o hyd ni waeth sawl echel sydd ganddi) a ddefnyddir mewn cymhwyster domestig. Bydd aelwydydd yn gyfyngedig i 12 slot bob 12 mis ar gyfer y mathau hyn o gerbydau. 30 munud o hyd fydd y slotiau hyn.

Mae’r terfyn o ran nifer y slotiau yn opsiwn 2 neu 3 ar gyfer gwastraff y cartref h.y. 12 slot bob 12 mis wedi cael ei gyflwyno i sicrhau bod gan ddefnyddwyr domestig ddigon o gapasiti i ateb gofynion arferol o ran gwastraff y cartref ond i gyfyngu ar gamddefnydd gan y rhai sy’n ceisio gwaredu gwastraff masnachol fel pe bai’n wastraff domestig. Gall y defnyddwyr ddefnyddio’r 12 slot hyn fel a fynnant, h.y. unwaith y mis neu ddefnyddio’r cwbl o fewn 3 mis, ond dim ond 12 slot fydd yn cael eu caniatáu o fewn blwyddyn galendr.

Nid oes terfyn blynyddol ar ddefnyddio’r cerbydau opsiwn 1 – ac eithrio pwynt 10. Nid yw defnydd masnachol wedi’i gynnwys yn y defnydd hwn ychwaith ond ceir ystod fwy o daliadau sy’n gysylltiedig â defnydd masnachol.

7. Nid yw ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu wedi’u bwriadu ar gyfer gwaredu symiau mawr o wastraff adeiladu a dymchwel, naill ai gan fusnesau neu o waith adnewyddu sylweddol gan grefftwyr cartref. Ni fydd symiau mawr o ddeunyddiau’n cael eu derbyn ac argymhellir eich bod yn defnyddio contractwr sgipiau/gwastraff trwyddedig. Fodd bynnag, bydd symiau bychain o wastraff adeiladu o brosiectau crefftau'r cartref ar raddfa fach a gyflawnir gan aelodau’r cyhoedd i’w heiddo eu hunain yn cael eu derbyn yn rhad ac am ddim, a bydd taliadau’n ddyladwy pan eir y tu hwnt i’r lwfans rhad-ac-am-ddim ar gyfer cartrefi (gweler y ddolen uchod).

8. Dim ond defnyddwyr â slot a archebwyd ymlaen llaw fydd yn cael dod ar y safle. Bydd unrhyw un sydd heb archebu slot yn cael ei droi i ffwrdd. Mae angen i ddefnyddwyr sicrhau hefyd eu bod wedi archebu’r slot cywir neu ni chaniateir iddynt ddod ar y safle, h.y. bydd angen i ddeiliad tŷ â char a threlar (y mae ei llawr yn fwy nag 1.45m o hyd) archebu opsiwn 2 os nad oes arwyddion masnachol ar y car neu opsiwn 3 os oes arwyddion masnachol ar y cerbyd.

9. Gall deiliaid tai a defnyddwyr masnachol Sir Benfro archebu slot, os oes un ar gael, hyd at 6am ar yr un diwrnod.

10. Nid oes unrhyw gyfyngiadau archebu ar gyfer defnyddiwr masnachol / busnes. Gallant archebu cymaint o weithiau ag y mae arnynt ei angen. Gall deiliaid tai archebu 3 gwaith mewn wythnos.

11. Bydd slot â therfyn amser caeth o 15 neu 30 munud y cerbyd wedi’i neilltuo i waredu eitemau yn y cynwysyddion cywir. Felly didolwch yr holl wastraff a deunyddiau i’w hailgylchu yn ôl y gwahanol fathau o ddeunyddiau cyn cyrraedd y safle os gwelwch yn dda i helpu i gadw eich ymweliad yn fyr.

12. Dylai cerbydau gyrraedd yn ddim cynharach na 15 munud cyn y slot amser a archebwyd ar eu cyfer (i osgoi ciwiau traffig ar y briffordd).

13. Dangoswch eich dogfen adnabod sy’n cynnwys eich cyfeiriad ac sy’n cyd-fynd â’r archeb (e.e. trwydded yrru ddilys gyda’r cyfeiriad cywir / bil cyfleustodau/ bil y dreth gyngor) yn y ffenestr flaen i staff ei gweld a gwirio’r archeb. Ar gyfer defnyddwyr masnachol/ busnes bydd angen i hon fod yn gysylltiedig â’r busnes y mae’r slot wedi’i archebu ar ei gyfer. 

14. Atgoffir defnyddwyr masnachol/ busnes ei bod yn ofynnol iddynt ddal y drwydded cludwr gwastraff berthnasol gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cludo gwastraff. Dylech fod yn ymwybodol y gall gweithredydd Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu ofyn am gael gweld tystiolaeth o hyn ar y safle. Mae gennym yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw fusnesau heb drwydded cludwr gwastraff ddilys. Mae rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Cludwr Gwastraff ar gael trwy Cyfoeth Naturiol Cymru

15. Bydd uchafswm o gerbydau’n cael mynd ar safle ar unrhyw adeg benodol (bydd staff yn monitro hyn). Bydd y nifer hwn yn cael ei adolygu’n gyson.

16. Byddwch yn amyneddgar a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y safle. Er budd ac er lles pawb, bydd unrhyw ddefnyddwyr nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau neu sy’n difrïo staff yn cael eu cyfarwyddo i adael y safle a bydd camau pellach yn cael eu cymryd os oes angen.

Cynlluniau o Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

Mae cynllun o bob Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu yn Sir Benfro wedi cael ei greu i helpu aelwydydd i ddidoli eu gwastraff a’u deunyddiau i’w hailgylchu cyn eu hymweliad wedi’i archebu â’r safle.

Cwestiynau Cyffredin

Ar y dudalen hon:

Pwy sy’n cael defnyddio’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?

Mae gan rywun yn fy nhŷ symptomau COVID-19 neu gofynnwyd i mi ynysu. A allaf i ddal mynd i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu?

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Gwastraff Cartref a Gwastraff Masnachol?

Sut mae Aelwydydd Sir Benfro’n archebu slot?

Pam fod terfyn blynyddol ar nifer y cyfnodau Dewis 2 a Dewis 3 ar gyfer aelwydydd?

Beth sy’n digwydd os ydw i’n defnyddio fy holl slotiau opsiwn 2 neu 3 cyn i’r 12 mis ddod i ben?

Sut mae archebu cyfnod ar gyfer gwastraff busnes / masnachol?

Beth sy’n  digwydd os ydw i’n cyrraedd heb slot?

Beth os wyf wedi archebu’r cyfnod anghywir ar gyfer fy ngherbyd gyda / heb drelar?

Beth os nad oes unrhyw gyfnodau ar gael yn fy safle arferol?

Pa gerbydau a ganiateir sy’n ar y safle?

Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn dymuno dod â fan a logwyd ar brydles fyrdymor i’r safle?

Beth ydw i'n ei wneud pan wyf yn cyrraedd y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu?

Beth ydw i'n ei wneud tra ydw i ar y safle? 

Beth ddylwn i ei wneud ag eitemau swmpus o’m cartref? 

Beth yw trwydded cludwr gwastraff?

Pa daliadau a godir ar aelwydydd sy’n defnyddio’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu? 

Pa daliadau a godir ar ddefnyddwyr Masnachol/ busnes yn y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu? 

Sut ydw i’n newid neu’n canslo fy archeb? 

 

 



1. Pwy sy’n cael defnyddio’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?

  • Deiliaid tai Sir Benfro
  • Aelwydydd sy’n defnyddio cerbydau mwy neu gerbydau gyda threlars
  • Defnyddwyr masnachol

Dim ond y rhai â slotiau wedi’u harchebu ymlaen llaw fydd yn gallu cael mynediad at y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.

 

 

2. Mae gan rywun yn fy nhŷ symptomau COVID-19 neu gofynnwyd i mi ynysu. A allaf i ddal mynd i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu?

Nac ydych. Peidiwch ag ymweld ag un o’n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu os ydych chi neu os yw unrhyw un yr ydych yn byw gyda hwy’n hunanynysu neu’n dangos symptomau COVID-19.

 

 

3. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Gwastraff Cartref a Gwastraff Masnachol?

Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu ddewis a ydynt yn dod â gwastraff y cartref ynteu gwastraff masnachol/ busnes i’r Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu wrth archebu.

  • Diffinnir Gwastraff y Cartref fel gwastraff sy’n deillio o eiddo domestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl at ddibenion llety byw, neu fan addoli.
  • Diffinnir gwastraff masnachol fel gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu sy’n deillio o unrhyw weithgareddau masnach neu fusnes, diwydiannol, adeiladu, amaethyddol neu fasnachol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cael taliad am gario gwastraff o unrhyw ffynhonnell (gan gynnwys cartrefi/domestig) neu sy’n cynhyrchu gwastraff o’u gwaith.

 



4. Sut mae aelwydydd Sir Benfro’n archebu cyfnod?

Mae’r system archebu’n fyw bellach a gellir archebu slotiau ar-lein neu drwy’r ganolfan gyswllt ar gyfer y rhai heb fynediad at y rhyngrwyd (01437 764551)

Unwaith yr ydych wedi dewis gwastraff y cartref, bydd angen i ddefnyddwyr ddewis wedyn sut y bydd gwastraff y cartref yn cael ei gludo i’r safle h.y. pa fath o gerbyd.

Sylwer y gellir codi taliadau gwaredu ar gyfer rhai mathau o wastraff. Gweler cwestiwn cyffredin 20 am ragor o wybodaeth.

Opsiwn 1 – Car neu fan fach gyda neu heb drelar bocs un echel hyd at 1.45 metr o hyd (dim arwyddion masnachol)

Opsiwn 2 – Cerbyd gyda threlar un echel rhwng 1.46m a 2.44m neu drelar echel ddwbl hyd at 2.44m o hyd neu fan fawr sy’n pwyso 3.5 tunnell neu lai (dim arwyddion masnachol)

Opsiwn 3 – Cerbyd gydag arwyddion masnachol (3.5 tunnell neu lai) gyda/ heb drelar hyd at 2.44m o hyd.

Ar hyn o bryd dim ond tri ymweliad yr aelwyd ag unrhyw safle a ganiateir mewn wythnos.

Bydd yn ofynnol i aelwydydd ddarparu enw, cyfeiriad, rhif cofrestru’r cerbyd a manylion cyswllt a chytuno â nifer o amodau yn ystod y broses archebu.

Bydd slotiau opsiwn 1 yn 15 munud o hyd a bydd slotiau opsiwn 2/3 yn 30 munud o hyd y cerbyd. Didolwch yr holl wastraff a deunyddiau i’w hailgylchu yn ôl y gwahanol fathau o ddeunyddiau cyn cyrraedd y safle os gwelwch yn dda, er mwyn i chi allu gwaredu eitemau yn y cynwysyddion cywir a chadw eich ymweliad o fewn y raddfa amser a ganiateir. Mae mapiau sy’n dangos cynllun pob safle ar gael ar y wefan.

Dylai cerbydau gyrraedd yn ddim cynharach na 15 munud cyn y slot amser a archebwyd ar eu cyfer (i osgoi ciwiau traffig ar y briffordd).

 



5. Pam fod terfyn blynyddol ar nifer y cyfnodau Dewis 2 a Dewis 3 ar gyfer aelwydydd?

Mae’r terfyn o ran nifer y slotiau yn opsiwn 2 neu 3 ar gyfer gwastraff y cartref h.y. 12 slot bob 12 mis wedi cael ei gyflwyno i sicrhau bod gan ddefnyddwyr domestig ddigon o gapasiti i ateb gofynion arferol o ran gwastraff y cartref ond i gyfyngu ar gamddefnydd gan y rhai sy’n ceisio gwaredu gwastraff masnachol fel pe bai’n wastraff domestig. Gall y defnyddwyr ddefnyddio’r 12 slot hyn fel a fynnant, h.y. unwaith y mis neu ddefnyddio’r cwbl o fewn 3 mis, ond dim ond 12 slot fydd yn cael eu caniatáu o fewn blwyddyn galendr. Mae’r terfyn hwn yn gyson â llawer o Awdurdodau Lleol ledled Cymru gan gynnwys Sir Gâr ac Abertawe.

Nid oes terfyn blynyddol ar y defnydd o gerbydau opsiwn 1.

 



6. Beth sy’n digwydd os ydw i’n defnyddio fy holl slotiau opsiwn 2 neu 3 cyn i’r 12 mis ddod i ben?

Gall aelwydydd Sir Benfro ddefnyddio’r 12 slot hyn fel a fynnant, h.y. unwaith y mis neu ddefnyddio’r cwbl o fewn 3 mis, ond dim ond 12 slot fydd yn cael eu caniatáu bob 12 mis. Mae’r terfyn hwn yn gyson â llawer o Awdurdodau Lleol ledled Cymru gan gynnwys Sir Gâr ac Abertawe. Ni fyddwch yn gallu ymweld fwy na 12 gwaith y flwyddyn ar gyfer y mathau hyn o slotiau ac mae hyn yn cael ei wirio yn ôl cyfeiriad yr aelwyd.

Fodd bynnag, nid oes terfyn ar nifer y slotiau ar gyfer cerbydau opsiwn 1 e.e. car, fan fach, 4x4, SUV, cerbyd cludo criw ac ati. Nid yw defnydd masnachol wedi’i gynnwys yn y cyfyngiad hwn ychwaith ond mae ystod fwy o daliadau’n gysylltiedig â defnydd masnachol.

 

 

7. Sut ydw i’n archebu slot ar gyfer gwastraff Busnes/ Masnachol?

Mae’r system archebu’n fyw bellach a gellir archebu slotiau ar-lein neu drwy’r ganolfan gyswllt ar gyfer y rhai heb fynediad at y rhyngrwyd (01437 764551)

Caiff slotiau eu rhyddhau ar sail dreigl o bythefnos, a gellir archebu slotiau hyd at 6am ar yr un diwrnod, lle mae slotiau ar gael.

Mae’n ofynnol i fusnesau Sir Benfro ddewis y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu y maent yn dymuno ymweld â hi, y dyddiad a’r amser ar gyfer y slot.

Bydd angen i fusnesau ddarparu’r enw, cyfeiriad, rhif cofrestru cerbyd a manylion cyswllt ar gyfer y busnes a chytuno â nifer o amodau yn ystod y broses archebu h.y. cadarnhau bod ganddynt y Drwydded Cludwr Gwastraff berthnasol.

Dylech fod yn ymwybodol y gall gweithredydd Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu ofyn am gael gweld tystiolaeth o hyn ar y safle. Mae gennym yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw fusnes nad yw’n darparu prawf o Drwydded Cludwr Gwastraff gyfredol. Mae rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Cludwr Gwastraff ar gael trwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd pob slot yn ddim hwy na 30 munud y cerbyd. Didolwch yr holl wastraff a deunyddiau i’w hailgylchu yn ôl y gwahanol fathau o ddeunyddiau cyn cyrraedd y safle os gwelwch yn dda. Ceir mapiau ar y wefan sy’n dangos cynllun pob safle, er mwyn i chi allu gwaredu eitemau yn y cynwysyddion cywir a chadw eich ymweliad o fewn y 30 munud a ganiateir.

Dylai cerbydau gyrraedd yn ddim cynharach na 15 munud cyn y slot amser a archebwyd ar eu cyfer (i osgoi ciwiau traffig ar y briffordd).

 

 

8. Beth sy’n  digwydd os ydw i’n cyrraedd heb slot? 

Dim ond aelwydydd a busnesau sydd wedi archebu slot ymlaen llaw fydd yn cael dod ar y safle. Bydd unrhyw un sydd heb archebu slot yn cael ei droi i ffwrdd.

 

 

9. Beth os ydw i wedi archebu’r slot anghywir ar gyfer fy ngherbyd gyda/heb drelar?

Mae angen i ddefnyddwyr sicrhau eu bod wedi archebu’r slot cywir neu ni chaniateir iddynt ddod ar y safle, h.y. bydd angen i ddeiliad tŷ â char a threlar y mae ei llawr yn fwy nag 1.45m o hyd archebu opsiwn 2 os nad oes arwyddion masnachol ar y car neu opsiwn 3 os oes arwyddion masnachol ar y cerbyd.

 

 

10. Beth os nad oes unrhyw gyfnodau ar gael yn fy safle arferol?

Bydd aelwydydd a busnesau’n gallu dewis pa safle y maent yn dymuno ymweld ag ef felly os yw pob slot yn eich safle agosaf wedi’i archebu edrychwch i weld a oes gan yr ail agosaf atoch slot ar gael ac yn y blaen.

Storiwch eich gwastraff yn ddiogel nes eich bod yn gallu ymweld â’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
Mae gan bob aelwyd a busnes yn Sir Benfro gyfrifoldeb cyfreithiol am waredu eu gwastraff yn y modd priodol.

Rhaid i chi beidio â gwaredu gwastraff y cartref na gwastraff masnachol mewn ffordd a fydd yn achosi llygredd neu’n niweidio iechyd pobl. Mae hyn yn cynnwys ei losgi – mae llosgi gwastraff y cartref neu wastraff masnachol yn drosedd a gellir erlyn pobl am wneud hynny.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd. Mae gadael eitemau ar y stryd neu mewn parciau, coetiroedd a chaeau’n gyfystyr â thipio anghyfreithlon. Mae hyn yn drosedd a gallai olygu cosbau penodedig o £350. Os byddwch yn trefnu bod trydydd parti’n symud eich sbwriel a’i fod yn cael ei dipio’n anghyfreithlon wedi hynny, gallech gael eich dal yn gyfrifol a chael dirwy.

Cofiwch, os byddwch yn penderfynu trefnu bod gweithredydd gwastraff masnachol yn symud eich gwastraff:

  • Dylech wastad ofyn am gael gweld tystysgrif cludwr gwastraff haen uwch gyfoes a dilys a pheidio â defnyddio contractwyr gwastraff nad ydynt yn fodlon dangos tystysgrif wreiddiol i chi.
  • Cadwch gofnod o fanylion y cludwr gwastraff rhag ofn iddynt dipio eich gwastraff yn anghyfreithlon a’i fod yn cael ei olrhain yn ôl atoch chi e.e. copi o’u tystysgrif cludwr gwastraff, derbynneb sy’n cynnwys manylion busnes y gweithredydd cofrestredig, gwneuthuriad, model, lliw a rhif cofrestru’r cerbyd sy’n mynd â’ch gwastraff i ffwrdd. 

 

 

11. Pa gerbydau a ganiateir ar y safle? 

Mae ystod o gerbydau a cherbydau gyda threlars yn cael eu caniatáu ar safleoedd yn awr. Mae cwsmeriaid yn dewis pa fath o gerbyd i’w ddefnyddio i ddod i’r safle pan ydynt yn archebu. Mae canllaw cerbydau ar gyfer defnyddwyr gwastraff y cartref a defnyddwyr masnachol ar gael trwy ddilyn y dolenni isod.



12. Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn dymuno dod â fan a logwyd ar brydles fyrdymor i’r safle? 

Os hoffech ddefnyddio’r Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu gyda fan a logwyd ar brydles fyrdymor dim ond gwastraff y cartref y byddwch yn cael ei waredu. Er mwyn trefnu hyn anfonwch e-bost i wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk i archebu’r slot.

Bydd yn ofynnol darparu cytundeb llogi a phrawf o’ch man preswylio ar y safle. Rhaid bod y cytundeb llogi am 3 diwrnod neu lai.

 



13.   Beth ydw i’n ei wneud pan wyf yn cyrraedd y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu?

Didolwch eich holl wastraff a deunyddiau i’w hailgylchu yn ôl y gwahanol fathau o ddeunyddiau cyn cyrraedd y safle a phaciwch eich cerbyd yn gywir, er mwyn i chi allu cael at yr eitemau hyn yn y drefn gywir. Mae mapiau o drefn cynwysyddion y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu ar gael ar-lein i helpu i gadw eich ymweliad yn fyr ac o fewn y slot amser a neilltuwyd.

Dylai cerbydau gyrraedd yn ddim cynharach na 15 munud cyn y slot amser a archebwyd ar eu cyfer. Y rheswm dros hyn yw er mwyn osgoi ciwiau traffig ar y briffordd.

Dangoswch eich dogfen adnabod sy’n cynnwys eich cyfeiriad ac sy’n cyd-fynd â’r archeb (megis trwydded yrru ddilys gyda’r cyfeiriad cywir/bil cyfleustodau/bil y dreth gyngor) yn y ffenestr flaen i staff ei gweld a gwirio’r archeb. Ar gyfer defnyddwyr masnachol/ busnes bydd angen i hon fod yn gysylltiedig â’r busnes y mae’r slot wedi’i archebu ar ei gyfer.  Unwaith y bydd eich archeb wedi cael ei gwirio byddwch yn cael eich cyfarwyddo i symud ymlaen. Byddwch yn amyneddgar yn ystod yr amser hwn os gwelwch yn dda a dilynwch yr arwyddion a’r cyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle.

 

 

14. Beth ydw i’n ei wneud tra ydw i ar y safle? 

Mae gweithdrefnau rheoli traffig a cherddwyr ar waith a gofynnir i ddefnyddwyr ddilyn yr holl gyfarwyddiadau

Bydd pob slot yn ddim hwy na’r slot o 15 neu 30 munud a archebwyd ymlaen llaw ar gyfer pob cerbyd. Didolwch yr holl wastraff a deunyddiau i’w hailgylchu yn ôl y gwahanol fathau o ddeunyddiau cyn cyrraedd y safle os gwelwch yn dda, er mwyn i chi allu gwaredu eitemau yn y cynwysyddion cywir a chadw eich ymweliad o fewn y terfyn amser a ganiateir.

Byddwch yn amyneddgar a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y safle os gwelwch yn dda. Er budd ac er lles pawb, bydd unrhyw ddefnyddwyr nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau neu sy’n difrïo staff yn cael eu cyfarwyddo i adael y safle a gallent gael eu gwahardd rhag defnyddio’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu yn y dyfodol.

 



15. Beth ddylwn i ei wneud ag Eitemau Swmpus o’r Cartref? 

Os oes gennych ddodrefn neu beiriannau mawr o’r cartref nad oes mo’u hangen mwyach megis gwelyau, oergelloedd a soffas a’ch bod yn methu â’u cludo i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu, yna gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus o’r cartref.

Mae eitemau swmpus o’r cartref yn cael eu casglu ar ein rhan gan Frame, mudiad elusennol lleol.

Gellir gwneud ceisiadau am y gwasanaeth hwn trwy gwblhau Ffurflen Casglu Gwastraff Swmpus o’r Cartref trwy 'Fy Nghyfrif' sef eich cyfrif ar-lein gyda’r Cyngor.

Y tâl a godir am gasglu eitemau o’r cartref yw £20 am 10 eitem neu lai. Sylwer y byddai swît dridarn yn cael ei hystyried yn 3 eitem, ac y byddai bwrdd a 4 cadair yn cael eu hystyried yn 5 eitem. Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu casglu unrhyw eitemau trwm y byddai angen mwy na 2 o bobl i’w symud, h.y. pianos ac ati.

Wrth ofyn am y gwasanaeth hwn, nodwch yr eitemau sydd i’w casglu, gan mai dim ond eitemau a nodwyd yn benodol fydd yn cael eu cymryd ymaith. Unwaith y byddwn wedi cael eich cais bydd yn cael ei anfon at Frame a fydd yn cysylltu â’r aelwyd i drefnu’r casgliad. Dim ond o’r tu allan i’r eiddo y bydd yr eitemau’n cael eu casglu a pheidiwch â gosod yr eitemau hyn allan i gael eu casglu nes eich bod wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan FRAME os gwelwch yn dda.

 

 

16. Beth yw trwydded cludwr gwastraff? 

Os ydych chi’n cludo gwastraff fel arfer ac yn rheolaidd fel rhan o’ch busnes eich hun, bydd angen i chi gael eich cofrestru fel cludwr gwastraff. Mae fel arfer ac yn rheolaidd yn golygu ei fod yn rhan o’ch busnes arferol, hyd yn oed os ydych yn ei wneud yn anfynych.

Ystyr cludwr gwastraff yw unrhyw un sy’n casglu, yn cario neu’n cludo gwastraff fel arfer ac yn rheolaidd fel rhan o’i fusnes gyda golwg ar wneud elw. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cael taliad am gario gwastraff o unrhyw ffynhonnell (gan gynnwys rhai domestig) a’r rhai sy’n cynhyrchu ac yn cludo eu gwastraff eu hunain e.e. adeiladwyr a garddwyr.

Mae cofrestru’n ofyniad cyfreithiol ac rydych yn cyflawni trosedd os nad ydych yn cofrestru pan fo’n ofynnol.

Atgoffir defnyddwyr masnachol/ busnes y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu ei bod yn ofynnol iddynt ddal y drwydded cludwr gwastraff berthnasol gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cludo gwastraff. Dylech fod yn ymwybodol y gall gweithredydd Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu ofyn am gael gweld tystiolaeth o hyn ar y safle. Mae gennym yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw fusnes nad yw’n darparu prawf o Drwydded Cludwr Gwastraff gyfredol. Mae rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Cludwr Gwastraff ar gael trwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

 

17. Pa daliadau a godir ar aelwydydd sy’n defnyddio’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu? 

Mae taliadau’n gysylltiedig â gwaredu rhai deunyddiau ar gyfer aelwydydd uwchlaw’r lwfans rhad-ac-am-ddim, ar gyfer gwastraff y cartref mae hyn yn cynnwys plastrfwrdd, rwbel, gosodiadau a ffitiadau, pren, deunydd gorwedd anifeiliaid a llysiau’r gingroen. Codir ar ddefnyddwyr masnachol am yr holl wastraff ac eithrio ystod o ddeunyddiau ailgylchadwy. Mae cyfleusterau talu â cherdyn bellach ar gael ar bob safle ac ni dderbynnir unrhyw daliadau ag arian parod na siec. Rhaid gwneud taliadau ar adeg gwaredu. I gael rhagor o wybodaeth am y taliadau gweler: Beth allaf ei gludo i’r Canolfannau? 

 



18. Pa daliadau a godir ar ddefnyddwyr Masnachol/ busnes yn y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu? 


Codir ar ddefnyddwyr masnachol/ busnes am yr holl wastraff a waredir mewn Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu ac eithrio ystod o ddeunyddiau ailgylchadwy. Mae cyfleusterau talu â cherdyn bellach ar gael ar bob safle ac ni dderbynnir unrhyw daliadau ag arian parod na siec. Rhaid gwneud taliadau ar adeg gwaredu. I gael rhagor o wybodaeth am y taliadau gweler: Beth allaf ei gludo i’r Canolfannau? 

 



19.Sut ydw i’n newid neu’n canslo fy archeb? 

Os yw aelwyd neu fusnes yn dymuno newid neu ganslo archeb gellir gwneud hyn trwy’r ddolen yn eich neges e-bost gadarnhau, trwy anfon neges e-bost i wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551.

 

 

ID: 6443, adolygwyd 14/08/2024