Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

Beth y mae'n rhaid imi ei wneud os yw cludo gwastraff yn rhan o'm busnes?

O fis Ionawr 2014 ymlaen, os ydych chi'n cludo gwastraff yn rheolaidd fel rhan o'ch busnes, yna bydd angen ichi ymgofrestru, yn swyddogol, yn gludwr gwastraff.

Os nad ydych yn ymgofrestru fe allech gael dirwy o hyd at £5,000. 

 

Mae'n rhaid ichi ymgofrestru yn gludwr gwastraff os ydych chi'n gwneud unrhyw un/rai o'r pethau canlynol, fel rhan o'ch busnes:

  • cludo'ch gwastraff eich hun yn rheolaidd (o fis Ionawr 2014)
  • cludo gwastraff gwaith adeiladu neu ddymchwel (hyd yn oed os taw digwyddiad untro ydyw)
  • cludo neu waredu gwastraff ar ran rhywun arall

Cofrestrwch: Cludwr Gwastraff (yn agor mewn tab newydd)

Os nad yw busnesau wedi cael eu hymgofrestru yn gludwyr gwastraff swyddogol, yna mae gan gynorthwywyr safleoedd yr hawl i'w gwrthod, ac i beidio â gadael iddynt waredu gwastraff.

ID: 2342, adolygwyd 30/10/2023