Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu

Oes rhaid imi dalu?

O 1 Ebrill 2024

Caiff deiliaid tai ddefnyddio'r cyfleusterau am ddim ar gyfer gwastraff domestig arferol ac ailgylchu.

O ran gwastraff DIY o aelwydydd, yn hanesyddol mae CSP wedi derbyn rhywfaint o'r deunydd hwn a gynhyrchwyd gan ddeiliaid tai sy'n gwneud prosiectau DIY bach ar eu heiddo eu hunain. Fodd bynnag, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i’r deunydd hwn gael ei dderbyn am ddim yng Nghymru, gan nad gwastraff cartref ydyw ac mae'n dod o dan ddiffiniad gwastraff adeiladu a dymchwel.

Fel rhan o'r adolygiad o ffioedd a thaliadau ynghylch gwastraff annomestig, mae’r Cabinet wedi cytuno y bydd CSP yn parhau i dderbyn rhywfaint o wastraff DIY am ddim o aelwydydd Sir Benfro a bydd y lwfansau sy'n ymwneud â hyn yn unol â Meini Prawf Gwastraff DIY Aelwydydd ac yn unol â Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) Diwygio (Lloegr) 2023.

Meini Prawf Gwastraff DIY Aelwydydd fel a nodir yn Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) Diwygio (Lloegr) 2023

(i) bod y gwastraff yn cael ei gynhyrchu mewn eiddo domestig gan feddianwyr yr eiddo domestig hwnnw sy'n gwneud eu gwaith adeiladu neu ddymchwel eu hunain, gan gynnwys y gwaith paratoi;

(ii) nid yw'r gwastraff yn dod o waith adeiladu neu ddymchwel, gan gynnwys gwaith paratoi, y mae'r taliad wedi'i wneud ar ei gyfer neu y mae i'w wneud ar ei gyfer;

(iii) bod cyfanswm y gwastraff sy'n cael ei anfon i unrhyw safle gwaredu gwastraff mewn un ymweliad naill ai

(a) yn llai na 100 litr a bod lle iddo mewn dau fag 50 litr, neu       

(b) un darn o wastraff heb fod yn fwy na 2000mm x 750mm x 700mm o ran maint; ac

(iv) nid yw'r gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd gwaredu gwastraff yn fwy na phedwar ymweliad unigol fesul aelwyd mewn unrhyw gyfnod o bedair wythnos.

Mae unrhyw wastraff DIY y tu hwnt i’r terfynau hyn yn agored i dâl gwaredu fel sydd wedi’i nodi yn amserlen Ffioedd a Thaliadau Gwastraff Annomestig y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu 2024-2025.

Mae gwastraff DIY yn cynnwys eitemau sydd wedi’u cynhyrchu yn sgil gwaith adeiladu neu adnewyddu, sydd wedi'u gosod, eu sgriwio, neu’u smentio i dŷ neu ardd. Gall gynnwys switiau ystafelloedd ymolchi, drysau, ffenestri, unedau ceginau, deunyddiau toi, pren strwythurol, palmentydd, deunydd decio, bordiau wal, siediau gardd, rwbel, ffensys, teils a phridd.

Caiff tâl ei godi ar gwsmeriaid masnach a busnes am eu holl wastraff ac eithrio amrywiaeth o ddeunyddiau ailgylchadwy.

Mae'r eitemau y mae modd eu gwaredu, wedi’u nodi y Pa bethau allaf i fynd a hwy i'r Canolfannau?

 

ID: 2340, adolygwyd 03/05/2024