Beth yw sero net a pham mae angen i ni weithredu?

Mae sero net yn cyfeirio at sicrhau cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a faint sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer. Mae dau lwybr gwahanol i gyflawni sero net, sy’n gweithio ar y cyd: lleihau allyriadau presennol a chael gwared ar nwyon tŷ gwydr yn weithredol.

Byddai targed sero gros yn golygu lleihau'r holl allyriadau i sero. Nid yw hyn yn realistig, felly mae'r targed sero net yn cydnabod y bydd rhai allyriadau ond bod angen gwrthbwyso'r rhain yn llawn.

Pan fydd swm yr allyriadau carbon a gynhyrchir yn cael ei gydbwyso gan y swm a dynnir, bydd y DU yn allyrrydd sero net. Po isaf yw'r allyriadau, yr hawsaf y daw hyn.

Y pedwar sector â’r allyriadau uchaf yw trafnidiaeth, cyflenwad ynni (cynhyrchu trydan o losgi tanwydd fel glo, olew a nwy naturiol), busnes (defnydd masnachol o drydan), a phreswyl (cynhesu cartrefi). Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn cyfrif am tua 78% o'r allyriadau cyfredol.

O wresogi ein cartrefi i lenwi ein ceir â thanwydd, mae llosgi tanwyddau ffosil yn rhyddhau'r nwyon tŷ gwydr sy'n cynyddu tymheredd byd-eang. Rydym eisoes yn gweld yr effeithiau yma yn y DU a Chymru, gyda llifogydd dinistriol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ym mis Ionawr 2022, cawodydd mawr yn gorlifo gorsafoedd Rheilffordd Danddaearol Llundain yn haf 2022, ac yn lleol achosion amlach o dorri amddiffynfeydd morol o amgylch arfordir Sir Benfro yn, er enghraifft, Niwgwl ac Amroth.

Mae pobl yn iawn i bryderu, gydag adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn dangos, os byddwn yn methu â chyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5°C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol, y bydd y llifogydd a’r tanau a welsom ym mhedwar ban byd eleni yn digwydd yn amlach a byddant yn fwy ffyrnig, bydd cnydau'n fwy tebygol o fethu, a bydd lefelau’r môr yn codi, gan arwain at fudo torfol wrth i filiynau gael eu gorfodi o’u cartrefi. Uwchben 1.5°C, rydym mewn perygl o gyrraedd pwyntiau tyngedfennol yn yr hinsawdd fel rhew parhaol yr Arctig yn toddi – gan ryddhau miloedd o flynyddoedd o nwyon tŷ gwydr wedi’u storio – sy’n golygu y gallem golli rheolaeth ar ein hinsawdd am byth.

Mae llwybr, o hyd, i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Ni allai'r wyddoniaeth fod yn gliriach: erbyn canol y ganrif hon, mae'n rhaid i'r byd leihau allyriadau i mor agos at sero â phosibl, gyda'r swm bach o allyriadau sy'n weddill yn cael ei amsugno trwy ddalfeydd carbon naturiol fel coedwigoedd a datblygiad technolegau newydd fel offer dal carbon. Os gallwn gyflawni hyn, bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang yn ‘sero net’.

Mae angen gweithredu brys ar draws y byd i gyflawni hyn, gan gynnwys rhoi’r gorau i gynhyrchu pŵer â glo, cael gwared ar injans petrol a diesel o bob car, ac atal datgoedwigo.

 

ID: 11733, adolygwyd 16/07/2024