Effaith y Newid yn yr Hinsawdd

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn real, ac mae’n digwydd ar draws y byd ac yn effeithio ar gymunedau lleol yn Sir Benfro. Yn 2019, Galwodd Syr David Attenborough y newid yn yr hinsawdd y bygythiad mwyaf inni ers miloedd o flynyddoedd’, gan ychwanegu, ‘tra bod y Ddaear wedi goroesi newidiadau hinsoddol radical ac wedi adfywio yn dilyn difodiannau torfol, nid dinistr y Ddaear sy'n ein hwynebu, ond dinistr ein byd naturiol, cyfarwydd a'n diwylliant dynol cyfoethog unigryw.’  Mater i ni i gyd yw newid hyn.

 

Asesiadau Risg ac Effaith Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd

Yn haf 2021, cyhoeddodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ei adroddiad diweddaraf (mae’n cyhoeddi un bob pum mlynedd) ar risgiau ac effeithiau’r hinsawdd. Dyma’r prif effeithiau a risgiau i’r DU / Cymru o ddogfen 1,500 tudalen:

  1. Risgiau i hyfywedd ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau daearol a dŵr croyw
  2. Peryglon i iechyd y pridd oherwydd mwy o lifogydd a sychder
  3. Risgiau i storfeydd carbon naturiol ac atafaelu carbon, gan arwain at fwy o allyriadau
  4. Risgiau i gnydau, da byw a choed masnachol
  5. Risgiau i gyflenwad bwyd a nwyddau ar gyfer gwasanaethau hanfodol oherwydd cwymp cadwyni cyflenwi a rhwydweithiau dosbarthu sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd
  6. Risgiau i bobl a'r economi o fethiant sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i'r system bŵer
  7. Risgiau i iechyd, lles a chynhyrchiant dynol o amlygiad cynyddol i wres mewn adeiladau
  8. Risgiau i’r DU o effeithiau newid hinsawdd dramor

Dolen i adroddiad llawn y DU: Independent Assessment of UK Climate Risk (yn agor mewn tab newydd)

 

Mae yna hefyd grynodebau cenedlaethol penodol ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon: National Summaries (yn agor mewn tab newydd)

 

Adroddiad Asesu’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC)

Cyhoeddwyd y chweched adroddiad asesu gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability (yn agor mewn tab newydd), ym mis Chwefror 2022. Mae’n dwyn ynghyd dros 34,000 o bapurau i ddarparu’r adolygiad gwyddonol diweddaraf ar effeithiau’r hinsawdd a chyflwyno’r achos dros ddatblygu sy'n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd fel y'i gelwir. Er ei fod yn atgyfnerthu bod maint yr effeithiau presennol yn cynyddu, ac yn disgyn yn arbennig ar y difreintiedig, mae'n nodi llwybr hyfyw i wydnwch sy'n pwysleisio'r angen i reoli dŵr, sicrhau diogelwch bwyd, adfer natur, a thrawsnewid dinasoedd i fod yn elfennau camau addasu. Mae risgiau cam-addasu (cynyddu risgiau’r hinsawdd a/neu allyriadau yn anfwriadol) a therfynau addasu yn themâu allweddol eraill. Yn gyffredinol, yr angen am lawer mwy o frys wrth fynd i’r afael â’r 127 o risgiau hinsawdd allweddol a nodwyd yn yr adroddiad drwy gamau addasu dros y degawd nesaf yw’r brif neges. Pwysleisir rôl natur ac atebion ar sail natur i raddau llawer mwy nag mewn fersiynau blaenorol o'r adroddiad hwn, wrth nodi ar yr un pryd na fydd rhai atebion ar sail natur yn effeithiol uwchlaw 1.5°C ac y bydd risg o fethiannau cnydau a systemau amaeth ar raddfa fawr uwchlaw 2°C. Prif neges y digwyddiad lansio oedd bod y ffenestr lle mae cyfle i weithredu’n effeithiol yn prysur gau. Mae’r adroddiad yn gwneud y ‘prif ddatganiadau’ a ganlyn:

 

B: Effeithiau a Risgiau a Arsylwir ac a Ragwelir

B1:

Mae newid yn yr hinsawdd a achosir gan ddyn, gan gynnwys digwyddiadau eithafol amlach a dwysach, wedi achosi effeithiau andwyol eang, a cholledion a difrod cysylltiedig i natur a phobl, y tu hwnt i amrywioldeb hinsawdd naturiol. Mae rhai ymdrechion datblygu ac addasu wedi lleihau bregusrwydd. Ar draws sectorau a rhanbarthau, gwelir bod y bobl a systemau mwyaf agored i niwed yn cael eu heffeithio'n anghymesur. Mae’r cynnydd mewn tywydd a hinsawdd eithafol wedi arwain at rai effeithiau di-droi’n-ôl wrth i systemau naturiol a dynol gael eu gwthio y tu hwnt i’w gallu i addasu (hyder uchel).

B2:

Mae bregusrwydd ecosystemau a phobl i’r newid yn yr hinsawdd yn amrywio’n sylweddol rhwng ac o fewn rhanbarthau (hyder uchel iawn), a lywir gan batrymau o ddatblygiad economaidd-gymdeithasol sy’n croestorri, defnydd anghynaliadwy o’r môr a’r tir, annhegwch, ymyleiddio, patrymau hanesyddol a pharhaus o annhegwch megis gwladychiaeth, a llywodraethu (hyder uchel). Mae tua 3.3 i 3.6 biliwn o bobl yn byw mewn cyd-destunau sy’n agored iawn i effeithiau newid hinsawdd (hyder uchel). Mae cyfran uchel o rywogaethau yn agored i newid hinsawdd (hyder uchel). Mae bregusrwydd dynol ac ecosystemau yn rhyngddibynnol (hyder uchel). Mae patrymau datblygu anghynaliadwy presennol yn cynyddu datguddiad ecosystemau a phobl i beryglon hinsawdd (hyder uchel).

B3:

Byddai cynhesu byd-eang, gan gyrraedd 1.5°C yn y tymor agos, yn achosi cynnydd anochel mewn peryglon hinsawdd lluosog ac yn cyflwyno risgiau lluosog i ecosystemau a phobl (hyder uchel iawn). Bydd lefel y risg yn dibynnu ar dueddiadau tymor agos cydamserol o ran bod yn agored i niwed, datguddiad, lefel datblygiad economaidd-gymdeithasol, ac addasu (hyder uchel). Byddai camau gweithredu tymor agos sy’n cyfyngu ar gynhesu byd-eang i tua 1.5°C yn lleihau colledion a difrod rhagamcanol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd mewn systemau dynol ac ecosystemau yn sylweddol, o gymharu â lefelau cynhesu uwch, ond ni allant gael gwared arnynt i gyd (hyder uchel iawn). 

B4:

Y tu hwnt i 2040, ac yn dibynnu ar lefel y cynhesu byd-eang, bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at risgiau niferus i systemau naturiol a dynol (hyder uchel). Ar gyfer 127 o risgiau allweddol a nodwyd, mae’r effeithiau tymor canolig a hirdymor a aseswyd hyd at sawl gwaith yn uwch nag a arsylwyd ar hyn o bryd (hyder uchel). Mae maint a chyfradd y newid yn yr hinsawdd a’r risgiau cysylltiedig yn dibynnu’n fawr ar gamau lliniaru ac addasu tymor agos, ac mae’r effeithiau andwyol a ragwelir a cholledion a difrod cysylltiedig yn cynyddu gyda phob cynnydd mewn cynhesu byd-eang (hyder uchel iawn).

B5:

Mae effeithiau a risgiau’r newid yn yr hinsawdd yn dod yn fwyfwy cymhleth ac yn fwy anodd eu rheoli. Bydd peryglon hinsawdd lluosog yn digwydd ar yr un pryd, a bydd risgiau hinsoddol ac anhinsoddol lluosog yn rhyngweithio, gan arwain at waethygu’r risg gyffredinol ac at risgiau'n rhaeadru ar draws sectorau a rhanbarthau. Mae rhai ymatebion i’r newid yn yr hinsawdd yn arwain at effeithiau a risgiau newydd (hyder uchel).

B6:

Os bydd cynhesu byd-eang yn fwy nag 1.5°C dros dro yn ystod y degawdau nesaf neu’n hwyrach (gormodedd), yna bydd llawer o systemau dynol a naturiol yn wynebu risgiau difrifol ychwanegol, o gymharu ag aros yn is nag 1.5°C (hyder uchel). Yn dibynnu ar faint a hyd y gormodedd, bydd rhai effeithiau yn achosi rhyddhau nwyon tŷ gwydr ychwanegol (hyder canolig) a bydd rhai yn anghildroadwy, hyd yn oed os bydd cynhesu byd-eang yn lleihau (hyder uchel).

 

C: Addasiadau Presennol a'u Manteision

C1:

Gwelwyd cynnydd o ran cynllunio a gweithredu addasiadau ar draws pob sector a rhanbarth, gan greu buddion lluosog (hyder uchel iawn). Fodd bynnag, mae cynnydd addasu wedi'i ddosbarthu'n anwastad gyda bylchau addasu a arsylwyd (hyder uchel). Mae llawer o fentrau’n rhoi blaenoriaeth i leihau risgiau uniongyrchol a thymor agos i’r hinsawdd, sy’n lleihau’r cyfle i addasu mewn modd trawsnewidiol (hyder uchel).

C2:

Mae opsiynau addasu dichonadwy ac effeithiol a all leihau risgiau i bobl a natur. Mae dichonoldeb gweithredu opsiynau addasu yn y tymor agos yn amrywio ar draws sectorau a rhanbarthau (hyder uchel iawn). Mae effeithiolrwydd addasu o ran lleihau risg hinsawdd wedi’i ddogfennu ar gyfer cyd-destunau, sectorau a rhanbarthau penodol (hyder uchel) a bydd yn lleihau gyda chynhesu cynyddol (hyder uchel). Mae atebion integredig, amlsector sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol yn gwahaniaethu rhwng ymatebion ar sail risg hinsawdd ac yn torri ar draws systemau, gan gynyddu dichonoldeb ac effeithiolrwydd addasu mewn sectorau lluosog (hyder uchel).

C3:

Cyrhaeddwyd terfynau meddal i rai addasiadau dynol, ond gellir eu goresgyn drwy fynd i’r afael ag amrywiaeth o gyfyngiadau, yn bennaf cyfyngiadau ariannol, llywodraethu, sefydliadol a pholisi (hyder uchel). Cyrhaeddwyd terfynau caled ar addasu mewn rhai ecosystemau (hyder uchel). Gyda chynhesu byd-eang cynyddol, bydd colledion a difrod yn cynyddu a bydd systemau dynol a naturiol ychwanegol yn cyrraedd terfynau addasu (hyder uchel).

C4:

Mae tystiolaeth gynyddol o gam-addasu ar draws llawer o sectorau a rhanbarthau ers Adroddiad Asesu 5. Gall ymatebion camaddasol i’r newid yn yr hinsawdd arwain at fregusrwydd, amlygiad a risgiau y mae'n anodd ac yn ddrud eu newid ac sy’n gwaethygu anghydraddoldebau presennol. Gellir osgoi camaddasu trwy gynllunio a gweithredu camau addasu hyblyg, amlsector, cynhwysol a hirdymor, gan greu buddion i lawer o sectorau a systemau (hyder uchel).

C5:

Mae amodau galluogi yn allweddol ar gyfer gweithredu, cyflymu a chynnal ymaddasu mewn systemau dynol ac ecosystemau. Mae’r rhain yn cynnwys ymrwymiad gwleidyddol a chamau dilynol, fframweithiau sefydliadol, polisïau ac offerynnau gyda nodau a blaenoriaethau clir, gwell gwybodaeth am effeithiau ac atebion, defnydd o adnoddau ariannol digonol a mynediad atynt, monitro a gwerthuso, a phrosesau llywodraethu cynhwysol (hyder uchel).

 

D: Datblygu sy'n Gallu Dygymod â'r Newid yn yr Hinsawdd

D1:

Mae tystiolaeth o effeithiau a arsylwyd, risgiau a ragwelir, lefelau a thueddiadau o ran bregusrwydd, a therfynau addasu yn dangos bod mwy o frys i gymryd camau datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd ledled y byd nag a aseswyd yn flaenorol yn Adroddiad Asesu 5. Gall ymatebion cynhwysfawr, effeithiol ac arloesol harneisio synergeddau a lleihau cyfaddawdu rhwng addasu a lliniaru er mwyn hybu datblygu cynaliadwy (hyder uchel iawn).

D2:

Mae datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd yn cael ei alluogi pan fydd llywodraethau, cymdeithas sifil a’r sector preifat yn gwneud dewisiadau datblygu cynhwysol sy’n blaenoriaethu lleihau risg, tegwch a chyfiawnder, a phan fydd prosesau gwneud penderfyniadau, cyllid a chamau gweithredu yn cael eu hintegreiddio ar draws lefelau llywodraethu, sectorau ac amserlenni (hyder uchel iawn). Hwylusir datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd gan gydweithrediad rhyngwladol a chan lywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda chymunedau, cymdeithas sifil, cyrff addysgol, sefydliadau gwyddonol a sefydliadau eraill, y cyfryngau, buddsoddwyr a busnesau, a thrwy ddatblygu partneriaethau gyda grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio’n draddodiadol, gan gynnwys menywod, pobl ifanc, pobl gynhenid, cymunedau lleol a lleiafrifoedd ethnig (hyder uchel). Mae’r partneriaethau hyn yn fwyaf effeithiol pan gânt eu cefnogi gan alluogi arweinyddiaeth wleidyddol, sefydliadau ac adnoddau (gan gynnwys cyllid), yn ogystal â gwasanaethau hinsawdd, gwybodaeth, a dulliau sy’n rhoi cymorth i’r broses o wneud penderfyniadau (hyder uchel).

D3:

Gall rhyngweithio rhwng newid ffurf drefol, amlygiad a bregusrwydd greu risgiau a cholledion a achosir gan y newid yn yr hinsawdd i ddinasoedd ac aneddiadau. Fodd bynnag, mae'r duedd fyd-eang o drefoli hefyd yn cynnig cyfle hollbwysig yn y tymor agos i hyrwyddo datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd (hyder uchel). Gall cynllunio integredig a chynhwysol a buddsoddi mewn gwneud penderfyniadau bob dydd am seilwaith trefol, gan gynnwys seilweithiau cymdeithasol, ecolegol a llwyd / ffisegol, gynyddu gallu aneddiadau trefol a gwledig i addasu’n sylweddol. Mae canlyniadau teg yn cyfrannu at fuddion lluosog ar gyfer iechyd a lles a gwasanaethau ecosystemau, gan gynnwys i bobl gynhenid, cymunedau a ymyleiddiwyd a chymunedau agored i niwed (hyder uchel). Mae datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd mewn ardaloedd trefol hefyd yn cefnogi gallu ymaddasol mewn lleoedd mwy gwledig trwy gynnal cadwyni cyflenwi nwyddau a gwasanaethau amdrefol a llifau ariannol (hyder canolig). Mae dinasoedd ac aneddiadau arfordirol yn chwarae rhan arbennig o bwysig wrth hyrwyddo datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd (hyder uchel).

D4:

Mae diogelu bioamrywiaeth ac ecosystemau yn sylfaenol i ddatblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd, yng ngoleuni’r bygythiadau y mae newid hinsawdd yn eu hachosi iddynt a’u rolau o ran addasu a lliniaru (hyder uchel iawn). Mae dadansoddiadau diweddar, gan dynnu ar ystod o dystiolaeth, yn awgrymu bod cynnal gwytnwch bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau ar raddfa fyd-eang yn dibynnu ar gadwraeth effeithiol a theg o tua 30% i 50% o dir, dŵr croyw a chefnforoedd y Ddaear, gan gynnwys ecosystemau sydd bron yn naturiol ar hyn o bryd (hyder uchel).

D5:

Mae’n ddiamwys bod y newid yn yr hinsawdd eisoes wedi amharu ar systemau dynol a naturiol. Nid yw tueddiadau datblygu’r gorffennol a’r presennol (allyriadau, datblygu a newid hinsawdd yn y gorffennol) wedi hybu datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd (hyder uchel iawn). Bydd dewisiadau a chamau gweithredu cymdeithasol a roddir ar waith yn y degawd nesaf yn pennu i ba raddau y bydd llwybrau tymor canolig a hirdymor yn sicrhau datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd i raddau mwy neu lai (hyder uchel). Yn bwysig, mae rhagolygon datblygu sy’n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd yn gynyddol gyfyngedig os nad yw allyriadau nwyon tŷ gwydr presennol yn gostwng yn gyflym, yn enwedig os eir y tu hwnt i gynhesu byd-eang o 1.5°C yn y tymor agos (hyder uchel). Mae’r rhagolygon hyn yn cael eu cyfyngu gan ddatblygiadau, allyriadau a newid hinsawdd yn y gorffennol, a’u galluogi gan lywodraethu cynhwysol, adnoddau dynol a thechnolegol digonol a phriodol, gwybodaeth, galluoedd a chyllid (hyder uchel).

ID: 11738, adolygwyd 08/07/2024