Yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru yr uchelgais o sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030. Wrth wneud hynny, cydnabu Llywodraeth Cymru fod y sector cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar allyriadau yn llawer ehangach na’i allyriadau uniongyrchol cymharol fach ei hun mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni a defnydd tir. Yn ogystal â mynd i’r afael â phroblemau llygredd aer, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y gall y dull hwn gael effaith gadarnhaol ar yr economi leol drwy leihau costau ynni a thrwy greu cyfleoedd buddsoddi ar gyfer yr economi carbon isel.
Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i bawb: Cymru carbon isel | LLYW.CYMRU (opens in a new tab) , sy’n cynnwys Polisi 20: ‘Helpu'r sector cyhoeddus i bennu llinell sylfaen, monitro cynnydd tuag at niwtraliaeth carbon ac adrodd arno’.
Er mwyn cyrraedd y nod hwn, bydd angen, ymhlith pethau eraill, gwneud y canlynol:
Y bwriad yw y bydd dull sector cyhoeddus Cymru ar gyfer adrodd ar garbon sero net yn disodli ac yn adeiladu ar gynllun yr Ymrwymiad Lleihau Carbon, a gafodd ei flwyddyn adrodd ddiwethaf yn 2018/19. Mae’r dull hwn hefyd yn cyflawni yn erbyn Polisi 19: ‘Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad ynghylch opsiynau ar gyfer Cynllun Ymrwymiad i Leihau Carbon olynol yn ystod haf 2019’.
Datblygwyd y fethodoleg gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys Cyngor Sir Penfro fel ‘mabwysiadwyr cynnar’) a chyda'r ymgynghorwyr Aether a Carbon Forecast. Cafodd ei llywio gan waith statws carbon net Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir gweld y canllaw sector cyhoeddus llawn ar gyfer adrodd ar garbon sero net yma: Canllaw sector cyhoeddus ar gyfer adrodd ar garbon sero-net | LLYW.CYMRU (opens in a new tab) .
Y nod yw datblygu cyfres gyffredinol o gyfarwyddiadau i’w defnyddio gan gyrff cyhoeddus Cymru i amcangyfrif allyriadau sylfaenol, nodi ffynonellau blaenoriaeth, a monitro cynnydd tuag at gyflawni'r uchelgais targed ar y cyd o sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
Mae Cyngor Sir Penfro eisoes wedi cwblhau taenlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer adrodd ar garbon sero net ar gyfer blynyddoedd 2019/20, 2020/21 a 2021/22 a chyflwynodd adroddiad 2022/23 erbyn y dyddiad cau o 4 Medi 2023.
Ar gyfer 2022/23, mae angen adrodd ar ddata allyriadau CO2 o'r sectorau canlynol o fewn gweithrediadau'r cyngor:
a) adeiladau annomestig
b) cyflenwi a thrin dŵr
c) goleuadau stryd
d) cerbydau fflyd
e) teithio busnes
f) staff yn cymudo
g) gweithio gartref
h) gwastraff ac ailgylchu trefol
i) allyriadau tir ac atafaelu
j) cadwyn gyflenwi (caffael)
Gwnaeth Adran 3.1 o gynllun gweithredu’r cyngor tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 amlinellu sut mae’r cyngor wedi adrodd yn hanesyddol ar eitemau a, c, d ac e, o ystyried bod gan y cyngor ddata hanesyddol dibynadwy ar gyfer y ffynonellau allyriadau hyn. Nid oedd adroddiadau ar eitemau b, f, g, h, i a j wedi'u cyflawni cyn cyflwyno'r fethodoleg newydd hon. Fodd bynnag, cydnabu’r cynllun gweithredu fod angen i’n dull gweithredu fod yn ddigon hyblyg i ymdopi ag amgylchiadau sy’n newid – gan gynnwys y gofyniad newydd hwn gan LlC ar gyfer adrodd ar garbon sero net er mwyn sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
Ers gweithredu methodoleg Llywodraeth Cymru ar gyfer adrodd ar garbon sero net, mae cyfanswm yr allyriadau canlyniadol canlynol wedi’u cofnodi:
Blwyddyn |
Allyriadau CO₂ (kgCO₂e) |
2019/20 | 69,762,114 |
2020/21 | 74,228,410 |
2021/22 | 66,834,795 |
2022/23 | 46,274,413 |
Fel y rhagwelwyd, o ystyried cwmpas ehangach adroddiadau sy’n defnyddio’r dull sector cyhoeddus Cymru hwn ar gyfer adrodd ar garbon sero net, mae ôl troed carbon y cyngor wedi ehangu'n sylweddol wrth i'r fethodoleg newydd ymgorffori ffynonellau allyriadau b, f, g, h, i a j. Yn flaenorol, dim ond ar allyriadau gweithredol o adeiladau annomestig, goleuadau stryd, cerbydau fflyd a theithiau busnes staff yr ydym wedi adrodd arnynt – metrigau lle mae gennym ddata dibynadwy a chywir. Mae’r sefyllfa hon yr un fath ar gyfer pob un o’r 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n adrodd gan ddefnyddio’r dull hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y dull adrodd newydd yn waith sy'n mynd rhagddo ac y bydd yn cymryd adborth gan gyrff cyhoeddus i wella'r broses.
Mae angen mireinio'r dull adrodd ar gyfer allyriadau yn y gadwyn gyflenwi yn sylweddol er mwyn ei ystyried yn gywir. Mae'n fetrig amrywiol iawn o flwyddyn i flwyddyn. Dyma hefyd y ffynhonnell allyriadau fwyaf o bell ffordd a gofnodwyd. Mae'r dull adrodd yn defnyddio data ariannol o systemau caffael (Atamis yn achos Cyngor Sir Penfro) ac yn cymhwyso ffactor allyriadau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Penfro wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y ffaith bod adroddiad Atamis yn dangos nad yw miliynau o bunnoedd o wariant y cyngor bob blwyddyn wedi'u mapio i godau adrodd gofynnol y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol gan Atamis ei hun. Bydd y mater hwn yn bresennol ar gyfer pob corff sector cyhoeddus sy’n defnyddio Atamis ar gyfer ei adroddiadau ar allyriadau cadwyn gyflenwi (y mwyafrif). Mae ein hôl troed carbon ar gyfer 2022/23 o dan y fethodoleg hon yn is na 2019/20, 2020/21 a 2021/22, yn bennaf oherwydd gostyngiad sylweddol yng ngwariant y gadwyn gyflenwi a’r allyriadau canlyniadol.
Yn yr un modd, ar gyfer allyriadau defnydd tir, mae angen i ganllawiau prosesau casglu data LlC a Chyngor Sir Penfro ei hun esblygu i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn adrodd yn yr un ffordd gyson. Er enghraifft, nid yw Cyngor Sir Penfro yn cadw gwybodaeth ar ein systemau gyda'r un dosbarthiad ar gyfer defnydd tir ag sy'n ofynnol yn adroddiadau carbon Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwneud rhagdybiaethau ‘y senario waethaf’ ynghylch y diffiniad o ‘dir anheddiad’ (e.e. nid ydym wedi cynnal ymarfer i rannu ysgolion â chaeau chwarae mawr yn ‘anheddiad’ a ‘glaswelltir’. Mae gennym nifer o goetiroedd yn Sir Benfro ond dim byd y byddem yn ei ystyried yn ‘goedwig’, felly mae'r coetiroedd hyn wedi'u cynnwys fel math o dir ‘anheddiad’. Gallai glaswelltir / coetiroedd gyfrif fel dalfeydd carbon ar ôl i ni gytuno ar ddiffiniadau gyda Llywodraeth Cymru – gan wella ffigurau’r dyfodol felly.
Gostyngodd ffactorau trosi allyriadau ar gyfer trydan a nwy yn 2022/23 o gymharu â blynyddoedd blaenorol, tra arhosodd ffactorau allyriadau cyflenwi a thrin dŵr yr un fath.
Mae allyriadau gwastraff ac ailgylchu bellach yn cynnwys allyriadau prosesu, nid trafnidiaeth yn unig.
Mae allyriadau cymudo staff a gweithio gartref wedi’u hychwanegu at ddata 2021/22 a 2022/23, gan ychwanegu felly ddwy ffynhonnell allyriadau nas cyfrifwyd yn flaenorol. Yn absenoldeb data gwirioneddol, rydym wedi defnyddio'r fethodoleg adrodd a argymhellir gan Lywodraeth Cymru, ond mae gennym amheuon cryf ynghylch cywirdeb y data gan ei fod yn cynnwys gormod o ragdybiaethau gorfodol.
Cofnodwyd yr holl gymwysterau yn y taenlenni adrodd fel bod pawb yn gallu gweld yn dryloyw sut y mae'r cyngor wedi mynd ati i gydymffurfio â'r fethodoleg adrodd.
Ar gyfer adroddiadau mewnol ar garbon sero net erbyn 2030, mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn llwyr i bennu cwmpas ei ymrwymiad i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Ym mis Rhagfyr 2020, cymeradwyodd y cyngor y cynllun gweithredu tuag at ddod yn awdurdod lleol sero net erbyn 2030. Cytunodd y cynllun hwn i fesur gostyngiadau allyriadau yn erbyn metrigau lle mae gan Gyngor Sir Penfro ddata dibynadwy, sef ynni a ddefnyddir mewn adeiladau annomestig, goleuadau stryd, y fflyd, a milltiroedd busnes. Awgrymir mai’r ffordd orau ymlaen yw:
Gellir gweld crynodeb diweddaraf Cyngor Sir Penfro o gynnydd o ran allyriadau CO₂ i gyflawni carbon sero net erbyn 2030 yn Nhabl 1:
Mesurau Allweddol Llwyddiant |
2016/17 canlyniad |
2017/18 canlyniad |
2018/19 canlyniad |
2019/20 canlyniad |
2020/21 canlyniad |
2021/22 canlyniad |
2022/23 canlyniad |
2021/22 v 2022/23 cynnydd |
2021/22v 2022/23 % y newid |
Defnydd (KWh) | 49,217,855 | 48,446,296 | 48,272,333 | 46,243,055 | 38,962,782 | 42,339,035 | 39,307,973 | Improved | -7.18% |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 12,765 | 11,762 | 10,285 | 9,651 | 7,858 | 8,326 | 7,449 | Improved | -10.53% |
Mesurau Allweddol Llwyddiant |
2016/17 canlyniad |
2017/18 canlyniad |
2018/19 canlyniad |
2019/20 canlyniad |
2020/21 canlyniad |
2021/22 canlyniad |
2022/23 canlyniad |
2021/22 v 2022/23 cynnydd |
2021/22v 2022/23 % y newid |
Defnydd (KWh) | 2,993,488 | 2,953,158 | 2,883,115 | 2,596,207 | 2,221,101 | 1,934,651 | 1,053,130 | Improved | -45.58% |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 1,345 | 1,135 | 886 | 719 | 562 | 447 | 222 | Improved | -60.34% |
Mesurau Allweddol Llwyddiant |
2016/17 canlyniad |
2017/18 canlyniad |
2018/19 canlyniad |
2019/20 canlyniad |
2020/21 canlyniad |
2021/22 canlyniad |
2022/23 canlyniad |
2021/22 v 2022/23 cynnydd |
2021/22v 2022/23 % y newid |
Milltiroedd | 3,255,494 | 3,307,554 | 3,463,415 | 4,006,230 | 3,762,644 | 5,002,287 | 4,024,816 | Improved | -19.54% |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 3,734 | 3,714 | 3,648 | 3,936 | 3,776 | 3,665 | 3,938 | Deteriorated | +7.44% |
Mesurau Allweddol Llwyddiant |
2016/17 canlyniad |
2017/18 canlyniad |
2018/19 canlyniad |
2019/20 canlyniad |
2020/21 canlyniad |
2021/22 canlyniad |
2022/23 canlyniad |
2021/22 v 2022/23 cynnydd |
2021/22v 2022/23 % y newid |
Milltiroedd | 1,841,242 | 1,786,730 | 1,858,148 | 1,853,126 | 1,152,411 | 1,657,004 | 1,995,909 | Deteriorated | +20.45% |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 692 | 659 | 681 | 657 | 402 | 566 | 716 | Deteriorated | +26.50% |
Mesurau Allweddol Llwyddiant |
2016/17 canlyniad |
2017/18 canlyniad |
2018/19 canlyniad |
2019/20 canlyniad |
2020/21 canlyniad |
2021/22 canlyniad |
2022/23 canlyniad |
2021/22 v 2022/23 cynnydd |
2021/22v 2022/23 % y newid |
Defnydd (kWh) | 52,211,343 | 51,399,354 | 51,155,448 | 48,839,262 | 41,183,863 | 44,273,686 | 40,361,103 | Improved | -8.84% |
Milltiroedd | 5,096,736 | 5,094,284 | 5,321,563 | 5,859,356 | 4,915,055 | 6,659,291 | 6,020,725 | Improved | -9.59% |
Allyriadau Carbon (tCO2e) | 18,399 | 17,137 | 15,563 | 14,963 | 12,598 | 13,004 | 12,325 | Improved | -5.22% |
Nodiadau: