Mae hwn yn ganlyniad ardderchog, sy’n amlygu’r cynnydd yn ein contractau caffael tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru o 86% ar gyfer 2020-21 i 100% ar gyfer 2021-22.
- Mae GCC wrthi'n chwilio am ffynonellau nwy carbon isel – e.e. biofethan o dreulio anaerobig – ac yn monitro'r agenda nwy hydrogen.
- Mae prynu'n digwydd dros gyfnod o 24 mis, gyda'r nod o brynu ar isafbwyntiau yn y farchnad. Mae hyn yn sicrhau bod y cyngor yn parhau i gael ei amddiffyn rhag unrhyw amrywiadau mawr yn y farchnad, fel y rhai a welwyd yn ystod argyfwng ynni 2021.
- Ers 2003, mae'r cyngor wedi gweithredu dros 400 o gynlluniau effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn eiddo cyngor annomestig ar draws y sir. Gyda’i gilydd, amcangyfrifir bod y rhain yn arbed dros £2,000,000 a 4,000 tunnell o CO2 (tCO2) bob blwyddyn. Mae'r buddsoddiad hwn – ynghyd â rhaglenni parhaus y cyngor ar resymoli eiddo, gweithio ystwyth, a chynnal a chadw – yn cynhyrchu arbedion ariannol a charbon mewn cyfnod o gynnydd ym mhrisiau cyfleustodau.
- Mae CSP yn cymryd rhan yn rhaglen effeithlonrwydd ynni Re:fit Cymru (yn agor mewn tab newydd), sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru:
- Re:fit Cymru, Cam 1 – Cynllun £1.3 miliwn (a ariennir gan fenthyciadau di-log Salix Llywodareth Cymru) sydd wedi gweld 50 a mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gosod ar draws 25 o safleoedd yn ystod 2019–2022, gan arbed £200,000 a 416 tunnell o CO2 yn flynyddol. Mae'r cynllun yn cynnwys gosod goleuadau deuodau allyrru golau (LED), uwchraddio rheolyddion, gyriannau cyflymder amrywiol, inswleiddio falfiau, gwres a phŵer cyfunedig, a phaneli solar ffotofoltäig.
- Re:fit Cymru, Cam 2 – uwchraddio boeleri cyddwyso mewn pum safle pellach, wedi’i gwblhau erbyn diwedd 2021.
- Mae Cam 3 yn cael ei gwmpasu ar gyfer 2024–2026 – gyda gwerth a ragwelir o £3 miliwn.
- Mae'r cyngor yn defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw ym myd addysg i wneud gwaith uwchraddio i oleuadau LED mewn ysgolion ac mae'n ymchwilio i'r potensial ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer.
Camau Gweithredu – Adeiladu o’r newydd
- Mae gan y cyngor un o'r rhaglenni adeiladu o’r newydd mwyaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru. Mae pob prosiect adeiladu o’r newydd mawr yn ymgorffori technolegau ynni adnewyddadwy, gyda gosodiadau solar ffotofoltäig yn cael eu hymgorffori ym mhob un o brosiectau diweddar Moderneiddio Darpariaeth Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif (yn agor mewn tab newydd) ac mewn datblygiadau tai newydd. Mae storio mewn batris hefyd yn destun ymchwil, ac mae cynnig i'w gynnwys mewn datblygiadau tai newydd (lle mae darpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan hefyd yn cael ei darparu).
- Mae technolegau carbon isel neu ddi-garbon eraill sydd wedi’u gosod a’u gwerthuso i’w cynnwys yn y dyfodol, lle bo hynny’n ymarferol, yn cynnwys:
- pympiau gwres ffynhonnell aer;
- boeleri biomas (wedi'u gosod yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd);
- systemau solar ffotofoltäig a systemau thermol solar.
Yn ogystal, ac er mwyn lleihau'r defnydd o ynni o adeiladau newydd, mae ymagwedd ‘gwneuthuriad yn gyntaf’ at effeithlonrwydd ynni hefyd yn cael ei datblygu:
- lefelau uchel iawn o inswleiddio;
- ffenestri perfformiad uchel iawn gyda fframiau wedi'u hinswleiddio;
- gwneuthuriad aerglos mewn adeiladau;
- adeiladu sy’n rhydd o ‘bontydd thermol’;
- systemau awyru mecanyddol gydag adferiad gwres effeithlon iawn.
- Mae tîm dylunio CSP ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r contractwr, ymgynghorwyr a Llywodraeth Cymru i sefydlu ymarferoldeb a chostau adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd Penfro i safon carbon sero net.
- Mae'r tîm dylunio bellach yn gweithio i safonau sy'n lleihau'r carbon sydd wedi'i ymgorffori yng nghylch oes adeiladau.
- Mae’r cyngor yn rhoi mesurau ar waith yn rheolaidd ar draws ei raglen adeiladau newydd, gan gynnwys y canlynol:
- dylunio:
- i safonau cynaliadwyedd ‘Rhagorol’ BREEAM
- ar gyfer y cyfeiriadaeth orau posibl ar gyfer ennill gwres goddefol / cysgodi / awyru
- cynnwys:
- paneli solar ffotofoltäig yn safonol
- buddion cymunedol o brosiectau (defnydd lleol / cyflogaeth)
- cynlluniau rheoli gwastraff safle
- olrhain allyriadau safleoedd
- arolygon bioamrywiaeth a mesurau tirweddu i liniaru unrhyw effeithiau ar fywyd gwyllt
- gorchuddion llawr wedi'u hailgylchu
- tystysgrif ‘cadwyn cystodaeth’ WWF ar gyfer yr holl bren
- poteli gwydr wedi'u hailgylchu ac insiwleiddio llofftydd gyda chywarch
- agregau eildro
- blociau concrit gan gyflenwyr ag ardystiad ISO14001 ar gyfer Systemau Rheoli Amgylcheddol (EMS)
- rhywogaethau brodorol lleol o blanhigion sydd angen dŵr glaw yn unig ar gyfer unrhyw blannu allanol
- monitro:
- ‘milltiroedd deunyddiau’ ar gyfer yr holl ddeunyddiau
- Mae system rheoli ynni Stark ID wedi'i chaffael er mwyn monitro defnydd o ynni CSP yn well a rheoli biliau'n well (o bosibl trwy systemau di-bapur) – ac i ganiatáu mynediad ar y we i safleoedd unigol. Mae data cywir yn hanfodol ar gyfer cynllunio, monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at fod yn garbon sero net. Yn unol â hynny, bydd technoleg ‘glyfar’ ac is-fesuryddion yn cael eu hymestyn i sicrhau bod data defnydd ynni yn cael ei gasglu'n amserol.
- Mae mesuryddion trydan bob hanner awr wedi'u cyflwyno ar gyfer pob adeilad dichonadwy, a gosodir mesuryddion nwy bob hanner awr ar gyfer unrhyw gyflenwadau mwy. Mae'r data hwn yn bwydo i Stark ID.
Goleuadau Stryd – Y Prif Gamau Gweithredu
- Ers 2008, mae CSP wedi gwneud y penderfyniad beiddgar i drosi 12,726 o 15,747 o oleuadau stryd i weithio ar gyfer rhan o'r nos yn unig (h.y. mae lampau'n cael eu diffodd yn awtomatig rhwng hanner nos a 5.30am), sydd wedi cynhyrchu arbedion blynyddol o £178,000, 1,229,000 kWh a 563 tCO2. Roedd y polisi hwn yn dilyn ymgynghoriad trwyadl ac mae wedi arwain at nifer o ganmoliaethau gan eiriolwyr bioamrywiaeth ac ‘awyr dywyll’.
- Yn 2019, cytunwyd yn y cabinet i ddadgomisiynu goleuadau stryd nad ydynt bellach yn cydymffurfio os na all y cyngor eu trwsio'n economaidd – h.y. os bydd cost eu hatgyweirio yn fwy na chost lamp newydd.
- Ym mis Mawrth 2020, cytunodd CSP i gynnal prosiect goleuadau stryd a gefnogir gan fenthyciad di-log Salix a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynllun uwchraddio tair blynedd gan ddefnyddio contractwr fframwaith cynnal a chadw goleuadau stryd y cyngor i drosi'r holl osodiadau golau stryd pŵer uchel sy'n weddill i rai LED rhwng 2020 a 2023. Bydd hyn yn sicrhau bod Cyngor Sir Penfro yn gweithredu rhwydwaith goleuadau stryd sydd i gyd yn oleuadau LED. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar amnewid unedau goleuo yn unig, heb ailosod colofnau. Bydd y prosiect yn lleihau allyriadau carbon 322 tunnell bob blwyddyn, ac yn arbed £205,000 y flwyddyn mewn costau trydan. Oherwydd hirhoedledd cynhenid technoleg LED, bydd arbediad ychwanegol sylweddol hefyd mewn costau cynnal a chadw parhaus sy'n gysylltiedig â ffitiadau presennol sy'n dirywio.
Fflyd – Y Prif Gamau Gweithredu
Cyflwr / oedran y fflyd
- Yn haf 2022 ymlaen, mae CSP yn gweithredu fflyd o tua 500 o gerbydau a dros 1,100 o eitemau o beiriannau. Mae gan y fflyd oedran cyfartalog o ddeuddeg mlynedd – yr hynaf yw bws 42 oed, a'r cerbydau ieuengaf yw faniau batri trydan 2.8 tunnell sy’n un mis oed.
- Mae gan CSP bolisi adnewyddu cerbydau pob saith mlynedd. Wrth adnewyddu, creffir ar swyddogaethau a defnydd cerbydau a, lle bo'n briodol, mae cerbydau llai sy'n fwy effeithlon ac yn rhatach yn cael eu caffael. Er enghraifft, lle defnyddiwyd cerbydau 3.5 tunnell yn y gorffennol, mae’r rhain bellach yn cael eu lleihau i ddwy dunnell neu lai os yn bosibl.
- Polisi teiars y cyngor yw gosod teiars brand premiwm, i leihau llygredd trwy well traul a gwrthsefyll rholio.
- Ar gyfartaledd, mae CSP yn adnewyddu 40 o gerbydau bob blwyddyn, gwerth tuag £1.5 miliwn. Mae angen newid canran o'r cerbydau hyn gyda cherbydau allyriadau isel iawn (ULEVs) bob blwyddyn i leihau allyriadau CO2 y fflyd yn gyffredinol.
Allyriadau / tanwydd
- Mae gwerthoedd allyriadau peiriant diesel yn cael eu mesur gan ddefnyddio safonau allyriadau Ewropeaidd – yn amrywio o Euro 1, a gyflwynwyd ym 1992, i'r Euro 6d mwyaf cyfredol (a gyflwynwyd ym mis Medi 2019). Mae injans cerbydau fflyd CSP yn amrywio o Euro 2, a gyflwynwyd ym 1997, i Euro 6d. Mae 31 o gerbydau Euro 6d yn y fflyd ar hyn o bryd, sy'n golygu mai'r cerbydau hyn yw'r cerbydau diesel mwyaf effeithiol o ran allyriadau gan y cyngor. Wrth i gerbydau cael eu hamnewid, cânt eu hadnewyddu i'r safon allyriadau isaf posib.
- Yn 2021/22, gwariwyd £1.4 miliwn ar danwydd – gan gynhyrchu 3,665 tunnell o CO₂.
Olrhain / cyfyngwyr
- Er mwyn gwneud y defnydd gorau o gerbydau fflyd, mae 80% o gerbydau fflyd CSP wedi'u gosod â thelemateg (system olrhain). Mae'r system delemateg bresennol wedi bod ar waith ers 2010, ac mae'n darparu adroddiadau rheolaidd; mae system newydd yn cael ei chaffael ar hyn o bryd. Byddai archwilio'r systemau telemateg yn helpu i nodi cerbydau a allai fod yn addas ar gyfer amnewidiadau allyriadau isel iawn. Gall systemau adrodd newydd, cyfredol ddarparu dadansoddiad manylach ar allyriadau CO2, a chefnogi lleihau allyriadau fflyd gyfan.
- Mae cerbydau wedi'u pennu â chyfyngwyr cyflymder, sy'n cyfyngu'r cyflymder i 62mya – a, lle bo'n briodol, cyfyngwyr cyflymder yr injan.
Pŵer batri
- Mae offer llaw sy'n cael eu pweru gan betrol bellach yn cael eu newid i rai sy'n cael eu pweru gan fatri. Mae manteision y rhain yn cynnwys allyriadau is, llai o sŵn, a llai o ddirgrynu dwylo a breichiau. Mae cerbydau sydd newydd eu caffael wedi'u pennu â chyfleusterau gwefru batris, ac mae cerbydau hŷn yn y fflyd yn cael eu hôl-osod â gwrthdroyddion i wefru offer llaw sy'n gweithio â batri.
- Mae ysgubwyr diesel sy’n gofyn i rywun gerdded y tu ôl iddynt yn cael eu newid gan rai sy'n cael eu gyrru gan fatri. Mae manteision ysgubwyr batri yn cynnwys costau oes gyfan is; llai o lygredd sŵn, gan alluogi Adran Cynnal a Chadw CSP i ysgubo o 6am ymlaen mewn ardaloedd adeiledig; allyriadau is; a llai o ddirgrynu dwylo a breichiau.
Bysiau
- Mae bysiau bellach wedi'u parcio yn y lleoliadau gorau posibl; yn hanesyddol, cludwyd hwy adref a dechreuwyd o gartref. Mae cerbydau – pan fydd yn briodol, ac os yw’n fwy effeithlon – yn cael eu parcio yn Thornton.
- Yn ddiweddar iawn, mae Cyngor Sir Penfro wedi caffael cwmni bysiau lleol yn cynnwys 33 o goetsis a bysiau a dwy fan. Oedran cyfartalog y fflyd hon yw 12.5 mlynedd. Mae’r rhain yn cael eu gweithredu'n bennaf ar deithio o'r cartref i'r ysgol a llwybrau gwasanaeth lleol; mae rhai teithiau addysgol pellter hir dan gontract. Gan fod ychydig o hen gerbydau yn y fflyd hon, bydd y rhaglen adnewyddu'n dechrau mor gynnar â'r flwyddyn nesaf, gan roi cyfle gwych i gyflwyno bysiau allyriadau isel iawn (ULEV) i lwybrau ysgol a gwasanaeth lleol.
Faniau
- Cofnodwyd bod gan faniau trydan batri (BEV) bach a oedd yn geir yn wreiddiol amrediad o hyd at 240 milltir, ac maent yn ddewis amgen profedig i'r faniau bach tanwydd diesel presennol yn y fflyd. Yn 2023, mae CSP yn cyflwyno seilwaith gwefru chwim mewn depos a safleoedd strategol eraill ar draws y sir i gynorthwyo’r trawsnewid hwn.
- I ddechrau, mae CSP wedi cyflwyno chwe cerbyd BEV i'r fflyd, sy'n cynnwys tair fan Renault Zoe a thair fan Citroen Berlingo, ac mae’r rhain yn cael eu gweithredu gan swyddogion cynnal a chadw adeiladau ac amgylcheddol. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan a'r unig bryderon oedd pwyntiau gwefru a hyd yr amser gwefru. Er mwyn lleddfu’r pryder hwn, mae gwefrwyr 124kW yn cael eu gosod mewn pedwar depo gweithredol ar draws y sir yn Ch1 2023, a bydd gan bob fan y gallu i wefru o 20% i 80% mewn 30 munud, ac yn amlwg bydd ychwanegiadau atodol yn gyflymach. Y trefniad yw disodli hyd at 30 o faniau diesel bach â cherbydau BEV yn 23/24.
- Bydd CSP yn ystyried gosod pwyntiau gwefru cartref, gan fod canran uchel o'i faniau fflyd yn cael eu cludo adref ar ddiwedd y diwrnod gwaith. Byddai angen cynnwys mesuryddion clyfar yma, gan gyfeirio'r holl gostau gwefru yn ôl i'r awdurdod.
- Cafwyd adborth cadarnhaol gan swyddogion am y faniau BEV arddangos, a gafodd eu treialu am gyfnod o bedair wythnos yn 2019. Y pris fframwaith cyfartalog ar gyfer y cerbydau hyn yw £21,000, o gymharu â phris amcangyfrifedig o £11,000 ar gyfer model diesel cyfatebol.
- Mae faniau panel BEV mwy ar gael hefyd, ac mae ganddynt amrediad o hyd at 225 milltir fesul pob gwefriad a phrif lwyth o bron i ddwy dunnell. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd rhai faniau yn cymryd gwefriad ar gyfer 60 milltir mewn 30 munud. Mae cost y cerbydau hyn yn dal yn gymharol uchel; ar hyn o bryd, maent yn manwerthu am tua £75,000 cyn gostyngiadau fframwaith, yn erbyn £16,000 ar gyfer cerbyd diesel cyfatebol.
- Dosbarthwyd wyth o faniau Vauxhall Vivaro-E ym mis Rhagfyr ar gyfer yr adran cynnal a chadw adeiladau, a bydd y rhain yn cymryd lle faniau diesel saith oed. Y trefniad yw disodli hyd at 15 o faniau diesel 3.1 tunnell â cherbydau BEV yn 23/24.
- Gellid ystyried cerbydau trydan hybrid (PHEVs) fel dewis ‘cyflym’ ar gyfer y faniau panel mwy ar y fflyd. Dywedir bod gan faniau PHEV amrediad 35 milltir cyn newid i betrol/diesel. Eu prif anfantais yw y gallai gwefru gael ei esgeuluso, gan olygu bod y cerbyd yn rhedeg yn barhaus ar betrol/diesel. Gyda rheolaeth gaeth, byddai faniau PHEV yn arwain at lai o allyriadau yn gyffredinol o gymharu â cherbydau diesel. Ar hyn o bryd, mae cerbydau PHEV yn gwerthu am tua £30,000, cyn gostyngiadau fframwaith, yn erbyn £14,000 ar gyfer cerbydau diesel cyfatebol.
Cerbydau nwyddau trwm (HGV)
- Mae adnewyddu fflyd HGV y cyngor gyda cherbydau tanwydd amgen yn fwy problematig oherwydd demograffeg, seilwaith a chost:
- Mae tryciau BEV yn cael eu cyflwyno i'r farchnad, gyda gwneuthurwr blaenllaw yn lansio cerbyd casglu sbwriel 26 tunnell yn ddiweddar gydag amrediad o 60 milltir a gwefriad wyth awr sydd wedi'i gyfyngu i raddiant uchaf o 1:20 am bris o £400,000. Yn ddiweddar, prynodd CSP dri o'r tryciau hyn mewn amrywiad diesel am £160,000 yr un.
- Mae hydrogen neu nwy naturiol cywasgedig (CNC) yn opsiwn posibl arall, ond nid oes seilwaith lleol ar gael eto i hwyluso ei ddefnydd. Mae CSP yn cymryd rhan mewn gwaith arloesol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu seilwaith hydrogen / CNG yn Sir Benfro.
- Yn dilyn adnewyddu ei fflyd sbwriel yn ddiweddar, mae 49% o fflyd HGV CSP yn defnyddio injans Euro 6d, sydd i gyd o dan 12 mis oed. Wrth eu hamnewid mewn saith mlynedd, bydd technoleg a seilwaith lleol wedi datblygu'n sylweddol, gan agor llwybrau pellach o ran opsiynau tanwydd amgen.
Lorïau graeanu
- Ers 2012, mae'r cyngor wedi caffael cyrff graeanu dur gwrthstaen. Er eu bod, ar gyfartaledd, £10,000 yn ddrytach na’r hyn sy’n cyfateb i ddur meddal, mae eu gwarant 25 mlynedd rhag cyrydiad eu cyrff yn caniatáu i’r corff gael ei ailosod ar siasi newydd o leiaf ddwywaith – gan arbed CO2 yn y broses gynhyrchu a gwireddu gostyngiad yn y gost oes gyfan.
- Mae fflyd siasi graeanu bresennol CSP o bedwar cerbyd pwrpasol tua 15 oed. Cyrff graeanu sefydlog yw'r cerbydau hyn, yn hytrach na chyrff graeanu yn cael eu gollwng i dryciau tipio yn ystod misoedd y gaeaf. Byddent yn cael eu dosbarthu fel ‘peiriannau budr’ (Euro 3) yn ôl safonau heddiw, ond gan eu bod yn teithio milltiroedd cymharol isel ac â chost gymharol uchel (£100,000 y siasi), cânt eu cadw ar y fflyd am oes estynedig. Mae hwn yn gyfaddawd i CSP – gall cerbydau naill ai gael eu newid bob saith mlynedd i gadw i fyny â thechnoleg injans am gost o £100,000 y siasi neu gellir ymestyn eu hoes.
Cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs)
- Amcan datganedig Llywodraeth Cymru yw i holl drafnidiaeth ffordd y sector cyhoeddus drosglwyddo i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV) erbyn 2030.
- Gallai CSP ystyried opsiynau ULEV amgen, neu osod lefelau allyriadau ar gyfer ceir prif swyddogion ar brydles.
- Er mwyn atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau ULEV, mae angen uwchsgilio'r gweithlu. Mae holl dechnegwyr cerbydau'r awdurdod wedi ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Amnewid Cerbydau Trydan. Bydd y technegwyr yn symud ymlaen i Lefel 4 unwaith y cyflwynir y cwrs yn lleol.
- Yng nghabinet CSP ar 6 Medi 2021, bu’r cabinet yn trafod cerbydau ULEV y fflyd – fel a ganlyn: . Y penderfyniad oedd: Dylid cymeradwyo'r broses o ddatblygu a chyflwyno ceisiadau am gyllid grant fel y’i hamlinellir yn yr adroddiad er mwyn ariannu'r cynllun i newid y fflyd i gynnwys cerbydau trydan a hydrogen wrth i’r cyfleoedd godi.
- Mae'r cyngor wedi ymgysylltu (Mai 2020) â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o’r fflyd a thrafnidiaeth busnes er mwyn canfod yr achos busnes ac amgylcheddol dros newid i gerbydau ULEV. Nod Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yw helpu sefydliadau i gyflawni amcan datganedig Llywodraeth Cymru o drosglwyddo holl drafnidiaeth ffyrdd y sector cyhoeddus i gerbydau ULEV erbyn 2030 ac i gefnogi'r symudiad i sero net.
Ffynonellau eraill
- Mae CSP wedi gosod system cynaeafu dŵr glaw yn ei olchwr cerbydau awtomataidd yn Nepo Thornton, sy'n ailgylchu dŵr glaw sydd wedi'i ddal o do'r gweithdy cerbydau.
- Mae goleuadau LED wedi'u gosod yn y gweithdy cerbydau.
- Gosododd y cyngor ail-lenwydd i gerbydau hydrogen ym Marina Aberdaugleddau o dan brosiect Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (MH:EK), a defnyddiwyd dau gerbyd trydan gyda chelloedd tanwydd hydrogen (HFCEV), sef y Riversimple Rasa, gan staff CSP a Phorthladd Aberdaugleddau ar gyfer dyletswyddau priffyrdd a theithiau busnes. Casglodd y prosiect ddata i gefnogi'r achos busnes, a dangos defnyddioldeb a'r galw am gerbydau HFCEV.
Milltiroedd Busnes – Y Prif Gamau Gweithredu
- Gostyngodd allyriadau CO2e o filltiroedd busnes 11% rhwng 2019/20 a 2021/22. Disgwylir i’r newid i lawer o staff weithio gartref barhau mewn dull hybrid cartref/swyddfa, ac mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn milltiroedd cymudo staff.
- Mae'r cyngor yn paratoi Cynllun Teithio Gwyrdd. Fel rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol a'r adroddiad cynnydd blynyddol, mae'r awdurdod wedi ymrwymo i leihau traffig sy'n gysylltiedig â cheir a dangos arfer da. Nod y cynllun teithio yw hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy a lleihau dibyniaeth ar y car. Er budd y cyflogwr a’r gweithiwr, mae CSP yn bwriadu annog staff ac eraill sy’n ymweld â Neuadd y Sir i ddefnyddio dewisiadau mwy ecogyfeillgar ac iachach na gyrru ar eich pen eich hun. Bwriedir hefyd cynnwys teithiau cymudwyr, teithiau busnes a theithiau ymwelwyr o fewn y dull hwn. Mae cynlluniau teithio yn mynd i'r afael â'r gwastraff ariannol a'r difrod amgylcheddol a achosir gan orddibyniaeth ein cymdeithas ar drafnidiaeth cerbydau modur preifat. Bydd y Cynllun Teithio Gwyrdd yn cwmpasu teithiau cymudwyr, teithio busnes, ceir cronfa, a theithiau ymwelwyr i weithleoedd y cyngor ac oddi yno, a bydd yn archwilio dewisiadau amgen i deithio megis fideogynadledda, gweithio gartref, ac oriau gwaith hyblyg / ystwyth / clyfar. Dylai’r cynllun hwn anelu at fanteisio ar y lefelau llygredd ac allyriadau is o ganlyniad i bandemig COVID-19 er mwyn dadlau y dylid cynnal y rhain er llesiant pobl a’r amgylchedd.
- Mae'r cyngor yn anelu at gynyddu nifer ei geir cronfa trydan fel dewis amgen i geir presennol sy'n rhedeg ar ddiesel.
- Mae cyllid grant ULEV gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i greu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan a fydd, erbyn haf 2023, yn cynnwys 180 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyflym a 21 o bwyntiau gwefru chwim ar draws nifer o feysydd parcio, swyddfeydd, canolfannau atyniadau, canolfannau hamdden a depos sy’n wasgaredig yn ddaearyddol yn Sir Benfro.
- Mae CSP wedi gwneud cais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cam 6 arfaethedig, a fydd yn cyflwyno gwefru cerbydau trydan (27 o wefrwyr cyflym pellach a thri o wefrwyr chwim pellach) yn ein meysydd parcio, mewn rhai ysgolion a lleoliadau swyddfeydd.
- Ar hyn o bryd, mae CSP hefyd yn dylunio cyfnewidfa drafnidiaeth newydd ar safle aml-lawr yn Hwlffordd lle byddwn yn gosod 31 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan (10% o leoedd) o'r diwrnod cyntaf, ac rydym yn gwneud darpariaeth yn y dyfodol ar gyfer ehangu hyn i 62 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan eraill (30% o gyfanswm y lleoedd), gan gynnwys hefyd yr holl wasanaethau trydanol sy'n dod i mewn.
- Bydd gosod mwy o fannau gwefru cerbydau trydan, gan gynnwys ehangu'r gwefru yn Neuadd y Sir ac o bosibl gwefru yn y depos, yn annog mwy o ddefnydd o gerbydau fflyd a chronfa trydan.
- Bydd mwy o ddarpariaeth gwefru cerbydau trydan hefyd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV) yn fflyd ‘lwyd’ y staff (y fflyd o yrwyr sy'n defnyddio eu ceir eu hunain at ddibenion busnes – gan gynnwys cymudo). Mae'r gwasanaeth gwefru cerbydau trydan a gyflwynwyd hyd yma wedi'i anelu at ddiwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr, ac yn bennaf i gefnogi ac annog y cyfnod pontio i gerbydau trydan. O ystyried diwydiant twristiaeth sefydledig a hanfodol Sir Benfro, mae'r prosiect hefyd yn galluogi'r sir i hyrwyddo'r cysyniad o ‘eco-dwristiaeth’ i ymwelwyr.
- Mae CSP wedi ymgysylltu (Mai 2020) â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o fflyd a chludiant busnes, er mwyn canfod yr achos busnes ac amgylcheddol dros newid i gerbydau ULEV.
- Darperir beiciau cronfa i'r staff yn Hwlffordd a’r cyffiniau i helpu i leihau’r milltiroedd busnes sy’n gysylltiedig â theithiau byr. Yn ogystal, mae'r cyngor yn gweithredu cynllun beicio i'r gwaith i'r staff, gyda'r bwriad o ddefnyddio'r beiciau hyn ar gyfer cymudo a theithiau busnes.
- Gosododd y cyngor ail-lenwydd i gerbydau hydrogen ym Marina Aberdaugleddau o dan brosiect Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (MH:EK), a defnyddiwyd dau gerbyd trydan gyda chelloedd tanwydd hydrogen (HFCEV), sef y Riversimple Rasa, gan staff CSP a Phorthladd Aberdaugleddau ar gyfer dyletswyddau priffyrdd a theithiau busnes. Casglodd y prosiect ddata i gefnogi'r achos busnes, a dangos defnyddioldeb a'r galw am gerbydau HFCEV.
- Anogir staff i rannu ceir yn ystod cymudo, lle bynnag y bo modd. Er mwyn hwyluso hyn, mae CSP wedi ymuno â'r ymgyrch ‘Ewch â Mi Hefyd!’ (‘Take me Too!’), sef rhaglen rhannu ceir, sy'n paru pobl sydd angen cludiant â rhywun sy'n mynd yr un ffordd. Dros gyfnod y cynllun teithio, mae CSP yn disgwyl cynyddu nifer y staff o fewn y rhaglen hon hyd at 25% erbyn 2025 a 30% erbyn 2027.
Ynni Adnewyddadwy a Chyfrannu at Niwtraleiddio Carbon
Mae gan CSP y lefelau canlynol o fesurau ynni adnewyddadwy a charbon isel wedi’u gosod:
- Paneli solar ffotofoltäig: 549 kW mewn 34 o adeiladau gwahanol, gan gynnwys ysgolion.
- Arwyddion, lampau a chelfi stryd solar ffotofoltäig – lleoliadau amrywiol.
- Paneli solar ar gyfer dŵr poeth: 40 kW mewn deg adeilad ar wahân, gan gynnwys ysgolion.
- Pelenni pren biomas ar gyfer gwresogi a dŵr poeth: 410 kW
- Tyrbin gwynt bach: 6 kW yn Ysgol Mair Ddihalog, Hwlffordd.
- Gwres a phŵer cyfunedig wedi'i danio â nwy: 260 kWe / 520 kW thermol mewn 15 adeilad ar wahân, gan gynnwys ysgolion.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r cyngor wedi ceisio cynyddu'n sylweddol faint o drydan adnewyddadwy y mae'n ei gynhyrchu, ond mae wedi'i rwystro gan gapasiti cyfyngedig y rhwydwaith dosbarthu trydan lleol (y Grid Cenedlaethol). Mae ceisiadau blaenorol i'r gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan – National Grid Electricity Distribution – ar gyfer cysylltu â'r rhwydwaith trydan wedi arwain at gostau anhyfyw oherwydd bod yn rhaid i ddarpar ddatblygwyr megis y cyngor dalu costau atgyfnerthu sylweddol.
Felly, er mai prif ddull CSP o wneud iawn am ei ôl troed carbon gweddilliol yw cynyddu'n sylweddol faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar ei adeiladau a'i dir, mae hyn yn dibynnu ar welliannau i gapasiti'r rhwydwaith dosbarthu trydan lleol. Yn anffodus, mae hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y cyngor – ac mae trafodaethau’n parhau gyda National Grid Electricity Distribution a Llywodraeth Cymru i geisio’r gwelliannau angenrheidiol.
Mae niwtraleiddio carbon yn golygu gwneud iawn am allyriadau carbon deuocsid (CO2) sy’n deillio o weithgarwch diwydiannol neu weithgarwch dynol arall drwy gymryd rhan mewn cynlluniau a gynlluniwyd i wneud gostyngiadau cyfatebol mewn CO2 yn yr atmosffer. Oherwydd bod un uned o CO2 yn cael yr un effaith ar yr hinsawdd lle bynnag y caiff ei hallyrru, mae'r budd yr un fath lle bynnag y caiff ei lleihau neu ei hosgoi. Gallai achosion dilys o leihau carbon gynnwys diogelu coedwigoedd glaw yn Ne America neu, o bosibl, plannu coed yn lleol. Gall hwn fod yn fater cymhleth a dyma’r opsiwn olaf oni bai y bernir bod plannu coed / gwella mawndir ar dir a reolir gan y cyngor yn gymwys ar gyfer cyfrannu at niwtraleiddio carbon. (Noder: Caiff hyn ei gadarnhau pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chanllawiau defnydd tir fel rhan o’r fframwaith adrodd ar wasanaethau cyhoeddus carbon niwtral.)
Mae CSP yn gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) i archwilio a darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i roi prosiectau diriaethol ar waith ac yn cynghori ar faterion yn ymwneud ag ynni. Ar hyn o bryd, mae'n cynnal adolygiad o dir y cyngor er mwyn nodi cyfleoedd posibl ar gyfer paneli solar ffotofoltäig a thyrbinau gwynt ar y ddaear. Yn hanesyddol, ymgymerwyd ag ymarferion tebyg gyda Partnerships for Renewables a Local Partnerships – ond er bod safleoedd posibl wedi'u nodi, ni chawsant eu hystyried yn ariannol hyfyw oherwydd cyfyngiadau cost / grid lleol a/neu ddefnydd tir. Mae prosiectau ynni adnewyddadwy mawr fel arfer yn cymryd sawl blwyddyn i'w datblygu hyd at eu cwblhau. (Noder: Mae ‘Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2018 (yn agor mewn tab newydd)’ (Hydref 2019) yn nodi gallu presennol Cymru i gynhyrchu ynni ac yn dadansoddi sut mae wedi newid dros amser.) Mae'n werth nodi bod gan Sir Benfro 20% o'r holl gapasiti solar ffotofoltäig a osodwyd yng Nghymru, sy'n dyst i'r arbelydriad solar ardderchog a geir ar ledred Sir Benfro o'i chymharu ag ardaloedd eraill o'r wlad. Bydd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn dibynnu ar gapasiti'r grid (neu gael dadlwythwr lleol ar gyfer pŵer a gynhyrchir), a bydd angen iddo hefyd fod yn foddhaol o ran termau cynllunio.
Mae'r cyngor yn gweithio, ac mewn rhai achosion yn arwain, ar nifer o fentrau rhanbarthol sydd â'r nod o greu marchnad a chanolfan ragoriaeth yn Sir Benfro ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy, e.e.
Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni a Chlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) (yn agor mewn tab newydd)
Y Prif Gamau Gweithredu:
- Fel y soniwyd eisoes, mae 100% o’r trydan yn cael ei gaffael trwy GCC yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gyda thua 86% o hwn yn dod o Gymru. Mae'r pryniant hwn yn darparu marchnad ar gyfer cynhyrchwyr adnewyddadwy ac felly'n ysgogi'r farchnad trydan adnewyddadwy. (Noder: Mae’r defnydd o’r trydan ‘gwyrdd’ hwn eisoes wedi’i adlewyrchu yn ffactor trosi allyriadau trydan [sy’n lleihau] y DU, ac o ganlyniad nid yw’r cyngor ar hyn o bryd yn gallu elwa’n uniongyrchol ar arbedion carbon sy’n deillio o’i gaffaeliad o drydan ‘gwyrdd’ gan i bob pwrpas byddai hyn yn cyfrif yr arbedion carbon ddwywaith.)
- Mae GCC wrthi'n chwilio am ffynonellau nwy carbon isel – e.e. biofethan o dreulio anaerobig – ac yn monitro'r agenda nwy hydrogen.
- Cwblhaodd tîm cynlluniau datblygu’r cyngor Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn 2017, sy’n ffurfio rhan o sylfaen dystiolaeth Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2. Mae wedi llywio polisïau cyffredinol sy’n dod i’r amlwg, sef GN 4 ac GN 5, yn CDLl 2.
- Mae CSP yn parhau i fonitro'r sefyllfa i asesu ymddangosiad mecanweithiau marchnad fel y Warant Allforio Clyfar (SEG), sy'n caniatáu trafodaethau gyda chyflenwyr trydan er mwyn sicrhau lefel taliad y cytunwyd arni am drydan adnewyddadwy wedi'i allforio.
Solar
- Yn 2019/20, cytunodd CSP i lunio partneriaeth ag Egni Community Co-op, a ddarparodd systemau solar ffotofoltäig di-gyfalaf ar y to i chwe ysgol yn Saundersfoot, Llandyfái, Prendergast, Ysgol y Frenni, Gelli Aur ac Ysgol Bro Ingli. Mae’r ysgolion hyn yn cael y trydan adnewyddadwy o’r systemau solar am gost 20% yn rhatach na’r hyn a gynigir gan dariff trydan grid yr ysgol. Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn ceisio ehangu'r bartneriaeth hon i osod solar mewn sawl safle pellach.
- Yn 2024, bydd CSP yn cyflwyno cynllun ar gyfer 1,700 kW ychwanegol o baneli solar ffotofoltäig ar draws tua 30 o doeon. Bydd budd amgylcheddol cyffredinol cynllun 2023 i CSP yn hynod gadarnhaol. Amcangyfrifir y bydd 1,600,000 kWh ychwanegol o drydan solar yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn, sy'n cynrychioli 325,000 kg ychwanegol (325 tCO2e) o allyriadau CO2e wedi'u hosgoi, sy'n lleihau allyriadau cyffredinol CSP o ddefnyddio trydan mewn adeiladau corfforaethol yn sylweddol iawn (13%).
- Yn 2016, ymrwymodd y cyngor i bartneriaeth gyda Nwy Prydain a Generation Community, a ddarparodd systemau solar ffotofoltäig di-gyfalaf ar y to i ysgolion uwchradd Greenhill ac Aberdaugleddau. Mae'r ysgolion hyn yn cael y trydan adnewyddadwy o'r systemau solar am ddim.
- Mae systemau solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar sail buddsoddi i arbed mewn ysgolion lluosog; ar draws llety gwarchod CSP; yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun; ac yn Llyfrgell ac Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd.
- Mae systemau solar ffotofoltäig yn cael eu gosod ym mhob Ysgol yr 21ain Ganrif newydd.
- Ers 2015, bu gostyngiad yng nghymorthdaliadau’r Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) ar gyfer gosodiadau solar ffotofoltäig newydd, a gwnaeth taliadau FiT ar gyfer systemau solar ffotofoltäig ddod i ben yn gyfan gwbl yn 2019. Arweiniodd dileu'r cymhorthdal at ostyngiad dramatig yn nifer y ceisiadau am brosiectau ynni adnewyddadwy yn ardal gynllunio CSP. Fodd bynnag, mae cost systemau solar ffotofoltäig wedi parhau i ostwng (tua 70%) ac mae technoleg batris wedi dod i'r amlwg fel cymhwysiad prif ffrwd posibl. Ynghyd â chost gynyddol trydan mewn llawer o safleoedd, lle mae defnydd digonol, mae ateb solar ffotofoltäig hyfyw iawn heb gymorth cymhorthdal.
- Mae'r cyngor wedi gosod canopïau solar ffotofoltäig ym maes parcio Neuadd y Sir (70 kW) ac mae'n bwriadu cwblhau system ganopi yn Archifdy Sir Benfro (28 kW) ac fel rhan o gynllun Cam 1 Re:fit Cymru. Mae CSP yn cwmpasu'r meysydd parcio sy'n weddill ac yn ceisio nodi safleoedd gerllaw ein hadeiladau a all ddefnyddio'r ynni.
- Mae'r cyngor hefyd yn cwmpasu ein tir, gan gynnwys hen safleoedd tir llwyd fel safleoedd tirlenwi, ar gyfer cyfleoedd ynni adnewyddadwy mawr gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i safleoedd gerllaw adeiladau CSP lle gellir defnyddio'r trydan i ddatgarboneiddio gweithrediadau.
- Mae'r cyngor wedi gosod paneli solar ar gyfer dŵr poeth mewn wyth ysgol, un neuadd chwaraeon a chanolfan ieuenctid.
Biomas
- CSP oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu system wresogi pelenni pren biomas, gyda phrosiect biomas Preseli yn 2003. Yn 2015, ymrwymodd y cyngor i bartneriaeth â Pembrokeshire BioEnergy ar gyfer contract cyflenwi ynni 20 mlynedd (ESCo) i osod system boeler pelenni pren biomas di-gyfalaf 410 kW yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, gan arwain at ddarpariaeth gwresogi allyriadau isel iawn am systemau ei phwll nofio a dŵr poeth.
Plannu coed / atafaelu carbon
- Mae'r cyngor yn bwriadu adolygu ei strategaeth goed i'w gweithredu – gan gynnwys rheoli ardaloedd coetir presennol ac arfaethedig yn y dyfodol, cynlluniau rheoli, tynnu coed a chylch bywyd.
- Wrth gydnabod na ddylid anwybyddu gallu priddoedd a glaswelltiroedd i atafaelu carbon, a bod tir pori wedi’i reoli ar gyfer iechyd y pridd yn lle cynhyrchu yn rhoi manteision i storio carbon a rheoleiddio dŵr ffo, mae’r cyngor yn adolygu arferion ar gyfer diogelu a chynyddu storio carbon mewn priddoedd a biomas, megis:
- Newid arferion amaethyddol ar ffermydd sirol Sir Benfro i leihau cynhyrchu allyriadau a chynyddu atafaeliad carbon trwy reoli pridd yn dda.
- Ymgysylltu â’r sector bwyd-amaeth i gael dealltwriaeth o sut y gallai’r cyngor gefnogi arferion ffermio mwy cynaliadwy ar draws y sir.
- Mwy o seilwaith gwyrdd.
- Rheolaeth arfordirol – gan fod ‘gwasgfa arfordirol’ yn broblem mewn cynefinoedd arfordirol, archwilio caniatáu i gynefinoedd gilio un cae yn ôl o'r draethlin er mwyn cynyddu eu maint.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru – Y Prif Gamau Gweithredu:
- Cyfeiriwch at ‘Ein Hôl Troed Carbon’ i ddarllen am y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud gyda Llywodraeth Cymru ar adroddiadau carbon sero net sector cyhoeddus Cymru.
- Yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru yr uchelgais o sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
- Mae'r cyngor yn gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i archwilio a darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr a cherbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
- Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, mae prosiect Re:fit Cymru yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyngor sy’n defnyddio fframwaith contractwyr a gaffaelwyd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru a chronfeydd buddsoddi i arbed Salix.
- Rhwng 2014 a 2019, bu CSP yn cydweithio ar brosiect ‘Byw'n Glyfar’ a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar greu ardal carbon sero net yng Nglannau Aberdaugleddau. Ariannodd ‘Menter Byw'n Glyfar’ Llywodraeth Cymru yr astudiaethau a darparodd y cyngor y cyswllt ‘llywodraethu’ i'r hyn a oedd, mewn gwirionedd, yn brosiect a arweiniwyd gan Borthladd Aberdaugleddau. Mae'r adroddiad terfynol, drwy gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn argymell defnyddio generaduron ynni adnewyddadwy i bweru grid clyfar; storio mewn batris er mwyn cydbwyso’r grid; cynhyrchu hydrogen gwyrdd wedi'i electroleiddio (ar gyfer storio, gwres a chludiant); cynhyrchu bio-nwy o weithfa / weithfeydd treulio anaerobig); a defnyddio pympiau gwres ar gyfer gwresogi hybrid. Y prosiect hwn oedd y catalydd ar gyfer prosiect Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (MH:EK), y mae CSP bellach yn ei arwain Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (yn agor mewn tab newydd)
- Mae'r cyngor yn rhan o Grŵp Cyfeirio Hydrogen Llywodraeth Cymru, sy'n bwriadu hyrwyddo trafodaethau ar y ffordd orau i Gymru ddatblygu'r farchnad hon. Mae cysylltiad agos rhwng y grŵp ac MH:EK a Chlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi a rhwydweithiau hydrogen ehangach. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu ei safbwynt polisi hydrogen a nodi cyfleoedd ariannu. Bydd canlyniadau’r gwaith grŵp hwn, yn eu tro, yn bwydo i mewn i grŵp hydrogen mewnol Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o lawer o adrannau sydd â buddiannau mewn hydrogen.
- Mae'r cyngor wedi arwain ar Gynllun Ynni Rhanbarthol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe gyda'r weledigaeth o “Ddefnyddio potensial ynni carbon isel y rhanbarth ar draws ei leoliadau ar y môr ac oddi ar y môr, i ddarparu economi ynni carbon isel ffyniannus a theg sy’n gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol ac ecosystemau’r rhanbarth, ar gyflymder sy’n cyflenwi yn erbyn targedau lleihau allyriadau rhanbarthol a chenedlaethol erbyn 2035 a 2050.”
- Mae CSP wedi cynhyrchu Cynllun Ynni Ardal Leol i “ddatblygu system ynni sero net ar gyfer Sir Benfro erbyn 2050, fel cartref ynni gwyrdd y DU”.
Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro / partneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Cyflymu economaidd
- Gwyddor bywyd a llesiant
- Ynni
- Gweithgynhyrchu clyfar
- Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau Ardal Forol Doc Penfro a Chartrefi yn Orsafoedd Pŵer (yn agor mewn tab newydd).
- Cyngor Sir Penfro yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer prosiect Ardal Forol Doc Penfro. Y nod yw cefnogi’r clwstwr peirianneg forol bresennol yn Noc Penfro er mwyn elwa ar gyfleoedd mewnfuddsoddi a ddenir i’r ardal oherwydd ei lleoliad, gwybodaeth ac arbenigedd, cadwyn gyflenwi a chysylltedd heb ei ail. Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cynnig y cyfle i Sir Benfro greu’r cyfuniad cywir o asedau daearol a morol i ddod yn arweinydd y DU yn y farchnad fyd-eang sy’n datblygu mewn ynni adnewyddadwy morol, gan gynnwys ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Gall Ardal Forol Doc Penfro hefyd ddatgloi cefnogaeth bosibl ar gyfer datgarboneiddio yn y dyfodol, gyda rhaglen Offshore Renewable Energy Catapult (yn agor mewn tab newydd), sy’n gweithredu ar draws y DU, bellach wedi'i sefydlu yn y sir ac yn mynd ati i hyrwyddo'r ardal drwy Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Gall y prosiect hefyd wneud hynny drwy gynnal gorsaf cynhyrchu ynni adnewyddadwy fwyaf Dinas-ranbarth Bae Abertawe ym Mharth Arddangos Sir Benfro.
- Nod rhaglen ranbarthol Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yw cydgysylltu’r gwaith o ddarparu cartrefi clyfar, carbon isel ac effeithlon o ran ynni drwy annog y defnydd o dechnolegau domestig yn y maes hwn. Mae'r rhaglen yn bwriadu cydlynu mabwysiadu technolegau cartrefi yn orsafoedd pŵer ar gyfer datblygiadau newydd ac ôl-osod ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan brofi'r cysyniad yn y sector cyhoeddus cyn ei gyflwyno yn y sector preifat.
Cydweithio ag Arbenigwyr o’r Sector Preifat, y Trydydd Sector a’r Sector Cymunedol – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor mewn tab newydd) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau; gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd; ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi pum ffordd allweddol o weithio ar waith wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol:
- edrych i'r hirdymor
- mabwysiadu dull integredig
- cynnwys amrywiaeth o’r boblogaeth
- gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol
- deall yr achosion sydd wrth wraidd problemau i'w hatal rhag digwydd eto
Mae'r cyngor yn cydweithio'n agos ag ystod eang o bartneriaid preifat, trydydd sector a chymuned. Mae'r rhestrau canlynol (nad ydynt yn holl gynhwysfawr) yn rhoi enghreifftiau o rai o'r sefydliadau sector preifat a thrydydd sector y mae'n bwriadu gweithio gyda nhw er mwyn cyflawni'r cynllun gweithredu hwn.
Dan arweiniad CSP, roedd Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (yn agor mewn tab newydd) yn brosiect tair blynedd gwerth £4.5 miliwn a gwblhawyd yn 2023 ac a archwiliodd sut olwg allai fod ar system ynni leol, ‘glyfar’ wedi’i datgarboneiddio ar gyfer Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro. Partneriaid y prosiect oedd:
- CSP
- Porthladd Aberdaugleddau
- Offshore Renewable Energy Catapult
- Riversimple
- Wales & West Utilities
- Arup
- Energy Systems Catapult
Cefnogwyr a chydweithwyr y prosiect yw:
- RWE Generation UK plc
- Simply Blue Energy
- Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
- Community Energy Pembrokeshire
Mae’r prosiect yn archwilio i botensial hydrogen fel rhan o ddull aml-fector o ddatgarboneiddio. Yn ganolog i’r prosiect, ac i gyflawni sero net, mae ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned a diwydiant lleol, gan ddarparu mewnwelediad a chyfleoedd ar gyfer twf. Gwireddodd CSP yr uchelgais i gael mewnwelediad manwl i’r system ynni cyfan o amgylch Aberdaugleddau er mwyn nodi a dylunio system ynni leol a chlyfar ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar ddull gwirioneddol aml-fector (gwres, trydan, trafnidiaeth) a phensaernïaeth systemau ynni cynhwysfawr. Roedd y prosiect yn amlochrog, ac ymchwiliwyd i’r meysydd canlynol gan y tîm:
- ynni adnewyddadwy lleol – gan gynnwys solar, ynni gwynt ar y tir, ynni gwynt ar y môr yn y dyfodol, a biomas ar gyfer trosglwyddo nwy wedi’i ddatgarboneiddio
- marchnadoedd hadau amrywiol ar gyfer hydrogen ar draws adeiladau, trafnidiaeth a diwydiant
- treialon defnyddwyr o gerbydau â chelloedd tanwydd
- systemau gwresogi hybrid sy’n barod ar gyfer hydrogen
Mae’r prosiect yn arddangos manteision pellgyrhaeddol ynni carbon isel ac mae ganddo’r potensial i arwain y ffordd a dod y cyntaf o lawer o Systemau Ynni Lleol Clyfar sy’n cefnogi’r DU a’i chymunedau lleol i gyrraedd targed sero net y llywodraeth ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Roedd MH:EK yn un o'r prosiectau ‘dyluniad manwl’ a ddewiswyd o fewn rhaglen waith ‘Prospering from the Energy Revolution’ a ariannwyd gan Innovate UK fel rhan o'i Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol.
Mae'r cyngor wedi bod yn gydweithredwr heb ei ariannu ar brosiect trywydd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), sydd wedi nodi’r opsiynau gorau ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn Ne Cymru yn gosteffeithiol – gan gynnwys y clwstwr diwydiannol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Gellir gwylio fideo ardderchog yma. Edrychodd y prosiect ar y seilwaith sydd ei angen ar gyfer datblygu'r economi hydrogen; ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon ar raddfa fawr (CCUS) a chludiant; yn ogystal â chyfleoedd strategol ar y safle sy'n benodol i bob diwydiant. Y partneriaid allweddol ar gyfer cais £1.5 miliwn Cam 2 fydd diwydiant, darparwyr seilwaith, cynhyrchwyr pŵer a chynghorau – cyrff fel:
- Wales and West Utilities
- National Grid Electricity Transmission plc
- Western Power Distribution
- Calon Energy
- RWE Generation UK plc
- Cyngor Sir Penfro
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- CR Plus Limited
- Costain Limited
- Progressive Energy Limited
- Siemens plc
- ITM power
- Prifysgol De Cymru
- Environmental Resources Management Limited
- Capital Law Limited
- Tata Steel
- Valero Energy Limited
- Vale Europe Limited
- Celsa Manufacturing (UK) Limited
- Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (MHPA)
- Tarmac Trading Limited
- Cydffederasiwn Diwydiannau Papur
- Associated British Ports
- Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)
- BOC
- Rockwool Limited
- Calor
Mae CSP wedi sefydlu cydberthnasau gwaith gyda grwpiau preifat a chymunedol lleol, a gyda grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n gweithredu’n lleol, ym maes ynni glân a chynaliadwyedd – gan gynnwys y canlynol:
Integreiddio, Cyfathrebu ac Ymddygiadau – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mewn partneriaeth â Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Phrifysgol Caerdydd (gan ddefnyddio cyllid o’u prosiect Cymunedau’r Arfordir yn Gweithredu gyda’i Gilydd [CCAT]), mae arolwg sylfaenol i bennu ymwybyddiaeth staff o newid hinsawdd wedi’i gynnal. Sylw allweddol o'r dadansoddiad yw ei bod yn ymddangos bod gan aelodau o'r gymuned gyffredinol lefelau uwch o ymwybyddiaeth a phryder am newid hinsawdd yn eu hardal leol a'u bod yn fwy gwybodus am y camau gweithredu ar newid hinsawdd sy'n cael eu cymryd ar lefel awdurdodau lleol. Mae’n amlwg felly fod cyfle i CSP gynyddu ymdrechion mewnol i feithrin ymwybyddiaeth o’r hinsawdd a gweithredu ar yr hinsawdd ymhlith ei weithwyr a’i gynghorwyr.
Yn 2022, ymgynghorodd y cyngor ar y ‘cynllun gweithredu tuag at ddod yn awdurdod lleol sero net erbyn 2030’. Cynhyrchodd yr ymateb i ymgynghoriad y Cynllun Gwyrdd Mawr 116 o syniadau. Cyhoeddwyd ‘ymateb i adborth ar y Cynllun Gwyrdd Mawr’ ac mae'r mwyafrif helaeth o'r syniadau / camau gweithredu a awgrymwyd yn cael eu gweithredu neu eu hwyluso trwy bartneriaid rhanbarthol.
Yn dilyn galw gan y cyhoedd, mae’r cyngor yn bwriadu creu tudalennau gwe pwrpasol a sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r gwaith newid hinsawdd, sero net a bioamrywiaeth y mae CSP a’i bartneriaid yn ymgymryd ag ef.
Mae CSP wedi bod yn gweithredu trefniadau gweithio ystwyth a doethach ers 2018. Ar gyfer staff desg, arweiniodd hyn at fudo cymharol syml i weithio gartref pan ddechreuodd pandemig COVID-19. Mae'r cyngor wedi cyfuno arferion gwaith doethach er mwyn creu mwy o arbedion effeithlonrwydd datgarboneiddio – yn benodol o ran defnyddio gweithleoedd yn ddoethach, gweithio gartref, a llai o filltiroedd cymudo.
Mae'r cyngor wedi ymgysylltu'n adeiladol â grwpiau ymgyrchu amgylcheddol lleol – er enghraifft, cynnal fforwm ieuenctid hinsawdd a chyfarfod â chynrychiolwyr Clymblaid Hinsawdd Gorllewin Cymru yn Neuadd y Sir.
Mae CSP yn rhedeg rhaglen lwyddiannus Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy. Sefydlwyd y cynllun yn 2003 i helpu ysgolion i wreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) mewn addysgu a dysgu ac wrth reoli ysgolion Sir Benfro yn gynaliadwy. Mae'r cyngor yn sicrhau bod y Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn cyd-fynd â'r amcan yn ‘Ffyniant i Bawb:Cymru Carbon Isel (yn agor mewn tab newydd)’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd’.
Tai – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mae CSP yn cynnal tua 5,650 o anheddau at ddibenion darparu tai cymdeithasol. Yn dilyn mesurau ôl-osod effeithlonrwydd ynni cynhwysfawr fel rhan o gynnydd y cyngor o dan Safon Ansawdd Tai Cymru (yn agor mewn tab newydd) (SATC) gyfredol Llywodraeth Cymru, mae wedi cyflawni sgôr cyfartaledd dda iawn o 75 o dan y Weithdrefn Asesu Safonol (yn agor mewn tab newydd) (yng nghanol band ‘C’).
Bydd SATC newydd yn fuan, a fydd yn ôl pob tebyg yn rhoi pwysau ar CSP i wella ymhellach cam wrth gam tuag at stoc dai ddi-garbon. Felly, nid yw'r cyngor wedi gosod ei darged ei hun eto wrth iddo aros am ganllawiau a thargedau pellach gan Lywodraeth Cymru. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anoddach ac yn ddrytach na'r disgwyl i gyrraedd y safon newydd hon. Er enghraifft, gallai pwmp gwres ffynhonnell aer (ASHP) wella effeithlonrwydd ynni dros olew ond mewn gwirionedd mae'n costio mwy i'w redeg; fodd bynnag, ni all y cyngor drosglwyddo'r gost honno i'r tenant os yw'n ceisio mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Yn 2023, bydd y cyngor yn caffael contractwr ar gyfer gosod paneli solar a storio mewn batris yng nghartrefi’r cyngor. Mae hyn er mwyn sicrhau bod amodau Grant y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn cael eu bodloni a bod mesurau ôl-osod yn cael eu cyflawni’n amserol ar stoc tai cyngor.
Dechreuodd cynllun grant Rhwymedigaeth Cwmni Ynni Sir Benfro (EcoFlex 3) ym mis Ebrill 2019. Mae'n cynnwys cartrefi sy'n defnyddio ynni'n aneffeithlon sydd naill ai'n gwario mwy na 10% o'u hincwm ar danwydd neu'n agored i'r oerfel. Mae'r grant yn mynd tuag at fesurau effeithlonrwydd ynni cartref sy'n cynnwys uwchraddio gwresogi ac inswleiddio.
Yn ddiweddar, mae CSP wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi newydd fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni, ac mae'n integreiddio paneli solar ffotofoltäig, storio mewn batris a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Nod prosiect ‘Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (yn agor mewn tab newydd)’ yw darparu cartrefi clyfar, carbon isel ac effeithlon o ran ynni trwy ddull cydgysylltiedig ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o adeiladu datblygiadau newydd, ôl-osod adeiladau presennol, a chymorth i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol. Ei nod yw helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, lleihau allyriadau carbon, a diwallu'r angen am fwy o dai. Bydd y prosiect yn monitro agweddau iechyd a llesiant cartrefi cynhesach ac effaith y cysyniad ‘cartrefi yn orsafoedd pŵer’ ar dlodi tanwydd.
Cynllunio, Datblygu, Defnydd Tir a Bioamrywiaeth – Y Prif Gamau Gweithredu:
Defnyddir Cynllun Datblygu Lleol Sir Benfro (CDLl) i benderfynu ar bob cais cynllunio yn ardal gynllunio CSP ac i arwain gwaith datblygu. Ategir yr CDLl presennol gan egwyddor hollbwysig cyflawni datblygu cynaliadwy. Mae ganddo hefyd amcan allweddol sy'n gysylltiedig â lleihau / mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Cyflwynir hyn yn strategaeth y cynllun: defnyddir hierarchiaeth aneddiadau i sicrhau bod gwaith datblygu yn cael ei gyfeirio at leoliadau sydd â lefelau da o wasanaethau. Nod hyn yw lleihau'r angen i deithio, ac felly lleihau'r cynhyrchiant o garbon. Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei weithredu trwy holl bolisïau'r cynllun, gan gynnwys hyrwyddo dyluniadau effeithlon o ran ynni a sicrhau bod cynigion newydd megis cyfleusterau cymunedol yn perthyn yn dda i aneddiadau presennol.
Mae CSP wedi paratoi Cynllun Gwydnwch Bioamrywiaeth ac Ecosystemau i fanylu ar sut mae'r awdurdod yn bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd i wella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau. Mae'r cynllun yn nodi nifer o gamau corfforaethol a fydd, o'u cyflawni, hefyd yn helpu i leihau effeithiau CSP ar newid hinsawdd – gan gynnwys sut mae'n rheoli tir y cyngor.
Mae'r cyngor wedi cynhyrchu astudiaeth seilwaith gwyrdd ar gyfer Sir Benfro (sy'n cynnwys ardaloedd cynlluniau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) ac CSP). Mae hyn yn nodi cyfleoedd i wella'r seilwaith gwyrdd ar draws y prif aneddiadau yn y sir trwy amrywiaeth o gamau gweithredu, gan gynnwys plannu coed. Mae rhai prosiectau eisoes yn symud ymlaen gydag elfennau o'r astudiaeth hon – e.e. prosiect Seilwaith Gwyrdd a Glas Hwlffordd. Bydd CDLl 2 yn cynnwys polisi penodol ar seilwaith gwyrdd.
Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn adolygu'r Strategaeth Coed a Choetiroedd i gymryd i ystyriaeth yr argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth a'r angen o ganlyniad i blannu mwy o goed, diogelu bioamrywiaeth, a dulliau gweithredu buddiol cysylltiedig eraill.
Mae CSP yn cynnal Partneriaeth Natur Sir Benfro, sef un o 25 o chwaer-bartneriaethau o amgylch Cymru, y cyfeirir atynt ar y cyd fel y Bartneriaeth Natur Leol (yn agor mewn tab newydd), ac yn cefnogi'r mentrau hyn yn ariannol a thrwy ddyrannu amser swyddogion. Mae’r partneriaethau’n ystyried ystod eang o brosiectau sy’n cefnogi bioamrywiaeth / mynd i’r afael â darnio cynefinoedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd ac mae wedi ysgrifennu a chyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur.
Mae'r cyngor yn gweithio gyda dau grŵp morol sy'n ymwneud â'r amgylchedd morol, ac yn cefnogi’r rhain yn hanesyddol trwy'r Grant Refeniw Sengl ac yn uniongyrchol trwy amser swyddogion a chyfraniadau ariannol cyfyngedig. Y grwpiau hyn yw Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau (yn agor mewn tab newydd) a Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol (yn agor mewn tab newydd). Mae’r cyntaf o’r rhain yn casglu tystiolaeth o gyflwr y ddyfrffordd yn bennaf, ac mae’n hollbwysig o ran darparu gwybodaeth am newidiadau i’r ddyfrffordd dros amser. Mae’r grŵp olaf yn canolbwyntio ar ystod o brosiectau a chamau gweithredu yn ymwneud â’r Ardal Cadwraeth Arbennig Forol - gan gynnwys gwaith gydag ysgolion ar leihau sbwriel plastig/morol ac astudiaeth ddiweddar yn defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion i fonitro lefelau nitradau yn yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol.
Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio ar brosiect gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghylch morgloddiau byw / gwelliannau ecolegol. Mae CNC wedi cysylltu ag CSP i dynnu sylw at rai adeileddau ecolegol dros ben, ac i ddeall pa adeileddau y mae CSP yn berchen arnynt, a’u haddasrwydd ar sail llanw, mynediad, ymsuddiad ac ati. Gyda phartneriaid, mae Porthladd Aberdaugleddau eisoes wedi defnyddio ystod o adeileddau gwella ecolegol yn Aberdaugleddau a’r cyffiniau. Gosodwyd rhai gan Brifysgol Aberystwyth mewn gosodiadau arbrofol, ac mae rhai wedi'u gosod gan CNC fel gwelliannau cynefin uniongyrchol. Pyllau glan môr artiffisial yw’r rhain yn eu hanfod (sef siâp dysglau sebon) wedi’u bolltio i wal Cei Mecryll ar Lannau Aberdaugleddau.
Mae’r cyngor yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) i archwilio’r cyfleoedd i wella ansawdd ei awyr dywyll a chael dynodiad priodol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (“IDA”).
Mae CSP / APCAP wedi bod yn edrych ar lygredd golau yn Sir Benfro a chamau gweithredu posibl i leihau hyn. Yn ddiweddar, mae'r tîm wedi cwblhau mapio llygredd golau yn y sir yn erbyn clwydfannau / llwybrau hedfan ystlumod a gofnodwyd. Bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn dogfen canllawiau cynllunio atodol ar fioamrywiaeth sydd i ddod, a bydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol pan fydd ceisiadau cynllunio yn cael eu hystyried. Dylai hyn sicrhau y gall yr awdurdodau sicrhau bod goleuadau diangen yn cael eu tynnu o ddyluniadau cynlluniau lle mae hyn yn fater cynllunio. Ar wahân i hyn, mae CSP wedi bod yn gweithio ar safon goleuo ar gyfer cynlluniau’r Cyfrif Refeniw Tai ar y cyd â'r cynghorydd Diogelu Drwy Ddylunio lleol. Mae'r safon yn seiliedig ar y meini prawf y mae'n rhaid i gynlluniau’r Cyfrif Refeniw Tai eu bodloni er mwyn lleihau goleuadau a hefyd i sicrhau eu bod yn defnyddio lampau â watedd a thymheredd lliw (golau ‘cynhesach’ o dan 3,000 K) a gynlluniwyd i leihau cynhyrchiant carbon a'r effaith ar ystlumod.
Mae gan CSP amrywiaeth o dystiolaeth y mae’n ei defnyddio i lywio penderfyniadau gyda’r bwriad o leihau achosion ac effeithiau newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys yr offeryn Mapio Defnydd Tir, sy'n dangos cynefinoedd a rhywogaethau. Mae’r cyngor hefyd, drwy’r CDLl, wedi datblygu tystiolaeth bellach ar berygl llifogydd drwy’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol a gwblhawyd yn ddiweddar, sy’n cymryd agwedd ragofalus ac yn cynnwys lwfans ar gyfer newid hinsawdd a lefel môr uwch o fewn mapiau llifogydd cyfredol LlC. Bydd y dull rhagofalus hwn yn llywio dyraniadau’r CDLl.
Mae'r cyngor yn ceisio nodi cynefinoedd a rhywogaethau allweddol sydd mewn perygl yn sgil effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal ag adolygu ei gynllun bioamrywiaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gallu gwrthsefyll newidiadau i’r hinsawdd. Cydnabyddir bod y gwydnwch i wrthsefyll pwysau (fel newid hinsawdd) yn cynyddu trwy wella amrywiaeth, maint, cyflwr, cysylltedd a'r gallu i addasu ecosystemau (Fframwaith DECCA): mae unrhyw waith ar unrhyw un neu ar bob un o'r priodoleddau hyn yn cynyddu gwydnwch. Mae'r cyngor yn nodi, er bod ecosystemau iach a gwydn yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, i'r gwrthwyneb, gall ecosystemau mewn iechyd gwael ychwanegu'n weithredol at y newid yn yr hinsawdd trwy ryddhau carbon (mawn, gwlyptiroedd, priddoedd wedi'u dinoethi, gwlyptiroedd sy’n sychu ac ati). Maent hefyd yn cynyddu effeithiau newid hinsawdd trwy fethiant gwasanaethau ecosystemau – felly, er enghraifft, gall newid yn yr hinsawdd greu mwy o ddigwyddiadau storm, ond bydd colli cynefinoedd a swyddogaeth ecosystemau yn troi hynny’n llifogydd. Mae canllawiau cynllunio atodol ar fioamrywiaeth y cyngor yn cael eu hadolygu ar y cyd ag APCAP ar hyn o bryd.
Mae CSP yn ystyried cyfleoedd i gynyddu ardaloedd peillio mewn parciau a mannau agored trwy ddulliau megis cynyddu’r defnydd o flodau gwyllt ar ymylon priffyrdd a chylchfannau, a chreu dolydd blodau gwyllt. Gall cynhaeaf dôl blodau gwyllt ddigwydd unwaith yn unig bob blwyddyn er mwyn cynhyrchu gwair/compost, gan leihau’r angen i reoli’r tir ac felly lleihau’r defnydd o allyriadau petrol/diesel. Mae hefyd yn darparu buddion bywyd gwyllt a lliw i bobl eu mwynhau gyda'r holl welliannau llesiant cysylltiedig.
Mae torri gwair yn llai aml mewn ardaloedd strategol yn cael ei ystyried er mwyn ategu mentrau fel Cynllun Gweithredu Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ar gyfer Peillwyr (yn agor mewn tab newydd) a Buglife B-Lines (yn agor mewn tab newydd) Cymru.
Mae'r cyngor yn cydnabod bod lle i archwilio cyfleoedd ar gyfer gwella neu greu gwarchodfeydd natur yn y sir, a chreu atyniadau twristiaeth sy'n seiliedig ar natur – e.e. gweithgareddau rhaffau uchel a gwersylla. Neges allweddol yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth diweddar gan y Gweinidog oedd yr ymrwymiad i ddiogelu 30% o’r tir a dyfroedd y glannau i bob pwrpas ar gyfer cadwraeth.
Mae enghreifftiau o brosiectau gwella natur a gyflawnwyd gan CSP a’i bartneriaid yn cynnwys y canlynol:
- Mae'r cyngor wedi gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol i sefydlu rhandiroedd cymunedol ar dir CSP a thir a roddwyd gan berchnogion lleol. Ei nod yw parhau i nodi tir ar gyfer cynnyrch lleol a chefnogi'r defnydd o randiroedd fel y gall cymunedau dyfu eu bwyd eu hunain a lleihau milltiroedd bwyd a gwastraff – e.e. gerddi cymunedol, perllannau, ‘pocedi cynnyrch’ lle mae lle yn gyfyng. Mae hyn yn cynyddu gwydnwch cymunedol ac mae hefyd yn dda i iechyd, llesiant a bioamrywiaeth.
- Mae CSP yn cefnogi prosiect peilot Fforwm Arfordirol Sir Benfro ac Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol i adfer dolydd morwellt tanddwr (yn agor mewn tab newydd) ym Mae Dale er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Er bod arbenigwyr yn dweud ei fod yn gweithredu fel ‘meithrinfa ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd morol’, mae 92% o forwellt wedi'i golli dros y 100 mlynedd diwethaf. Mae'r Gronfa Fyd-Eang dros Natur (WWF), Sky Ocean Rescue a Phrifysgol Abertawe yn bartneriaid yng nghynllun Bae Dale. Mae morwellt yn allweddol i leihau lefelau carbon deuocsid, sef nwy sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang, gan ei fod yn amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer hyd at 35 gwaith yn gyflymach nag y gall fforestydd glaw trofannol. Mae hefyd yn cyfrif am 10% o storio carbon cefnforol blynyddol yn fyd-eang, er mai dim ond 0.2% o wely'r môr a feddiannir ganddo.
- Cynhaliwyd digwyddiad plannu coed yng Nghas-blaidd a ddangosodd arfer gorau o ran cydweithio ar draws cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i gyflenwi manteision gwirioneddol i bobl a’r amgylchedd. Arweiniwyd y digwyddiad gan wirfoddolwyr a'i nod oedd plannu 1,000 o goed mewn diwrnod, gyda'r bwriad o ailadrodd hyn bob blwyddyn i gyd-fynd â nifer y genedigaethau yn Sir Benfro bob blwyddyn. Mae'r digwyddiad hwn wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers hynny ac, yn 2023, mae hyd at gyfanswm o 6,560 o goed newydd wedi'u plannu. Mae hyn yn cyd-fynd â Chynllun Plant! Llywodraeth Cymru, ond yn darparu plannu i greu coetir yn Sir Benfro ar gyfer pobl y sir, gan ddathlu genedigaethau yn Sir Benfro a manteisio ar y cyfle i gynnwys rhieni newydd mewn materion cynaliadwyedd. Mae’n gydweithrediad rhwng CSP (sydd wedi sicrhau bod tir ar gael ar gyfer y prosiect), Bwrdd Iechyd Hywel Dda (sy’n ymgysylltu â rhieni newydd mewn cynaliadwyedd a manteision mynediad i ardaloedd naturiol), Tir Coed ac APCAP (y ddau yn defnyddio gwirfoddolwyr i blannu a chynnal a chadw’r coed), Coed Cadw (sy’n cynghori ar gymysgedd addas o goed o darddiad lleol a lle i ddod o hyd i hyn) a Pembrokeshire Lamb (sy’n paratoi a chynnal y tir). Ariennir y prosiect drwy Bartneriaeth Natur Sir Benfro, a gefnogir gan gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae 6,560 o goed newydd wedi’u plannu ar y safle ers gaeaf 2022/23. Ym mis Tachwedd 2023, cafodd y safle ei achredu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru.
- Cleddau Walk, Seilwaith Gwyrdd a Glas Hwlffordd – prosiect adfywio allweddol a gyflwynodd lwybr newydd o amgylch Hwlffordd, gan wella mynediad a chyfleoedd hamdden ac adloniant. Mae'r llwybr yn amlygu bioamrywiaeth ac yn cynnwys cynefin rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.
- Coetir Cymunedol Cas-lai – cefnogwyd y gymuned trwy CSP, gan dderbyn arian i brynu safle un erw (tua hanner hectar) y sefydlwyd coetir cymunedol arno.
- Coetir Cymunedol Parc Mileniwm Johnston – cefnogwyd y gymuned a'i hariannu'n rhannol trwy CSP i reoli coetir a phyllau cymunedol sefydledig.
- Parc Jiwbilî East Williamston – cefnogwyd y gymuned a’i hariannu’n rhannol gan CSP i brynu a gwella 22 erw (9 hectar) o dir, gan ddarparu wyth cynefin allweddol a phlannu dros 8,000 o goed. Yn ogystal, mae tîm o dros 40 o wirfoddolwyr lleol wedi'i sefydlu i ‘dyfu’ Parc Jiwbilî.
- Orchard Mawr, Hwlffordd – gwnaeth CSP gefnogi ac ariannu’n rhannol grŵp gwirfoddol yn Hwlffordd i blannu tua 550 o goed ffrwythau a chnau ar dir sy’n hygyrch i CSP. Roedd hyn yn cynnwys plannu ar y strydlun trefol, ac arweiniodd at sefydlu tair perllan.
- Coetiroedd CSP, ledled y sir – cafodd 33 o goetiroedd llydanddail brodorol CSP eu gwella trwy grant Coetiroedd Gwell i Gymru ar gyfer bioamrywiaeth, gan greu mynediad cyhoeddus i 15 o goetiroedd a, thrwy gysylltiadau â Diwydiannau Norman, rheoli stociau pren CSP trwy deneuo, gan arwain at gynllun cynhyrchu incwm a gefnogwyd trwy werthiannau biomas.
- Saltings, Hwlffordd – gwella hen safle tirlenwi, mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Hwlffordd, gan ei drawsnewid yn barc gwledig cyhoeddus. Mae bellach wedi’i blannu â hadau blodau gwyllt Sir Penfro a 300 o goed llydanddail, gyda chyfleoedd mynediad cyhoeddus llawer gwell.
- Meysydd pentrefi / tir comin, ledled y sir – gweithio gydag ystod eang o grwpiau cymunedol i gael mynediad at gyllid, a ddefnyddiwyd i fabwysiadu a rheoli tir comin adran 9 CSP, gan ymgorffori gwella llawer o feysydd pentrefi trwy blannu coed.
- Parc Gwledig Scolton – cafodd y safle coediog ei wella trwy grant Coetiroedd Gwell i Gymru ar gyfer bioamrywiaeth, gan greu mynediad i’r cyhoedd a chyflwyno pum rhan un erw’r un (tua hanner hectar) o goedlannau.
- Mount Woodland, Aberdaugleddau – cefnogwyd y gymdeithas gymunedol i reoli’r safle coetir 18 erw (saith hectar) ac i ennill cyllid i ddarparu mynediad cymunedol a chyflenwi canlyniadau dysgu ar gyfer pobl NEET (pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).
- Trefi Taclus, ledled y sir – cyflawnwyd llawer o welliannau cymunedol drwy’r cynllun CSP hwn, gan gynnwys sefydlu gerddi cymuned a phlannu coed cymunedol.
- Coedwig Llwynhelyg, Hwlffordd – cyflawnodd welliant hanesyddol sy’n creu gwell mynediad i’r cyhoedd a chyfleoedd hamdden/adloniant ynghyd â manteision bioamrywiaeth. Roedd yr olaf yn cynnwys dadsiltio’r prif bwll gyda rheolaeth bellach ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop, ynghyd â phlannu coed cymunedol a bylbiau blodau gwyllt.
- Milton Marsh, Milton – yn mynd ati i reoli a gweithio gyda’r gymuned i wella’r warchodfa natur gymunedol arbennig hon, gan gynnwys plannu coed.
- Railway Terrace, Neyland – cefnogwyd y gymuned i gael cyllid ar gyfer y safle hwn i sefydlu dôl blodau gwyllt wrth gael gwared ar blanhigion ymledol.
Adfywio – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mae Strategaeth Adfer ac Adfywio Economaidd Sir Benfro, 2020 i 2030, ar waith. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r hyn a fwriedir mewn ymateb i COVID-19 ac ar ôl Brexit. Mae'n cynnwys gweithio gyda phartneriaid CSP i gyflenwi'r genhedlaeth nesaf o swyddi peirianneg gwyrdd a glân sy'n canolbwyntio ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau; dulliau adeiladu carbon niwtral sy'n gysylltiedig â phrosiectau niwtraleiddio carbon; a defnyddio’r cyfle a grëwyd gan COVID-19 a gwell cysylltedd i elwa ar weithio ystwyth a llai o deithio.
Mae lleihau allyriadau carbon wrth wraidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe (yn agor mewn tab newydd), gwerth £1.3 biliwn, sy’n cael ei darparu gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan gynnwys Sir Benfro, gyda dau fwrdd iechyd rhanbarthol a dwy brifysgol ranbarthol yr ardal.
- Ymhlith y prosiectau sy’n rhan o raglen fuddsoddi’r Fargen Ddinesig y mae menter rhanbarth cyfan o’r enw ‘Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (yn agor mewn tab newydd)’. O dan y prosiect hwn, cynigir ôl-osod 7,500 o gartrefi â thechnoleg effeithlonrwydd ynni o’r radd flaenaf ac adeiladu 3,500 o gartrefi newydd, hynod effeithlon o ran ynni dros gyfnod o bum mlynedd. Yn ogystal â helpu’r rhanbarth i leihau ei allyriadau carbon, bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn diwallu’r angen am fwy o dai wrth elwa / creu busnesau cadwyn gyflenwi carbon isel ledled Sir Benfro a De-orllewin Cymru.
- Hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y Fargen Ddinesig y mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro (yn agor mewn tab newydd), a fydd yn rhoi hwb sylweddol i ‘economi las’ y rhanbarth drwy fuddsoddiad mawr i ddatblygu ynni morol. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys elfennau fel Ardal Profi Ynni Morol a Pharth Arddangos Sir Benfro ar gyfer datblygwyr ynni morol i dreialu, dileu risg a masnacheiddio eu dyfeisiau, ac mae hefyd yn cynnwys uwchraddio seilwaith ym Mhorthladd Doc Penfro a Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol y gall diwydiant a'r byd academaidd gydleoli ynddi. Mae hyn yn gosod De-orllewin Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant byd-eang sy'n tyfu.
Mae potensial mawr yn bodoli yn y Môr Celtaidd ar gyfer diwydiant ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Mae'r cyngor yn gweithio gyda nifer o ddatblygwyr ffermydd gwynt arnofiol ar y môr i sefydlu sylfaen a chadwyn gyflenwi yn y sir ar gyfer y ffynhonnell ynni adnewyddadwy bwysig hon.
Dan arweiniad CSP, mae Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (yn agor mewn tab newydd) wedi archwilio i sut olwg allai fod ar system ynni lleol glyfar wedi’i datgarboneiddio ar gyfer Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro. Archwiliodd y prosiect botensial hydrogen fel rhan o ddull aml-fector o ddatgarboneiddio. Ymgymerwyd â dau arddangoswr, gan gynnwys electrolysis hydrogen gwyrdd ac ail-lenwi dau gerbyd trydan gyda chelloedd tanwydd hydrogen ar Lannau Aberdaugleddau, a gweithredu boeler hybrid yn barod ar gyfer hydrogen a systemau pwmp gwres ffynhonnell aer yn Swyddfeydd Porthladd Aberdaugleddau.
Mae'r cyngor yn gydweithredwr heb ei ariannu ar brosiect trywydd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (yn agor mewn tab newydd)(SWIC), sydd wedi nodi'r opsiynau gorau ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn gosteffeithiol yn Ne Cymru – gan gynnwys y clwstwr diwydiannol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Edrychodd y prosiect ar y seilwaith sydd ei angen ar gyfer datblygu'r economi hydrogen; ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon ar raddfa fawr (CCUS) a chludiant; yn ogystal â chyfleoedd strategol ar y safle sy'n benodol i bob diwydiant.
Mae CSP yn ymchwilio i hwyluso symud tuag at economi gylchol, lle mae gwastraff yn cael ei osgoi a bod y pethau a ddefnyddiwn yn cael eu cadw er mwyn eu defnyddio cyn hired â phosibl. Mae'r cyngor yn ystyried darparu cyfleuster ailddefnyddio deunyddiau i gydlynu casglu, storio ac ailddefnyddio (gan gynnwys cludo) deunyddiau gormodol o brosiectau CSP ac i gefnogi sefydliadau cymunedol i sefydlu gweithdai / adnoddau i drwsio, atgyweirio, uwchgylchu a thynnu deunyddiau o eitemau a fwriedir ar gyfer gwastraff.
Ym mis Mawrth 2023, cafodd y cynnig ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd (yn agor mewn tab newydd) ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd statws porthladd rhydd yn cyflymu datblygiad ffermydd gwynt arnofiol ar y môr (FLOW), hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon (CCUS), a biodanwyddau yn Rhanbarth De-orllewin Cymru.
Amddiffyn yr Arfordir, Llifogydd a Draenio – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mae'r holl gynlluniau amddiffyn yr arfordir a lliniaru llifogydd y mae'r cyngor yn ymgymryd â nhw wedi'u dylunio i gynnwys lwfansau newid hinsawdd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae systemau draenio dŵr wyneb hefyd wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer digwyddiad Tebygolrwydd Gormodedd Blynyddol (AEP) o 1 mewn 100 mlynedd ynghyd â lwfans o 30% ar gyfer newid hinsawdd.
Ochr yn ochr â’r broses gynllunio, mae’r cyngor yn goruchwylio Atodlen 3 o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (a ddaeth i rym yng Nghymru ar 7 Ionawr 2019) fel y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn swyddogaeth statudol, ac mae’n sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd yn cynnwys nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau). Gall hyn olygu bod angen darparu pantiau, pyllau gwanhau ac ati ar y safle ar gyfer datblygiadau o fwy nag un tŷ neu lle mae'r ardal adeiladu dros 100m2. Os yw’r datblygiad yn bodloni’r meini prawf, yna rhaid cyflwyno cais Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ochr yn ochr â’r cais cynllunio.
Mae ardaloedd perygl llifogydd wedi’u nodi yn CDLl 2, sy’n cael ei ddatblygu. Mae’r cynllun lleol hwn yn nodi ardaloedd lle gall newid arfordirol ddigwydd ac yn darparu polisi ar hyn: GN 36. Mae sylfaen dystiolaeth CDLl 2 yn cynnwys Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol ar gyfer De-orllewin Cymru. Y brif ffynhonnell ar gyfer mapio perygl llifogydd o hyd yw gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Trafnidiaeth a Phriffyrdd – Y Prif Gamau Gweithredu:
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae CSP wedi adeiladu dros 11 km o lwybrau troed a 76 km o lwybrau a rennir (cerdded a beicio) fel rhan o ddatblygiadau teithio llesol yn y deg prif anheddiad o amgylch y sir.
Fel rhan o ddyletswyddau statudol y cyngor o dan Ddeddf Teithio Llesol 2014, mae wedi datblygu ‘Map Rhwydwaith Integredig’ ar gyfer Sir Benfro sy'n nodi ei ddyheadau hirdymor ar gyfer datblygu llwybrau teithio llesol am y 15 mlynedd nesaf. Mae tua 170 o lwybrau i’w gwella wedi'u nodi ar y Map Rhwydwaith Integredig.
Mae gwybodaeth ar y we sy'n hyrwyddo 20 o lwybrau beicio ar draws y sir wedi'i datblygu, gyda llwybrau ychwanegol a gwybodaeth hyrwyddo yn cael eu hychwanegu.
Mae gan Sir Benfro hanes da o sicrhau cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu llwybrau cerdded a beicio diogel.
Darperir dros 1,809,000 o deithiau teithwyr i ysgolion a cholegau bob blwyddyn academaidd gan CSP.
Mae dros 1,800 o ddisgyblion yn derbyn hyfforddiant Cludiant Diogel i’r Ysgol bob blwyddyn academaidd i annog a hyrwyddo defnyddio bysiau ysgol.
Mae'r cyngor yn cefnogi 22 o wasanaethau bws lleol, sy'n darparu dros 970,000 o deithiau i deithwyr bob blwyddyn.
Mae 13 o wasanaethau ‘galw'r gyrrwr’ yn gweithredu yn Sir Benfro, sy'n darparu dros 26,000 o deithiau i deithwyr y flwyddyn.
Mae ‘Fy Nhrên Cymru’ yn brosiect a ddatblygwyd gan CSP a'i ariannu gan Great Western Railway sy'n hyrwyddo teithio ar y rheilffordd a diogelwch traciau i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd. Bob blwyddyn, mae dros 7,500 o ddisgyblion ar draws y rhanbarth yn elwa ar y fenter hyrwyddo hon.
Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol – Y Prif Gamau Gweithredu:
Ym mis Mawrth 2018, cytunodd y cabinet y byddai'r awdurdod yn symud i wasanaeth ailgylchu llawer gwell. Daeth y newidiadau i rym yn hydref 2019. Bellach gall deiliaid tai ailgylchu ystod ehangach o blastig yn ogystal â phapur, cardbord, gwydr, caniau a bwyd. Mae casgliadau ailgylchu yn digwydd bob wythnos, a bydd cartrefi yn cael blychau a bagiau am ddim i gasglu'r eitemau ynddynt.
Hefyd cymeradwyodd y cabinet symud i gasgliadau bagiau bin bob tair wythnos, ar y sail y bydd angen i ddeiliaid tai roi llai o eitemau mewn bagiau sbwriel diolch i'r cyfleoedd ailgylchu cynyddol.
Hefyd cymeradwyodd y cabinet wasanaeth casglu bob pythefnos ar gyfer cynhyrchion hylendid swmpus, amsugnol, gan gynnwys casgliadau cynnil lle bo angen.
Mae cynlluniau gwastraff y cyngor yn cael eu llywio gan ddeddfwriaeth berthnasol, sy'n gosod targedau ar gyfer Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Tuag at Ddyfodol Diwastraff, y strategaeth wastraff newydd i Gymru, sy’n rhan o gyfres o ddogfennau sy’n nodi sut y bydd Cymru yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Tuag at Ddyfodol Diwastraff yw strategaeth wastraff drosfwaol Cymru, ac mae’n nodi egwyddorion, polisïau a thargedau lefel uchel. Sir Benfro sydd â’r gyfradd ailgylchu orau yng Nghymru, gan wella o 72% i 73.5% yn 2020/21. Yn nodedig, dyma un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yn y byd.
Caffael – Y Prif Gamau Gweithredu:
Cynrychiolir CSP mewn rhwydweithiau caffael rhanbarthol, ac mae'n ymgysylltu ac yn ymgynghori â grwpiau amrywiol megis WRAP Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (yn agor mewn tab newydd). Mae'n gwneud hynny i sicrhau bod ystyriaethau newid hinsawdd yn cael eu hymgorffori mewn dogfennau caffael strategol a chanllawiau arfer gorau cysylltiedig fel bod yr holl fanylebau, dogfennau tendro a meini prawf dyfarnu yn mynd i'r afael ag ymrwymiadau’r argyfwng hinsawdd.
Mae'r cyngor wedi ymgysylltu â WRAP Cymru ac wedi gofyn am adolygiad o wariant i fynd i'r afael â gwell defnydd o adnoddau yn ei bortffolio caffael presennol ei hun. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar sut y gall safon ailddefnyddio a deunyddiau â chynnwys sydd wedi’i ailgylchu (plastig, tecstilau, papur a cherdyn) wella mewn ymarferion caffael yn y dyfodol. Bu’r prosiect yn ystyried sut y caiff newidiadau yn y dyfodol eu hasesu a’u profi a sut y sicrheir gwelliant parhaus, a sut i ddylanwadu ar gymhwysiad cyson ar draws y gwahanol adrannau a chadwyni cyflenwi dan sylw. Mae’r egwyddorion a ddefnyddiwyd yn ystod yr adolygiad yn dilyn egwyddorion economi gylchol a’r hierarchiaeth wastraff. Nod dulliau gweithredu yw lleihau (prynu llai), ailddefnyddio (dim eitemau untro), ailgylchu (casglu a gwerthu), adfer, ac addasu i greu nwyddau sydd wedi’u dylunio o'r newydd. Wrth ystyried sut i brynu’n briodol ar gyfer nodau llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, cydnabyddir ei bod yn hollbwysig bod llwybrau meddwl newydd yn cael eu rhoi ar waith, ymlaen llaw, yn y cam dylunio caffael ac yn y camau dylunio cynnyrch. Bydd y dull hwn yn gofyn am olrhain amserlenni ailgaffael yn amserol a phrosesau rheoli contract cadarn.
Yn deillio o’r adolygiad mae cynllun gweithredu sy’n cael ei gynnwys fel rhan o strategaeth gaffael newydd y cyngor ac a fydd yn cael ei ystyried gan y cabinet yn gynnar yn 2023.
Mae CSP yn cynnal Asesiad Risg Cynaliadwy ar bob tendr gwerth dros £25,000, lle bo'n briodol, sy'n ymgorffori materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Mae'r cyngor yn aelod o Is-grŵp Ynni’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) o fewn Llywodraeth Cymru, yn llunio strategaeth caffael ynni GCC.
Mae CSP a mwyafrif awdurdodau lleol Cymru eisoes yn cyrchu 100% o’u hanghenion trydan o ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ardystiedig (mae 86% o'r pŵer adnewyddadwy hwnnw yn dod o Gymru ar hyn o bryd).
Mae awdurdodau GCC yn rhan o'r seithfed pryniant mwyaf (ar ôl y ‘6 Mawr’) o drydan a nwy ym marchnadoedd y DU, gan fanteisio ar ddesgiau masnachu ynni proffesiynol Gwasanaethau Masnachol y Goron.
Mae GCC wrthi'n chwilio am ffynonellau nwy carbon isel – e.e. biofethan o dreulio anaerobig – ac yn monitro'r agenda nwy hydrogen.
Addysg – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mae'r cyngor yn rhedeg rhaglen lwyddiannus Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy. Sefydlwyd y cynllun yn 2003 i helpu ysgolion i wreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) mewn addysgu a dysgu ac wrth reoli ysgolion Sir Benfro yn gynaliadwy. Mae CSP yn ceisio sicrhau bod y Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn cyd-fynd ag amcan ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd’.
Cyllid – Y Prif Gamau Gweithredu:
CSP yw un o'r cyflogwyr sy'n rhan o Gronfa Bensiwn Dyfed (yn agor mewn tab newydd) gwerth £3 biliwn.
Mae’r gronfa’n fuddsoddwr hirdymor sy’n gyfrifol am ofalu am fuddiannau buddiolwyr dros ddegawdau lawer i’r dyfodol, ac mae wedi bod yn bryderus ers tro ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a charbon i bortffolios buddsoddi sylfaenol cronfeydd aelodau. Mae'r gronfa'n ymgysylltu'n weithredol ac yn gynhyrchiol â chwmnïau yn y sector drwy ei chyfranogiad yn Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (yn agor mewn tab newydd) (LAPFF). Mae LAPFF o'r farn y dylai cwmnïau adrodd ar eu dull gweithredu at reoli carbon yng nghyd-destun sut y maent yn ystyried newid hinsawdd yn eu strategaeth fusnes. Wrth ymgysylltu, mae'r fforwm yn annog cwmnïau i alinio eu modelau busnes â'r senario 2°C er mwyn gwthio am drawsnewidiad trefnus i economi carbon isel. Mae LAPFF yn aelod o Rwydwaith Buddsoddwyr Ceres ar Risgiau Hinsawdd a Chynaliadwyedd (yn agor mewn tab newydd), mae’n cymryd rhan ym menter Climate Action 100+ (yn agor mewn tab newydd), ac mae mewn partneriaeth â’r Climate Majority Project (yn agor mewn tab newydd).
Hefyd, trwy reolwyr buddsoddi'r gronfa, mae LAPFF yn pleidleisio ar benderfyniadau mewn cyfarfodydd cyffredinol blynyddol byd-eang, gan geisio tryloywder a datgelu risgiau hinsawdd a gosod targedau lleihau allyriadau. Yn y modd hwn, caiff barn y gronfa ei chyfleu'n uniongyrchol i fyrddau unigol.
Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed lefel gynyddol o fuddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel drwy gronfeydd cyfun. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn cyfleoedd buddsoddi a ddaw yn sgil dyfodol carbon isel sy'n cynyddu arallgyfeirio asedau ac yn darparu enillion hirdymor. Bydd y gronfa'n parhau i wneud buddsoddiadau o'r fath lle mae'r proffil risg / enillion yn cyd-fynd â'i strategaeth fuddsoddi. Mae ganddi hefyd fuddsoddiadau yng Nghronfa Incwm Amgen BlackRock UK (yn agor mewn tab newydd), y mae rhai o’i strategaethau craidd yn y sector ynni adnewyddadwy a nifer o sectorau gwahanol sy’n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau lleol – gan gynnwys gofal iechyd a thai cymdeithasol.
Yn ystod 2021/22, cymeradwyodd y Pwyllgor Pensiynau Bolisi Buddsoddi Cyfrifol sy’n ystyried llawer o faterion, gan gynnwys newid hinsawdd, ac ailgydbwyso ei asedau, a gynyddodd y dyraniad i SAIF a lleihau ei ddaliadau ecwiti rhanbarthol carbon uchel (Canada, Awstralia, rhai marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg), gan arwain at ostyngiad amcangyfrifedig o 7% mewn dwyster carbon.
Mae gan y gronfa ddatganiad strategaeth fuddsoddi cynhwysfawr ac mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â grwpiau gwaredu a Llywodraeth Cymru.
Mae’r gronfa hefyd yn defnyddio’r arbenigedd ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru (y gronfa fuddsoddi ar gyfer yr wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru) ac yn buddsoddi 5% o’r gronfa yn y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy, a fydd yn cael ei lansio yn 2023.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) – Y Prif Gamau Gweithredu:
Mae'r cyngor yn parhau i gyflwyno arfer da TGCh i helpu i leihau allyriadau carbon yn weithredol, gan gynnwys y canlynol:
- lleihau'r defnydd o ynni yn ei ganolfannau data ac ar draws ei rwydwaith trwy ddefnyddio caledwedd rithwir a’i rhesymoli a mabwysiadu gweinyddwyr a seilwaith TGCh sy’n arbed ynni;
- hwyluso gostyngiad mewn teithiau staff trwy weithredu arferion gweithio ystwyth ar draws yr awdurdod, gan gynnwys defnyddio gliniaduron, cynnal cyfarfodydd fideogynadledda ar-lein, a gwneud galwadau trwy ddefnyddio technoleg ffonau meddal ac MS Teams a chymorth o bell lle bo'n briodol;
- lleihau argraffu ar draws yr awdurdod trwy hwyluso mabwysiadu gweithio yn ddi-bapur trwy ddefnyddio technoleg yn well; a
- defnyddio systemau rheoli pweredig a weinyddir yn ganolog i sicrhau bod pob dyfais, fel gliniaduron a chyfrifiaduron personol, yn cael ei diffodd dros nos a phan nad yw’n cael ei defnyddio yn ystod y dydd.
Argyfyngau Sifil Posibl a Chynllunio at Argyfyngau – Y Prif Gamau Gweithredu:
Nod rôl argyfyngau sifil a chynllunio at argyfyngau CSP yw helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd drwy lunio a phrofi cynlluniau wrth gefn ar gyfer y risgiau amrywiol dan sylw. Mae'r risgiau hyn yn cynnwys y canlynol:
- digwyddiadau tywydd mwy eithafol yn achosi llifogydd afonol difrifol;
- lefelau môr uwch yn achosi cynnydd mewn llifogydd arfordirol; a
- hafau poethach a sychach yn achosi prinder dŵr, cynnydd mewn ‘tanau gwyllt’, ac effeithiau ar iechyd y boblogaeth (yn enwedig yr henoed).
Mae'r cyngor yn aelod o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed–Powys (yn agor mewn tab newydd), y mae ei aelodau'n cynnwys y gwasanaethau brys, cyrff iechyd, awdurdodau lleol eraill, asiantaethau'r llywodraeth a chwmnïau cyfleustodau. Mae aelodau Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed–Powys yn cydweithio i sicrhau bod trefniadau ar waith i helpu i liniaru effeithiau unrhyw argyfyngau, gan gynnwys y rhai a achosir gan y newid yn yr hinsawdd. Mae rôl CSP yn ystod argyfyngau yn cynnwys darparu cymorth i’r gwasanaethau brys, rhoi cymorth a gofal i’r gymuned leol ac ehangach, a chydlynu’r ymateb gan sefydliadau heblaw’r gwasanaethau brys. Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i'r pwyslais newid i adferiad, mae'r cyngor yn cymryd rôl arweiniol wrth adsefydlu'r gymuned ac adfer yr amgylchedd. Mae'r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn cynhyrchu Cofrestr Risgiau Cymuned Dyfed–Powys, y gellir ei gweld yn adran ‘lawrlwythiadau’ gwefan y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.
Alinio â Thrywydd Datgarboneiddio Amlinellol Llywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus
Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus cymru (yn agor mewn tab newydd)
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio trywydd datgarboneiddio ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae'r trywydd yn cyd-fynd yn dda iawn â chynllun gweithredu CSP ar gyfer dod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030, gan ddangos y gallwn ddechrau ‘symud i fyny gêr’, bod ‘ymhell ar ein ffordd’, ac yna bod yn barod ar gyfer ‘cyflawni ein nodau 2026 i 2030’.
Addasu i'r newid yn yr hinsawdd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu strategaeth addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Ar hyn o bryd, ef yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru i wneud hynny. Datblygwyd y cynllun mewn partneriaeth â Fforwm Arfordirol Sir Benfro, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Netherwood Sustainable Futures. Mae gan y strategaeth 39 o flaenoriaethau ymaddasu i’r hinsawdd wedi’u rhannu’n bedwar maes allweddol: Seilwaith, yr Amgylchedd Naturiol ac Amaethyddiaeth, Cymunedau, a Busnes a Diwydiant. Ers hynny, mae'r gwaith hwn wedi ymestyn i ddatblygu Protocol Risgiau Hinsawdd a Chymunedau.