Mae'r trefniadau newydd ar gyfer casglu gwastraff o ochr y ffordd yn yr hydref yn cynnwys cyflwyno Gwasanaeth Gasglu Ailgylchu wedi’i ddidoli wrth ymyl y ffordd. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o ailgylchu y gallwch ei gyflwyno ar ochr y ffordd gan gynnwys: potiau plastig, tybiau a hambyrddau, Tetra Pak, cartonau bwyd a diod a batris cartref, yn unol â'r rhai y gellir eu gwaredu yn awr yn y canolfannau gwastraff ac ailgylchu. Nod y newidiadau hyn yw rhoi hwb i faint o ailgylchu sydd ar gael ar draws y Sir, gan leihau faint rydych yn ei roi yn eich bagiau gwastraff gweddilliol (na ellir e ailgylchu).
Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd oddeutu 75% o holl wastraff y cartref yn cael ei gasglu bob wythnos neu bob pythefnos o gartrefi pobl, gan gynnwys deunyddiau ailgylchadwy, gwastraff gwyrdd a chynhyrchion hylendid amsugnol.
Byddwch yn derbyn gwybodaeth bellach drwy'r post am y newidiadau i'ch casgliad a'ch cynwysyddion ailgylchu yn ddiweddarach yn ystod yr haf. Fe gewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf yn
Canllawiau Newydd ar Ailgylchu Didoli ar Ymyl y Ffordd - Hydref 2019