Casglu Gwastraff

Ailgylchu Didoli ar Ymyl y Ffordd

Beth  ydw i'n gallu ei ailgylchu?

  • Sach glas y gellir ei ailddefnyddio – Cardfwrdd a Cherdyn
  • Bocs Glas – Papur, papurau newydd a chylchgronau
  • Sach Coch y gellir ei ailddefnyddio – Poteli plastig, potiau tybiau a hambyrddau (heblaw am blastig du a brown), cartonau bwyd a diod a phecynnau metel gan gynnwys caniau, tuniau, hambyrddau ffoil a ffoil
  • Cadi Gwyrdd – Gwastraff Bwyd
  • Bocs Gwyrdd – Poteli Gwydr a Jariau
  • Bag clir i’w ddarparu gan y cartref – Batrïau cartref

Mae’r rhestr uchod yn cynnwys nifer o eitemau newydd y gallwn nawr eu hailgylchu:

  • Cartonau bwyd a diod (Tetra Pak)
  • Batrïau cartref a photiau
  • Tybiau a hambyrddau plastig.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrychwch ar y canllaw deunyddiau manwl ar-lein neu beth am wylio ein fideos.

Pam fod gymaint o gynwysyddion a sachau ailddefnyddiadwy?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, dyna pam rydym wedi gwneud newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu er mwyn dilyn Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru.


Mae profiadau cynghorau eraill yng Nghymru yn dangos i ni mai'r ffordd orau o gynyddu maint a safon y  gwastraff sy'n cael ei ailgylchu  yw trwy ddefnyddio gwasanaeth ailgylchu didoli wrth ymyl y ffordd fel yr un rydym wedi gweithredu eisoes 

Mae defnyddio cynwysyddion ar wahân a sachau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau’n rhan bwysig o’r drefn hon ac mae’n golygu bod y deunydd sy’n cael ei gasglu mor rhydd o halogiad gan bethau eraill ag y bo modd, fel bod modd ei wneud yn rhywbeth newydd ymhen hir a hwyr.

Ble allaf i eu cadw i gyd? Oni fyddant yn cymryd gormod o le?

Mater i chi yw ble i gadw eich sachau a chynwysyddion ond i chi eu gadael ar ymyl y ffordd mewn pryd i’w casglu ar y diwrnod cywir. Gallwch gadw’r sachau’n fflat pan fyddant yn wag, neu mewn pentwr pan fyddant yn llawn. Dyluniwyd y blwch gwydr a'r blwch papur hefyd i'w pentyrru er mwyn lleihau'r lle storio sydd ei angen.

Bydd hefyd opsiwn i brynu blwch troli y gellir ei stacio

Sut y byddaf yn storio'r ailgylchu tan fy niwrnod casglu?

Mae yna lawer o opsiynau ar gael i aelwydydd o ran sut y gallant storio eu hailgylchu tan eu diwrnod casglu wythnosol, bydd angen gosod yr deunyddiau ailgylchadwy yn y blychau a sachau a ddarperir gan CSP cyn eu rhoi ar ymyl y palmant i'w casglu.

Bydd rhai cartrefi yn dewis defnyddio'r cynwysyddion a ddarperir gan CSP yn unig a'u storio naill ai'n fewnol neu'n allanol. Fodd bynnag, mae yna opsiynau eraill y mae rhai cartrefi eisoes yn eu defnyddio, gan gynnwys yr opsiwn storio mewnol gan ddefnyddio set o ddroriau i rag-ddidoli'r deunyddiau ac mae eraill wedi dewis gosod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy mewn un cynhwysydd yn y cartref ac yna didoli a / neu symud y deunyddiau ailgylchadwy i’r cynwysyddion a ddarperir gan CSP cyn gosod cynwysyddion CSP allan i’w casglu bob wythnos.

Mae cartrefi hefyd wedi gofyn a ydyn nhw'n gallu storio'r sachau a ddarperir gan CSP mewn cynhwysydd, a'r ateb yw y gall aelwydydd gadw'r sachau ailgylchu coch a glas mewn cynhwysydd / bin olwyn. Bydd angen dod â hwn i ymyl y palmant i'w gasglu a bydd angen i aelwydydd sicrhau ei bod yn amlwg bod y sachau ailgylchu o fewn y cynhwysydd / bin olwyn a bod y sachau yn hawdd eu tynnu i'w casglu. Ni all hyn fod yn fwy na 240 litr i’r criwiau wagio.

Pam ydych chi’n gofyn i mi wahanu fy ailgylchu?

Mae defnyddio cynwysyddion ar wahân a sachau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau’n rhan bwysig o’r drefn hon ac mae’n golygu bod y deunydd sy’n cael ei gasglu mor rhydd o halogiad gan bethau eraill ag y bo modd, fel bod modd ei wneud yn rhywbeth newydd ymhen hir a hwyr.

Gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rydym yn gallu cynyddu amrywiaeth y deunyddiau ailgylchadwy sy’n cael eu casglu.
Bydd y broses hon yn arbed swm sylweddol o arian i'r Cyngor, y gellir ei wario'n well mewn meysydd eraill e.e. ar wasanaethau eraill

Mae gan y cerbydau ailgylchu wahanol adrannau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau a bydd ein gweithredwyr ailgylchu’n rhoi eich ailgylchu yn yr adrannau cywir, ond byddai’n cymryd yn rhy hir (ac yn costio gormod) pe byddent yn gorfod didoli ailgylchu plith draphlith. Mae gwahanu ailgylchu a sicrhau bod y cyfan yn mynd i’r adran gywir yn waith tîm rhwng ein trigolion a’r cyngor.

Beth fydd yn digwydd os rhoddaf rywbeth ar ddamwain yn y cynhwysydd anghywir?

Os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar y daflen wastraff ac ailgylchu a ddosbarthwyd i chi neu edrychwch ar-lein ar ein canllawiau.

Mae’n bwysig bod popeth yn mynd i’r lle cywir ac nad yw cynwysyddion ailgylchu’n cynnwys deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydym yn derbyn y gall pawb wneud camgymeriad. Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i’ch ailgylchu gael ei gasglu, peidiwch â phryderu – dim ond ceisio cofio ei gael yn gywir y tro nesaf.

Os oes ychydig o halogiad, bydd gweithredwyr yn didoli’r deunyddiau ac yn gadael unrhyw halogiad yn y cynwysyddion i’w gadael gan yr aelwydydd yn y cynhwysydd cywir a bydd tag yn cael ei adael ar y sach ailgylchu neu gynhwysydd. Mae hyn er mwyn cynorthwyo deiliaid y tai ddeall sut ddylid ailgylchu’r gwahanol ddeunyddiau a sicrhau bod pob eitem yn y cynhwysydd cywir.

Os oes llawer o halogiad, ni fydd ein gweithredwyr yn casglu’r rhain a bydd tag ar eich sach ailgylchu neu gynhwysydd yn dweud wrthych pam nad ydym wedi ei wagio ac yn eich atgoffa i roi deunyddiau yn y sachau a chynwysyddion cywir y tro nesaf.

Fe all halogi olygu nad oes modd ailgylchu’r gwastraff ac, felly, efallai na fydd ein gweithredwyr yn gallu casglu’r gwastraff a adawyd gennych.

Beth sy’n digwydd i’r ailgylchu ar ôl ei gasglu?

Caiff eitemau ailgylchu sych (caniau, plastigion, papur, cerdyn a gwydr) eu hanfon i gyfleusterau ailbrosesu lle caiff ei baratoi ar gyfer ailgylchu.

Mae ailgylchu bwyd yn cael ei drosglwyddo i gyfleuster treuliad anaerobig yng Nghymru. Mae’r broses yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, sy’n cael ei roi yn ôl i’r grid cenedlaethol i bweru cartrefi a chymunedau, a math o wrtaith i’w ddefnyddio ar y tir.

Mae gwastraff gardd yn cael ei drosglwyddo i gyfleuster yn Sir Benfro lle mae'n cael ei droi’n wrtaith.Caiff cewynnau babanod a gwastraff anymatal (sy’n cael eu casglu ar wahân ar ymyl y ffordd) eu hailgylchu yma yng Nghymru.

I gael gwybodaeth am ein cyrchfannau ailgylchu, Mae fy Ailgylchu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

I ddysgu mwy am y broses ar gyfer pob un o’r deunyddiau a anfonwn i’w hailgylchu Canllawiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd

Beth os oes gennyf flwch cardbord mawr?

Dim ond cardbord sy’n mynd i’r sach ailddefnyddiadwy fydd yn cael ei gymryd. Os oes gennych flwch cardbord mawr mae angen ei blygu, ei rwygo neu ei falu’n ddarnau a’i roi yn y sach las er mwyn iddo fynd ar y cerbyd casglu. Fel arall, gallwch fynd ag ef i un o’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu yn y Sir.

Sut fydd trigolion anabl neu fethedig yn mynd â’r holl gynwysyddion newydd hyn i ymyl y ffordd?

Os nad yw preswylydd yn gallu cyflwyno ei wastraff / ailgylchu wrth ymyl y ffordd, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw deulu, ffrindiau neu gymdogion sy’n gallu eu helpu, yna gallant ofyn am gasgliad gyda chymorth. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm Gwastraff ac Ailgylchu a fydd yn gallu adolygu gofynion unigolion, cysylltwch â ni drwy wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk neu drwy'r ganolfan gyswllt drwy 01437 764551

Os yw deiliad tŷ eisoes yn derbyn gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu gyda chymorth, yna bydd hyn yn parhau.

A fyddwch chi’n gofyn i weithwyr gwastraff beidio â thaflu sachau / blychau a’u rhoi’n ôl ar ymyl y ffordd?

Mae ein gweithredwyr wedi cael cryn dipyn o hyfforddiant ynghylch y gwasanaeth newydd, gan gynnwys sut i ddychwelyd y sachau / blychau’n gywir.

Faint o wahanol gynwysyddion fydd yna a beth fydd yn mynd i bob un?

  • Cyfanswm o bump – blwch gwydrau (gwyrdd)
  • blwch papurau gyd chaead (glas)
  • cist fwyd (gwyrdd)
  • sach ailddefnyddiadwy ar gyfer cardbord (glas)
  • sach ailddefnyddiadwy ar gyfer plastig, cartonau a chaniau (coch)

Pam nad ydych chi’n casglu gwastraff hylendid fel cewynnau babanod a gwastraff anymatal ar gyfer ailgylchu?

Ar hyn o bryd, dylid dal i ddodi’r deunyddiau hyn yn eich sach ddu weddilliol. Bydd y gwasanaeth ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol, ac eithrio gwastraff hylendid. Oherwydd bod llawer o aelwydydd yn cynhyrchu ychydig o wastraff hylendid o’i gymharu â chewynnau babanod a gwastraff anymatal, nid yw’n eitem wastraff a dargedwyd.  

Rwy'n ei chael hi'n anodd ffitio'r holl ddeunyddiau ailgylchu yn y bagiau a'r cynwysyddion. A allaf gael mwy?

Oes, wrth gwrs os oes angen mwy o gynwysyddion ar aelwydydd ar gyfer eu hailgylchu, a gellir eu casglu o un o'n pwyntiau casglu.

Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwasgu’r ailgylchu yn y bag coch fel caniau a photeli plastig er mwyn defnyddio'r lle yn y bag.

Sut mae cael cynwysyddion ailgylchu ychwanegol os oes angen mwy nag 1 arnaf, neu os oes angen cynwysyddion newydd?

Os oes angen blwch gwydr, cadis gwastraff bwyd neu fagiau gwastraff bwyd arnoch, gellir casglu'r rhain o nifer o leoliadau ledled y sir: weld eich lleoliad agosaf. Tra ein bod yn trefnu lleoliadau ar gyfer y cynwysyddion ailgylchu newydd, gellri cael cynwysyddion ychwanegol neu gynwysyddion newydd trwy Fy Nghyfrif neu'r Ganolfan Gyswllt.

A allaf roi papur wedi'i falu yn y blwch papur glas?

Gallwch, gellir casglu papur wedi'i rwygo trwy'r blwch papur glas, rydym yn awgrymu bod aelwydydd yn ei roi mewn bag (papur neu fag cludwr plastig) yn y blwch i gynnwys y papur wedi'i falu.

A allaf roi'r sachau ailgylchu mewn cynhwysydd / bin olwyn i'w casglu?

Gallwch, gall preswylwyr gadw'r sachau ailgylchu coch a glas mewn cynhwysydd / bin olwyn. Bydd angen dod â hwn i ymyl y palmant i'w gasglu a bydd angen i breswylwyr sicrhau ei bod yn amlwg bod y sachau ailgylchu o fewn y cynhwysydd / bin olwyn a bod y sachau yn hawdd eu tynnu i'w casglu ac ni all hyn fod yn fwy na 240 litr er mwyn i’r crisiau ei wagio.

 

ID: 5498, adolygwyd 19/09/2024