Casglu Gwastraff
Casgliadau gwastraff gweddilliol (anailgylchadwy)
1. Beth yw’r cyfyngiadau gweddilliol?
Gall aelwydydd roi hyd at dri bag gweddilliol (llwyd / du) allan bob tair wythnos.
2. Mae gennyf deulu mawr. Allaf i adael mwy o sachau (anailgylchadwy) gweddilliol?
Os oes gennych chwech neu fwy o bobl yn eich cartref
Gallwch roi un bag gwyrdd ychwanegol allan bob tair wythnos ar gyfer pob dau unigolyn ychwanegol yn eich aelwyd.
- Bydd aelwydydd gyda chwech neu saith o bobl yn gallu gadael un sach werdd ychwanegol bob tair wythnos
- Bydd aelwydydd gydag wyth neu naw o gobl yn gallu gadael dwy sach werdd ychwanegol bob tair wythnos.
Sylwch: Fe all ein cynghorwyr gwastraff ymweld â chartrefi i gadarnhau bod y cais yn gywir.
Gallwch wneud cais am y gwasanaeth ychwanegol hwn ar-lein neu drwy ffonio'r ganolfan gyswllt.
3. Oni fydd cyfyngu ar nifer y sachau arwain at wibdaflu sbwriel?
Trwy ddefnyddio’r casgliadau bwyd ac ailgylchu bob wythnos fe fydd digon o le yn y sachau duon / llwyd i’ch gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Nid oes fyth unrhyw esgus dros wibdaflu sbwriel, ac nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu y bydd mwyafrif llethol trigolion Sir Benfro’n dechrau torri’r gyfraith fel hyn. Nid yw’n golygu y dylai’r cyngor beidio â newid y gwasanaeth yn unig oherwydd y gallai fod lleiafrif o bobl yn barod i wibdaflu sbwriel.
Yr eitemau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gwibdaflu yw eitemau swmpus neu wastraff masnachol – nad ydynt yn cael eu casglu o ymyl y ffordd sut bynnag.
Mae modd mynd ag eitemau cartref swmpus i’r canolfannau ailgylchu gwastraff yn ddi-dâl, yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff cartref swmpus. Mae modd trefnu hyn trwy wneud cais ar Fy Nghyfrif neu drwy’r Ganolfan Gysylltu (01437) 764551
Bydd pawb sy’n cael eu dal yn gwibdaflu sbwriel yn cael eu herlyn.
4. A fyddaf i’n gallu gadael mwy o sachau yn ystod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?
Byddwch. Fe wyddom fod cyfuniad o anrhegion Nadolig, ymwelwyr a newid diwrnodau casglu’n golygu y gall sachau gweddilliol fynd yn llawnach nag arfer yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn caniatáu i eiddo adael un sach ychwanegol yn ystod cyfnod casgliadau’r Nadolig. Dangosir dyddiad y casgliad hwn ar galendrau eich aelwyd ac nid oes angen i'r bag fod yn fag llwyd / du, ond unrhyw fag gweddilliol yn y cartref.
Serch hynny, mae’n dal yn bwysig ailgylchu gymaint ag y gallwch, gan gynnwys papur lapio (profwch a oes modd ei ailgylchu trwy gadarnhau nad yw’n agor eto ar ôl ei sgrwnsian) – ond ni all hefyd gynnwys gliter neu ffoil tun) a gwastraff bwyd fel esgyrn twrci a philion tatws.
5. Allaf i ddefnyddio bin olwynion yn lle sach?
Na, dim ond gwastraff mewn sach weddilliol lwyd / du fydd yn cael ei gasglu.
Fodd bynnag, os yw aelwydydd yn dymuno dodi eu sachau mewn cynhwysydd i’w casglu ar ymyl y ffordd bydd hyn yn dderbyniol. Byddem yn gofyn i’r cynhwysydd beidio â bod yn fwy na 240 litr er mwyn i’r gweithredwyr allu gwagio’r cynhwysydd.
6. Pam fod CSP yn defnyddio sachau plastig yn lle biniau olwynion?
Pan oeddem yn cynllunio’r gwasanaeth hwn, fe ystyriwyd nifer o ddewisiadau a phenderfynwyd mai sachau oedd y dewis gorau oherwydd bod sachau’n haws i fwyafrif yr aelwydydd eu cadw am fod rhai trigolion yn methu trin biniau olwynion neu’n byw mewn eiddo lle nad oes modd gadael y biniau’n ddiogel i’w casglu.
7. Ond onid yw pobl i fod i ddefnyddio llai o blastig?
Sachau plastig yw’r ateb mwyaf ymarferol o ran lle i’w cadw, glendid a phwysau. Ar ben hynny, gwnaed ein holl gynwysyddion newydd o blastig a ailgylchwyd.
8. Oni wnaiff hyn ddim ond annog pobl i roi sbwriel yn y bin ailgylchu?
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod cyfyngu ar faint o sachau gweddilliol all pobl eu gadael yn eu hannog i roi eitemau nad oes modd eu hailgylchu yn y bin ailgylchu – ond digonedd o dystiolaeth i ddangos fod llawer o wastraff y gellid ei ailgylchu (gan gynnwys bwyd) yn mynd i wastraff sachau gweddilliol Sir Benfro ar hyn o bryd.
Mae cyfyngu ar faint o wastraff sach weddilliol sy’n cael ei gasglu’n gwneud i bobl feddwl am yr hyn a daflant ac yn eu hannog i ailgylchu mwy o’r pethau a ddylai gael eu hailgylchu.
9. A fydd gennyf i ddigon o le yn y sachau?
Bydd, ond i chi ddefnyddio eich gwasanaethau gwastraff bwyd ac ailgylchu’n llawn bob wythnos, bydd gennych ddigon o le yn eich sachau gweddilliol.
Caiff cyfleusterau ailgylchu eu darparu hefyd yn eich canolfannau gwastraff ac ailgylchu lleol.
Bydd trefniadau arbennig ar gyfer aelwydydd o chwech neu fwy o bobl, ar gyfer cartrefi sy'n defnyddio tân glo neu stôf fel eu prif ffynhonnell wres a'r rhai â phlant sy'n defnyddio cewynnau neu oedolion sy'n defnyddio cynhyrchion anymataliaeth. .
10. Oni fydd hyn yn denu fermin?
Sicrhau eich bod yn defnyddio eich cist gloadwy ar gyfer unrhyw wastraff bwyd a’i gadael i’w chasglu bob wythnos yw’r ffordd orau o gadw fermin draw.
11. Beth am arogleuon?
Bydd defnyddio eich cist gloadwy ar gyfer unrhyw wastraff bwyd a’i gadael i’w chasglu bob wythnos yn cynorthwyo osgoi arogleuon.
Os oes rhywun ar eich aelwyd yn defnyddio cewynnau babanod neu gynhyrchion anymatal eraill, gallwch gofrestru ar gyfer casgliad gwastraff di-dâl cynnyrch hylendid amsugnol (CHA) bob pythefnos.
Mae bagio gwastraff anifeiliaid a’i roi yn y sach weddilliol hefyd yn gallu lleihau perygl arogleuon.
12. Rydym yn talu mwy o dreth gyngor nawr; beth ydym ni’n ei gael am hynny?
Byddwn yn casglu mwy nag erioed; dim ond yn newid sut mae’n cael ei gasglu.
Byddwn yn ailgylchu mwy o ddeunyddiau nag erioed, fel bod gennych lai o eitemau yn eich sach gwastraff gweddilliol. Bydd hyn yn golygu y bydd llai o wastraff Sir Benfro’n mynd i dirlenwi ac i’w losgi.
Wrth ychwanegu’r gwasanaeth casglu CHA newydd at y data hyn, bydd 75% o holl wastraff cartrefi’n cael ei gasglu bob pythefnos, gyda deunydd ailgylchadwy craidd eich aelwyd yn cael eu casglu bob wythnos. Bydd gweddill eich 25% o wastraff anailgylchadwy’n cael ei gasglu bob tair wythnos.
13. Pa dystiolaeth sydd yna fod cyfyngu ar wastraff yn gwella cyfraddau ailgylchu?
Mae nifer o gynghorau eraill yng Nghymru wedi cyflwyno cyfyngiadau eisoes ar wastraff sachau gweddilliol, sydd wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu.
Ers i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyflwyno casgliadau gweddilliol cyfyngedig, cynyddodd y gyfradd ailgylchu yn y sir o 57.90% yn 2017 i 68.55% yn 2018.
14. Beth ddylwn i wneud gyda’m gwastraff anifeiliaid anwes a gwasarn cathod? A fydd yna lwfans sachau ychwanegol i bobl gydag anifeiliaid anwes?
Ond i chi gasglu gwastraff eich ci wrth fynd â’ch ci am dro, gallwch ei roi mewn bin sbwriel ar y stryd.
Os caiff gwasarn cathod, gwastraff ci neu anifail anwes ei grynhoi gartref, gallwch ei roi yn eich sach weddilliol (llwyd / ddu) i’w gasglu ar ymyl y ffordd ond bydd angen iddo fod yn rhan o’ch dogn tair sach i’w casglu bob tair wythnos. Os ydych bron â llenwi eich lwfans neu os byddai’n well gennych gael gwared ar y gwastraff hwn yn amlach, gallwch wneud hynny yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol yn ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
Mae dewisiadau ar gyfer dulliau gwared gwahanol yn cynnwys defnyddio treulwyr gwastraff anifeiliaid anwes ac abwydfeydd.
15. Mae gennym dân glo neu stôf , felly yn cynhyrchu llawer o ludw, beth ddylen ni ei gwneud ag ef?
Os mai tân glo neu stôf yw eich prif ffynhonnell wres, gellir rhoi'r lludw hwn mewn bagiau du aelwydydd a ddarperir pan fydd y lludw wedi'i oeri.Dylid marcio “LLUDW GLO” yn glir ar y bag ac ni ddylai unrhyw beth arall fod ynddo neu bydd yn cael ei adael. Ni ddylai’r bag bwysop mwy na 20kg. Bydd yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â’ch bagiau llwyd / du.
Cysylltwch â’r Cyngor ar enquiries@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551 i roi gwybod i’r Cygor y byddwch chi’n gosod Gwastraff Lludw Glo wrth ymyl eich bagiau llwyd / du.
Dylai pob lludw arall (ee. pren) gael ei osod yn y bagiau gwastraff gweddilliol llwyd / du ar ôl iddo oeri. Mae gan y bagiau derfyn pwysau uchaf o 15 kg, ond ar gyfer cartrefi sy'n poeni am y pwysau gellir rhoi bagiau llai o ludw yn y bag llwyd / du ar ymyl y palmant neu fynd â nhw i un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu
16. Rwy’n byw mewn fflat / ardal sydd â chasgliadau gwastraff cymunedol. A fydd y cyfyngiad yn berthnasol i mi?
Rydym yn gofyn i bob aelwyd gydymffurfio â'r cyfyngiad gwastraff gweddilliol.
17. Beth am fflatiau sydd heb unman i gadw gwerth tair wythnos o sachau?
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag asiantaethau rheoli fflatiau penodol pan fo hynny’n briodol. Lle nad yw hyn yn bodoli, byddwn yn cadw cyswllt â thenantiaid i fanylu’r trefniant y ceisiwn ei sefydlu. Bydd patrymau’n amrywio, gan ddibynnu ar natur yr eiddo a hygyrchedd. Bydd ein cynghorwyr gwastraff yn gweithio gyda thrigolion fel blaenoriaeth.
18. Yn fy stryd i, bydd pawb yn rhoi eu sachau sbwriel mewn un pentwr mawr. Sut fyddwch chi’n gwybod pwy sydd wedi gadael mwy na’u lwfans o sachau?
Mewn rhai mannau, er y gwnaed casgliadau’n draddodiadol o bentwr cymunedol ar ben y ffordd, nid oes unrhyw reswm gwirioneddol pam na all y trigolion adael eu sachau o flaen eu heiddo ar ymyl y ffordd yn hytrach. Dan yr amgylchiadau hyn fe all rhai trigolion weld yn fuan y byddwn yn gofyn iddynt beidio â phentyrru eu sachau. Bydd ein Cynghorwyr Gwastraff ac Ailgylchu’n helpu iddynt wneud y newid hwnnw.
19. Os yw pobl ar un stryd i gyd yn gadael eu sachau duon ar ben y ffordd i’w casglu, sut wyddoch chi faint sydd wedi dod o bob aelwyd?
Rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r trigolion hyn i gasglu o ymyl eu ffordd agosaf pan fo hynny’n briodol.
20. Sut ydych chi’n mynd i rwystro pobl rhag gadael mwy na thair sach weddilliol?
Mae’n ddyletswydd ar ddeiliaid tai i ofalu am y gwastraff a gynhyrchant a dilyn y rheoliadau a bennwyd ar gyfer eu heiddo. Rydym yn deall y bydd gan rai ohonoch gwestiynau neu y bydd arnoch angen rhagor o gymorth ond, pan fo trigolion yn fwriadol yn anwybyddu’r polisi tair sach, bydd cynghorwyr gwastraff yn ymweld â’r cartrefi hynny a, phan fo hynny’n briodol, bydd cosbau penodedig yn cael eu defnyddio.
21. Mae gen i blant sydd mewn cewynnau / rwy’n defnyddio cynhyrchion anamataliaeth.
Mae’r cyngor bellach yn casglu cynnyrch hylendid amsugnol bob pythefnos. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, ond bydd angen i chi gofretru i’w cynnyrch hylendid amsugnol (CHA) dderbyn ar Fy Nghyfrif neu ffonio’r Ganolfan Gyswllt. Pan fyddwch chi’n cofrestru bydd calendr casgliadau yn ogystal â 2 rolyn o fagiau porffor yn cael eu dosbarthu i chi. Nid oes cyfyngiad ar faint o’r bagiau hyn y gallwch eu rhoi allan bob oythefnos.
22. Byddaf i ffwrdd pan adeg fy nghasgliad. A fyddaf yn cael rhoi 6 nag llwyd / du allan ar gyfer fy nghasgliad nesaf?
Dim ond 3 bag llwyd / du y cewch chi ei roi allan ar gyfer pob casgliad. Os byddwch i ffwrdd adeg y casgliad, ac nad oes modd i gymydog neu deulu/ffrind roi eich gwastraff wrth ymyl y ffordd i’w casglu, yna gallwch fynd â’ch bagiau i’r Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu agosaf.
23. Ni allaf gyrraedd Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu gan nad wyf yn gyrru. Sut mae cael gwared ar fy gwastraff os byddaf yn colli casgliad?
Ceisiwch ofyn i gymydog neu deulu/ffrindiau os gallwch chi fynd gyda nhw pan fyddan nhw’n mynd i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu.
Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â ni i'w drafod neu gallwch drefnu ymweliad ag un o'n Swyddogion Amgylchedd Lleol i drafod y cynllun, sicrhau eich bod yn ailgylchu popeth y gallwch a thrafod opsiynau eraill. Cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost at wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk