Casglu Gwastraff
Holi ac Ateb ynghylch Casgliadau o Ymyl y Ffordd
Beth sy’n newid?
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed i Sir Benfro ailgylchu 70% erbyn 2025. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi gwneud newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu.
Mae rhestr isod o'r cynwysyddion ailgylchu
- Sach Las Ailddefnyddiadwy – cardbord a cherdyn
- Blwch Glas – papur
- Sach Goch Ailddefnyddiadwy – poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig (ac eithrio plastig du a brown), cartonau bwyd a diod a deunydd pacio metel.
- Cist Werdd – gwastraff bwyd
- Blwch Gwyrdd – poteli a photiau gwydr.
- Bag clir i’w ddarparu gan y cartref – batrïau cartref
Byddwn yn casglu eich holl ailgylchu a gwastraff bwyd bob wythnos. ddarganfod mwy am yr hyn y gellir ei gynnwys ym mhob cynhwysydd gwyliwch ein fideo am y Newidiadau Gwastraff neu edrychwch ar ein canllawiau yn esbonio'r gwasanaeth newydd.
Fodd bynnag, bydd casgliadau sachau (anailgylchadwy) gweddilliol bob tair wythnos.
Mae trefniadau arbennig ar gyfer aelwydydd o chwech neu fwy o bobl drwy'r cynllun bagiau gwyrdd i aelwydydd mwy.
I’r rhai gyda phlant yn defnyddio cewynnau babanod neu oedolion yn defnyddio cynhyrchion anymatal, mae gwasanaeth tanysgrifio CHA di-dâl ar gael.
Cofiwch y bydd y gwasanaeth casglu’n cymryd mwy o amser, gyda mwy o gynwysyddion i’w casglu o bob aelwyd. Byddwch yn amyneddgar gyda’n criwiau pan fyddant wrth eu gwaith.
Ni yw'r awdurdod gorau yng Nghymru ar hyn o bryd o ran ailgylchu.Y llynedd (Ebrill 2019 – Ebrill 2020), ailgylchwyd cyfanswm o 72% o’r holl wastraff cartref. Mae angen i ni ailgylchu 70% erbyn 2025 i gyrraedd targedau gorfodol Llywodraeth Cymru. Os na chaiff y targedau hyn eu cyrraedd, fe all y cyngor gael dirwy.
Mae'r gwasanaeth hwn yn annog pobl i ailgylchu cymaint â phosibl a defnyddio eu bagiau gweddilliol (na ellir eu hailgylchu) ar gyfer pethau na ellir eu hailgylchu yn unig. Rydym eisiau annog trigolion i ailgylchu mwy a helpu cynyddu faint a ailgylchwn ledled y sir.
Bydd ailgylchu o’r palmant CSP yn arbed arian, gan helpu cynnal a gwarchod gwasanaethau eraill y cyngor.
Rydym yn dechrau gweld newidiadau sylweddol mewn agweddau ac arferion sy'n ymwneud ag ailgylchu. Mae Cyngor Sir Penfro’n cymryd o ddifrif ei ran fel ceidwaid ein hamgylchedd lleol a chenedlaethol ac mae’r newidiadau hyn yn gwella sut allwn ni fel Cyngor weithio gyda’n trigolion i’w gyflawni.
Pryd ddylwn roi fy ngwastraff a’m hailgylchu allan?
Gallwch wirio eich diwrnod casglu ar-lein neu gallwch gofrestri am hysbysiadau e-bost neu negeseuon testun am ddim ar gyfer eich diwrnodau casglu gwastraff drwy Fy Nghyfrif. Bydd yr hysbysiadau hyn yn dweud wrthych beth allwch adael i’w gasglu ar y diwrnod perthnasol bob wythnos.
Cofiwch adael eich cynwysyddion allan erbyn 6.30am ar eich diwrnod casglu.
Gallwch gael y diweddaraf am eich casgliadau trwy gofrestru ar Fy Nghyfrif
Sut mae cael cynwysyddion ailgylchu newydd?
Rydym wedi dosbarthu’r cynwysyddion ailgylchu newydd i bob aelwyd sy’n rhan o’r cynllun didoli ar ymyl y ffordd. Os nad ydych wedi derbyn set, gallwch ofyn amdanynt drwy e-bostio enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Pam fod y casgliadau gwastraff yn cael eu lleihau?
Nid ydym yn lleihau eich gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu. Yn hytrach, rydym yn gofyn i chi adael yr un faint o wastraff ar ymyl y ffordd i’w gasglu mewn ffordd wahanol.
Nod y gwasanaeth hwn yw annog pobl i ailgylchu cymaint â phosibl a defnyddio eu bagiau gweddilliol (na ellir eu hailgylchu) ar gyfer pethau na ellir eu hailgylchu yn unig. Bydd eich ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos, ynghyd â’ch cistiau bwyd, sy’n golygu y bydd llawer iawn o’ch gwastraff yn cael ei gymryd o’ch aelwyd bob wythnos.
Rydym wedi gweld bod modd ailgylchu dros 75% o’r gwastraff sy’n cael ei adael ar ymyl y ffordd yn Sir Benfro trwy gyflwyno’r gwasanaeth newydd yma.