Casglu Gwastraff

Telerau ac Amodau Lwfans Aelwydydd Mwy

Y disgwyl yw y bydd aelwydydd mwy’n cynhyrchu mwy o wastraff ac, felly, byddant yn cael cynwysyddion ychwanegol fel a ganlyn:

  • Bydd aelwyd o 5 neu lai’n cael 52 sach y flwyddyn, cyfyngedig i 3 sach llwyd / du y casgliad unwaith bob 3 wythnos.
  • Bydd aelwydydd o 6 neu 7 yn cael sach werdd ychwanegol y casgliad, cyfyngedig i 3 sach lwyd / du ynghyd ag 1 sach werdd y casgliad unwaith bob 3 wythnos, sy’n cyfateb i 17 o sachau gwyrdd ychwanegol y flwyddyn.
  • Bydd aelwydydd o 8 neu 9 yn cael 2 sach werdd ychwanegol y casgliad, cyfyngedig i 3 sach lwyd / du ynghyd â 2 sach werdd y casgliad unwaith bob 3 wythnos, sy’n cyfateb i 34 o sachau gwyrdd ychwanegol y flwyddyn.
  • Bydd y patrwm hwn o 1 sach werdd ychwanegol y casgliad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bob dau aelod ychwanegol ar yr aelwyd.

Dylech gyflwyno eich gwastraff ar ymyl y ffordd ar eich diwrnod casglu anailgylchadwy (gweddilliol) yn y sachau llwyd / du a gwyrdd a ddarparwn. Cofiwch sicrhau na fyddwch yn cyflwyno mwy na 3 sach lwyd / du a nifer perthnasol y sachau gwyrdd fesul casgliad.

Mae’r tanysgrifiad yn para am 2 flynedd; byddwn yn eich atgoffa pan fo’n bryd ailgofrestru.

Cofiwch ddweud wrthym os bydd nifer yr unigolion ar eich aelwyd yn newid neu os ydych eisiau atal neu ddiddymu’r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg.

Mae gofyn i aelwydydd ailgylchu holl eitemau sy’n cael eu casglu drwy’r drefn ailgylchu o ymyl y ffordd ac mae cynwysyddion ailgylchu ychwanegol ar gael os bydd eu hangen ar aelwydydd.

Gallwch wneud cais am y gwasanaeth ychwanegol hwn ar-lein neu drwy ffonio'r ganolfan gyswllt. 

Os byddwch yn tanysgrifio i’r lwfans hwn ar gyfer aelwyd fwy, bydd un o’n Cynghorwyr Amgylcheddol Lleol yn ymweld i sicrhau bod yr aelwyd yn defnyddio’r trefnau ailgylchu sy’n bodoli a bod angen y lwfans gweddilliol ychwanegol.

ID: 5718, adolygwyd 20/09/2023