Casglu Gwastraff

Y Blwch Troli y gellir ei Stacio

Mae'r Blwch Troli y gellir ei Stacio yn gynhwysydd ailgylchu aml-flwch y gellir ei roi wrth ei gilydd yn daclus i greu un uned hawdd ei symud, gan ei gwneud yn bosibl i nifer o ffrydiau deunydd gael eu casglu yr un pryd.

Mae gan gartrefi Sir Benfro yr opsiwn i brynu Blwch Troli y gellir ei Stacio ar gyfer casglu ffrydiau penodol o ddeunydd ailgylchadwy.

  • Mae'r blwch uchaf ar gyfer papur (yn lle eich blwch glas)
  • Mae'r blwch canol ar gyfer poteli, tybiau, potiau a hambyrddau plastig, deunydd pacio metel h.y. caniau, tuniau, ffoil a hambyrddau ffoil a chartonau bwyd a diod (yn lle eich bag coch)
  • Mae'r blwch gwaelod ar gyfer poteli a jariau gwydr (yn lle eich blwch gwyrdd)

*Bydd yn ofynnol o hyd i gartrefi ddefnyddio'r bag glas y gellir ei ailddefnyddio i ailgylchu eu cerdyn a'u cardbord a'r cadi gwyrdd i ailgylchu gwastraff bwyd.*

Gellir gosod deunyddiau ailgylchadwy yn uniongyrchol yn y blwch cywir naill ai trwy'r agoriadau ar gyfer y blychau gwaelod a chanol ac i mewn i'r blwch uchaf trwy agor y caead colfachog. Nid oes angen codi na gwahanu'r blychau.

Mae'r uned gyfan yn eistedd yn ddiogel ar droli cryf a chadarn, gan alluogi'r tri blwch a'u cynnwys i gael eu gael eu gwthio ar olwynion i ymyl y ffordd mewn un siwrnai. Mae hyn yn cael gwared ar yr angen i ddeiliad y tŷ godi unrhyw beth ac yn golygu y bydd llai o angen am gasgliadau â chymorth.

Cost y system fydd £80. Caniatewch hyd at 14 diwrnod ar gyfer danfon. Gellir trefnu i gasglu’r system o Ddepo Thornton; mae’n rhaid gwneud trefniadau casglu o flaen llaw.

Os hoffech archebu System Blwch Troli y gellir ei Stacio, ffoniwch ar 01437 764551.

Mae manylion ynghylch dimensiynau a chynhwysedd y system:

Dimensiynau'r Blwch Troli

  • Uchder 1140mm
  • Lled 700mm
  • Dyfnder 660mm

Cynhwysedd y Blwch Troli

  • Blwch Gwaelod ar gyfer Poteli a Jariau Gwydr 50 litr
  • Blwch Canol ar gyfer Plastig, Deunydd Pacio Metel a Chartonau Bwyd a Diod 70 litr
  • Blwch Uchaf ar gyfer Papur 40 litr

Telerau ac Amodau

1. Mae'r blwch troli hwn ar gael i'r rhai sy'n talu treth gyngor ddomestig Cyngor Sir Penfro yn unig a dim ond i’r rheini sy’n derbyn y gwasanaeth ailgylchu didoli ar ymyl y ffordd.

2. Bydd deiliaid tai’n derbyn cyfrifoldeb llawn os bydd yr unedau’n cael eu colli/difrodi oni bai y profir camddefnydd gan weithwyr Cyngor Sir Penfro (CSP). Os bydd y system yn cael ei cholli, bydd rhaid i’r deiliad tŷ brynu blwch troli newydd neu ddefnyddio’r cynwysyddion safonol sydd ar gael gan CSP. Os bydd y system yn cael ei difrodi, gallwch brynu rhannau newydd oddi wrth CSP.

3. Mewn achosion lle bydd difrod yn digwydd oherwydd camddefnydd gan weithredwyr CSP, gofynnir i breswylwyr roi gwybod i CSP am hyn a darparu unrhyw dystiolaeth i'w hadolygu.

4. Mae'n ofynnol i gartrefi storio'r blwch troli ar eu heiddo eu hunain ac ar ddiwrnod casglu dylid gadael y blwch troli mewn man hygyrch, dirwystr (h.y. dim graean na grisiau, ac ati) yn eich man casglu arferol wrth ymyl y ffordd, a'i ddychwelyd i'r eiddo cyn gynted â phosibl ar ôl i'w gynnwys gael ei gasglu. Os na fydd cartrefi'n gosod y blwch troli mewn man casglu addas, ni fydd y cynwysyddion hyn yn cael eu gwasanaethu gan Gyngor Sir Penfro. Rydym yn cadw'r hawl i newid amseroedd casglu felly mae'n rhaid i flychau troli fod allan erbyn 6.30am bob amser. 

5. Efallai na fydd yn addas i gartrefi sydd â mynediad cyfyngedig ddefnyddio'r system blwch troli. Bydd CSP yn asesu eich eiddo ac os nad yw'n addas, byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr opsiynau eraill sydd ar gael.

6. Dim ond eitemau a ganiateir y gellir eu gwaredu yn y blwch troli a rhaid iddynt fod yn rhydd a heb eu rhoi mewn bagiau. Ni fydd blychau troli halogedig sy'n cynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu yn cael eu casglu nes bod yr eitemau anghywir wedi cael eu tynnu allan a bod y blwch troli yn cael ei gyflwyno ar gyfer y casgliad nesaf a drefnwyd.

 

ID: 5951, adolygwyd 13/05/2024