Casglu Gwastraff

Ailgylchu eich batris, fêps ac eitemau trydanol bach o'r cartref

Rydym wedi cyflwyno dau gasgliad newydd ar ymyl y palmant am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach a'ch e-sigaréts a'ch fêps yn ogystal â chynyddu'r mathau o fatris cartref a dderbynnir.

 

Eitemau trydanol bach

Rhowch eitemau'n rhydd ar ben un o'ch cynwysyddion ailgylchu. Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn mewn unrhyw gynhwysydd gan gynnwys bagiau plastig untro.


Gallwn dderbyn:

  • Tegelli

  • Sychwyr gwallt a sythwyr gwallt

  • Tostwyr (dim mwy na 4 sleisen)

  • Teclynnau pŵer llaw

  • Offer cegin llaw

  • Radios a seinyddion cludadwy

  • Haearnau

  • Gwifren ymestyn a cheblau pŵer

  • Gwefryddion batri

  • Offer ystafell ymolchi llaw (eilliwr, brwsh dannedd trydan)

*Cofiwch na ddylai eitemau fod yn fwy na thegell neu dostiwr*.

 

Ni allwn dderbyn:

  • Setiau teledu

  • Sugnwyr llwch

  • Microdonnau

  • Oergelloedd neu rewgelloedd

  • Ffrïwyr aer

  • Proseswyr bwyd

  • Peiriannau coffi mwy (mwy na thostiwr)

 

E-sigaréts a fêps

Rhowch y rhain mewn bag plastig untro clir ar wahân, clymwch yn ddiogel, yna eu rhoi ar ben un o'ch cynwysyddion ailgylchu. Peidiwch â rhoi yn yr un bag â batris cartref.

Gallwn dderbyn:

  • E-sigaréts a fêps (tynnwch fatris allan lle bo hynny'n bosibl a'u rhoi gyda'r batris cartref)

  • Fêps untro (gwaharddir gwerthu'r rhain yng Nghymru o 19 Mehefin 2025)

 

Batris cartref

Rhowch y rhain mewn bag plastig untro clir ar wahân, clymwch yn ddiogel, yna eu rhoi ar ben un o'ch cynwysyddion ailgylchu. Peidiwch â rhoi yn yr un bag ag e-sigaréts a fêps.

Gallwn dderbyn:

  • Batris cartref fel batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9v

  • Batris 'botwm' lithiwm-ion, fel y rhai mewn cyfrifiannell, oriawr a chymhorthion clyw

  • Ffonau symudol

  • Batris o e-sigaréts a fêps

  • Batris y gellir eu gwefru o liniaduron, ffonau symudol ac offer pŵer

Ni allwn dderbyn:

  • Batris car

 

Bydd yr holl eitemau a dderbynnir yn cael eu casglu'n wythnosol ochr yn ochr â'ch casgliad ailgylchu rheolaidd. I wirio eich dyddiad casglu, ewch i'n gwefan Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu - Cyngor Sir Benfro neu cysylltwch â ni 01437 764551.

ID: 13695, adolygwyd 03/07/2025