Casglu Gwastraff
Casgliadau ar ymyl y ffordd: gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu
Bydd gwastraff gweddilliol yn y cartref – hynny yw, sbwriel na ellir ei ailgylchu na'i gompostio bellach yn cael ei gasglu mewn bagiau du, neu'r bagiau llwyd a ddarparwyd gennym yn flaenorol (neu gyfuniad o'r ddau).
Nid ydym bellach yn cyflenwi bagiau llwyd i breswylwyr, felly unwaith y bydd eich cyflenwad presennol wedi'i ddefnyddio bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun.
Gallwch roi hyd at 3 bag o wastraff gweddilliol allan bob 3 wythnos, felly mae'n bwysig ailgylchu.
Er mwyn sicrhau bod eich bagiau yn cael eu casglu:
- Cofrestrwch ar gyfer nodiadau atgoffa casglu (yn agor mewn tab newydd), fel eich bod chi'n gwybod pryd i roi eich gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i’w gasglu.
- Rhowch eich bagiau allan erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu, ond nid yn rhy gynnar a gorchuddiwch eich bagiau i atal adar ac anifeiliaid rhag eu dinistro.
- Dylech ddim ond rhoi hyd at 3 bag a defnyddio bagiau du maint safonol yn unig (hyd at 60 litr)
- Gwnewch yn siŵr nad ydynt yn rhy drwm – mae terfyn pwysau o 15kg er diogelwch ein criwiau
Os gwelwch yn dda:
- Peidiwch byth â rhoi gwrthrychau miniog yn eich bagiau, gallant anafu ein criw.
- Peidiwch â rhoi batris, e-sigaréts na WEEE bychan mewn bagiau du, gan eu bod yn risg tân posibl. Gellir ailgylchu batris domestig safonol trwy eu rhoi mewn bag plastig clir ar wahân gyda'ch cynwysyddion ailgylchu. Gellir ailgylchu batris eraill, e-sigaréts a WEEE bychan yn ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
- Peidiwch â rhoi gwastraff gardd mewn bagiau du, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.
- Peidiwch â rhoi gwastraff clinigol mewn bagiau du, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.
Cwestiynau Cyffredin
1. Beth yw'r cyfyngiadau ar wastraff gweddilliol?
Gall aelwydydd roi uchafswm o dri bag llwyd / du gweddilliol allan bob tair wythnos. Nid ydym bellach yn cyflenwi bagiau llwyd i gartrefi, felly unwaith y bydd eich cyflenwad presennol wedi'i ddefnyddio bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun - bagiau 60 litr safonol ac mae gan bob bag derfyn pwysau o 15kg ar gyfer diogelwch ein criwiau.
Cyflwynwyd y bagiau llwyd i gefnogi'r newid yn y gwasanaeth yn 2019 ac rydym bellach yn dychwelyd i fagiau sbwriel safonol a ddarperir gan aelwydydd. Os oes gan unrhyw gartrefi fagiau llwyd heb eu defnyddio bydd y rhain yn parhau i gael eu derbyn wrth ymyl y ffordd.
2. Mae gen i deulu mawr, er ein bod yn ailgylchu mae gennym fwy na 3 bag o hyd. Sut ydw i'n gwneud cais ar gyfer bagiau ychwanegol?
Gall aelwydydd mwy o 6 neu fwy o bobl wneud cais am lwfans ychwanegol ar gyfer sbwriel na ellir ei ailgylchu. Os oes gennych wastraff cewynnau, gwnewch gais am y gwasanaeth casglu ar wahân hwnnw yn gyntaf. Darganfyddwch fwy Telerau ac Amodau Lwfans Tai Mwy.
3. A allaf ddefnyddio bin olwyn yn hytrach na bag?
Dim ond gwastraff mewn bag gweddilliol du neu lwyd fydd yn cael ei gasglu. Os yw aelwydydd yn dymuno rhoi eu bagiau mewn cynhwysydd i'w gasglu wrth ymyl y ffordd bydd hyn yn cael ei dderbyn. Byddem yn gofyn i'r cynwysyddion beidio â bod yn fwy na 240 litr er mwyn galluogi'r gweithwyr i wagio'r cynhwysydd â llaw.
4. A fyddaf yn gallu rhoi mwy o fagiau allan yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd?
Byddwch. Rydym yn gwybod y bydd cyfuniad o anrhegion Nadolig, ymwelwyr a newidiadau yn y diwrnodau casglu yn golygu bagiau gweddilliol llawnach yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn caniatáu i eiddo gyflwyno un bag ychwanegol (du/llwyd) wrth ymyl y ffordd yn ystod casgliad y Nadolig, gellir dod o hyd i ddyddiad y casgliad hwn ar eich calendr.
Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig ailgylchu cymaint â phosibl, gan gynnwys papur lapio (profwch os gellir ei ailgylchu drwy wirio nad yw'n dad-blygu eto os ydych chi'n ei wasgu yn eich llaw)– ni all hefyd gynnwys glitter neu ffoil) a gwastraff bwyd fel esgyrn twrci a phlicio llysiau.
5. Mae gen i blant sydd mewn clytiau / rwy'n defnyddio cynhyrchion anymataliaeth lle dylwn i roi’r rhain?
Rydym yn darparu casgliad rhad ac am ddim ar wahân ar gyfer cewynnau / cynhyrchion hylendid amsugnol, gallwch gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth casglu AHP i gasglu'r deunyddiau hyn ar wahân i'ch gwastraff a'ch ailgylchu eraill bob pythefnos.
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael calendr casglu yn ogystal â 2 rôl o fagiau porffor. Nid oes cyfyngiad ar faint o'r bagiau hyn y gallwch eu rhoi allan bob pythefnos, ond mae gan bob bag derfyn pwysau o 15kg ar gyfer diogelwch ein criwiau.
6. Dydw i ddim yn gwybod beth y gallaf ei ailgylchu a beth na allaf ei ailgylchu
Gallwch ddefnyddio ein Cyfeiriadur Chwilio Gwastraff ac Ailgylchu i ddarganfod beth y gellir ei roi ym mhob cynhwysydd neu i chwilio am eitem benodol i ddarganfod pa un y mae'n mynd i mewn iddo.
7. Nid oes gennyf y cynwysyddion, y bagiau na'r blychau i ganiatáu i mi ailgylchu, lle gallaf eu cael?
Gallwch gasglu bagiau a bocsys newydd o nifer o leoliadau ar draws y sir neu'r rhai nad ydynt yn gallu mynd i’r lleoliadau hyn bydd modd gwneud cais i'w danfon ar-lein.
Gallwch ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy roi nodyn ar eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd ar y diwrnod casglu.
8. Os na allaf roi fy ngwastraff gardd yn y bagiau llwyd / du, beth ddylwn i ei wneud ag ef?
- Compostio gartref
- Ewch â'ch gwastraff gardd yn rhad ac am ddim i un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylc
- Tanysgrifiwch i'n Gwasanaeth casglu gwastraff gardd
9. Beth ddylwn i ei wneud gyda gwastraff fy anifeiliaid anwes?
Gall unrhyw fwyd gwastraff anifeiliaid anwes fynd yn eich cadi bwyd.
Os ydych yn casglu gwastraff cŵn wrth fynd a’ch ci am dro, gellir ei daflu mewn biniau sbwriel ar y stryd.
Os oes ‘litter’ cathod, baw cŵn neu anifeiliaid anwes gennych gartref, gellir ei roi yn eich bag gweddilliol (llwyd / du) i'w waredu wrth ymyl y palmant ond bydd yn rhan o'ch dyraniad tri bag fesul casgliad pob tair wythnos. Os ydych yn agos at y terfyn neu os byddai'n well gennych gael gwared ar y gwastraff hwn yn amlach, gellir ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. Os ydych chi'n rhoi baw anifeiliaid anwes yn eich bag du, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i lapio a'i gymysgu â gwastraff arall.
Mae'r opsiynau ar gyfer dulliau gwaredu amgen yn cynnwys defnyddio treulwyr a mwydod gwastraff anifeiliaid anwes.
10. Mae gennym dân glo neu stôf felly rydym yn cynhyrchu llawer iawn o ludw, beth ddylwn ni ei wneud ag ef?
Os mai tân neu stôf lo yw eich prif ffynhonnell gwresogi, gellir gosod y lludw mewn bagiau du a ddarperir gennych chi pan fydd y lludw wedi oeri, dylid marcio'r bag yn glir "LLUDW GLO" a dylai gynnwys dim ond lludw neu bydd yn cael ei adael, uchafswm pwysau'r bag hwn yw 15kg. Bydd hyn yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â'ch gwastraff gweddilliol arferol na ellir ei ailgylchu.
Cysylltwch â'r Cyngor ar enquiries@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551 i wneud y Cyngor yn ymwybodol y byddwch yn rhoi Gwastraff Lludw Glo allan ochr yn ochr â'ch bagiau gwastraff gweddilliol na ellir eu hailgylchu.
Dylid rhoi pob lludw arall (hy pren) yn y bagiau gwastraff gweddilliol du / llwyd ar ôl iddo oeri. Mae gan y bagiau uchafswm pwysau o 15kg.
11. Sut ydw i'n darganfod pa ddiwrnod y bydd fy magiau llwyd / du yn cael eu casglu?
Cofrestrwch ar gyfer nodiadau atgoffa casglu (yn agor mewn tab newydd), cyfeiriwch at eich Calendr Gwastraff ac Ailgylchu neu Gwiriwch eich diwrnod bin, fel eich bod chi'n gwybod pryd i roi eich gwastraff na ellir ei ailgylchu allan.
12. Mae gen i fagiau llwyd ar ôl, beth ddylwn i ei wneud gyda nhw?
Dylech barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau llwyd presennol fel arfer ac yna defnyddio bagiau bin du safonol (60litr) ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu wrth symud ymlaen.
Bydd y stoc sy'n weddill o fagiau llwyd ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gael i'w gasglu gan gartrefi o leoliadau ledled Sir Benfro o heddiw (dydd Mercher, 20 Medi).
Bydd bagiau llwyd – un rholyn i bob cartref – ar gael o Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu (fel rhan o apwyntiad Canolfan Wastraff ac Ailgylchu sydd wedi'i archebu ymlaen llaw), Canolfannau Hamdden, Derbynfa Adain y Gogledd yn Neuadd y Sir a Thornton.
Mae'r casgliadau hyn ar gael tra bo'r stociau'n para.
13. Pa faint bag du ddylwn i eu defnyddio?
Gallwch ddefnyddio bagiau du sydd hyd at 60 litr a gwnewch yn siŵr nad yw'r bagiau yn rhy drwm – ni ddylent bwyso mwy na 15kg yr un pan fyddwch yn eu rhoi allan. Bydd 3 bag yn cael eu casglu fesul casgliad tair wythnos.
14. Beth am fflatiau neu ardaloedd sydd â chasgliadau gwastraff cymunedol?
Mae'n rhaid i bob cartref gydymffurfio â'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol sy'n cyfateb i 1 bag gwastraff gweddilliol yr wythnos, a dylent weithio gyda fflatiau ac ystadau i gael gwared ar gasgliadau gwastraff cymunedol ledled y Sir lle bo hynny'n bosibl.
15. Sut i leihau'r risg y bydd fy magiau gweddilliol nad oes modd eu hailgylchu yn drewi?
Bydd defnyddio eich cadi gwastraff bwyd y gellir ei gloi ar gyfer unrhyw wastraff bwyd a'i osod allan i'w gasglu bob wythnos yn helpu i osgoi arogleuon.
Os oes unrhyw un yn eich cartref yn defnyddio cewynnau neu gynhyrchion anymataliaeth eraill, gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) bob pythefnos AM DDIM.
Gall defnyddio dau fag ar gyfer gwastraff anifeiliaid a'i roi yn y bag gweddilliol leihau'r risg o arogleuon hefyd.
16. Sut ydych chi'n mynd i orfodi pobl sy’n rhoi mwy na thri bag gweddilliol allan?
Mae dyletswydd ar bawb i ofalu am y gwastraff maent yn ei gynhyrchu a dilyn y rheoliadau a osodwyd ar gyfer eu heiddo. Rydym yn deall y bydd gan rai cwestiynau neu bod angen cymorth pellach arnynt. Bydd ein cynghorwyr gwastraff yn ymweld ag unrhyw drigolion sy'n diystyru'r polisi tri bag a lle bo'n briodol, bydd cosbau penodedig yn cael eu defnyddio.
17. Pam ydych chi'n torri ein gwasanaethau ac yn gwneud i ni dalu am ein bagiau bin ein hunain yn ystod argyfwng costau byw?
Nid ydym yn torri gwasanaethau ond yn dychwelyd i'r system flaenorol o gartrefi yn darparu bagiau gweddilliol, sy'n cael ei gweithredu gan nifer o awdurdodau yng Nghymru, gan gynnwys Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, darparwyd bagiau llwyd y PCC i gefnogi Newid y Gwasanaeth Gwastraff yn 2019.
Rydym yn parhau i gasglu mwy o ffrydiau gwastraff ac ailgylchu ar wahân nag erioed, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn i gyd wedi golygu ein bod yn un o'r awdurdodau gorau am ailgylchu yn y DU.
Fodd bynnag, mae dadansoddiad diweddar o Wastraff Gweddilliol yn Sir Benfro wedi canfod y gallai 48% o'r gwastraff bag gweddilliol gael ei ailgylchu drwy ein cynlluniau ailgylchu wrth ymyl y ffordd a'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, felly fe allwn ni wneud mwy.
18. Rydw i'n mynd i fod i ffwrdd ar gyfer fy nghasgliad, a fyddaf yn cael rhoi 6 bag llwyd / du allan ar fy nghasgliad nesaf?
Dim ond 3 o fagiau llwyd / du y caniateir i chi eu rhoi allan ar gyfer pob casgliad oni bai bod cytundeb eithriad ar waith h.y. cartref mwy. Os ydych chi i ffwrdd ar gyfer eich casgliad ac nad yw eich cymydog neu deulu/ffrind yn gallu rhoi eich gwastraff ar ochr y ffordd i'w gasglu, yna gallwch fynd â'ch bagiau i'ch Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu agosaf.
19. Mae gen i gwestiwn nad yw'n cael ei ateb yma, beth ddylwn i ei wneud?
E-bostiwch eich ymholiad at wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk
Hybiau Codi Sbwriel Cymunedol
Mae yna naw hwb codi sbwriel yn gweithredu ar draws y sir.
Maent yn caniatáu aelodau’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i fenthyg cyfarpar codi sbwriel i helpu i lanhau eu hardal leol.
Mae codwyr sbwriel, bagiau, cylchynau a gwasgodau llachar ar gael i'w benthyg gan bum ganolfan hamdden a weithredir gan Gyngor Sir Penfro yn Abergwaun, Crymych, Aberdaugleddau, Penfro a Dinbych-y-pysgod, yn ogystal â Neuadd y Dref Penfro, Swyddfa Cyngor Tref Hwlffordd, ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi a Canolfan Cymunedol Bloomfield, Arberth.
Mae’r hybiau – sydd wedi’u sefydlu gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus mewn cydweithrediad â'r cyngor sir – yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru.
Os ydych am fenthyg ychydig o gyfarpar ac am helpu i lanhau eich ardal leol, cysylltwch â’r lleoliadau isod yn uniongyrchol.
Diolch i chi am eich cymorth.
Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod
Marsh Rd, Dinbych y Pysgod SA70 8EJ
01437 775678
Canolfan Hamdden Penfro
Bush Hill, Penfro SA71 4RJ
01437 776660
Canolfan Hamdden Abergwaun
Abergwaun SA65 9DT
01437 775504
Canolfan Hamdden Crymych
1 Wellfield Grove, Crymych SA41 3QH
01437 776690
Canolfan Hamddden Aberdaugleddau
117 Priory Rd, Aberdaugleddau SA73 2EE
01437 775959
Swyddfa Cyngor Tref Hwlffordd
Old Wool Market, Quay St, Hwlffordd SA61 1BG
01437 763771
Adeiliadau Cyngor Tref Penfro
Town Hall, Main St, Penfro SA71 4JS
Oriel a chanolfan ymwelwyr Oriel y Parc
High Street, Tyddewi, SA62 6NW
01437 720392
Canolfan Cymunedol Bloomfield
Redstone Road, Arberth, SA67 7ES
01834 860293
Calendrau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu
Rydym yn ymrwymedig i leihau ein defnydd o bapur, sy'n golygu y gall cartrefi bellach weld eu calendr casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd ar-lein.
Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:
- Mae pob calendr ar gyfer Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, gan gynnwys casgliadau wrth ymyl y ffordd, gwastraff gardd a chasglu cynhyrchion hylendid amsugnol (AHP) ar gael yn adran 'Fy Nyddiau ac Amseroedd' yn 'Fy Nghyfrif'. Mae'r calendrau hyn yn unigryw i'ch cartref a'r gwasanaethau yr ydych chi’n eu derbyn.
- Gallwch weld eich Calendr Casglu Gwastraff wrth ymyl y ffordd a manylion ynghylch eich diwrnod casglu nesaf trwy'r cyfleuster 'Chwilio am eich diwrnod biniau' ar y wefan.
Er mwyn gweld eich calendr
Rhowch eich cod post yn y blwch 'Chwilio am eich diwrnod biniau' isod ac wedyn dewiswch eich cyfeiriad.
Bydd hyn yn dangos manylion eich casgliadau gwastraff ac ailgylchu nesaf.
Wedyn, dewiswch 'Gweld Calendr Casgliadau' ar ochr chwith y dudalen ar y gwaelod.
Chwilio am eich Diwrnod Biniau
Gallwch hefyd gofrestru am nodyn atgoffa wythnosol am ddim ynghylch y diwrnod biniau trwy e-bost trwy Fy Nghyfrif
#mewn2funud
Nod y cynllun #2minutestreetclean yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl helpu i gynnal a gwella glendid Sir Benfro a chael effaith gadarnhaol a buddiol ar ein hamgylchedd.
Ym mhob gorsaf ceir gefail ysbwriel a hen fagiau siopa er mwyn galluogi pobl i gasglu sbwriel pan fyddant yn ymweld. Yna, gellir rhoi’r ysbwriel a gasglwyd yn y bin sbwriel neu’r bin ailgylchu agosaf.
Mae pob darn o sbwriel a gesglir o’n strydoedd yn bwysig, a does dim ots os codwch 1 neu 2 peth neu lond bag – mae pob cyfraniad yn werthfawr.
Mae’r map (yn agor mewn tab newydd) hwn yn dangos lleoliad y byrddau stryd, nodwch mai gwirfoddolwyr sy'n cynnal y byrddau felly gall fod achlysuron pan na fydd y byrddau'n cael eu gosod, a bydd rhai yn dymhorol.
Am ragor o wybodaeth neu i fod yn rhan o #2minutestreetclean cysylltwch â Jemma Price-Lewis ar 01437 764551 neu ebostiwch jemma.price-lewis@pembrokeshire.gov.uk
Hysbysu Casgliad Bin a Fethwyd
Byddwn yn trefnu casglu bin a fethwyd:
- Os oedd eich biniau neu sachau’n cynnwys y deunyddiau cywir. Gallwch weld beth sy’n cael mynd i bob sach ar ein tudalen casgliadau oddi ar y palmant.
- Os dodwyd eich biniau a sachau allan ar y diwrnod casglu cywir ac yn yr wythnos gywir. Cyn hysbysu casgliad a fethwyd cofiwch gadarnhau eich diwrnod casglu trwy ddefnyddio ein chwiliad ailgylchu a sbwriel.
- Os nad yw eich biniau neu sachau’n rhy drwm.
- Os oedd eich biniau a sachau ar y palmant cyn 6.30am ar eich diwrnod casglu.
- Os bu amhariadau annisgwyl i’r gwasanaeth fel tywydd garw. Byddwn yn rhoi gwybodaeth ar ein gwefan a’n cyfrifon Weplyfr a Thrydar os oes problemau.
Os oedd eich biniau a sachau’n barod i’w casglu gallwch hysbysu casgliad a fethwyd wrthym. Os nad oedd eich biniau neu sachau’n barod, byddwn yn eu casglu ar eich Diwrnod Bin priodol nesaf.
Bagiau a bocsys ychwanegol
Gallwch gael cyflenwadau pellach o’r lleoedd canlynol
Mae * yn dynodi ffi. Bagiau bwyd 23 litr £6.70 y rholyn
Cliciwch ar y testun glas i gael yr oriau agor.
Gall cwsmeriaid ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy dodi nodyn ar eu cadi pan fyddant yn cael eu rhoi ar ymyl y ffordd ar y diwrnod casgl
Cyflwynwch gais am fagiau a bocsys ychwanegol
Sylwer, oherwydd cynnydd yn y galw, gall yr amser dosbarthu a amcangyfrifir ar gyfer bocsys/bagiau ychwanegol fod yn fwy na 14 diwrnod.
Fel arall, gallwch gasglu bocsys/bagiau newydd o nifer o leoliadau ledled Sir Benfro. Gellir gweld yr holl leoliadau hyn wrth fynd i Ffordd syml o gasglu bagiau a bocsys ailgylchu ychwanegol.
Gellir gofyn am fagiau gwastraff bwyd wrth ymyl y ffordd drwy roi nodyn ar eich cadi gwastraff bwyd wrth ymyl y ffordd ar y diwrnod casglu. Bydd y criwiau’n gadael cyflenwad o fagiau gwastraff bwyd yn y cadi ar ôl ei wagio.
Enw |
Cyfeiriad |
Bagiau gwastraff bwyd 5 litr |
Cadi bwyd 5 litr |
Cadi bwyd 23 litr |
Blwch dal gwydr 44 litr |
Sach Las Ailddefnyddiadwy – cardbord a cherdyn |
Blwch Glas – papur |
Sach Goch Ailddefnyddiadwy |
AHP sachau 60 litr porffor |
BAGIAU clir |
BAGIAU glas |
giau gwastraff bwyd 23 litr | BAGIAU oren | Bagiau sy’n atal gwylanod |
Swyddfa Bost Cilgerran | Siop y Pentre, Cilgerran, Sir Benfro, SA43 2SG | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Safle Amwynder Dinesig Crane Cross | Devonshire Drive, New Hedges, Saundersfoot, SA69 9EE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Cleddau Stores & Post Office (Llangwm) | 32 Main Street, Llangwm, SA62 4HP | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Crymych | Crymych, SA41 3QH | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Abergwaun | Abergwaun SA65 9DT | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Abergwaun | Neuadd y Dref, Abergwaun, SA65 9HE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
FRAME | Pont Fadlen, Hwlffordd, SA61 1XF | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Oes |
Canolfan Hamdden Hwlffordd | St Thomas Green. Hwlffordd SA61 1QX | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Hwlffordd | Glan-yr-afon, Hwlffordd, SA61 1ST | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Siop bapurau Hubbards | 74 High Street, Neyland, Aberdaugleddau, SA73 1TF | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Adain y Gogledd Hwlffordd | Neuadd y Sir, Freemans Way Hwlffordd. SA61 1TP | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu Hermon | Hermon, Rhydiau, Hermon, Crymych. SA41 3QT | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Safle Amwynder Dinesig, Winsel | Old Hakin Road, Hwlffordd, SA61 1XG | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Safle Amwynder Dinesig Manorowen | Abergwaun, SA65 9QE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Safle Amwynder Dinesig Tyddewi | Fishguard Road, Tyddewi, SA62 6BY | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Mace Stores | 1 Trafalgar Road, Hwlffordd, SA61 1TR | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Aberdaugleddau | Priory Road, Aberdaugleddau, SA73 2EE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau | Cedar Court, Parc Busnes Haven's Head, Aberdaugleddau, SA73 3LS | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
(Monkton) Spar Stores | Longmains, Monkton, SA71 4NA | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Arberth | Stryd St James, Arberth. SA67 7BU | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Newgale Siop | Gerddi a Hamdden M M Carter, Siop Niwgwl, Hwlffordd SA62 6AS | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Swyddfa Bost Trefdraeth | 2 Heol Hir, Trefdraeth SA42 0TJ | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Neyland | Neyland Community Hub, John St, Neyland, SA73 1TH | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgel Doc Penfro | Stryd y Dŵr, Doc Penfro,Sir Benfro SA72 6DW | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Penfro | Bush, Penfro SA71 4RJ | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Penfro | Heol y Comin, Penfro, Sir Benfro, SA71 4AE | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Neuadd y Dref Penfro | Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Penfro. SA71 4JS | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Cyngor Dref Doc Penfro | 28 Dimond St, Doc Penfro, SA72 6BT | Nac Oes | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Saundersfoot | Regency Hall, Saundersfoot, Sir Benfro. SA69 9NG | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Safle Amwynder Dinesig Tyddewi | Tyddewi, Hwlffordd, SA62 6BY | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Neuadd y Ddinas Tyddewi | Neuadd y Ddinas, Y Stryd Fawr, Tyddewi, SA62 6SD | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Tyddewi | Ysgol Dewi Sant, Tyddewi, SA62 6QH | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Swyddfa Bost Llandudoch | 1 Heol Fawr, Llandudoch SA43 3ED | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Dinbych-y-pysgod | Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 8EJ | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Dinbych-y-pysgod | Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7LB | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod | Pafiliwn De Valence, Upper Frog Street, Dinbych-y-pysgod. SA70 7JD | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Oes |
Canolfan Gymunedol The Mount | 15-16 Larch Road, Ystad Mount, SA73 1BZ | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Oes | Nac Oes |
Parc Busnes Thornton | Cyngor Sir Penfro, Uned 23, Parc Busnes Thornton, Aberdaugleddau, SA73 2RR | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes |
Safle Amwynder Dinesig Waterloo | Doc Penfro, SA72 4RT | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Safle Amwynder Dinesig Winsel | Old Hakin Road, Hwlffordd, SA61 1XG | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Gwasanaeth Casglu Nwyddau Swmpus o Gartrefi
Os oes gennych daclau cartref mawr dieisiau fel gwelyau, oergelloedd a dodrefn gallwch drefnu casgliad gwastraff cartref swmpus. Caiff eitemau cartref swmpus eu casglu ar ein rhan gan Frame, mudiad elusennol lleol.
Gallwch wneud ceisiadau am y gwasanaeth hwn trwy lenwi Ffurflen Casglu Gwastraff Cartref Swmpus yn ‘Fy Nghyfrif’ eich cyfrif ar-lein y Cyngor. Rydym yn gwneud popeth a allwn i leihau’r cysylltiad rhwng y cyhoedd a staff a chadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd. Felly, rhaid talu o flaen llaw am y casgliad wrth archebu gan sicrhau prosesu archebion yn brydlon wrth gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Y taliad am gasgliad o eitemau cartref yw £21.30 am 10 eitem neu lai. Sylwch y byddai set dridarn o ddodrefn yn cyfrif fel 3 eitem, ac y byddai bwrdd and 4 cadair yn cyfrif fel 5 eitem. Ar hyn o bryd ni allwn gasglu unrhyw eitemau trwm, a fyddai’n gofyn mwy na 2 o bobl i’w symud h.y. pianos ac ati.
Sylwer: unwaith y mae cwsmer wedi gwneud cais am gasgliad o hyd at 20 o eitemau (cost dau gasgliad), ni allant drefnu casgliad arall nes bod y casgliadau cyfredol wedi'u cwblhau.
Wrth ofyn am y gwasanaeth hwn, nodwch yr eitemau i’w casglu, oherwydd mai dim ond eitemau a nodwyd fydd yn cael eu symud.
Cofiwch, unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r casgliad gwastraff swmpus, ni ellir ei ddiwygio. Y rheswm am hyn yw na fyddai’r fan yn gallu darparu ar gyfer gwahanol eitemau oherwydd cyfyngiadau lle.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais bydd yn cael ei anfon at Frame a fydd yn cysylltu â’r aelwyd i drefnu’r casgliad. Bydd yr eitemau’n cael eu casglu’n unig oddi allan i’r eiddo a pheidiwch â’u dodi allan i’w casglu cyn i Frame ddweud wrthych.
Bagiau Gwrthsefyll Gwylanod
Bydd hi'n bosibl prynu bagiau gwastraff gwydn sy'n gwrthsefyll gwylanod, am £6.20 yr un, yn y lleoliodau canlynol:
- Frame Sir Benfro, Pont Fadlen
- Frame Sir Benfro, London Road, Doc Penfro
- Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, Pafiliwn De Valence, Upper Frog Street
- Cyngor Dinas Tyddewi, Neuadd y Ddinas Tyddewi, Stryd fawr
- Depo Thornton, Aberdaugleddau
Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu
Gwybodaeth Gasglu Gwastraff (yn agor mewn tab newydd)
Chwilio am eich Diwrnod Biniau
Casgliadau Gwastraff Ardd
Tanysgrifiadau Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2024
O 01.06.2024 rydym yn atal unrhyw danysgrifiadau casglu gwastraff gardd newydd dros dro oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Gall deiliaid cartrefi waredu eu gwastraff gardd yn rhad ac am ddim o hyd yn unrhyw un o'r canolfannau ailgylchu gwastraff cartref.
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr aros, anfonwch e-bost at wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk
Rhwng 26 Chwefror ac 29 Tachwedd 2024, rydym yn cynnig casglu gwastraff gardd o gartrefi bob pythefnos.
Rhaid tanysgrifio i gael y gwasanaeth hwn a bydd yn costio £61.00 fesul bin. Os byddwch yn tanysgrifio cyn 1 Ebrill 2024, dim ond £56.00 fydd y gost fesul bin.
Mae'r gwasanaeth ar gael i gartrefi a busnesau. Os hoffai unrhyw fusnesau danysgrifio i'r gwasanaeth, yn unol â'n strwythur tariff gwastraff masnach newydd, y gost i gwsmeriaid gwastraff masnach presennol Cyngor Sir Penfro fydd £100.00 y bin. Ar gyfer unrhyw gwsmeriaid nad ydynt yn gwsmeriaid gwastraff masnach Cyngor Sir Penfro, neu gwsmeriaid presennol nad ydynt yn adnewyddu eu Cytundeb Gwastraff Masnach ar gyfer 2024/25, y gost fydd £100.00 y bin + £30.00 o dâl Dyletswydd Gofal blynyddol.
Os hoffech barhau i danysgrifio i'r gwasanaeth gwastraff gardd, cysylltwch â'n gwasanaeth gwastraff masnach ar tradewaste@pembrokeshire.gov.uk, neu fel arall, ffoniwch 01437 764551 lle bydd aelod o'r tîm gwastraff masnach yn gallu adnewyddu eich tanysgrifiad, cymryd taliad cerdyn dros y ffôn a rhoi nodyn trosglwyddo gwastraff rheoledig dilys i chi i gwmpasu eich casgliad gwastraff gardd.
Mae gyda ni’r hawl i benderfynu a allwn ni ddarparu’r gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd neu beidio.
I canslo eich tanysgrifiad gallwch canslo ar-lein.
Cwestiynau Cyffredin
A oes angen i mi wneud unrhyw beth os nad ydw i am adnewyddu fy tanysgrifiad eleni?
Oes, os nad ydych chi adnewyddu eich tanysgrifiad, rhowch wybod i ni fel y gallwn gasglu eich bin. Dydw i ddim eisiau adnewyddu fy aelodaeth.
Mae gyda fi wastraff o'r ardd i'w waredu ond nid wyf yn dymuno ymgofrestru yn y gwasanaeth casglu - beth allaf i ei wneud ag e?
Gallwch:
- Ddefnyddio bin Gwneud Compost Gartref
- Mynd â'ch gwastraff o'r ardd i'ch Canolfan Amwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf lle gallwch ei waredu am ddim a sicrhau y bydd e'n cael ei droi yn gompost.
Pa ddefnyddiau allaf i eu gwaredu trwy’r cynllun hwn?
Gallwch gael gwared â’r pethau hyn: torion cloddiau, coed a phrysglwyni, gwreiddiau, torion a chribion porfa, dail, planhigion, blodau a chwyn.
Beth sy’n digwydd i’r defnyddiau a gesglir?
Bydd y gwastraff o’r Ardd yn cael ei gludo i gyfleuster canolog gwneud compost lle bydd e’n cael ei drin a’i droi yn gompost i’w ddefnyddio ar y tir.
Ond mae bin gompost ’da fi. Felly oes rhaid imi gael gwared â hwnnw?
Na, ddim o gwbl. Compostio yw’r dull dewisach o gael gwared â gwastraff o’r ardd. Nid yw’n costio ceiniog ac mae e’n llawer mwy llesol i’r amgylchedd. Os oes bin compost ’da chi, yna daliwch ati i’w ddefnyddio.
Pam ydym ni’n gorfod talu amdano?
Gwastraff cartref yw gwastraff o’r ardd y gallwn ni godi tâl am ddod i’w mo’yn.
Mae pawb sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth yn talu amdano. Mae hyn yn fwy teg i’r trigolion eraill sydd heb ardd, sy’n dewis gwneud compost gartref, neu nad ydynt yn dymuno defnyddio’r gwasanaeth.
Pam ydym ni’n defnyddio biniau ar olwynion yn lle bagiau?
Mae bagiau’n tueddu i ripio ar ddim ac mae’n fwy anodd eu codi a’u cario, tra gallwch chi ddodi rhagor o wastraff o’r ardd mewn biniau ar olwynion. Ar ben hynny maent yn rhwyddach a diogelach i chi a’n gweithwyr gwastraff eu defnyddio
Os ydych chi’n rhoi biniau ar olwynion inni ar gyfer gwastraff o’r ardd, pam nad ydych yn rhoi inni finiau ar olwynion ar gyfer ein sbwriel cyffredinol?
Byddai’r costau gweithredu yn cynyddu gan fod tynnu gwastraff mas o finiau ar olwynion yn cymryd mwy o amser ac mae tuedd i ragor o wastraff gael ei gynhyrchu hefyd. Ar ben hynny byddai’r costau’n cynyddu gan fod biniau ar olwynion yn cael eu darparu a cherbydau’n cael eu haddasu.
Nid oes ’da fi fan gwag ar gyfer bin ar olwynion felly beth allaf i ei wneud?
Efallai y bydd yn bosibl rhoi 2 o finiau llai yn lle 1 bin mwy, cysylltwch â ni ar 01437 764551 i drafod hyn.
Efallai y gallech chi gydweithio â chymydog sydd â rhagor o fan gwag i ddodi’r bin ar olwynion ynddo. Trwy wneud hyn byddwch yn dal i elwa ar y gwasanaeth a byddwch hefyd yn arbed arian am eich bod yn rhannu’r gost.
Os na allwch wneud hyn mae croeso ichi ein ffonio ar 01437 764551 ac fe wnawn ni gynnal asesiad cynhwysydd a chynnig dewis arall ichi os oes rhaid
Ni allaf ddod i ben â bin ar olwynion, felly beth allaf ei wneud?
Byddwch cystal â’n ffonio ni ar 01437 764551 er mwyn inni gynnal asesiad cynhwysydd a chynnig dewis arall ichi os oes rhaid
A yw’r holl eiddo’n addas i dderbyn y gwasanaeth hwn?
Efallai na fydd rhai eiddo’n addas ar gyfer derbyn y gwasanaeth hwn gan fod y fynedfa’n gyfyng i’n cerbydau casglu. Mae gyda ni’r hawl i benderfynu a allwn ni ddarparu’r gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd neu beidio.
Allaf i ddefnyddio’r bin sydd gyda fi’n barod?
Na allwch; fe wyddom bod y biniau a gewch gennym ni yn rhai da iawn a’u bod yn ddigon solet i allu eu codi a’u gwagio yn ein cerbydau. Ni allwn beryglu diogelwch ein gweithwyr trwy ofyn iddynt wagio biniau eraill.
Fydda i’n cael bin newydd sbon?
Mae’r biniau a ddychwelir gan gwsmeriaid blaenorol wedi cael eu hailddefnyddio. Ni fydd cwsmeriaid newydd o reidrwydd yn derbyn bin newydd, efallai y bydd rhywfaint o ôl defnydd.
Am faint mae fy Nhanysgrifiad yn para?
Bydd yr holl danysgrifiadau yn drefniadau blynyddol a bydd y casgliadau’n digwydd o’r wythnos y bydd 1 Mawrth yn digwydd bod arni hyd at yr wythnos y bydd 30 Tachwedd yn digwydd bod arni, yn gynhwysol. Mae’n rhaid talu’r ffi lawn pryd bynnag yn y flwyddyn y byddwch chi’n tanysgrifio neu hyd yn oed os taw dim ond casgliad neu ddau y mae arnoch ei angen.
A allaf i gael mwy nag un bin?
Gallwch, cyhyd â’ch bod yn talu’r tâl blynyddol am y gwasanaeth casglu ar gyfer pob bin – yna gallwch chi gael faint fynnoch chi o finiau
Sut wyf i’n adnewyddu fy nhanysgrifiad?
Byddwn yn e-bostio neu’n ysgrifennu atoch cyn bod angen adnewyddu eich tanysgrifiad ond os bydd gyda chi unrhyw ymholiadau cofiwch ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 neu gallwch adnewyddu neu ddileu eich tanysgrifiad ar-lein trwy ‘Fy Nghyfrif ’ - eich Cyfrif Ar-lein gyda’r Cyngor a mynd at ‘Fy Ngwasanaethau’.
Beth sy’n digwydd os nad wyf yn talu am y flwyddyn wedyn, a bod fy nhanysgrifiad yn dod i ben?
Os nad ydym yn cael eich taliad, bydd y casgliadau’n dod i ben a byddwn yn dod i mo’yn y bin.
Os byddaf yn dileu fy nhanysgrifiad, a fyddaf yn gymwys i gael arian yn ôl?
Ni fyddwn yn gallu cynnig unrhyw ad-daliadau er os hoffech ganslo'r tanysgrifiad gallwch wneud hynny trwy Fy Nghyfrif neu ffonio'r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 a byddwn yn terfynu'r gwasanaeth ar unwaith..
Byddwn yn trefnu casglu eich bin gwastraff gardd.
Os na fyddaf yn adnewyddu fy thanysgrifiad, afyddaf yn cael cadw’r bin?
Na, bydd angen i chi roi gwybod i ni os nad ydych chi am adnewyddu eich tanysgrifiad (neu os ydych chi'n dymuno canslo) a byddwn yn trefnu i gasglu eich bin.
A oes unrhyw gonsesiynau ar gael?
Nac oes, nid oes unrhyw gonsesiynau ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Pryd fydd y gwasanaeth yn dechrau?
Bydd y gwasanaeth yn dechrau pan gaiff eich bin ei ddanfon ichi, a byddwn yn ceisio gwneud hynny ymhen 21 diwrnod ar ôl inni gael eich taliad. Fodd bynnag, efallai na allwn wneud hynny ar yr adegau prysur – fel dechrau’r flwyddyn danysgrifio newydd er enghraifft – gan y bydd galw mawr am y gwasanaeth.
Ni roddir ad-daliad os nad ydym yn cyflenwi o fewn 21 diwrnod.
Pa mor aml fydd y bin yn cael ei wagio?
Byddwn yn dod i mo’yn y gwastraff o’r ardd bob pythefnos, rhwng yr wythnos y bydd 1 Mawrth yn digwydd bod arni a’r wythnos y bydd 30 Tachwedd yn digwydd bod arni, yn gynhwysol.
Ar ba ddiwrnod fyddwch chi’n dod I mo’yn y gwastraff?
Byddwn yn rhoi gwybod ichi ar ba ddiwrnod y caiff ei gasglu, pan fyddwn yn danfon eich bin. Caiff casgliadau eu gwneud bob pythefnos. Gallwch hefyd gofnodi eich cod post neu enw eich stryd yn 'Gwasanaethau yn eich ardal' er mwyn cael gwybod ar ba ddiwrnod ac wythnos.
Wyddech chi y gallwch ddewis derbyn nodyn atgoffa trwy e-bost y diwrnod cyn eich casgliad?
Dewiswch dderbyn nodiadau atgoffa casgliadau trwy ‘Fy Nghyfrif’ - eich Cyfrif Ar-lein gyda’r Cyngor a mynd at ‘Fy Ngwasanaethau’.
Gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer hysbysiadau atgoffa.
Ble ddylwn i adael y bin er mwyn iddo gael ei wagio?
Dylech ddodi eich bin(iau) yn eich man casglu arferol wrth ymyl yr heol erbyn 6:30 y bore ar y diwrnod casglu
Faint o’r gloch fydd y gwastraff yn cael ei gasglu?
Amser eich casgliad fydd o 6.30yb ymlaen. Mae gennym ni’r hawl i newid yr amser rydym yn casglu o unrhyw bwynt, felly mae'n rhaid i finiau fod allan erbyn 6.30yb
Nid yw’r bin wedi cael ei wagio. Beth allaf i ei wneud nawr?
Cofiwch holi er mwyn cael gwybod a oedd eich bin i fod i gael ei wagio bryd hynny. Dylech sicrhau fod y pethau yr ydych wedi eu dodi yn y bin, wedi cael eu cynnwys ar ein rhestr o’r defnyddiau caniatedig ac nad ydych wedi gorlanw’r bin yn y fath fodd na ellir ei wagio. Dylech dynnu mas unrhyw ddifwynwyr ac/neu lacio’r cynnwys a dodi’r bin mas ar y diwrnod biniau nesaf ar gyfer eich ardal chi.
Os digwydd y dylai eich bin fod wedi cael ei wagio, nad oedd e wedi’i halogi, a’ch bod wedi ei ddodi mas cyn 6:30 y bore, yn y man cywir, yna cofiwch ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551.
Faint o wastraff o’r ardd allaf i ei ddodi yn y bin?
Er enghraifft, bydd y bin yn dal yr un faint â thua pum sach sbwriel arferol o’u llenwi tua ⅔ ac wedi’u clymu i’w casglu. Fodd bynnag, ni ddylech
ddefnyddio sachau yn y bin, mae’n rhaid i eitemau fod yn rhydd. Byddwch yn ofalus a pheidiwch â gorlwytho’r bin. Pan fyddwn ni’n gwagio eich bin ar olwynion byddwn yn ei ddodi ar declyn codi biniau sy’n ysgwyd y bin er mwyn llacio’r gwastraff a’i ddodi yn y lori sbwriel. Os yw’r gwastraff o’r ardd wedi cael ei gywasgu yn y bin bydd rhaid inni ei ysgwyd yn rhy egnïol, a gall hynny wneud difrod i’r bin.
Dylech ond dodi yn eich bin y pethau hynny sydd ar y rhestr swyddogol. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â’i ddodi i mewn ac ewch ati i ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 er mwyn cael gair o gyngor.
Os oes gwastraff ychwanegol ’da fi, a gaf i ei ddodi wrth ochr y bin?
Na chewch. Byddwn ond yn dod i mo’yn y gwastraff sydd yn y bin.
Ar hyn o bryd rwyf yn cael casgliad â chymorth ar gyfer fy sbwriel a’m nwyddau ailgylchadwy. A allaf i gael cymorth os byddaf yn tanysgrifio i’r cynllun gwastraff o’r ardd?
Gallwch, cyhyd â’i bod hi’n ymarferol inni wneud hynny. Fe wnawn roi drefniadau gyda chi er mwyn i weithiwr ddod i mo’yn o’ch eiddo, y bin ar olwynion ar gyfer gwastraff o’r ardd.
Mae’r bin yn frwnt iawn. A fydd y Cyngor yn ei lanhau?
Eich cyfrifoldeb chi yw glanhau’r bin.
Beth allaf i ei wneud ynghylch y gwastraff o’r ardd rhwng mis Rhagfyr a Chwefror?
Gallwch droi gwastraff o’r ardd yn gompost cartref neu gallwch fynd ag ef i un o’n canolfannau mwynder dinesig ac ailgylchu.
Pam nad oes unrhyw gasgliadau rhwng mis Rhagfyr a Chwefror?
Er mwyn cynnal gwasanaeth cost-effeithiol rydym wedi penderfynu peidio â darparu’r gwasanaeth yn ystod misoedd y gaeaf pan nad oes fawr ddim gwastraff o’r ardd yn cael ei gynhyrchu.
Mae gyda fi fusnes. Allaf i ymuno â’r cynllun?
Ydy, mae'r gwasanaeth bellach ar gael i fusnesau. Cysylltwch â'n Tîm Gwastraff Masnach yn tradewaste@pembrokeshire.gov.uk neu fel arall, ffoniwch 01437 775149.
Beth sy’n digwydd os wyf i’n symud tŷ?
Os byddwch chi’n symud i dŷ arall yn Sir Benfro efallai y byddwch yn dymuno mynd â’ch bin gyda chi i’ch cartref newydd. Dylech ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn yr ydych i fod i symud, er mwyn inni allu sicrhau bod eich bin yn cael ei wagio wrth eich cartref newydd.
Os byddwch yn symud y tu hwnt i’r Sir yna eiddo Cyngor Sir Penfro yw’r bin o hyd. Byddwch cystal â ffonio’r Ganolfan Gyswllt er mwyn gwneud trefniadau inni ddod i’w mo’yn.
Beth sy’n digwydd os bydd y bin yn mynd ar goll?
Os byddwch chi’n credu bod eich bin ar goll neu wedi cael ei ddwgyd dylech gael gair â’ch cymdogion a’r bobl eraill yn eich ardal leol er mwyn gweld a gafodd y bin ei ddodi yn y man anghywir. Os yw e’n dal i fod ar goll, byddwch cystal â ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar unwaith ar 01437 764551 er mwyn rhoi gwybod am hynny.
Sylwer: efallai y bydd rhaid ichi dalu am gael bin newydd os na ellir dod o hyd i’r bin gwreiddiol.
Ni wn, i sicrwydd, beth y gallaf ei ddodi yn y bin gwastraff o’r ardd. Beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch fwrw golwg ar y daflen wybodaeth a roddir ichi pan oedd eich bin yn cael ei ddanfon neu gallwch weld y rhestr sydd wedi’i dodi ar y bin. Mae rhestr hefyd ar gael ar ein gwefan gwastraff gardd. Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr peidiwch a’i ddodi e yn y bin hyd nes byddwch chi wedi ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 er mwyn cael gwybod yn iawn
Hoffech chi gofrestru?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau talu ar eich cyfer.
- Gallwch danysgrifio ar-lein drwy ‘Fy Nghyfrif’ - Eich Cyfrif Cyngor Ar-lein ac ewch i ‘Fy Ngwasanaethau’
- Neu gallwch lenwi ffurflen debyd uniongyrchol i wneud taliad blynyddol. Gellir lawrlwytho ffurflenni ar-lein neu drwy ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551
Neu:
Gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551 lle gallwch dalu gyda cherdyn dros y ffôn.
Unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu, byddwn yn ceisio danfon eich bin ichi o fewn 21 diwrnod yn ogystal â’ch calendr casgliadau.
Telerau ac amodau
Rhowch amser os gwelwch yn dda i ddarllen y telerau ac amodau hyn oherwydd eu bod yn rhan o’n Cytundeb ni gyda chi.
- Bydd y casgliadau’n digwydd bob pythefnos rhwng yr wythnos y bydd Mawrth 1af a’r wythnos y bydd Tachwedd 30ain yn digwydd bod arnynt (gan gynnwys Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus).
- Mae'r gwasanaeth ar gael i gartrefi a busnesau Cyngor Sir Penfro. Gall cymdogion rannu bin ond i un cyfeiriad yn unig y mae’r bin wedi ei gofrestru ac o’r cyfeiriad hwnnw mae’n cael ei gasglu. Mae’n rhaid talu am y gwasanaeth bob blwyddyn o flaen llaw ac nid oes modd cael ad-daliad mewn unrhyw amgylchiadau.
- Eiddo Cyngor Sir Penfro o hyd yw’r bin(iau) gwastraff o’r ardd a dim ond ar gyfer gwastraff o’r ardd y dylid eu defnyddio. Rhaid ichi beidio â’u hagru nag arysgrifennu arnynt mewn unrhyw ffordd. Rhaid ichi roi gwybod, ar unwaith, am fin(iau) a ddifrodwyd neu a gafodd eu dwgyd, ac efallai y codir tâl arnoch am ei gyweirio’r bin neu am roi un newydd ichi.
- Dylai bin(iau) gael eu storio ar eiddo perchennog y tŷ a’i adael ar ddiwrnod y casgliad mewn man hygyrch, dirwystr yn eich man casglu arferol wrth y palmant, a’i ddychwelyd i’r eiddo cyn gynted ag sy’n bosib ar ôl casglu. Rydym yn cadw’r hawl i newid yr amseroedd casglu gwastraff ac felly dylech wastad ddodi’r bin(iau) mas erbyn 6.30 y bore.
- Does dim modd trosglwyddo’r gwasanaeth o’r naill breswyliwr i’r llall. Wrth newid cyfeiriad, bydd y gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo i’r cyfeiriad newydd os yw yn Sir Benfro. Os yw’ symud mas o’r Sir, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Cyngor a dodi’r bin(iau) mas i’w gymryd.
- Fydd biniau ddim yn cael eu gwagio os ydyn nhw’n rhy drwm i’w trin a’u trafod yn ddiogel neu’n anniogel i’r peiriant codi. Mae’n rhaid i ddeiliad y tŷ gael gwared â’r pwysau gormodol a dodi’r bin mas eto ar gyfer y casgliad nesaf sydd wedi’i drefnu.
- Dim ond pethau gyda chaniatâd y mae modd cael gwared â nhw ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn rhydd yn y bin(iau) ac nid mewn bagiau. Fydd bin(iau) gwastraff gerddi wedi eu heintio â phethau heb ganiatâd ddim yn cael eu casglu hyd nes bydd y pethau hynny wedi eu tynnu mas a’r bin wedi ei ddodi mas ar gyfer y casgliad nesaf sydd wedi ei drefnu.
- Os bydd y bin(iau) wedi eu heintio’n rheolaidd bydd rhagor o gyngor yn cael ei roi. Os bydd yr heintio yn parhau, bydd y bin(iau) yn cael eu cymryd a bydd y casgliadau yn dod i ben.
- Mae’n rhaid i bob gwastraff o’r ardd fod yn y bin(iau) sydd wedi eu darparu. Fydd gwastraff sydd ddim mewn bin(iau) gwastraff gardd Cyngor Sir Penfro ddim yn cael ei gasglu.
- Efallai na fydd eiddo anodd mynd atyn nhw yn addas i dderbyn y gwasanaeth hwn. Byddwn yn asesu eich eiddo ac os nad yw’n addas byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddewisiadau eraill sydd ar gael.
- Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am anafiadau trwy ddefnyddio’r bin yn anghywir.
- Mae gwasanaeth casglu gyda chymorth i’w gael i’r preswylwyr hynny sy’n gymwys i gael casgliad gwastraff ac ailgylchu gyda chymorth, os yw gwneud hynny’n ymarferol.
- Efallai y bydd rhaid inni gael mynediad i’ch eiddo er mwyn mynd â bin(iau) bant os na fyddwn wedi derbyn taliad.
- Anelwn i yrru biniau newydd o fewn 21 diwrnod, ond gall hyn fod yn amhosib yn ystod cyfnodau prysur. Gall adnewyddu’r gwasanaeth gymryd 3 diwrnod gwaith i'w brosesu, ac ni fydd casgliadau’n cychwyn tan fydd y broses wedi’i chwblhau. Ni roddir ad-daliad os nad ydym yn cyflenwi o fewn 21 diwrnod.
- Mae’r biniau a ddychwelir gan gwsmeriaid blaenorol wedi cael eu hailddefnyddio. Ni fydd cwsmeriaid newydd o reidrwydd yn derbyn bin newydd, efallai y bydd rhywfaint o ôl defnydd.
Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Bwyd
Troi gwastraff bwyd yn bŵer yng Nghymru
Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o wastraff bwyd wedi'i ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a chymunedau Cymru. Eithaf pwerus, on’d yw e’? Am ffeithiau, straeon ac awgrymiadau pwerus ewch i Cymru yn Ailgylchu (yn agor mewn tab newydd).
Pum rheswm dros ailgylchu eich gwastraff bwyd
1) Mae'n hawdd
2) Mae'n atal arogleuon bwyd
3) Mae’r blychau’n cloi i atal plâu rhag mynd i mewn iddynt
4) Caiff ei gasglu unwaith yr wythnos
5) Caiff ei droi’n drydan
Awgrymiadau i'ch helpu i ailgylchu eich holl wastraff bwyd
Gall ailgylchu gwastraff bwyd gadw Cymru'n lân a gwyrdd. Ond mae'r broses yn dechrau yn eich cegin, pan fyddwch chi'n ailgylchu bwyd yn iawn.
- Defnyddiwch leinin cadi i gadw'ch gwastraff bwyd rhag gollwng. Gallwch ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy adael nodyn ar ben eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd ar ddiwrnod bin.
- Gwagiwch eich cadi llwyd gwastraff bwyd y tu mewn i'ch cadi gwastraff bwyd gwyrdd y tu allan yn rheolaidd i'w atal rhag mynd yn rhy llawn a thorri neu arllwys.
- Cadwch gaead arno i atal pryfed rhag mynd i mewn, ac atal arogleuon rhag dod allan. Peidiwch ag anghofio cau'r caead y gellir ei gloi ar eich cadi awyr agored, i atal plâu a diogelu rhag tywydd gwyntog.
- Cadwch eich cadi yn ffres ac yn lân trwy ei rinsio, glanhau a'i sychu.
Canllawiau: beth i'w roi yn eich cadi gwastraff bwyd
Os gwelwch yn dda
- Yr holl fwyd sydd heb ei fwyta gan gynnwys bwyd sydd ar ôl ar y plât
- Bagiau te a briwsion coffi
- Bwyd heibio’i ddyddiad terfyn neu fwyd â llwydni
- Cig amrwd ac wedi’i goginio, gan gynnwys esgyrn
- Pysgod amrwd ac wedi'u coginio, gan gynnwys esgyrn
- Cynnyrch llaeth fel caws
- Wyau a phlisgyn wy
- Reis, pasta, ffa
- Nwyddau wedi'u pobi fel bara, cacennau a theisennau
- Ffrwythau a llysiau gan gynnwys llysiau amrwd wedi'u coginio a’u crwyn sydd wedi’u plicio
- Bwyd cathod a chŵn gwastraff o eiddo domestig. Bydd unrhyw beth o safle masnachol yn cael ei gytuno fesul achos.
Cofiwch - Os ydych chi eisoes yn compostio yn eich cartref gallwch barhau i gompostio eich croen llysiau a ffrwythau heb eu coginio yn eich bin neu domen.
Dim diolch
- Deunydd pecynnu o unrhyw fath (cofiwch ailgylchu'r hyn y gallwch mewn bagiau ailgylchu eraill)
- Bagiau plastig
- Hylifau - gall y rhain lifo, gan achosi gollyngiadau wrth gludo'r gwastraff bwyd
- Olew neu fraster hylif (gallwch ailgylchu olew coginio yn eich canolfan gwastraff ac ailgylchu lleol)
Sut galla’ i ailgylchu fy ngwastraff bwyd?
Er mwyn ailgylchu eich gwastraff bwyd, yr oll bydd arnoch angen yw:
- Bin mawr gwyrdd 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd
- Cadi arian 5 litr ar gyfer gwastraff bwyd addy
- Cyflenwad blwyddyn o fagiau ar gyfer leinio'r cadi.
Cam 1
Mynnwch yr offer cywir - bydd arnoch angen cadi cegin, bagiau cadi a blwch ymyl y palmant.
Cam 2
Rhowch y bag yn eich Cadi Cegin.
Cam 3
Rhowch unrhyw wastraff bwyd yn y cadi, gan ofalu eich bod chi’n gwaredu unrhyw ddeunydd pacio.
Cam 4
Pan fo’ch cadi cegin yn llawn, dylech roi’r gwastraff yn y blwch ymyl y palmant, a’i roi allan i’w gasglu bob wythnos er mwyn ei ailgylchu.
Os oes angen bagiau neu flychau newydd arnoch, gallwch eu casglu o nifer o leoliadau o amgylch y sir neu wneud cais.
Casglu Gwydr Wrth Ymyl y Ffordd
Beth ALLAF I ei ddodi yn y blwch?
Poteli a jariau gwydr gwag o bob lliw, math a maint. Nid oes rhaid ichi dynnu bant y labeli, caeadau, na cyrcs ac ati oddi ar boteli.
Beth NA ALLAF I ei ddodi yn y blwch?
Unrhyw fath o wydr nad yw'n botel na jar chwaith e.e. cynwysyddion peirecs, gwydrau yfed, sbectols, gwydr ffenestri, ornaments gwydr, briwfyrddau gwydr, na bylbiau goleuni.
Pam nad ydych chi'n derbyn y pethau hyn?
Mae'r nwyddau hyn yn toddi ar wahanol dymereddau â photeli a jariau gwydr. Pe byddent yn cael eu cymysgu a'u casglu, byddent yn halogi'r broses ailgylchu gwydr. O ganlyniad byddai'r llwyth yn ddiwerth ac ni fyddem yn gallu ei ailgylchu.
Sut allaf i waredu'r pethau hyn, na allaf eu dodi yn y blwch, heb iddynt orfod cael eu hanfon i safle tirlenwi?
Gallwch fynd â hwy i'ch Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf er mwyn iddynt gael eu dodi mewn cynwysyddion arbennig. Fel arall, gallwch roi'r rhan fwyaf o'r nwyddau hyn i'ch siop elusen leol cyhyd â'u bod mewn cyflwr da ac mae'r rhan fwyaf o optegwyr yn fodlon derbyn sbectols.
Ble allaf i gadw fy mlwch?
Rhag ofn y byddwch chi'n cadw'r blwch yn y tŷ, mae'r tyllau gwagio ynddo yn uwch nag arfer, er mwyn i hylifau aros yn y blwch a sicrhau na fydd lloriau'n cael eu baeddu. Bwriad y tyllau yw gadael i'r dŵr glaw lifo bant mewn modd dan reolaeth.
Dim ond y pethau hynny sydd ar y rhestr y dylech eu dodi yn y blwch er mwyn inni eu casglu. Diolch yn fawr. Os bydd y pethau anghywir yn cael eu casglu a'u cymysgu yn y llwyth yna ni ellir ei ailgylchu. Bydd unrhyw bethau nad ydynt yn addas i'w casglu wrth ymyl y ffordd, yn cael eu gadael yn y blwch er mwyn ichi eu didoli a'u gwaredu'n gywir.
Beth fydd yn digwydd i'r gwydr sy'n cael ei gasglu?
Bydd y gwydr yn cael ei gludo i Abertawe er mwyn defnyddio system cylch caeedig i'w ailgylchu. Mae ailgylchu trwy system cylch caeedig yn golygu y bydd y gwydr yn cael ei ailgylchu er mwyn ei droi'n boteli a jariau gwydr unwaith eto, sef y ffordd fwyaf cynaliadwy o wneud hynny.
Awgrymiadau ardderchog ar gyfer ailgylchu eich gwydr
- Defnyddiwch eich bocs ailgylchu gwydr bob wythnos. Os byddwch chi'n gorlanw'ch blwch, bydd e'n drymach a mwy anodd i'w godi a'i gario.
- Cofiwch wagio a strilo'r poteli a'r jariau er mwyn cael gwared ag unrhyw waelodion.
- Dodwch y poteli a'r jariau yn rhydd y tu mewn i'r blwch.
- Peidiwch â llanw eich blwch ailgylchu gwydr yn uwch na'r ymyl. Os bydd y blwch yn cael ei orlanw bydd mwy o berygl i bethau dorri ac anafiadau.
- Does dim rhaid ichi dynnu bant unrhyw labeli, caeadau na chyrcs ac ati oddi ar boteli.
- Does dim rhaid ichi chwaith ddidoli eich gwydr yn ôl ei liw.
Rydym wrthi'n ystyried beth yw'r ffordd orau o fynd i mo'yn gwydr o flociau mawr o fflatiau ac o gartrefi/tai sydd heb unrhyw gwrbyn y gallwn ni fynd ato.
Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551, neu anfon e-bost at wastemanagement@pembrokeshire.gov.uk
Ni ddylem wastraffu dim byd yn Sir Benfro!