Casglu Gwastraff
Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Bwyd
Troi gwastraff bwyd yn bŵer yng Nghymru
Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o wastraff bwyd wedi'i ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a chymunedau Cymru. Eithaf pwerus, on’d yw e’? Am ffeithiau, straeon ac awgrymiadau pwerus ewch i Cymru yn Ailgylchu (yn agor mewn tab newydd).
Pum rheswm dros ailgylchu eich gwastraff bwyd
1) Mae'n hawdd
2) Mae'n atal arogleuon bwyd
3) Mae’r blychau’n cloi i atal plâu rhag mynd i mewn iddynt
4) Caiff ei gasglu unwaith yr wythnos
5) Caiff ei droi’n drydan
Awgrymiadau i'ch helpu i ailgylchu eich holl wastraff bwyd
Gall ailgylchu gwastraff bwyd gadw Cymru'n lân a gwyrdd. Ond mae'r broses yn dechrau yn eich cegin, pan fyddwch chi'n ailgylchu bwyd yn iawn.
- Defnyddiwch leinin cadi i gadw'ch gwastraff bwyd rhag gollwng. Gallwch ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy adael nodyn ar ben eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd ar ddiwrnod bin.
- Gwagiwch eich cadi llwyd gwastraff bwyd y tu mewn i'ch cadi gwastraff bwyd gwyrdd y tu allan yn rheolaidd i'w atal rhag mynd yn rhy llawn a thorri neu arllwys.
- Cadwch gaead arno i atal pryfed rhag mynd i mewn, ac atal arogleuon rhag dod allan. Peidiwch ag anghofio cau'r caead y gellir ei gloi ar eich cadi awyr agored, i atal plâu a diogelu rhag tywydd gwyntog.
- Cadwch eich cadi yn ffres ac yn lân trwy ei rinsio, glanhau a'i sychu.
Canllawiau: beth i'w roi yn eich cadi gwastraff bwyd
Os gwelwch yn dda
- Yr holl fwyd sydd heb ei fwyta gan gynnwys bwyd sydd ar ôl ar y plât
- Bagiau te a briwsion coffi
- Bwyd heibio’i ddyddiad terfyn neu fwyd â llwydni
- Cig amrwd ac wedi’i goginio, gan gynnwys esgyrn
- Pysgod amrwd ac wedi'u coginio, gan gynnwys esgyrn
- Cynnyrch llaeth fel caws
- Wyau a phlisgyn wy
- Reis, pasta, ffa
- Nwyddau wedi'u pobi fel bara, cacennau a theisennau
- Ffrwythau a llysiau gan gynnwys llysiau amrwd wedi'u coginio a’u crwyn sydd wedi’u plicio
- Bwyd cathod a chŵn gwastraff o eiddo domestig. Bydd unrhyw beth o safle masnachol yn cael ei gytuno fesul achos.
Cofiwch - Os ydych chi eisoes yn compostio yn eich cartref gallwch barhau i gompostio eich croen llysiau a ffrwythau heb eu coginio yn eich bin neu domen.
Dim diolch
- Deunydd pecynnu o unrhyw fath (cofiwch ailgylchu'r hyn y gallwch mewn bagiau ailgylchu eraill)
- Bagiau plastig
- Hylifau - gall y rhain lifo, gan achosi gollyngiadau wrth gludo'r gwastraff bwyd
- Olew neu fraster hylif (gallwch ailgylchu olew coginio yn eich canolfan gwastraff ac ailgylchu lleol)
Sut galla’ i ailgylchu fy ngwastraff bwyd?
Er mwyn ailgylchu eich gwastraff bwyd, yr oll bydd arnoch angen yw:
- Bin mawr gwyrdd 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd
- Cadi arian 5 litr ar gyfer gwastraff bwyd addy
- Cyflenwad blwyddyn o fagiau ar gyfer leinio'r cadi.
Cam 1
Mynnwch yr offer cywir - bydd arnoch angen cadi cegin, bagiau cadi a blwch ymyl y palmant.
Cam 2
Rhowch y bag yn eich Cadi Cegin.
Cam 3
Rhowch unrhyw wastraff bwyd yn y cadi, gan ofalu eich bod chi’n gwaredu unrhyw ddeunydd pacio.
Cam 4
Pan fo’ch cadi cegin yn llawn, dylech roi’r gwastraff yn y blwch ymyl y palmant, a’i roi allan i’w gasglu bob wythnos er mwyn ei ailgylchu.
Os oes angen bagiau neu flychau newydd arnoch, gallwch eu casglu o nifer o leoliadau o amgylch y sir neu wneud cais.