Casglu Gwastraff
Casgliadau ar ymyl y ffordd: gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu
Bydd gwastraff gweddilliol yn y cartref – hynny yw, sbwriel na ellir ei ailgylchu na'i gompostio bellach yn cael ei gasglu mewn bagiau du, neu'r bagiau llwyd a ddarparwyd gennym yn flaenorol (neu gyfuniad o'r ddau).
Nid ydym bellach yn cyflenwi bagiau llwyd i breswylwyr, felly unwaith y bydd eich cyflenwad presennol wedi'i ddefnyddio bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun.
Gallwch roi hyd at 3 bag o wastraff gweddilliol allan bob 3 wythnos, felly mae'n bwysig ailgylchu.
Er mwyn sicrhau bod eich bagiau yn cael eu casglu:
- Cofrestrwch ar gyfer nodiadau atgoffa casglu (yn agor mewn tab newydd), fel eich bod chi'n gwybod pryd i roi eich gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i’w gasglu.
- Rhowch eich bagiau allan erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu, ond nid yn rhy gynnar a gorchuddiwch eich bagiau i atal adar ac anifeiliaid rhag eu dinistro.
- Dylech ddim ond rhoi hyd at 3 bag a defnyddio bagiau du maint safonol yn unig (hyd at 60 litr)
- Gwnewch yn siŵr nad ydynt yn rhy drwm – mae terfyn pwysau o 15kg er diogelwch ein criwiau
Os gwelwch yn dda:
- Peidiwch byth â rhoi gwrthrychau miniog yn eich bagiau, gallant anafu ein criw.
- Peidiwch â rhoi batris, e-sigaréts na WEEE bychan mewn bagiau du, gan eu bod yn risg tân posibl. Gellir ailgylchu batris domestig safonol trwy eu rhoi mewn bag plastig clir ar wahân gyda'ch cynwysyddion ailgylchu. Gellir ailgylchu batris eraill, e-sigaréts a WEEE bychan yn ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
- Peidiwch â rhoi gwastraff gardd mewn bagiau du, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.
- Peidiwch â rhoi gwastraff clinigol mewn bagiau du, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.
Cwestiynau Cyffredin
1. Beth yw'r cyfyngiadau ar wastraff gweddilliol?
Gall aelwydydd roi uchafswm o dri bag llwyd / du gweddilliol allan bob tair wythnos. Nid ydym bellach yn cyflenwi bagiau llwyd i gartrefi, felly unwaith y bydd eich cyflenwad presennol wedi'i ddefnyddio bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun - bagiau 60 litr safonol ac mae gan bob bag derfyn pwysau o 15kg ar gyfer diogelwch ein criwiau.
Cyflwynwyd y bagiau llwyd i gefnogi'r newid yn y gwasanaeth yn 2019 ac rydym bellach yn dychwelyd i fagiau sbwriel safonol a ddarperir gan aelwydydd. Os oes gan unrhyw gartrefi fagiau llwyd heb eu defnyddio bydd y rhain yn parhau i gael eu derbyn wrth ymyl y ffordd.
2. Mae gen i deulu mawr, er ein bod yn ailgylchu mae gennym fwy na 3 bag o hyd. Sut ydw i'n gwneud cais ar gyfer bagiau ychwanegol?
Gall aelwydydd mwy o 6 neu fwy o bobl wneud cais am lwfans ychwanegol ar gyfer sbwriel na ellir ei ailgylchu. Os oes gennych wastraff cewynnau, gwnewch gais am y gwasanaeth casglu ar wahân hwnnw yn gyntaf. Darganfyddwch fwy Telerau ac Amodau Lwfans Tai Mwy.
3. A allaf ddefnyddio bin olwyn yn hytrach na bag?
Dim ond gwastraff mewn bag gweddilliol du neu lwyd fydd yn cael ei gasglu. Os yw aelwydydd yn dymuno rhoi eu bagiau mewn cynhwysydd i'w gasglu wrth ymyl y ffordd bydd hyn yn cael ei dderbyn. Byddem yn gofyn i'r cynwysyddion beidio â bod yn fwy na 240 litr er mwyn galluogi'r gweithwyr i wagio'r cynhwysydd â llaw.
4. A fyddaf yn gallu rhoi mwy o fagiau allan yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd?
Byddwch. Rydym yn gwybod y bydd cyfuniad o anrhegion Nadolig, ymwelwyr a newidiadau yn y diwrnodau casglu yn golygu bagiau gweddilliol llawnach yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn caniatáu i eiddo gyflwyno un bag ychwanegol (du/llwyd) wrth ymyl y ffordd yn ystod casgliad y Nadolig, gellir dod o hyd i ddyddiad y casgliad hwn ar eich calendr.
Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig ailgylchu cymaint â phosibl, gan gynnwys papur lapio (profwch os gellir ei ailgylchu drwy wirio nad yw'n dad-blygu eto os ydych chi'n ei wasgu yn eich llaw)– ni all hefyd gynnwys glitter neu ffoil) a gwastraff bwyd fel esgyrn twrci a phlicio llysiau.
5. Mae gen i blant sydd mewn clytiau / rwy'n defnyddio cynhyrchion anymataliaeth lle dylwn i roi’r rhain?
Rydym yn darparu casgliad rhad ac am ddim ar wahân ar gyfer cewynnau / cynhyrchion hylendid amsugnol, gallwch gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth casglu AHP i gasglu'r deunyddiau hyn ar wahân i'ch gwastraff a'ch ailgylchu eraill bob pythefnos.
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael calendr casglu yn ogystal â 2 rôl o fagiau porffor. Nid oes cyfyngiad ar faint o'r bagiau hyn y gallwch eu rhoi allan bob pythefnos, ond mae gan bob bag derfyn pwysau o 15kg ar gyfer diogelwch ein criwiau.
6. Dydw i ddim yn gwybod beth y gallaf ei ailgylchu a beth na allaf ei ailgylchu
Gallwch ddefnyddio ein Cyfeiriadur Chwilio Gwastraff ac Ailgylchu i ddarganfod beth y gellir ei roi ym mhob cynhwysydd neu i chwilio am eitem benodol i ddarganfod pa un y mae'n mynd i mewn iddo.
7. Nid oes gennyf y cynwysyddion, y bagiau na'r blychau i ganiatáu i mi ailgylchu, lle gallaf eu cael?
Gallwch gasglu bagiau a bocsys newydd o nifer o leoliadau ar draws y sir neu'r rhai nad ydynt yn gallu mynd i’r lleoliadau hyn bydd modd gwneud cais i'w danfon ar-lein.
Gallwch ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy roi nodyn ar eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd ar y diwrnod casglu.
8. Os na allaf roi fy ngwastraff gardd yn y bagiau llwyd / du, beth ddylwn i ei wneud ag ef?
- Compostio gartref
- Ewch â'ch gwastraff gardd yn rhad ac am ddim i un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylc
- Tanysgrifiwch i'n Gwasanaeth casglu gwastraff gardd
9. Beth ddylwn i ei wneud gyda gwastraff fy anifeiliaid anwes?
Gall unrhyw fwyd gwastraff anifeiliaid anwes fynd yn eich cadi bwyd.
Os ydych yn casglu gwastraff cŵn wrth fynd a’ch ci am dro, gellir ei daflu mewn biniau sbwriel ar y stryd.
Os oes ‘litter’ cathod, baw cŵn neu anifeiliaid anwes gennych gartref, gellir ei roi yn eich bag gweddilliol (llwyd / du) i'w waredu wrth ymyl y palmant ond bydd yn rhan o'ch dyraniad tri bag fesul casgliad pob tair wythnos. Os ydych yn agos at y terfyn neu os byddai'n well gennych gael gwared ar y gwastraff hwn yn amlach, gellir ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. Os ydych chi'n rhoi baw anifeiliaid anwes yn eich bag du, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i lapio a'i gymysgu â gwastraff arall.
Mae'r opsiynau ar gyfer dulliau gwaredu amgen yn cynnwys defnyddio treulwyr a mwydod gwastraff anifeiliaid anwes.
10. Mae gennym dân glo neu stôf felly rydym yn cynhyrchu llawer iawn o ludw, beth ddylwn ni ei wneud ag ef?
Os mai tân neu stôf lo yw eich prif ffynhonnell gwresogi, gellir gosod y lludw mewn bagiau du a ddarperir gennych chi pan fydd y lludw wedi oeri, dylid marcio'r bag yn glir "LLUDW GLO" a dylai gynnwys dim ond lludw neu bydd yn cael ei adael, uchafswm pwysau'r bag hwn yw 15kg. Bydd hyn yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â'ch gwastraff gweddilliol arferol na ellir ei ailgylchu.
Cysylltwch â'r Cyngor ar enquiries@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551 i wneud y Cyngor yn ymwybodol y byddwch yn rhoi Gwastraff Lludw Glo allan ochr yn ochr â'ch bagiau gwastraff gweddilliol na ellir eu hailgylchu.
Dylid rhoi pob lludw arall (hy pren) yn y bagiau gwastraff gweddilliol du / llwyd ar ôl iddo oeri. Mae gan y bagiau uchafswm pwysau o 15kg.
11. Sut ydw i'n darganfod pa ddiwrnod y bydd fy magiau llwyd / du yn cael eu casglu?
Cofrestrwch ar gyfer nodiadau atgoffa casglu (yn agor mewn tab newydd), cyfeiriwch at eich Calendr Gwastraff ac Ailgylchu neu Gwiriwch eich diwrnod bin, fel eich bod chi'n gwybod pryd i roi eich gwastraff na ellir ei ailgylchu allan.
12. Mae gen i fagiau llwyd ar ôl, beth ddylwn i ei wneud gyda nhw?
Dylech barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau llwyd presennol fel arfer ac yna defnyddio bagiau bin du safonol (60litr) ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu wrth symud ymlaen.
Bydd y stoc sy'n weddill o fagiau llwyd ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gael i'w gasglu gan gartrefi o leoliadau ledled Sir Benfro o heddiw (dydd Mercher, 20 Medi).
Bydd bagiau llwyd – un rholyn i bob cartref – ar gael o Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu (fel rhan o apwyntiad Canolfan Wastraff ac Ailgylchu sydd wedi'i archebu ymlaen llaw), Canolfannau Hamdden, Derbynfa Adain y Gogledd yn Neuadd y Sir a Thornton.
Mae'r casgliadau hyn ar gael tra bo'r stociau'n para.
13. Pa faint bag du ddylwn i eu defnyddio?
Gallwch ddefnyddio bagiau du sydd hyd at 60 litr a gwnewch yn siŵr nad yw'r bagiau yn rhy drwm – ni ddylent bwyso mwy na 15kg yr un pan fyddwch yn eu rhoi allan. Bydd 3 bag yn cael eu casglu fesul casgliad tair wythnos.
14. Beth am fflatiau neu ardaloedd sydd â chasgliadau gwastraff cymunedol?
Mae'n rhaid i bob cartref gydymffurfio â'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol sy'n cyfateb i 1 bag gwastraff gweddilliol yr wythnos, a dylent weithio gyda fflatiau ac ystadau i gael gwared ar gasgliadau gwastraff cymunedol ledled y Sir lle bo hynny'n bosibl.
15. Sut i leihau'r risg y bydd fy magiau gweddilliol nad oes modd eu hailgylchu yn drewi?
Bydd defnyddio eich cadi gwastraff bwyd y gellir ei gloi ar gyfer unrhyw wastraff bwyd a'i osod allan i'w gasglu bob wythnos yn helpu i osgoi arogleuon.
Os oes unrhyw un yn eich cartref yn defnyddio cewynnau neu gynhyrchion anymataliaeth eraill, gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) bob pythefnos AM DDIM.
Gall defnyddio dau fag ar gyfer gwastraff anifeiliaid a'i roi yn y bag gweddilliol leihau'r risg o arogleuon hefyd.
16. Sut ydych chi'n mynd i orfodi pobl sy’n rhoi mwy na thri bag gweddilliol allan?
Mae dyletswydd ar bawb i ofalu am y gwastraff maent yn ei gynhyrchu a dilyn y rheoliadau a osodwyd ar gyfer eu heiddo. Rydym yn deall y bydd gan rai cwestiynau neu bod angen cymorth pellach arnynt. Bydd ein cynghorwyr gwastraff yn ymweld ag unrhyw drigolion sy'n diystyru'r polisi tri bag a lle bo'n briodol, bydd cosbau penodedig yn cael eu defnyddio.
17. Pam ydych chi'n torri ein gwasanaethau ac yn gwneud i ni dalu am ein bagiau bin ein hunain yn ystod argyfwng costau byw?
Nid ydym yn torri gwasanaethau ond yn dychwelyd i'r system flaenorol o gartrefi yn darparu bagiau gweddilliol, sy'n cael ei gweithredu gan nifer o awdurdodau yng Nghymru, gan gynnwys Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, darparwyd bagiau llwyd y PCC i gefnogi Newid y Gwasanaeth Gwastraff yn 2019.
Rydym yn parhau i gasglu mwy o ffrydiau gwastraff ac ailgylchu ar wahân nag erioed, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn i gyd wedi golygu ein bod yn un o'r awdurdodau gorau am ailgylchu yn y DU.
Fodd bynnag, mae dadansoddiad diweddar o Wastraff Gweddilliol yn Sir Benfro wedi canfod y gallai 48% o'r gwastraff bag gweddilliol gael ei ailgylchu drwy ein cynlluniau ailgylchu wrth ymyl y ffordd a'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, felly fe allwn ni wneud mwy.
18. Rydw i'n mynd i fod i ffwrdd ar gyfer fy nghasgliad, a fyddaf yn cael rhoi 6 bag llwyd / du allan ar fy nghasgliad nesaf?
Dim ond 3 o fagiau llwyd / du y caniateir i chi eu rhoi allan ar gyfer pob casgliad oni bai bod cytundeb eithriad ar waith h.y. cartref mwy. Os ydych chi i ffwrdd ar gyfer eich casgliad ac nad yw eich cymydog neu deulu/ffrind yn gallu rhoi eich gwastraff ar ochr y ffordd i'w gasglu, yna gallwch fynd â'ch bagiau i'ch Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu agosaf.
19. Mae gen i gwestiwn nad yw'n cael ei ateb yma, beth ddylwn i ei wneud?
E-bostiwch eich ymholiad at wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk