Casglu Gwastraff

Casgliadau gwastraff ardd

Tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2025

Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd bellach ar agor ar gyfer tanysgrifiadau newydd:

Tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd

Trwy reoli’ch tanysgrifiad ar-lein, gallwch hefyd ganslo’ch tanysgrifiad unrhyw bryd.

Telerau ac amodau

 

Sut mae’n gweithio

  • Cynhelir casgliadau bob pythefnos rhwng 3 Mawrth a 5 Rhagfyr 2025.
  • Mae’r gwasanaeth yn wasanaeth tanysgrifiad yn unig ac yn costio:
    • £59 y bin os ydych yn tanysgrifio cyn 1 Ebrill 2025
    • £64 y bin os ydych yn tanysgrifio ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025

 

Pwy all danysgrifio?

Gall aelwydydd a busnesau gofrestru.

Ar gyfer busnesau:

  • I gwsmeriaid gwastraff masnach Cyngor Sir Penfro, cost casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2025-2026 fydd £105 fesul bin, a bydd y ffi dyletswydd gofal yn £31 ar ben hynny. Rhaid cynnwys hyn ar eich ffurflen gytundeb gwastraff masnach ar gyfer 2025-2026.

 

Sut i danysgrifio

Ar gyfer aelwydydd:

Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd bellach ar agor ar gyfer tanysgrifiadau newydd:

Tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd

Mae nifer y tanysgrifiadau yn gyfyngedig ac, ar ôl i ni gyrraedd y capasiti, bydd cofrestriadau newydd yn cael eu hatal.

 

Ar gyfer busnesau:

Bydd busnesau’n cael cyfle i adnewyddu neu ofyn am y gwasanaeth ar ôl cyflwyno cytundeb gwastraff masnachol ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

I ymholi, cysylltwch â’n tîm gwastraff masnach:
E-bost: tradewaste@pembrokeshire.gov.uk

Efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth ym mhob achos.

 

Telerau ac amodau

 

Casglu gwastraff gardd – cwestiynau cyffredin

 

Tanysgrifio ac adnewyddu

A oes angen i mi wneud unrhyw beth os nad wyf am adnewyddu?

Oes. Rhowch wybod i ni os nad ydych am adnewyddu fel y gallwn gasglu eich bin.

 

Sut ydw i’n adnewyddu fy nhanysgrifiad?

Byddwn yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu atoch cyn y disgwylir i chi adnewyddu. Gallwch adnewyddu:

 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn adnewyddu?

Os na dderbynnir taliad, bydd eich casgliadau yn dod i ben, a byddwn yn casglu eich bin.

 

Beth sy’n digwydd os oes gen i ddebyd uniongyrchol yn ei lle?

Bydd eich tanysgrifiad yn cael ei adnewyddu’n awtomatig oni bai fod y ddebyd uniongyrchol yn cael ei chanslo. Bydd eich taliad debyd uniongyrchol yn cael ei gymryd ym mis Ebrill, a byddwn yn rhoi gwybod i chi 10 diwrnod cyn yr union ddyddiad.

 

A allaf ganslo fy nhanysgrifiad?

Gallwch, gallwch ganslo ar-lein drwy Fy Nghyfrif neu drwy ffonio 01437 764551. Ni chaiff unrhyw ad-daliadau eu talu. Byddwn yn trefnu i gasglu eich bin.

 

Pa mor hir bydd fy nhanysgrifiad yn para?

Mae tanysgrifiadau yn rhedeg yn flynyddol ac yn cwmpasu casgliadau o 3 Mawrth i 5 Rhagfyr. Rhaid talu’r ffi lawn pryd bynnag y byddwch yn tanysgrifio.

 

 

Defnyddio’r gwasanaeth

Pa mor aml fydd fy min yn cael ei gasglu?

Cynhelir casgliadau bob pythefnos rhwng 3 Mawrth a 5 Rhagfyr ar ddiwrnod casglu penodol.

 

Pa ddiwrnod fydd fy niwrnod casglu?

Byddwn yn cadarnhau eich diwrnod casglu pan fyddwn yn danfon eich bin. Gallwch hefyd wirio trwy roi eich cod post i mewn yn yr adran ‘Gwasanaethau yn eich ardal’ ar ein gwefan.

Gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer hysbysiadau atgoffa

 

Ble dylwn i adael fy min i’w gasglu?

Rhowch eich bin yn eich man casglu arferol erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu.

 

Beth fydd yn digwydd os na chaiff fy min ei gasglu?
  • Gwiriwch a drefnwyd i’w gasglu ar y diwrnod hwnnw.
  • Sicrhewch mai dim ond eitemau a ganiateir sydd y tu mewn iddo ac nad yw’r cynnwys wedi’i gywasgu.
  • Os oedd eich bin allan erbyn 6.30am ac ni chasglwyd ef erbyn 4pm, ffoniwch 01437 764551, neu adroddwch ar-lein trwy'r ffurflen casgliad a fethwyd ar Fy Nghyfrif.

 

A allaf gael mwy nag un bin?

Gallwch. Bydd angen i chi dalu’r ffi tanysgrifio flynyddol ar gyfer pob bin.

 

Beth alla i ei roi yn fy min?

Gallwch gael gwared ar y canlynol:

  • Toriadau gwrychoedd, coed a llwyni
  • Gwreiddiau
  • Toriadau gwair a chribinio
  • Dail
  • Planhigion, blodau a chwyn
 

 

Gwybodaeth am y bin

Pam mae biniau olwynion yn cael eu defnyddio yn lle bagiau?

Mae biniau olwynion yn fwy gwydn, yn fwy diogel i’w trin, ac yn dal mwy o wastraff gardd.

 

A allaf ddefnyddio fy min fy hun?

Na, dim ond biniau a gyflenwir gan y cyngor y gellir eu defnyddio. Maent wedi’u cynllunio i gael eu codi’n ddiogel gan ein cerbydau.

 

A fyddaf yn cael bin newydd sbon?

Ddim o reidrwydd. Mae biniau a ddychwelwyd yn cael eu hailddefnyddio, felly efallai y byddwch yn derbyn bin ag ôl defnydd.

 

Beth os nad oes gennyf le i gadw bin?
  • Efallai y gallwn gynnig dau fin llai i chi yn lle un bin mawr.
  • Gallech rannu bin gyda chymydog i rannu’r gost.
  • Os nad yw’r naill opsiwn na’r llall yn gweithio, ffoniwch 01437 764551 am asesiad cynhwysydd.

 

Beth os na allaf i symud bin olwynion?

Ffoniwch 01437 764551 i drafod opsiynau eraill.

 

A allaf i gael casgliad â chymorth?

Gallwch, os yw hynny’n ymarferol. Bydd asesiad risg yn cael ei gynnal gan aelod o’r Adran Gwastraff cyn derbyn unrhyw gais am gasgliad â chymorth.

 

Beth os caiff fy min ei golli neu ei ddifrodi?
  • Ar goll neu wedi’i ddwyn? Holwch eich cymdogion cyn rhoi gwybod i ni amdano. Efallai y bydd rhaid i chi dalu am fin newydd.
  • Wedi’i ddifrodi? Ffoniwch 01437 764551 i ofyn am un arall. Efallai y codir tâl arnoch yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

 

A fydd y cyngor yn glanhau fy min?

Na, chi sy’n gyfrifol am lanhau’ch bin.

 

 

Taliadau a phrisiau

Pam fod yn rhaid i mi dalu am gasglu gwastraff gardd?

Mae’r gwasanaeth yn ddewisol ac yn cael ei ariannu gan danysgrifwyr yn unig. Mae hyn yn sicrhau tegwch i’r rhai nad oes angen y gwasanaeth arnynt.

 

A oes unrhyw gonsesiynau?

Na, nid oes unrhyw gonsesiynau ar gael.

 

Sut alla i dalu?
  • Ar-lein: Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif ac ewch i ‘Fy ngwasanaethau’.
  • Debyd uniongyrchol: Ffoniwch 01437 764551, neu codwch un o Wasanaethau Cwsmeriaid Hwlffordd (Adain Ogleddol Neuadd y Sir) neu Ystad Ddiwydiannol Thornton .
  • Dros y ffôn: Ffoniwch 01437 764551 i dalu â cherdyn.
 

 

Cwestiynau eraill

Mae gen i wastraff gardd ond dydw i ddim eisiau tanysgrifio – beth alla i ei wneud?

Gallwch wneud y canlynol:

 

Beth sy’n digwydd i’m gwastraff gardd ar ôl ei gasglu?

Mae’n cael ei gludo i gyfleuster compostio a’i droi’n gompost ar gyfer defnydd tir.

 

Pam nad yw’r gwasanaeth ar gael o fis Rhagfyr i fis Chwefror?

Ychydig iawn o wastraff gardd a gynhyrchir yn y gaeaf. Mae atal y gwasanaeth dros dro yn helpu i gadw costau i lawr.

 

Beth os byddaf yn symud tŷ?
  • Symud o fewn Sir Benfro? Gallwch fynd â’ch bin gyda chi. Ffoniwch 01437 764551 o leiaf 10 diwrnod cyn symud er mwyn i ni allu diweddaru eich cyfeiriad casglu.
  • Symud y tu allan i Sir Benfro? Bydd angen i chi ganslo’ch tanysgrifiad. Byddwn yn casglu eich bin.

 

Busnes ydw i – alla i danysgrifio?

Gallwch. Cysylltwch â’n Tîm Gwastraff Masnachol yn tradewaste@pembrokeshire.gov.uk

 

 

Telerau ac amodau

Cymerwch amser i ddarllen y telerau ac amodau hyn gan eu bod yn rhan o’n cytundeb â chi

  1. Bydd casgliadau’n digwydd bob pythefnos rhwng 3 Mawrth a 5 Rhagfyr 2025 (gan gynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus).
  2. Mae’r gwasanaeth ar gael i gartrefi a busnesau Cyngor Sir Penfro. Gall cymdogion rannu bin ond dim ond i un cyfeiriad y bydd bin yn cael ei gofrestru a chaiff ei gasglu o’r cyfeiriad hwnnw. Mae’r taliad am y gwasanaeth yn flynyddol ymlaen llaw ac nid oes modd ei ad-dalu o dan unrhyw amgylchiadau.
  3. Mae’r bin(iau) gwastraff gardd yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Sir Penfro a rhaid eu defnyddio ar gyfer gwastraff gardd yn unig ac ni ddylid eu difwyno na’u harysgrifio mewn unrhyw ffordd. Rhaid rhoi gwybod ar unwaith am fin(iau) sydd wedi’u difrodi neu eu dwyn ac mae’n bosibl y codir tâl am eu hatgyweirio neu eu newid.
  4. Dylid storio bin(iau) ar eiddo deiliad y tŷ ac ar y diwrnod casglu eu gosod mewn man hygyrch, dirwystr, sef eich man casglu arferol ar ymyl y ffordd, a’u dychwelyd i’r eiddo cyn gynted a phosibl ar ôl iddynt gael eu gwacáu. Mae’r hawl gennym i newid amseroedd casglu felly rhaid i’r bin(iau) fod allan erbyn 6.30am bob amser. 
  5. Nid yw’r gwasanaeth yn drosglwyddadwy o un preswylydd i’r llall. Wrth newid cyfeiriad, bydd y gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo i’r cyfeiriad newydd os yw o fewn Sir Benfro. Os yn symud allan o’r sir, rhaid hysbysu’r cyngor a chyflwyno’r bin(iau) i’w symud.
  6. Ni fydd biniau sy’n rhy drwm i’w trin yn ddiogel neu sy’n anniogel ar gyfer y mecanwaith codi yn cael eu gwacáu. Rhaid i ddeiliad y tŷ dynnu’r pwysau gormodol ac ailgyflwyno’r bin ar gyfer y casgliad nesaf sydd wedi’i amserlennu.
  7. Dim ond eitemau a ganiateir y gellir eu gwaredu a rhaid iddynt fod yn rhydd yn y bin(iau) a heb eu cynnwys mewn bagiau. Ni fydd bin(iau) gwastraff gardd sydd wedi’u halogi ag eitemau nas caniateir yn cael eu casglu hyd nes y bydd yr eitemau yn cael eu symud a’r bin yn cael ei gyflwyno ar gyfer y casgliad nesaf
  8. Os yw bin(iau) wedi’u halogi’n rheolaidd, bydd cyngor pellach yn cael ei roi. Os bydd yr halogiad yn parhau, bydd y bin(iau) yn cael eu tynnu oddi yno a chasgliadau yn dod i ben.
  9. Rhaid i’r holl wastraff gardd gael ei gadw o fewn y bin(iau) a ddarperir. Ni fydd gwastraff gardd nad yw ym bin(iau) gwastraff gardd Cyngor Sir Penfro yn cael ei gasglu.
  10. Mae’n bosibl na fydd eiddo â mynediad cyfyngedig yn addas i dderbyn y gwasanaeth hwn. Byddwn yn asesu eich eiddo ac, os nad yw’n addas, byddwn yn rhoi gwybod i chi am opsiynau eraill sydd ar gael.
  11. Nid yw’r awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am anaf oherwydd defnydd amhriodol o’r bin.
  12. Mae gwasanaeth casglu â chymorth ar gael i’r trigolion hynny sy’n gymwys i gael casgliad sbwriel ac ailgylchu â chymorth ar yr amod ei fod yn ymarferol gwneud hynny.
  13. Mae’n bosibl y byddwn yn mynd i mewn i’ch eiddo i dynnu bin(iau) oddi yno os na dderbynnir taliad.
  14. Ein nod yw dosbarthu biniau newydd o fewn 21 diwrnod ond mae’n bosibl na fydd hyn yn bosibl yn ystod cyfnodau prysur.  Gall ceisiadau i adnewyddu’r gwasanaeth gymryd 3 diwrnod gwaith i’w prosesu. Ni fydd casgliadau’n dechrau nes bod y broses wedi’i chwblhau. Ni fydd ad-daliad yn cael ei ddarparu os methwn gyflenwi eich bin o fewn 21 diwrnod.
  15. Mae biniau a ddychwelwyd gan gwsmeriaid blaenorol yn cael eu hailddefnyddio. Ni fydd cwsmeriaid newydd yn cael bin newydd o reidrwydd, ac efallai y bydd rhywfaint o dystiolaeth o draul arno.
  16. Os cyrhaeddir y capasiti ar gyfer y gwasanaeth, rydym yn cadw’r hawl i atal tanysgrifiadau newydd tra bydd adolygiad yn cael ei gynnal. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd cyfle i ymuno â rhestr aros.
ID: 310, adolygwyd 17/02/2025