Casglu Gwastraff

Casglu Gwydr Wrth Ymyl y Ffordd

Beth ALLAF I ei ddodi yn y blwch?

Poteli a jariau gwydr gwag o bob lliw, math a maint.  Nid oes rhaid ichi dynnu bant y labeli, caeadau, na cyrcs ac ati oddi ar boteli.

Beth NA ALLAF I ei ddodi yn y blwch?

Unrhyw fath o wydr nad yw'n botel na jar chwaith e.e. cynwysyddion peirecs, gwydrau yfed, sbectols, gwydr ffenestri, ornaments gwydr, briwfyrddau gwydr, na bylbiau goleuni.

Pam nad ydych chi'n derbyn y pethau hyn?

Mae'r nwyddau hyn yn toddi ar wahanol dymereddau â photeli a jariau gwydr.  Pe byddent yn cael eu cymysgu a'u casglu, byddent yn halogi'r broses ailgylchu gwydr.  O ganlyniad byddai'r llwyth yn ddiwerth ac ni fyddem yn gallu ei ailgylchu.

Sut allaf i waredu'r pethau hyn, na allaf eu dodi yn y blwch, heb iddynt orfod cael eu hanfon i safle tirlenwi?

Gallwch fynd â hwy i'ch Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf er mwyn iddynt gael eu dodi mewn cynwysyddion arbennig.  Fel arall, gallwch roi'r rhan fwyaf o'r nwyddau hyn i'ch siop elusen leol cyhyd â'u bod mewn cyflwr da ac mae'r rhan fwyaf o optegwyr yn fodlon derbyn sbectols.

Ble allaf i gadw fy mlwch?

Rhag ofn y byddwch chi'n cadw'r blwch yn y tŷ, mae'r tyllau gwagio ynddo yn uwch nag arfer, er mwyn i hylifau aros yn y blwch a sicrhau na fydd lloriau'n cael eu baeddu.  Bwriad y tyllau yw gadael i'r dŵr glaw lifo bant mewn modd dan reolaeth.

Dim ond y pethau hynny sydd ar y rhestr y dylech eu dodi yn y blwch er mwyn inni eu casglu. Diolch yn fawr.  Os bydd y pethau anghywir yn cael eu casglu a'u cymysgu yn y llwyth yna ni ellir ei ailgylchu.  Bydd unrhyw bethau nad ydynt yn addas i'w casglu wrth ymyl y ffordd, yn cael eu gadael yn y blwch er mwyn ichi eu didoli a'u gwaredu'n gywir.

Beth fydd yn digwydd i'r gwydr sy'n cael ei gasglu?

Bydd y gwydr yn cael ei gludo i Abertawe er mwyn defnyddio system cylch caeedig i'w ailgylchu.  Mae ailgylchu trwy system cylch caeedig yn golygu y bydd y gwydr yn cael ei ailgylchu er mwyn ei droi'n boteli a jariau gwydr unwaith eto, sef y ffordd fwyaf cynaliadwy o wneud hynny.

 

Awgrymiadau ardderchog ar gyfer ailgylchu eich gwydr

  •  Defnyddiwch eich bocs ailgylchu gwydr bob wythnos. Os byddwch chi'n gorlanw'ch blwch, bydd e'n drymach a mwy anodd i'w godi a'i gario.
  • Cofiwch wagio a strilo'r poteli a'r jariau er mwyn cael gwared ag unrhyw waelodion.
  • Dodwch y poteli a'r jariau yn rhydd y tu mewn i'r blwch.
  • Peidiwch â llanw eich blwch ailgylchu gwydr yn uwch na'r ymyl.  Os bydd y blwch yn cael ei orlanw bydd mwy o berygl i bethau dorri ac anafiadau.
  • Does dim rhaid ichi dynnu bant unrhyw labeli, caeadau na chyrcs ac ati oddi ar boteli.
  • Does dim rhaid ichi chwaith ddidoli eich gwydr yn ôl ei liw.

Rydym wrthi'n ystyried beth yw'r ffordd orau o fynd i mo'yn gwydr o flociau mawr o fflatiau ac o gartrefi/tai sydd heb unrhyw gwrbyn y gallwn ni fynd ato.

Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551, neu anfon e-bost at wastemanagement@pembrokeshire.gov.uk

Ni ddylem wastraffu dim byd yn Sir Benfro! 

ID: 314, adolygwyd 20/09/2023