Casglu Gwastraff
Glanhau Traeth Mewn Dwy funud
Bwriad cynllun #glanhautraethmewn2funud yw ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gadw ein traethau hardd yn lân a chyfrannu tuag at y bwriad cenedlaethol o gael gwared ar sbwriel morol a llygredd plastig o’r byd.
Trwy gymorth gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd mae gennym 17 o orsafoedd glanhau traethau ar draws Sir Benfro.
Mae gan bob gorsaf glanhau traeth gasglwyr sbwriel a bagiau sydd wedi eu defnyddio er mwyn helpu pobl i gasglu sbwriel pan fyddant yn ymweld. Mae modd rhoi’r sbwriel a gesglir wedyn yn y bin sbwriel neu fin ailgylchu agosaf.
Mae pob darn o sbwriel a godir o’r traeth yn bwysig, does dim ots os byddwch yn casglu 1 neu ddwy eitem neu lond bag - mae’r pob dim yn helpu.
Mae’r map hon yn dangos lleoliadau’r byrddau traeth. Sylwch fod y byrddau’n cael eu gosod gan wirfoddolwyr felly efallai y bydd adegau pan na fydd y byrddau’n cael eu gosod, hefyd mae rhai ohonynt yn dymhorol yn unig.
Am ragor o wybodaeth neu er mwyn bod yn rhan o’r fenter #glanhautraethmewn2funud, cysylltwch â ni ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at enquiries@pembrokeshire.gov.uk