Casglu Gwastraff
Gwasanaeth Casglu Nwyddau Swmpus o Gartrefi
Archebu casgliad gwastraff cartref swmpus
Ar y dudalen hon:
Cyfarwyddiadau ar gyfer gosod eitemau y tu allan i’ch eiddo fel eu bod yn barod i'w casglu
Gallwch archebu casgliad gwastraff ar gyfer eitemau cartref mawr megis oergelloedd, gwelyau a dodrefn. Gallwn gasglu hyd at 20 o eitemau mewn un ymweliad.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion yn unig. Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer busnesau, llety gwyliau, nac eiddo sy’n cael ei rentu.
Mae casgliadau gwastraff swmpus yn cael eu gwneud gan FRAME, elusen leol sy'n gweithio gyda ni.
Fel arfer, cynhelir casgliadau hyd at dair wythnos ar ôl i chi archebu.
Faint mae’n costio
- £25 am hyd at bum eitem
- £5 am bob eitem ychwanegol (hyd at 20 eitem i gyd)
Enghreifftiau:
- Mae matres yn un eitem
- Mae soffa gornel neu welyau bync yn cyfrif fel dwy eitem
- Mae bwrdd a phedair cadair yn cyfrif fel pum eitem
*Ni allwn gasglu unrhyw eitemau sydd angen mwy na dau o bobl i'w codi, megis pianos a boeleri.*
Yr hyn rydyn ni'n ei gasglu
Pan fyddwch chi'n archebu eich casgliad gwastraff swmpus, rhaid i chi ddweud wrthym am yr holl eitemau. Ni fyddwn yn gallu casglu unrhyw beth nad yw wedi'i gynnwys yn eich archeb.
Ni allwch ychwanegu unrhyw beth arall at eich archeb ar ôl i chi ei chadarnhau, felly meddyliwch yn ofalus am yr hyn sydd angen i chi gael gwared arno a sicrhewch eich bod yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch yn yr archeb.
Yr hyn y gallwn ei gasglu:
Gallwn gasglu'r rhan fwyaf o ddodrefn cartref a nwyddau gwyn safonol – cyn belled â'u bod yn ddiogel i'w symud a bod modd i ddau o bobl eu codi.
Gwiriwch beth na allwn ni ei gasglu cyn i chi archebu casgliad.
Mae'r rhestr isod yn rhoi enghreifftiau o eitemau cyffredin rydyn ni'n eu casglu (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
Dodrefn
- Cadair freichiau
- Soffa
- Soffa gornel (rhaid ei datgymalu – yn cyfrif fel dwy eitem)
- Cadair
- Mainc
- Bwrdd coffi
- Bwrdd ochr
- Cabinet neu gwpwrdd bach
- Cist ddroriau
- Bwrdd gwisgo
- Silff lyfrau (bach)
- Ffrâm gwely (rhaid ei datgymalu)
- Pen gwely
- Wardrob
- Gwely bync (rhaid ei ddatgymalu – yn cyfrif fel dwy eitem)
- Crud (wedi'i ddatgymalu)
- Matres
- Dresel
- Amgylchyniad tân
- Cabinet gwydr
- Stand planhigion
Offer a nwyddau gwyn
- Peiriant golchi dillad
- Sychwr dillad
- Peiriant golchi llestri
- Ffwrn
- Oergell
- Rhewgell
- Oergell-rewgell
- Microdon
- Sugnydd llwch
Offer trydanol
- Teledu
- Monitor neu sgrin
- Cyfrifiadur neu liniadur
- Argraffydd
- Chwaraewr DVD neu fideo
- Stereo neu system sain
- Ffitiad golau (e.e. lamp grog neu sbotolau)
- Lamp
Eitemau gardd ac awyr agored
- Cadair ardd
- Bwrdd gardd
- Barbeciw
- Sychwr troi neu lein ddillad
- Whilber
Eitemau plant a babanod
- Pram neu goetsh gadair
- Cadair uchel
- Giât grisiau
Amrywiol
- Erial
- Polyn llenni
- Ysgol
- Hors ddillad neu rac sychu
- Drych
- Bagiau
- Cwpwrdd ffeilio
- Desg
- Cloc wyth niwrnod
- Comôd
- Bwrdd pŵl, snwcer neu denis bwrdd
- Bag pwnio
- Gwely haul
- Cadair olwyn
Yr hyn nad ydym yn ei gasglu
Ni allwn gasglu eitemau sydd:
- yn hirach na chwe throedfedd
- yn rhy drwm neu'n rhy fawr i ddau o bobl eu codi
- yn cael eu hystyried yn wastraff DIY neu adeiladu
- yn perthyn i'ch casgliad ailgylchu cartref neu wastraff cyffredinol
- wedi'u baeddu’n drwm, wedi'u halogi neu wedi'u heintio (maent yn peri risg iechyd i'n staff)
Eitemau na allwn eu casglu:
Gwastraff cartref
- Bagiau du o wastraff cymysg
- Deunyddiau cartref i’w hailgylchu (e.e. caniau, plastig, papur)
- Tecstilau gwlyb neu drwm
- Cardbord sy'n ffitio yn eich bin ailgylchu (gallwn gymryd blychau mawr, sych os yw'n anodd eu torri’n ddarnau llai)
Gwastraff anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
- Cewyll anifeiliaid nad ydynt yn lân neu sy’n fudr
- Deunydd gwely anifeiliaid anwes
Gwastraff gardd
- Toriadau glaswellt, llwyni, planhigion a choed
- Teganau gardd heb eu datgymalu (e.e. trampolinau, goliau pêl-droed, pyst pêl-rwyd)
- Eitemau gardd mawr (e.e. siediau, decin, ffensys, gatiau mawr)
Gwastraff DIY, adeiladu a masnachol
- Baddonau, sinciau, toiledau, sgriniau cawod a hambyrddau
- Carpedi a lloriau (pren, laminedig, teils)
- Drysau a ffenestri
- Unedau cegin
- Concrit, rwbel neu bridd
- Paledi
- Siediau a phaneli siediau
- Gwastraff masnachol neu fusnes
- Pren / darnau o bren (ac eithrio slatiau gwely wedi'u bwndelu)
Eitemau peryglus
- Poteli nwy
- Cemegion
- Paent
- Olewau
- Asbestos
- Tiwbiau fflwroleuol
- Gwresogyddion stôr (yn cynnwys deunyddiau peryglus)
Eitemau trydanol a swmpus
- Oergelloedd neu rewgelloedd nad ydynt yn wag
- Boeleri a thanciau olew
- Pianos
- Tybiau twym
- Pyllau nofio
- Lifftiau grisiau
- Peiriannau torri gwair y gellir eu reidio
Cerbydau a rhannau cerbydau
- Rhannau ceir
- Batris ceir
- Teiars
- Trelars
- Cychod, rhannau cychod, ceufadau, a byrddau hwylio
Pwysig:
Gellir casglu rhai eitemau os cânt eu datgymalu – er enghraifft:
- Gwelyau bync (yn cyfrif fel dwy eitem ar ôl eu datgymalu)
- Teganau mawr megis trampolinau neu byst gôl
Gwiriwch pa rai o’r rhain y gellir eu derbyn yn un o’n canolfannau gwastraff ac ailgylchu.
Sut i archebu
- Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
- Cwblhewch y ffurflen casglu gwastraff swmpus
- Talwch ar-lein yn ystod y broses archebu – ni allwn dderbyn archebion heb daliad
Pwysig:
- Rhestrwch yr holl eitemau rydych chi eisiau eu casglu – dim ond yr hyn rydych chi'n ei nodi pan ydych chi’n archebu casgliad y gallwn ni ei gymryd
- Gwiriwch eich rhestr o eitemau i'w casglu ddwywaith cyn ei chyflwyno – ni ellir gwneud newidiadau yn ddiweddarach
- Darllenwch y telerau ac amodau
Cadwch eich lle nawr trwy Fy Nghyfrif
Ar ôl i chi archebu
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi archebu?
Byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich archeb.
Ar ôl i chi archebu, byddwch yn cael dwy neges e-bost:
- e-bost yn cadarnhau
- derbynneb am eich taliad
Os na chewch y ddwy neges e-bost, gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam. Os na allwch ddod o hyd iddynt o hyd, anfonwch e-bost atom yn digital@pembrokeshire.gov.uk
Byddwch yn cael e-bost gan FRAME o fewn pum diwrnod gwaith:
- yn cadarnhau eich dyddiad casglu
- yn esbonio beth i'w wneud nesaf
Byddwch hefyd yn cael e-bost i’ch atgoffa y diwrnod cyn eich casgliad.
Os yw eich casgliad ar ddydd Llun, byddwn yn anfon y nodyn atgoffa ar y dydd Gwener cyn hynny.
Ar y diwrnod casglu y cytunwyd arno, rhowch yr holl eitemau y tu allan i'ch eiddo fel y cyfarwyddir erbyn 8am.
Byddwn yn casglu eich eitemau unrhyw bryd rhwng 8am a 4pm.
Nid oes angen i chi fod gartref yn ystod y casgliad
Cyfarwyddiadau ar gyfer gosod eitemau y tu allan i’ch eiddo fel eu bod yn barod i'w casglu
Gwnewch yn siŵr bod eich eitemau y tu allan i’ch eiddo erbyn 8am ar eich diwrnod casglu.
Os nad ydyn nhw yno, ni fyddwn yn gallu eu casglu, ac ni chewch ad-daliad.
- Rhowch eich eitemau y tu allan i'ch cartref erbyn 8am ar eich diwrnod casglu
- Er mwyn osgoi difrod neu rwystr, peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny oni bai eu bod wedi'u gorchuddio ac nad ydynt yn rhwystro palmentydd na ffyrdd.
- Rhaid gosod eitemau i'w casglu gyda'i gilydd, y tu allan i'ch cartref neu mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd lle mae’r fan yn gallu eu casglu yn hawdd (fel y byddech chi ar gyfer eich casgliad bin arferol) cyn 8am ar y diwrnod casglu a drefnwyd.
- Gallwn gasglu eitemau o gefn eich eiddo os gall ein fan eu cyrraedd yn uniongyrchol. Ni allwn gasglu o erddi cefn lle mae’n rhaid mynd trwy lwybrau cerddwyr neu lwybrau tebyg er mwyn cael mynediad iddynt.
- Os oes angen cymorth arnoch, darllenwch: A all rhywun fy helpu i symud yr eitemau os na allaf eu rhoi y tu allan ar fy mhen fy hun?
- Os rhagwelir glaw, gorchuddiwch eitemau i'w cadw'n sych er mwyn osgoi difrod dŵr neu bwysau ychwanegol
- Os yw'n wyntog, gosodwch pwysau ar eich eitemau a chlymwch nhw yn dynn fel nad ydyn nhw'n chwythu i ffwrdd
- Datgymalwch eitemau mawr (megis trampolinau a gwelyau bync) a chlymu'r rhannau at ei gilydd fel un eitem
- Ni all ein tîm ddatgymalu eitemau yn ystod y casgliad
Telerau ac amodau
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau cartref mawr ar gyfer eitemau megis oergelloedd, soffas a gwelyau, ac rydym yn codi tâl am y canlynol:
Mae casgliadau’n digwydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 4pm.
Pan fyddwch chi'n archebu, byddwn ni'n anfon neges e-bost atoch i gadarnhau eich archeb.
Cyn i chi archebu:
- darllenwch a derbyniwch ein telerau ac amodau
- gwiriwch y gost
- archwiliwch ffyrdd eraill o gael gwared ar eich eitemau fel mynd â nhw i un o’n canolfannau gwastraff ac ailgylchu, defnyddio gwefannau ailwerthu, cynnal gwerthiant cist car, neu fynd â nhw i siop elusen
- Ni ellir ad-dalu unrhyw daliad.
- Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion yn unig.
Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer busnesau, llety gwyliau, nac eiddo sy’n cael ei rentu. Os byddwn yn canfod bod yr archeb at ddefnydd masnachol, ni fyddwn yn casglu'r eitemau nac yn rhoi ad-daliad.
- Byddwn yn casglu hyd at 20 eitem fesul ymweliad.
- Taliadau:
- £25 am hyd at bum eitem
- £5 am bob eitem ychwanegol (hyd at 20 eitem i gyd)
- Rhaid gosod eitemau i'w casglu gyda'i gilydd, o flaen eich cartref neu mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd (lle rydych chi’n rhoi eich gwastraff arferol), cyn 8am ar y diwrnod casglu a drefnwyd. Gallwn gasglu eitemau o gefn eich eiddo os gall ein fan eu cyrraedd yn uniongyrchol. Ni allwn gasglu o erddi cefn lle mae’n rhaid mynd trwy lwybrau cerddwyr neu lwybrau tebyg er mwyn cael mynediad iddynt.
- Rhaid rhoi eitemau rhydd mewn bagiau neu focsys, neu rhaid i chi eu clymu nhw at ei gilydd fel y gellir eu trin yn ddiogel.
- Ni allwn gasglu unrhyw eitemau sydd angen mwy na dau o bobl i'w codi, megis pianos a boeleri.
- Os nad yw'r eitem yr hoffech chi ni ei chasglu ar y rhestr o opsiynau sydd ar gael, bydd angen i chi ddod o hyd i ddull gwaredu arall.
- Ni allwch ychwanegu eitemau i’ch casgliad, na newid eitemau eich casgliad ar ôl i chi archebu.
- Ni fyddwch chi’n cael ad-daliad os byddwch yn canslo’r casgliad, os na fyddwch yn defnyddio'r casgliad, neu os byddwch yn tynnu eitemau ohono.
- Dim ond yr eitemau a restrir yn eich archeb y byddwn yn eu casglu. Os byddwch chi'n rhoi eitemau ychwanegol y tu allan i’ch eiddo i’w casglu, ni fyddant yn cael eu cymryd. Os caiff sawl eitem eu harchebu fel un eitem, dim ond un eitem fydd yn cael ei chasglu, e.e. mae gwely a matres yn ddwy eitem. Rydym yn tynnu lluniau os oes problem gyda'ch casgliad, i helpu i egluro beth ddigwyddodd.
- Byddwn ni, Cyngor Sir Penfro, yn trosglwyddo eich enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad i FRAME er mwyn iddynt allu casglu eich eitemau. Fel rhan o'r gwasanaeth, bydd FRAME yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch casgliad. Gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff swmpus am ragor o wybodaeth.
- Byddwch yn cael gwybod am eich diwrnod casglu gan FRAME, sy'n cadw'r hawl i newid y casgliad os oes angen. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw newid gyda chymaint o rybudd â phosibl.
- Os byddwch yn gosod eich eitemau'n gywir i'w casglu ac os na chaiff yr eitemau eu casglu, byddwn yn cwblhau'r casgliad cyn gynted â phosibl ar ôl i chi roi gwybod i ni.
- Os nad ydych yn gosod eich eitemau'n gywir i'w casglu ac na ellir cwblhau'r casgliad, ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu'r eitemau ac ni roddir unrhyw ad-daliad.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr holl ganllawiau perthnasol neu efallai na fydd eich eitemau'n cael eu casglu.
Gwybodaeth ychwanegol:
- Rhaid tapio neu lapio unrhyw wydr neu ddrychau.
- Rhaid analluogi stoliau troed sydd â sbringiau mewn cadeiriau a soffas gogwydd.
- Rhaid datgymalu gwelyau a fframiau gwelyau cyn eu casglu. Mae gwely difán sy'n rhannu'n ddwy ran yn dal i gyfrif fel un eitem.
- Dylid datgymalu soffas cornel a setiau o dri darn o ddodrefn. Mae soffas cornel yn cyfrif fel dwy eitem ac mae setiau o dri darn o ddodrefn yn cyfrif fel tair eitem.
- Mae bwrdd neu gasgliad o fyrddau – wedi'u datgymalu ai peidio – yn cyfrif fel un eitem.
- Rhaid cadw matresi a dodrefn meddal eraill, e.e. soffas, yn sych (e.e. wedi'u gosod yn erbyn wal a'u gorchuddio) er mwyn eu hosgoi mynd yn wlyb ac yn rhy drwm.
- Rhaid datgymalu eitemau dros chwe troedfedd (gan gynnwys trampolinau a gwelyau bync).
- Rhaid i reiddiaduron trydan neu rai sydd wedi'u llenwi ag olew fod yn gyfan a heb eu difrodi. Nid ydym yn casglu gwresogyddion stôr.
- Rhaid i eitemau fod yn wag – peidiwch â'u llenwi â sbwriel nac eitemau eraill.
Cwestiynau cyffredin
A all rhywun fy helpu i symud yr eitemau os na allaf eu rhoi y tu allan ar fy mhen fy hun?
Gall. Os nad ydych chi'n gallu rhoi eitemau y tu allan i’ch eiddo oherwydd anabledd, symudedd cyfyngedig, heriau sy'n gysylltiedig ag oedran, neu oherwydd eich bod chi fel arfer yn cael casgliadau gwastraff â chymorth, gallwn ni helpu.
Rhowch wybod i ni adeg archebu a rhowch gymaint o fanylion â phosibl. Mae hyn yn ein helpu i gynllunio a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.
Beth os yw hi'n bwrw glaw ac nad oes gen i ffordd o orchuddio'r eitemau?
Os yn bosibl, rhowch yr eitemau allan ar fore’r casgliad yn hytrach na’r noson cynt. Mae hyn yn helpu i leihau pa mor wlyb maen nhw'n mynd.
Mae eitemau ffabrig megis soffas a matresi yn anoddach eu casglu pan fyddant yn llawn dŵr, felly efallai na fyddwn yn gallu eu cymryd os ydyn nhw'n rhy wlyb ac yn drwm.
Os gallwch chi, gorchuddiwch yr eitemau hyn neu rhowch fatresi ar eu hochr i helpu i leihau faint o ddŵr maen nhw'n eu hamsugno.
Beth os yw fy eitem yn drwm iawn – a fyddwch chi'n dal i'w chasglu?
Mae eitemau'n cael eu casglu gan dîm o ddau unigolyn. Os yw rhywbeth yn rhy drwm neu'n anniogel i ddau o bobl ei godi, efallai na fyddwn yn gallu ei gario.
Gwiriwch ein rhestr o eitemau na allwn eu casglu ar gyfer eitemau trwm neu eitemau cyfyngedig y gwyddys amdanynt.
Caiff pob eitem ei hasesu ar y diwrnod i sicrhau ei bod yn ddiogel ei chodi.
Beth allaf i ei wneud gydag eitem na allwch chi ei chasglu oherwydd ei bod yn rhy drwm?
Os yw'r eitem yn rhy drwm ac na all dau o bobl ei chodi'n ddiogel, efallai yr hoffech chi wneud y canlynol:
- Cysylltu â chwmni gwaredu gwastraff trwyddedig neu logi sgipiau lleol
- Mynd â’r eitem i'ch canolfan gwastraff cartref ac ailgylchu agosaf (tip), os yn bosibl
Fel arfer, gellir casglu'r rhan fwyaf o eitemau cartref arferol (heb gynnwys gwastraff DIY) os ydynt yn bodloni ein terfynau maint a phwysau.
Oes angen i mi ddatgymalu fy eitemau cyn eu casglu?
Oes. Ni ddylai eitemau fod yn hirach na chwe troedfedd (gan gynnwys rygiau), er mwyn ffitio ar y cerbyd.
Datgymalwch neu torrwch eitemau mawr a'u clymu neu eu bwndelu at ei gilydd, megis fframiau neu slatiau gwelyau.
Os nad ydw i ar gael ar ddiwrnod y casgliad, a allaf roi eitemau y tu allan i’m heiddo cyn hynny?
Gallwch. Does dim rhaid i chi fod adref ar y diwrnod.
Gwnewch yn siŵr:
- Bod eitemau wedi'u gosod gyda'i gilydd y tu allan i'ch cartref, yn hawdd eu gweld, ac yn hawdd eu cyrchu
- Nad ydyn nhw'n rhwystro palmentydd, ffyrdd, na llwybrau
- Bod eitemau wedi'u gorchuddio neu eu diogelu rhag ofn tywydd garw
Does gen i ddim lle y tu allan i’m heiddo i adael yr eitemau. Beth ddylwn ei wneud?
Os byddai gosod eitemau y tu allan i’ch eiddo yn rhwystro llwybr troed neu ffordd, dywedwch wrthym pan fyddwch chi'n archebu casgliad.
Efallai y byddwn yn gallu casglu’r eitem(au) o tu fewn i’ch eiddo mewn achosion eithriadol, ond:
- Rhaid i chi fod gartref ar y pryd
- Rhaid i'r rheswm fod yn ddilys ac yn gysylltiedig â mynediad neu ddiogelwch
- Rhowch fanylion llawn wrth archebu fel y gallwn asesu a chynllunio yn unol â hynny
Casglwyd fy eitemau gan unigolyn arall cyn i'ch tîm gyrraedd. A allaf gael ad-daliad?
Na, yn anffodus ni ellir ad-dalu unrhyw daliadau.
Cyfeiriwch at ein telerau ac amodau am ragor o wybodaeth.
Ni chasglwyd fy eitemau ar y diwrnod y dywedwyd wrthyf. Beth ddylwn ei wneud?
Os gwnaethoch chi roi'r eitemau y tu allan i’ch eiddo yn gywir a bod eich casgliad wedi'i golli, rhowch wybod i ni.
Byddwn yn anelu at eu casglu cyn gynted â phosibl, a byddwn yn cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith i aildrefnu casgliad.
Collais fy niwrnod casglu neu anghofiais roi'r eitemau y tu allan i’m heiddo. Beth nawr?
- Gwiriwch eich negeseuon e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi archebu casgliad ac sy’n eich atgoffa chi o’ch casgliad i weld eich dyddiad casglu.
- Os daethom ac nid oeddem yn gallu dod o hyd i'r eitemau, byddwn wedi gadael cerdyn.
- Os nad oedd yr eitemau y tu allan i’ch eiddo neu os nad oeddem yn gallu cael mynediad atynt, ni allwn gynnig ad-daliad. Bydd angen i chi ailarchebu os ydych chi dal eisiau iddyn nhw gael eu casglu.
Nid yw'r eitem rydw i am iddi gael ei chasglu ar eich rhestr. Allaf ddal i archebu casgliad?
Gwiriwch y rhestr o eitemau rydyn ni'n eu casglu a'r rhestr o eitemau nad ydyn ni'n eu casglu.
Os nad yw eich eitem ar y naill restr na'r llall ond ei bod yn bodloni ein canllawiau cyffredinol, gallwch chi ddal archebu casgliad. Dewiswch ‘amrywiol’ a rhowch ddisgrifiad clir.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi am fwy o fanylion neu'n canslo'r archeb os nad yw'n bodloni ein canllawiau iechyd a diogelwch neu wasanaeth.
Angen cymorth?
Os oes gennych gwestiynau neu os na allwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid:
01437 764551
enquiries@pembrokeshire.gov.uk