Casglu Gwastraff
Ailgylchu eich batris, fêps ac eitemau trydanol bach o'r cartref
Rydym wedi cyflwyno dau gasgliad newydd ar ymyl y palmant am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach a'ch e-sigaréts a'ch fêps yn ogystal â chynyddu'r mathau o fatris cartref a dderbynnir.
Eitemau trydanol bach
Rhowch eitemau'n rhydd ar ben un o'ch cynwysyddion ailgylchu. Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn mewn unrhyw gynhwysydd gan gynnwys bagiau plastig untro.
Gallwn dderbyn:
-
Tegelli
-
Sychwyr gwallt a sythwyr gwallt
-
Tostwyr (dim mwy na 4 sleisen)
-
Teclynnau pŵer llaw
-
Offer cegin llaw
-
Radios a seinyddion cludadwy
-
Haearnau
-
Gwifren ymestyn a cheblau pŵer
-
Gwefryddion batri
-
Offer ystafell ymolchi llaw (eilliwr, brwsh dannedd trydan)
*Cofiwch na ddylai eitemau fod yn fwy na thegell neu dostiwr*.
Ni allwn dderbyn:
-
Setiau teledu
-
Sugnwyr llwch
-
Microdonnau
-
Oergelloedd neu rewgelloedd
-
Ffrïwyr aer
-
Proseswyr bwyd
-
Peiriannau coffi mwy (mwy na thostiwr)
E-sigaréts a fêps
Rhowch y rhain mewn bag plastig untro clir ar wahân, clymwch yn ddiogel, yna eu rhoi ar ben un o'ch cynwysyddion ailgylchu. Peidiwch â rhoi yn yr un bag â batris cartref.
Gallwn dderbyn:
-
E-sigaréts a fêps (tynnwch fatris allan lle bo hynny'n bosibl a'u rhoi gyda'r batris cartref)
-
Fêps untro (gwaharddir gwerthu'r rhain yng Nghymru o 19 Mehefin 2025)
Batris cartref
Rhowch y rhain mewn bag plastig untro clir ar wahân, clymwch yn ddiogel, yna eu rhoi ar ben un o'ch cynwysyddion ailgylchu. Peidiwch â rhoi yn yr un bag ag e-sigaréts a fêps.
Gallwn dderbyn:
-
Batris cartref fel batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9v
-
Batris 'botwm' lithiwm-ion, fel y rhai mewn cyfrifiannell, oriawr a chymhorthion clyw
-
Ffonau symudol
-
Batris o e-sigaréts a fêps
-
Batris y gellir eu gwefru o liniaduron, ffonau symudol ac offer pŵer
Ni allwn dderbyn:
-
Batris car
Bydd yr holl eitemau a dderbynnir yn cael eu casglu'n wythnosol ochr yn ochr â'ch casgliad ailgylchu rheolaidd. I wirio eich dyddiad casglu, ewch i'n gwefan Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu - Cyngor Sir Benfro neu cysylltwch â ni 01437 764551.
Casgliadau ar ymyl y ffordd: gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu
Bydd gwastraff gweddilliol yn y cartref – hynny yw, sbwriel na ellir ei ailgylchu na'i gompostio bellach yn cael ei gasglu mewn bagiau du, neu'r bagiau llwyd a ddarparwyd gennym yn flaenorol (neu gyfuniad o'r ddau).
Nid ydym bellach yn cyflenwi bagiau llwyd i breswylwyr, felly unwaith y bydd eich cyflenwad presennol wedi'i ddefnyddio bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun.
Gallwch roi hyd at 3 bag o wastraff gweddilliol allan bob 3 wythnos, felly mae'n bwysig ailgylchu.
Er mwyn sicrhau bod eich bagiau yn cael eu casglu:
- Cofrestrwch ar gyfer nodiadau atgoffa casglu (yn agor mewn tab newydd), fel eich bod chi'n gwybod pryd i roi eich gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i’w gasglu.
- Rhowch eich bagiau allan erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu, ond nid yn rhy gynnar a gorchuddiwch eich bagiau i atal adar ac anifeiliaid rhag eu dinistro.
- Dylech ddim ond rhoi hyd at 3 bag a defnyddio bagiau du maint safonol yn unig (hyd at 60 litr)
- Gwnewch yn siŵr nad ydynt yn rhy drwm – mae terfyn pwysau o 15kg er diogelwch ein criwiau
Os gwelwch yn dda:
- Peidiwch byth â rhoi gwrthrychau miniog yn eich bagiau, gallant anafu ein criw.
- Peidiwch â rhoi batris, e-sigaréts na WEEE bychan mewn bagiau du, gan eu bod yn risg tân posibl. Gellir ailgylchu batris domestig safonol a e sigarets trwy eu rhoi mewn bag plastig clir ar wahân gyda'ch cynwysyddion ailgylchu. Gellir ailgylchu batris eraill, e-sigaréts a WEEE bychan yn ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
- Peidiwch â rhoi gwastraff gardd mewn bagiau du, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.
- Peidiwch â rhoi gwastraff clinigol mewn bagiau du, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.
Cwestiynau cyffredin
1. Beth yw'r cyfyngiadau ar wastraff gweddilliol?
Gall aelwydydd roi uchafswm o dri bag llwyd / du gweddilliol allan bob tair wythnos. Nid ydym bellach yn cyflenwi bagiau llwyd i gartrefi, felly unwaith y bydd eich cyflenwad presennol wedi'i ddefnyddio bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun - bagiau 60 litr safonol ac mae gan bob bag derfyn pwysau o 15kg ar gyfer diogelwch ein criwiau.
Cyflwynwyd y bagiau llwyd i gefnogi'r newid yn y gwasanaeth yn 2019 ac rydym bellach yn dychwelyd i fagiau sbwriel safonol a ddarperir gan aelwydydd. Os oes gan unrhyw gartrefi fagiau llwyd heb eu defnyddio bydd y rhain yn parhau i gael eu derbyn wrth ymyl y ffordd.
2. Mae gen i deulu mawr, er ein bod yn ailgylchu mae gennym fwy na 3 bag o hyd. Sut ydw i'n gwneud cais ar gyfer bagiau ychwanegol?
Gall aelwydydd mwy o 6 neu fwy o bobl wneud cais am lwfans ychwanegol ar gyfer sbwriel na ellir ei ailgylchu. Os oes gennych wastraff cewynnau, gwnewch gais am y gwasanaeth casglu ar wahân hwnnw yn gyntaf. Darganfyddwch fwy Telerau ac Amodau Lwfans Tai Mwy.
3. A allaf ddefnyddio bin olwyn yn hytrach na bag?
Dim ond gwastraff mewn bag gweddilliol du neu lwyd fydd yn cael ei gasglu. Os yw aelwydydd yn dymuno rhoi eu bagiau mewn cynhwysydd i'w gasglu wrth ymyl y ffordd bydd hyn yn cael ei dderbyn. Byddem yn gofyn i'r cynwysyddion beidio â bod yn fwy na 240 litr er mwyn galluogi'r gweithwyr i wagio'r cynhwysydd â llaw.
4. A fyddaf yn gallu rhoi mwy o fagiau allan yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd?
Byddwch. Rydym yn gwybod y bydd cyfuniad o anrhegion Nadolig, ymwelwyr a newidiadau yn y diwrnodau casglu yn golygu bagiau gweddilliol llawnach yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn caniatáu i eiddo gyflwyno un bag ychwanegol (du/llwyd) wrth ymyl y ffordd yn ystod casgliad y Nadolig, gellir dod o hyd i ddyddiad y casgliad hwn ar eich calendr.
Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig ailgylchu cymaint â phosibl, gan gynnwys papur lapio (profwch os gellir ei ailgylchu drwy wirio nad yw'n dad-blygu eto os ydych chi'n ei wasgu yn eich llaw) – ni all hefyd gynnwys glitter neu ffoil) a gwastraff bwyd fel esgyrn twrci a phlicio llysiau.
5. Mae gen i blant sydd mewn clytiau / rwy'n defnyddio cynhyrchion anymataliaeth lle dylwn i roi’r rhain?
Rydym yn darparu casgliad rhad ac am ddim ar wahân ar gyfer cewynnau / cynhyrchion hylendid amsugnol, gallwch gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth casglu AHP i gasglu'r deunyddiau hyn ar wahân i'ch gwastraff a'ch ailgylchu eraill bob pythefnos.
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael calendr casglu yn ogystal â 2 rôl o fagiau porffor. Nid oes cyfyngiad ar faint o'r bagiau hyn y gallwch eu rhoi allan bob pythefnos, ond mae gan bob bag derfyn pwysau o 15kg ar gyfer diogelwch ein criwiau.
6. Dydw i ddim yn gwybod beth y gallaf ei ailgylchu a beth na allaf ei ailgylchu
Gallwch ddefnyddio ein Cyfeiriadur Chwilio Gwastraff ac Ailgylchu i ddarganfod beth y gellir ei roi ym mhob cynhwysydd neu i chwilio am eitem benodol i ddarganfod pa un y mae'n mynd i mewn iddo.
O 30 Mehefin 2025 ymlaen, gellir rhoi eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich ailgylchu wythnosol i'w casglu wrth ymyl y palmant.
7. Nid oes gennyf y cynwysyddion, y bagiau na'r blychau i ganiatáu i mi ailgylchu, lle gallaf eu cael?
Gallwch gasglu bagiau a bocsys newydd o nifer o leoliadau ar draws y sir neu'r rhai nad ydynt yn gallu mynd i’r lleoliadau hyn bydd modd gwneud cais i'w danfon ar-lein.
Gallwch ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy roi nodyn ar eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd ar y diwrnod casglu.
8. Os na allaf roi fy ngwastraff gardd yn y bagiau llwyd / du, beth ddylwn i ei wneud ag ef?
- Compostio gartref
- Ewch â'ch gwastraff gardd yn rhad ac am ddim i un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylc
- Tanysgrifiwch i'n Gwasanaeth casglu gwastraff gardd
9. Beth ddylwn i ei wneud gyda gwastraff fy anifeiliaid anwes?
Gall unrhyw fwyd gwastraff anifeiliaid anwes fynd yn eich cadi bwyd.
Os ydych yn casglu gwastraff cŵn wrth fynd a’ch ci am dro, gellir ei daflu mewn biniau sbwriel ar y stryd.
Os oes ‘litter’ cathod, baw cŵn neu anifeiliaid anwes gennych gartref, gellir ei roi yn eich bag gweddilliol (llwyd / du) i'w waredu wrth ymyl y palmant ond bydd yn rhan o'ch dyraniad tri bag fesul casgliad pob tair wythnos. Os ydych yn agos at y terfyn neu os byddai'n well gennych gael gwared ar y gwastraff hwn yn amlach, gellir ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. Os ydych chi'n rhoi baw anifeiliaid anwes yn eich bag du, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i lapio a'i gymysgu â gwastraff arall.
Mae'r opsiynau ar gyfer dulliau gwaredu amgen yn cynnwys defnyddio treulwyr a mwydod gwastraff anifeiliaid anwes.
10. Mae gennym dân glo neu stôf felly rydym yn cynhyrchu llawer iawn o ludw, beth ddylwn ni ei wneud ag ef?
Os mai tân neu stôf lo yw eich prif ffynhonnell gwresogi, gellir gosod y lludw mewn bagiau du a ddarperir gennych chi pan fydd y lludw wedi oeri, dylid marcio'r bag yn glir 'lludw glo' a dylai gynnwys dim ond lludw neu bydd yn cael ei adael, uchafswm pwysau'r bag hwn yw 15kg. Bydd hyn yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â'ch gwastraff gweddilliol arferol na ellir ei ailgylchu.
Cysylltwch â'r Cyngor ar enquiries@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551 i wneud y Cyngor yn ymwybodol y byddwch yn rhoi Gwastraff Lludw Glo allan ochr yn ochr â'ch bagiau gwastraff gweddilliol na ellir eu hailgylchu.
Dylid rhoi pob lludw arall (hy pren) yn y bagiau gwastraff gweddilliol du / llwyd ar ôl iddo oeri. Mae gan y bagiau uchafswm pwysau o 15kg.
11. Sut ydw i'n darganfod pa ddiwrnod y bydd fy magiau llwyd / du yn cael eu casglu?
Cofrestrwch ar gyfer nodiadau atgoffa casglu (yn agor mewn tab newydd), cyfeiriwch at eich Calendr Gwastraff ac Ailgylchu neu Gwiriwch eich diwrnod bin, fel eich bod chi'n gwybod pryd i roi eich gwastraff na ellir ei ailgylchu allan.
12. Mae gen i fagiau llwyd ar ôl, beth ddylwn i ei wneud gyda nhw?
Dylech barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau llwyd presennol fel arfer ac yna defnyddio bagiau bin du safonol (60litr) ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu wrth symud ymlaen.
Bydd y stoc sy'n weddill o fagiau llwyd ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gael i'w gasglu gan gartrefi o leoliadau ledled Sir Benfro o heddiw (dydd Mercher, 20 Medi).
Bydd bagiau llwyd – un rholyn i bob cartref – ar gael o Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu (fel rhan o apwyntiad Canolfan Wastraff ac Ailgylchu sydd wedi'i archebu ymlaen llaw), Canolfannau Hamdden, Derbynfa Adain y Gogledd yn Neuadd y Sir a Thornton.
Mae'r casgliadau hyn ar gael tra bo'r stociau'n para.
13. Pa faint bag du ddylwn i eu defnyddio?
Gallwch ddefnyddio bagiau du sydd hyd at 60 litr a gwnewch yn siŵr nad yw'r bagiau yn rhy drwm – ni ddylent bwyso mwy na 15kg yr un pan fyddwch yn eu rhoi allan. Bydd 3 bag yn cael eu casglu fesul casgliad tair wythnos.
14. Beth am fflatiau neu ardaloedd sydd â chasgliadau gwastraff cymunedol?
Mae'n rhaid i bob cartref gydymffurfio â'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol sy'n cyfateb i 1 bag gwastraff gweddilliol yr wythnos, a dylent weithio gyda fflatiau ac ystadau i gael gwared ar gasgliadau gwastraff cymunedol ledled y Sir lle bo hynny'n bosibl.
15. Sut i leihau'r risg y bydd fy magiau gweddilliol nad oes modd eu hailgylchu yn drewi?
Bydd defnyddio eich cadi gwastraff bwyd y gellir ei gloi ar gyfer unrhyw wastraff bwyd a'i osod allan i'w gasglu bob wythnos yn helpu i osgoi arogleuon.
Os oes unrhyw un yn eich cartref yn defnyddio cewynnau neu gynhyrchion anymataliaeth eraill, gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) bob pythefnos AM DDIM.
Gall defnyddio dau fag ar gyfer gwastraff anifeiliaid a'i roi yn y bag gweddilliol leihau'r risg o arogleuon hefyd.
16. Sut ydych chi'n mynd i orfodi pobl sy’n rhoi mwy na thri bag gweddilliol allan?
Mae dyletswydd ar bawb i ofalu am y gwastraff maent yn ei gynhyrchu a dilyn y rheoliadau a osodwyd ar gyfer eu heiddo. Rydym yn deall y bydd gan rai cwestiynau neu bod angen cymorth pellach arnynt. Bydd ein cynghorwyr gwastraff yn ymweld ag unrhyw drigolion sy'n diystyru'r polisi tri bag a lle bo'n briodol, bydd cosbau penodedig yn cael eu defnyddio.
17. Pam ydych chi'n torri ein gwasanaethau ac yn gwneud i ni dalu am ein bagiau bin ein hunain yn ystod argyfwng costau byw?
Nid ydym yn torri gwasanaethau ond yn dychwelyd i'r system flaenorol o gartrefi yn darparu bagiau gweddilliol, sy'n cael ei gweithredu gan nifer o awdurdodau yng Nghymru, gan gynnwys Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, darparwyd bagiau llwyd y PCC i gefnogi Newid y Gwasanaeth Gwastraff yn 2019.
Rydym yn parhau i gasglu mwy o ffrydiau gwastraff ac ailgylchu ar wahân nag erioed, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn i gyd wedi golygu ein bod yn un o'r awdurdodau gorau am ailgylchu yn y DU.
Fodd bynnag, mae dadansoddiad diweddar o Wastraff Gweddilliol yn Sir Benfro wedi canfod y gallai 48% o'r gwastraff bag gweddilliol gael ei ailgylchu drwy ein cynlluniau ailgylchu wrth ymyl y ffordd a'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, felly fe allwn ni wneud mwy.
18. Rydw i'n mynd i fod i ffwrdd ar gyfer fy nghasgliad, a fyddaf yn cael rhoi 6 bag llwyd / du allan ar fy nghasgliad nesaf?
Dim ond 3 o fagiau llwyd / du y caniateir i chi eu rhoi allan ar gyfer pob casgliad oni bai bod cytundeb eithriad ar waith h.y. cartref mwy. Os ydych chi i ffwrdd ar gyfer eich casgliad ac nad yw eich cymydog neu deulu/ffrind yn gallu rhoi eich gwastraff ar ochr y ffordd i'w gasglu, yna gallwch fynd â'ch bagiau i'ch Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu agosaf.
19. Mae gen i gwestiwn nad yw'n cael ei ateb yma, beth ddylwn i ei wneud?
E-bostiwch eich ymholiad at wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk
Hybiau Codi Sbwriel Cymunedol
Mae yna naw hwb codi sbwriel yn gweithredu ar draws y sir.
Maent yn caniatáu aelodau’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i fenthyg cyfarpar codi sbwriel i helpu i lanhau eu hardal leol.
Mae codwyr sbwriel, bagiau, cylchynau a gwasgodau llachar ar gael i'w benthyg gan bum ganolfan hamdden a weithredir gan Gyngor Sir Penfro yn Abergwaun, Crymych, Aberdaugleddau, Penfro a Dinbych-y-pysgod, yn ogystal â Neuadd y Dref Penfro, Swyddfa Cyngor Tref Hwlffordd, ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi a Canolfan Cymunedol Bloomfield, Arberth.
Mae’r hybiau – sydd wedi’u sefydlu gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus mewn cydweithrediad â'r cyngor sir – yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru.
Os ydych am fenthyg ychydig o gyfarpar ac am helpu i lanhau eich ardal leol, cysylltwch â’r lleoliadau isod yn uniongyrchol.
Diolch i chi am eich cymorth.
Adeiliadau Cyngor Tref Dinbych y Pysgod
4 Upper Frog St, Dinbych y Pysgod SA70 7JD
01834 842730
Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod
Marsh Rd, Dinbych y Pysgod SA70 8EJ
01437 775678
Canolfan Hamdden Penfro
Bush Hill, Penfro SA71 4RJ
01437 776660
Canolfan Hamdden Abergwaun
Abergwaun SA65 9DT
01437 775504
Canolfan Hamdden Crymych
1 Wellfield Grove, Crymych SA41 3QH
01437 776690
Cast 'n' Craft
44 Charles Street, Aberdaugleddau SA73 2AE
01646 279213
Swyddfa Cyngor Tref Hwlffordd
Old Wool Market, Quay St, Hwlffordd SA61 1BG
01437 763771
Adeiliadau Cyngor Tref Penfro
Town Hall, Main St, Penfro SA71 4JS
Oriel a chanolfan ymwelwyr Oriel y Parc
High Street, Tyddewi, SA62 6NW
01437 720392
Canolfan Cymunedol Bloomfield
Redstone Road, Arberth, SA67 7ES
01834 860293
Stackpole Centre
The Old Home Farmyard, Stackpole, Pembrokeshire, SA71 5DQ
01646 623110
Windswept Watersports
The Boathouse, Dale, Hwlffordd, SA62 3RB
07861 887260
Haverhub
12 Quay Street, Hwlffordd, SA61 1BG
01437 807224
Llys-Y-Fran Reservoir
Clarbeston Road, SA63 4RR
01437 532273
Canolfan Clydau
Tegryn, SA35 0BE
Calendrau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu
Rydym yn ymrwymedig i leihau ein defnydd o bapur, sy'n golygu y gall cartrefi bellach weld eu calendr casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd ar-lein.
Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:
- Mae pob calendr ar gyfer Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, gan gynnwys casgliadau wrth ymyl y ffordd, gwastraff gardd a chasglu cynhyrchion hylendid amsugnol (AHP) ar gael yn adran 'Fy Nyddiau ac Amseroedd' yn 'Fy Nghyfrif'. Mae'r calendrau hyn yn unigryw i'ch cartref a'r gwasanaethau yr ydych chi’n eu derbyn.
- Gallwch weld eich Calendr Casglu Gwastraff wrth ymyl y ffordd a manylion ynghylch eich diwrnod casglu nesaf trwy'r cyfleuster 'Chwilio am eich diwrnod biniau' ar y wefan.
Er mwyn gweld eich calendr
Rhowch eich cod post yn y blwch 'Chwilio am eich diwrnod biniau' isod ac wedyn dewiswch eich cyfeiriad.
Bydd hyn yn dangos manylion eich casgliadau gwastraff ac ailgylchu nesaf.
Wedyn, dewiswch 'Gweld Calendr Casgliadau' ar ochr chwith y dudalen ar y gwaelod.
Chwilio am eich Diwrnod Biniau
Gallwch hefyd gofrestru am nodyn atgoffa wythnosol am ddim ynghylch y diwrnod biniau trwy e-bost trwy Fy Nghyfrif
#mewn2funud
Nod y cynllun #2minutestreetclean yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl helpu i gynnal a gwella glendid Sir Benfro a chael effaith gadarnhaol a buddiol ar ein hamgylchedd.
Ym mhob gorsaf ceir gefail ysbwriel a hen fagiau siopa er mwyn galluogi pobl i gasglu sbwriel pan fyddant yn ymweld. Yna, gellir rhoi’r ysbwriel a gasglwyd yn y bin sbwriel neu’r bin ailgylchu agosaf.
Mae pob darn o sbwriel a gesglir o’n strydoedd yn bwysig, a does dim ots os codwch 1 neu 2 peth neu lond bag – mae pob cyfraniad yn werthfawr.
Mae’r map (yn agor mewn tab newydd) hwn yn dangos lleoliad y byrddau stryd, nodwch mai gwirfoddolwyr sy'n cynnal y byrddau felly gall fod achlysuron pan na fydd y byrddau'n cael eu gosod, a bydd rhai yn dymhorol.
Am ragor o wybodaeth neu i fod yn rhan o #2minutestreetclean cysylltwch â Jemma Price-Lewis ar 01437 764551 neu ebostiwch jemma.price-lewis@pembrokeshire.gov.uk
Hysbysu Casgliad Bin a Fethwyd
Byddwn yn trefnu casglu bin a fethwyd:
- Os oedd eich biniau neu sachau’n cynnwys y deunyddiau cywir. Gallwch weld beth sy’n cael mynd i bob sach ar ein tudalen casgliadau oddi ar y palmant.
- Os dodwyd eich biniau a sachau allan ar y diwrnod casglu cywir ac yn yr wythnos gywir. Cyn hysbysu casgliad a fethwyd cofiwch gadarnhau eich diwrnod casglu trwy ddefnyddio ein chwiliad ailgylchu a sbwriel.
- Os nad yw eich biniau neu sachau’n rhy drwm.
- Os oedd eich biniau a sachau ar y palmant cyn 6.30am ar eich diwrnod casglu.
- Os bu amhariadau annisgwyl i’r gwasanaeth fel tywydd garw. Byddwn yn rhoi gwybodaeth ar ein gwefan a’n cyfrifon Weplyfr a Thrydar os oes problemau.
Os oedd eich biniau a sachau’n barod i’w casglu gallwch hysbysu casgliad a fethwyd wrthym. Os nad oedd eich biniau neu sachau’n barod, byddwn yn eu casglu ar eich Diwrnod Bin priodol nesaf.
Bagiau a bocsys ychwanegol
Gallwch gael cyflenwadau pellach o’r lleoedd canlynol
Mae * yn dynodi ffi. Bagiau bwyd 23 litr £6.70 y rholyn
Gofynnwn yn garedig i chi gasglu bagiau a blychau newydd o nifer o leoliadau ledled y sir.
Os oes angen offer ailgylchu newydd neu ychwanegol arnoch (blwch ar gyfer gwydr, cadi gwastraff bwyd, bagiau coch a glas neu fagiau gwastraff bwyd) gallwch eu casglu o un o'r lleoliadau hyn ledled y sir.
Enw |
Cyfeiriad |
Bagiau gwastraff bwyd 5 litr |
Cadi bwyd 5 litr |
Cadi bwyd 23 litr |
Blwch dal gwydr 44 litr |
Sach las ailddefnyddiadwy – cardbord a cherdyn |
Blwch glas – papur |
Sach goch ailddefnyddiadwy |
AHP sachau 60 litr porffor |
Bagiau clir |
Bagiau glas |
Bagiau gwastraff bwyd 23 litr | Bagiau oren | Bagiau sy’n atal gwylanod |
| Swyddfa Bost Cilgerran | Siop y Pentre, Cilgerran, Sir Benfro, SA43 2SG | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Derbynfa Neuadd y Sir | Neuadd y Sir, Freemans Way, Hwlffordd SA61 1TP | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig Crane Cross | Devonshire Drive, New Hedges, Saundersfoot, SA69 9EE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Cleddau Stores & Post Office (Llangwm) | 32 Main Street, Llangwm, SA62 4HP | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Canolfan Hamdden Crymych | Crymych, SA41 3QH | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Canolfan Hamdden Abergwaun | Abergwaun SA65 9DT | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Abergwaun | Neuadd y Dref, Abergwaun, SA65 9HE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| FRAME | Pont Fadlen, Hwlffordd, SA61 1XF | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Oes |
| Canolfan Hamdden Hwlffordd | St Thomas Green. Hwlffordd SA61 1QX | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Hwlffordd | Glan-yr-afon, Hwlffordd, SA61 1ST | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Siop bapurau Hubbards | 74 High Street, Neyland, Aberdaugleddau, SA73 1TF | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu Hermon | Hermon, Rhydiau, Hermon, Crymych. SA41 3QT | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig, Winsel | Old Hakin Road, Hwlffordd, SA61 1XG | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig Manorowen | Abergwaun, SA65 9QE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig Tyddewi | Fishguard Road, Tyddewi, SA62 6BY | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Mace Stores | 1 Trafalgar Road, Hwlffordd, SA61 1TR | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Canolfan Hamdden Aberdaugleddau | Priory Road, Aberdaugleddau, SA73 2EE | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau | Cedar Court, Parc Busnes Haven's Head, Aberdaugleddau, SA73 3LS | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| (Monkton) Spar Stores | Longmains, Monkton, SA71 4NA | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Newgale Siop | Gerddi a Hamdden M M Carter, Siop Niwgwl, Hwlffordd SA62 6AS | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Swyddfa Bost Trefdraeth | 2 Heol Hir, Trefdraeth SA42 0TJ | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell Neyland | Neyland Community Hub, John St, Neyland, SA73 1TH | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgel Doc Penfro | Stryd y Dŵr, Doc Penfro,Sir Benfro SA72 6DW | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Canolfan Hamdden Penfro | Bush, Penfro SA71 4RJ | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Penfro | Heol y Comin, Penfro, Sir Benfro, SA71 4AE | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Neuadd y Dref Penfro | Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Penfro. SA71 4JS | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Cyngor Dref Doc Penfro | 28 Dimond St, Doc Penfro, SA72 6BT | Nac Oes | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Saundersfoot | Regency Hall, Saundersfoot, Sir Benfro. SA69 9NG | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig Tyddewi | Tyddewi, Hwlffordd, SA62 6BY | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Neuadd y Ddinas Tyddewi | Neuadd y Ddinas, Y Stryd Fawr, Tyddewi, SA62 6SD | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Canolfan Hamdden Tyddewi | Ysgol Dewi Sant, Tyddewi, SA62 6QH | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Swyddfa Bost Llandudoch | 1 Heol Fawr, Llandudoch SA43 3ED | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell Dinbych-y-pysgod | Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 8EJ | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Llyfrgell Dinbych-y-pysgod | Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7LB | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod | Pafiliwn De Valence, Upper Frog Street, Dinbych-y-pysgod. SA70 7JD | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Oes |
| Canolfan Gymunedol The Mount | 15-16 Larch Road, Ystad Mount, SA73 1BZ | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig Waterloo | Doc Penfro, SA72 4RT | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
| Safle Amwynder Dinesig Winsel | Old Hakin Road, Hwlffordd, SA61 1XG | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Gwasanaeth Casglu Nwyddau Swmpus o Gartrefi
Archebu casgliad gwastraff cartref swmpus
Ar y dudalen hon:
Cyfarwyddiadau ar gyfer gosod eitemau y tu allan i’ch eiddo fel eu bod yn barod i'w casglu
Gallwch archebu casgliad gwastraff ar gyfer eitemau cartref mawr megis oergelloedd, gwelyau a dodrefn. Gallwn gasglu hyd at 20 o eitemau mewn un ymweliad.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion yn unig. Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer busnesau, llety gwyliau, nac eiddo sy’n cael ei rentu.
Mae casgliadau gwastraff swmpus yn cael eu gwneud gan FRAME, elusen leol sy'n gweithio gyda ni.
Fel arfer, cynhelir casgliadau hyd at dair wythnos ar ôl i chi archebu.
Faint mae’n costio
- £25 am hyd at bum eitem
- £5 am bob eitem ychwanegol (hyd at 20 eitem i gyd)
Enghreifftiau:
- Mae matres yn un eitem
- Mae soffa gornel neu welyau bync yn cyfrif fel dwy eitem
- Mae bwrdd a phedair cadair yn cyfrif fel pum eitem
*Ni allwn gasglu unrhyw eitemau sydd angen mwy na dau o bobl i'w codi, megis pianos a boeleri.*
Yr hyn rydyn ni'n ei gasglu
Pan fyddwch chi'n archebu eich casgliad gwastraff swmpus, rhaid i chi ddweud wrthym am yr holl eitemau. Ni fyddwn yn gallu casglu unrhyw beth nad yw wedi'i gynnwys yn eich archeb.
Ni allwch ychwanegu unrhyw beth arall at eich archeb ar ôl i chi ei chadarnhau, felly meddyliwch yn ofalus am yr hyn sydd angen i chi gael gwared arno a sicrhewch eich bod yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch yn yr archeb.
Yr hyn y gallwn ei gasglu:
Gallwn gasglu'r rhan fwyaf o ddodrefn cartref a nwyddau gwyn safonol – cyn belled â'u bod yn ddiogel i'w symud a bod modd i ddau o bobl eu codi.
Gwiriwch beth na allwn ni ei gasglu cyn i chi archebu casgliad.
Mae'r rhestr isod yn rhoi enghreifftiau o eitemau cyffredin rydyn ni'n eu casglu (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
Dodrefn
- Cadair freichiau
- Soffa
- Soffa gornel (rhaid ei datgymalu – yn cyfrif fel dwy eitem)
- Cadair
- Mainc
- Bwrdd coffi
- Bwrdd ochr
- Cabinet neu gwpwrdd bach
- Cist ddroriau
- Bwrdd gwisgo
- Silff lyfrau (bach)
- Ffrâm gwely (rhaid ei datgymalu)
- Pen gwely
- Wardrob
- Gwely bync (rhaid ei ddatgymalu – yn cyfrif fel dwy eitem)
- Crud (wedi'i ddatgymalu)
- Matres
- Dresel
- Amgylchyniad tân
- Cabinet gwydr
- Stand planhigion
Offer a nwyddau gwyn
- Peiriant golchi dillad
- Sychwr dillad
- Peiriant golchi llestri
- Ffwrn
- Oergell
- Rhewgell
- Oergell-rewgell
- Microdon
- Sugnydd llwch
Offer trydanol
- Teledu
- Monitor neu sgrin
- Cyfrifiadur neu liniadur
- Argraffydd
- Chwaraewr DVD neu fideo
- Stereo neu system sain
- Ffitiad golau (e.e. lamp grog neu sbotolau)
- Lamp
Eitemau gardd ac awyr agored
- Cadair ardd
- Bwrdd gardd
- Barbeciw
- Sychwr troi neu lein ddillad
- Whilber
Eitemau plant a babanod
- Pram neu goetsh gadair
- Cadair uchel
- Giât grisiau
Amrywiol
- Erial
- Polyn llenni
- Ysgol
- Hors ddillad neu rac sychu
- Drych
- Bagiau
- Cwpwrdd ffeilio
- Desg
- Cloc wyth niwrnod
- Comôd
- Bwrdd pŵl, snwcer neu denis bwrdd
- Bag pwnio
- Gwely haul
- Cadair olwyn
Yr hyn nad ydym yn ei gasglu
Ni allwn gasglu eitemau sydd:
- yn hirach na chwe throedfedd
- yn rhy drwm, yn rhy fawr neu’n anniogel i ddau unigolyn eu codi
- yn cael eu dosbarthu fel gwastraff DIY, adeiladu neu fasnachol
- y dylid eu rhoi yn eich casgliad gwastraff neu ailgylchu arferol
- wedi’u baeddu’n drwm, wedi’u halogi neu wedi’u heintio (am resymau iechyd a diogelwch)
Eitemau nad ydym yn eu casglu:
Gwastraff cartref
- Bagiau du o wastraff cyffredinol
- Deunyddiau cartref i’w hailgylchu (e.e. caniau, plastigau, papur)
- Tecstilau gwlyb neu drwm
- Gwastraff anifeiliaid anwes, cewyll a gwelyau anifeiliaid anwes wedi baeddu
Eitemau y dylid eu rhoi yn eich deunydd ailgylchu i’w casglu wrth ymyl y ffordd
- Cardbord
- Eitemau trydanol bach
Gwastraff gardd
- Toriadau glaswellt, planhigion, llwyni a changhennau coed. Tanysgrifiwch i gasgliad gwastraff gardd.
- Strwythurau gardd mawr (e.e. siediau, decin, ffensys, gatiau mawr)
- Teganau gardd nad ydynt wedi’u datgymalu (e.e. trampolinau, goliau pêl-droed, pyst pêl-rwyd)
Lloriau a dodrefn meddal
- Carpedi
- Isgarpedi
- Matiau dros chwe throedfedd
- Lloriau (pren, laminedig, teils)
Dodrefn mawr neu swmpus na allwn eu casglu
- Sofas mawr sydd heb eu datgymalu
- Pianos
- Tybiau twym
- Pyllau nofio
- Lifftiau grisiau
- Peiriannau torri gwair i’w reidio
Gwastraff DIY ac adeiladu
(Ni allwn gasglu unrhyw wastraff DIY — hyd yn oed os yw’n dod o’ch cartref.)
- Rheiddiaduron
- Paledau pren
- Drysau mewnol ac allanol
- Ffenestri
- Cypyrddau ac unedau cegin
- Wynebau gweithio
- Baddonau, sinciau, toiledau, sgriniau cawod a hambyrddau
- Ffaniau echdynnu a chyflau cwceri
- Unedau sinc
- Concrit, rwbel, pridd neu gerrig
- Dalennau adeiladu mawr (e.e. dalennau acrylig neu ddrych)
- Darnau o goed neu bren (ac eithrio slatiau gwaelod gwely wedi’u bwndelu)
- Gosodiadau a ffitiadau wedi’u tynnu yn ystod gwaith DIY
Eitemau peryglus neu gyfyngedig
- Poteli a silindrau nwy (gan gynnwys silindrau gwresogyddion nwy Calor – dim ond yr uned wresogi heb silindr y gallwn ei chymryd)
- Cemegion, olewau, paent ac asbestos
- Tiwbiau fflwroleuol
- Gwresogyddion stôr
- Boeleri neu danciau olew
Eitemau trydanol a swmpus na allwn eu casglu
- Oergelloedd neu rewgelloedd nad ydynt yn wag
- Boeleri
- Cymhorthion symudedd sydd wedi’u gosod ar strwythurau
- Ffyrnau mawr
- Eitemau sydd angen mwy na dau unigolyn i’w codi
Cerbydau a rhannau cerbydau
- Rhannau ceir (ac eithrio silffoedd parseli)
- Batris ceir
- Teiars
- Trelars
- Cychod, rhannau cychod, ceufadau, a byrddau hwylio
Pwysig:
Gellir casglu rhai eitemau os cânt eu datgymalu – er enghraifft:
- Gwelyau bync (yn cyfrif fel dwy eitem ar ôl eu datgymalu)
- Teganau mawr megis trampolinau neu byst gôl
Gwiriwch pa rai o’r rhain y gellir eu derbyn yn un o’n canolfannau gwastraff ac ailgylchu.
Sut i archebu
- Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
- Cwblhewch y ffurflen casglu gwastraff swmpus
- Talwch ar-lein yn ystod y broses archebu – ni allwn dderbyn archebion heb daliad
Pwysig:
- Rhestrwch yr holl eitemau rydych chi eisiau eu casglu – dim ond yr hyn rydych chi'n ei nodi pan ydych chi’n archebu casgliad y gallwn ni ei gymryd
- Gwiriwch eich rhestr o eitemau i'w casglu ddwywaith cyn ei chyflwyno – ni ellir gwneud newidiadau yn ddiweddarach
- Darllenwch y telerau ac amodau
Cadwch eich lle nawr trwy Fy Nghyfrif
Ar ôl i chi archebu
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi archebu?
Byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich archeb.
Ar ôl i chi archebu, byddwch yn cael dwy neges e-bost:
- e-bost yn cadarnhau
- derbynneb am eich taliad
Os na chewch y ddwy neges e-bost, gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam. Os na allwch ddod o hyd iddynt o hyd, anfonwch e-bost atom yn digital@pembrokeshire.gov.uk
Byddwch yn cael e-bost gan FRAME o fewn pum diwrnod gwaith:
- yn cadarnhau eich dyddiad casglu
- yn esbonio beth i'w wneud nesaf
Byddwch hefyd yn cael e-bost i’ch atgoffa y diwrnod cyn eich casgliad.
Os yw eich casgliad ar ddydd Llun, byddwn yn anfon y nodyn atgoffa ar y dydd Gwener cyn hynny.
Ar y diwrnod casglu y cytunwyd arno, rhowch yr holl eitemau y tu allan i'ch eiddo fel y cyfarwyddir erbyn 8am.
Byddwn yn casglu eich eitemau unrhyw bryd rhwng 8am a 4pm.
Nid oes angen i chi fod gartref yn ystod y casgliad
Cyfarwyddiadau ar gyfer gosod eitemau y tu allan i’ch eiddo fel eu bod yn barod i'w casglu
Gwnewch yn siŵr bod eich eitemau y tu allan i’ch eiddo erbyn 8am ar eich diwrnod casglu.
Os nad ydyn nhw yno, ni fyddwn yn gallu eu casglu, ac ni chewch ad-daliad.
- Rhowch eich eitemau y tu allan i'ch cartref erbyn 8am ar eich diwrnod casglu
- Er mwyn osgoi difrod neu rwystr, peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny oni bai eu bod wedi'u gorchuddio ac nad ydynt yn rhwystro palmentydd na ffyrdd.
- Rhaid gosod eitemau i'w casglu gyda'i gilydd, y tu allan i'ch cartref neu mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd lle mae’r fan yn gallu eu casglu yn hawdd (fel y byddech chi ar gyfer eich casgliad bin arferol) cyn 8am ar y diwrnod casglu a drefnwyd.
- Gallwn gasglu eitemau o gefn eich eiddo os gall ein fan eu cyrraedd yn uniongyrchol. Ni allwn gasglu o erddi cefn lle mae’n rhaid mynd trwy lwybrau cerddwyr neu lwybrau tebyg er mwyn cael mynediad iddynt.
- Os oes angen cymorth arnoch, darllenwch: A all rhywun fy helpu i symud yr eitemau os na allaf eu rhoi y tu allan ar fy mhen fy hun?
- Os rhagwelir glaw, gorchuddiwch eitemau i'w cadw'n sych er mwyn osgoi difrod dŵr neu bwysau ychwanegol
- Os yw'n wyntog, gosodwch pwysau ar eich eitemau a chlymwch nhw yn dynn fel nad ydyn nhw'n chwythu i ffwrdd
- Datgymalwch eitemau mawr (megis trampolinau a gwelyau bync) a chlymu'r rhannau at ei gilydd fel un eitem
- Ni all ein tîm ddatgymalu eitemau yn ystod y casgliad
Telerau ac amodau
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau cartref mawr ar gyfer eitemau megis oergelloedd, soffas a gwelyau, ac rydym yn codi tâl am y canlynol:
Mae casgliadau’n digwydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 4pm.
Pan fyddwch chi'n archebu, byddwn ni'n anfon neges e-bost atoch i gadarnhau eich archeb.
Cyn i chi archebu:
- darllenwch a derbyniwch ein telerau ac amodau
- gwiriwch y gost
- archwiliwch ffyrdd eraill o gael gwared ar eich eitemau fel mynd â nhw i un o’n canolfannau gwastraff ac ailgylchu, defnyddio gwefannau ailwerthu, cynnal gwerthiant cist car, neu fynd â nhw i siop elusen
- Ni ellir ad-dalu unrhyw daliad.
- Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion yn unig.
Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer busnesau, llety gwyliau, nac eiddo sy’n cael ei rentu. Os byddwn yn canfod bod yr archeb at ddefnydd masnachol, ni fyddwn yn casglu'r eitemau nac yn rhoi ad-daliad.
- Byddwn yn casglu hyd at 20 eitem fesul ymweliad.
- Taliadau:
- £25 am hyd at bum eitem
- £5 am bob eitem ychwanegol (hyd at 20 eitem i gyd)
- Rhaid gosod eitemau i'w casglu gyda'i gilydd, o flaen eich cartref neu mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd (lle rydych chi’n rhoi eich gwastraff arferol), cyn 8am ar y diwrnod casglu a drefnwyd. Gallwn gasglu eitemau o gefn eich eiddo os gall ein fan eu cyrraedd yn uniongyrchol. Ni allwn gasglu o erddi cefn lle mae’n rhaid mynd trwy lwybrau cerddwyr neu lwybrau tebyg er mwyn cael mynediad iddynt.
- Rhaid rhoi eitemau rhydd mewn bagiau neu focsys, neu rhaid i chi eu clymu nhw at ei gilydd fel y gellir eu trin yn ddiogel.
- Ni allwn gasglu unrhyw eitemau sydd angen mwy na dau o bobl i'w codi, megis pianos a boeleri.
- Os nad yw'r eitem yr hoffech chi ni ei chasglu ar y rhestr o opsiynau sydd ar gael, bydd angen i chi ddod o hyd i ddull gwaredu arall.
- Ni allwch ychwanegu eitemau i’ch casgliad, na newid eitemau eich casgliad ar ôl i chi archebu.
- Ni fyddwch chi’n cael ad-daliad os byddwch yn canslo’r casgliad, os na fyddwch yn defnyddio'r casgliad, neu os byddwch yn tynnu eitemau ohono.
- Dim ond yr eitemau a restrir yn eich archeb y byddwn yn eu casglu. Os byddwch chi'n rhoi eitemau ychwanegol y tu allan i’ch eiddo i’w casglu, ni fyddant yn cael eu cymryd. Os caiff sawl eitem eu harchebu fel un eitem, dim ond un eitem fydd yn cael ei chasglu, e.e. mae gwely a matres yn ddwy eitem. Rydym yn tynnu lluniau os oes problem gyda'ch casgliad, i helpu i egluro beth ddigwyddodd.
- Byddwn ni, Cyngor Sir Penfro, yn trosglwyddo eich enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad i FRAME er mwyn iddynt allu casglu eich eitemau. Fel rhan o'r gwasanaeth, bydd FRAME yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch casgliad. Gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff swmpus am ragor o wybodaeth.
- Byddwch yn cael gwybod am eich diwrnod casglu gan FRAME, sy'n cadw'r hawl i newid y casgliad os oes angen. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw newid gyda chymaint o rybudd â phosibl.
- Os byddwch yn gosod eich eitemau'n gywir i'w casglu ac os na chaiff yr eitemau eu casglu, byddwn yn cwblhau'r casgliad cyn gynted â phosibl ar ôl i chi roi gwybod i ni.
- Os nad ydych yn gosod eich eitemau'n gywir i'w casglu ac na ellir cwblhau'r casgliad, ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu'r eitemau ac ni roddir unrhyw ad-daliad.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr holl ganllawiau perthnasol neu efallai na fydd eich eitemau'n cael eu casglu.
Gwybodaeth ychwanegol:
- Rhaid tapio neu lapio unrhyw wydr neu ddrychau.
- Rhaid analluogi stoliau troed sydd â sbringiau mewn cadeiriau a soffas gogwydd.
- Rhaid datgymalu gwelyau a fframiau gwelyau cyn eu casglu. Mae gwely difán sy'n rhannu'n ddwy ran yn dal i gyfrif fel un eitem.
- Dylid datgymalu soffas cornel a setiau o dri darn o ddodrefn. Mae soffas cornel yn cyfrif fel dwy eitem ac mae setiau o dri darn o ddodrefn yn cyfrif fel tair eitem.
- Mae bwrdd neu gasgliad o fyrddau – wedi'u datgymalu ai peidio – yn cyfrif fel un eitem.
- Rhaid cadw matresi a dodrefn meddal eraill, e.e. soffas, yn sych (e.e. wedi'u gosod yn erbyn wal a'u gorchuddio) er mwyn eu hosgoi mynd yn wlyb ac yn rhy drwm.
- Rhaid datgymalu eitemau dros chwe troedfedd (gan gynnwys trampolinau a gwelyau bync).
- Rhaid i reiddiaduron trydan neu rai sydd wedi'u llenwi ag olew fod yn gyfan a heb eu difrodi. Nid ydym yn casglu gwresogyddion stôr.
- Rhaid i eitemau fod yn wag – peidiwch â'u llenwi â sbwriel nac eitemau eraill.
Cwestiynau cyffredin
A all rhywun fy helpu i symud yr eitemau os na allaf eu rhoi y tu allan ar fy mhen fy hun?
Gall. Os nad ydych chi'n gallu rhoi eitemau y tu allan i’ch eiddo oherwydd anabledd, symudedd cyfyngedig, heriau sy'n gysylltiedig ag oedran, neu oherwydd eich bod chi fel arfer yn cael casgliadau gwastraff â chymorth, gallwn ni helpu.
Rhowch wybod i ni adeg archebu a rhowch gymaint o fanylion â phosibl. Mae hyn yn ein helpu i gynllunio a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.
Beth os yw hi'n bwrw glaw ac nad oes gen i ffordd o orchuddio'r eitemau?
Os yn bosibl, rhowch yr eitemau allan ar fore’r casgliad yn hytrach na’r noson cynt. Mae hyn yn helpu i leihau pa mor wlyb maen nhw'n mynd.
Mae eitemau ffabrig megis soffas a matresi yn anoddach eu casglu pan fyddant yn llawn dŵr, felly efallai na fyddwn yn gallu eu cymryd os ydyn nhw'n rhy wlyb ac yn drwm.
Os gallwch chi, gorchuddiwch yr eitemau hyn neu rhowch fatresi ar eu hochr i helpu i leihau faint o ddŵr maen nhw'n eu hamsugno.
Beth os yw fy eitem yn drwm iawn – a fyddwch chi'n dal i'w chasglu?
Mae eitemau'n cael eu casglu gan dîm o ddau unigolyn. Os yw rhywbeth yn rhy drwm neu'n anniogel i ddau o bobl ei godi, efallai na fyddwn yn gallu ei gario.
Gwiriwch ein rhestr o eitemau na allwn eu casglu ar gyfer eitemau trwm neu eitemau cyfyngedig y gwyddys amdanynt.
Caiff pob eitem ei hasesu ar y diwrnod i sicrhau ei bod yn ddiogel ei chodi.
Beth allaf i ei wneud gydag eitem na allwch chi ei chasglu oherwydd ei bod yn rhy drwm?
Os yw'r eitem yn rhy drwm ac na all dau o bobl ei chodi'n ddiogel, efallai yr hoffech chi wneud y canlynol:
- Cysylltu â chwmni gwaredu gwastraff trwyddedig neu logi sgipiau lleol
- Mynd â’r eitem i'ch canolfan gwastraff cartref ac ailgylchu agosaf (tip), os yn bosibl
Fel arfer, gellir casglu'r rhan fwyaf o eitemau cartref arferol (heb gynnwys gwastraff DIY) os ydynt yn bodloni ein terfynau maint a phwysau.
Oes angen i mi ddatgymalu fy eitemau cyn eu casglu?
Oes. Ni ddylai eitemau fod yn hirach na chwe troedfedd (gan gynnwys rygiau), er mwyn ffitio ar y cerbyd.
Datgymalwch neu torrwch eitemau mawr a'u clymu neu eu bwndelu at ei gilydd, megis fframiau neu slatiau gwelyau.
Os nad ydw i ar gael ar ddiwrnod y casgliad, a allaf roi eitemau y tu allan i’m heiddo cyn hynny?
Gallwch. Does dim rhaid i chi fod adref ar y diwrnod.
Gwnewch yn siŵr:
- Bod eitemau wedi'u gosod gyda'i gilydd y tu allan i'ch cartref, yn hawdd eu gweld, ac yn hawdd eu cyrchu
- Nad ydyn nhw'n rhwystro palmentydd, ffyrdd, na llwybrau
- Bod eitemau wedi'u gorchuddio neu eu diogelu rhag ofn tywydd garw
Does gen i ddim lle y tu allan i’m heiddo i adael yr eitemau. Beth ddylwn ei wneud?
Os byddai gosod eitemau y tu allan i’ch eiddo yn rhwystro llwybr troed neu ffordd, dywedwch wrthym pan fyddwch chi'n archebu casgliad.
Efallai y byddwn yn gallu casglu’r eitem(au) o tu fewn i’ch eiddo mewn achosion eithriadol, ond:
- Rhaid i chi fod gartref ar y pryd
- Rhaid i'r rheswm fod yn ddilys ac yn gysylltiedig â mynediad neu ddiogelwch
- Rhowch fanylion llawn wrth archebu fel y gallwn asesu a chynllunio yn unol â hynny
Casglwyd fy eitemau gan unigolyn arall cyn i'ch tîm gyrraedd. A allaf gael ad-daliad?
Na, yn anffodus ni ellir ad-dalu unrhyw daliadau.
Cyfeiriwch at ein telerau ac amodau am ragor o wybodaeth.
Ni chasglwyd fy eitemau ar y diwrnod y dywedwyd wrthyf. Beth ddylwn ei wneud?
Os gwnaethoch chi roi'r eitemau y tu allan i’ch eiddo yn gywir a bod eich casgliad wedi'i golli, rhowch wybod i ni.
Byddwn yn anelu at eu casglu cyn gynted â phosibl, a byddwn yn cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith i aildrefnu casgliad.
Collais fy niwrnod casglu neu anghofiais roi'r eitemau y tu allan i’m heiddo. Beth nawr?
- Gwiriwch eich negeseuon e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi archebu casgliad ac sy’n eich atgoffa chi o’ch casgliad i weld eich dyddiad casglu.
- Os daethom ac nid oeddem yn gallu dod o hyd i'r eitemau, byddwn wedi gadael cerdyn.
- Os nad oedd yr eitemau y tu allan i’ch eiddo neu os nad oeddem yn gallu cael mynediad atynt, ni allwn gynnig ad-daliad. Bydd angen i chi ailarchebu os ydych chi dal eisiau iddyn nhw gael eu casglu.
Nid yw'r eitem rydw i am iddi gael ei chasglu ar eich rhestr. Allaf ddal i archebu casgliad?
Gwiriwch y rhestr o eitemau rydyn ni'n eu casglu a'r rhestr o eitemau nad ydyn ni'n eu casglu.
Os nad yw eich eitem ar y naill restr na'r llall ond ei bod yn bodloni ein canllawiau cyffredinol, gallwch chi ddal archebu casgliad. Dewiswch ‘amrywiol’ a rhowch ddisgrifiad clir.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi am fwy o fanylion neu'n canslo'r archeb os nad yw'n bodloni ein canllawiau iechyd a diogelwch neu wasanaeth.
Angen cymorth?
Os oes gennych gwestiynau neu os na allwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid:
01437 764551
enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Bagiau Gwrthsefyll Gwylanod
Bydd hi'n bosibl prynu bagiau gwastraff gwydn sy'n gwrthsefyll gwylanod, am £7.15 (inc VAT) yr un, yn y lleoliodau canlynol:
- Frame Sir Benfro, Pont Fadlen
- Frame Sir Benfro, London Road, Doc Penfro
- Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, Pafiliwn De Valence, Upper Frog Street
- Cyngor Dinas Tyddewi, Neuadd y Ddinas Tyddewi, Stryd fawr
- Depo Thornton, Aberdaugleddau
Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu
Gwybodaeth Gasglu Gwastraff (yn agor mewn tab newydd)
Chwilio am eich Diwrnod Biniau
Casgliadau gwastraff ardd
Tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2026
Tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd
Trwy reoli’ch tanysgrifiad ar-lein, gallwch hefyd ganslo’ch tanysgrifiad unrhyw bryd.
Sut mae’n gweithio
- Cynhelir casgliadau bob pythefnos rhwng 2 Mawrth a 4 Rhagfyr 2026.
- Mae’r gwasanaeth yn wasanaeth tanysgrifiad yn unig ac yn costio:
- £61.50 y bin (2 Mawrth a 4 Rhagfyr 2026) os ydych yn tanysgrifio cyn 1 Ebrill 2026
- £66.50 y bin (2 Mawrth a 4 Rhagfyr 2026) os ydych yn tanysgrifio ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026
Pwy all danysgrifio?
Gall aelwydydd a busnesau gofrestru.
Ar gyfer busnesau:
- I gwsmeriaid gwastraff masnach Cyngor Sir Penfro, cost casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2026-2027 fydd £109 fesul bin, a bydd y ffi dyletswydd gofal yn £31 ar ben hynny. Rhaid cynnwys hyn ar eich ffurflen gytundeb gwastraff masnach ar gyfer 2026-2027.
Sut i danysgrifio
Ar gyfer aelwydydd:
Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd bellach ar agor ar gyfer tanysgrifiadau newydd:
Tanysgrifio i gasgliadau gwastraff gardd
Mae nifer y tanysgrifiadau yn gyfyngedig ac, ar ôl i ni gyrraedd y capasiti, bydd cofrestriadau newydd yn cael eu hatal.
Ar gyfer busnesau:
Bydd busnesau’n cael cyfle i adnewyddu neu ofyn am y gwasanaeth ar ôl cyflwyno cytundeb gwastraff masnachol ar gyfer y flwyddyn 2026/27.
I ymholi, cysylltwch â’n tîm gwastraff masnach:
E-bost: tradewaste@pembrokeshire.gov.uk
Efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth ym mhob achos.
Casglu gwastraff gardd – cwestiynau cyffredin
- Tanysgrifio ac adnewyddu
- Defnyddio’r gwasanaeth
- Gwybodaeth am y bin
- Taliadau a phrisiau
- Cwestiynau eraill
Tanysgrifio ac adnewyddu
A oes angen i mi wneud unrhyw beth os nad wyf am adnewyddu?
Oes. Rhowch wybod i ni os nad ydych am adnewyddu fel y gallwn gasglu eich bin.
Sut ydw i’n adnewyddu fy nhanysgrifiad?
Byddwn yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu atoch cyn y disgwylir i chi adnewyddu. Gallwch adnewyddu:
- Ar-lein: Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif ac ewch i ‘Fy ngwasanaethau’.
- Dros y ffôn: Ffoniwch 01437 764551.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn adnewyddu?
Os na dderbynnir taliad, bydd eich casgliadau yn dod i ben, a byddwn yn casglu eich bin.
Beth sy’n digwydd os oes gen i ddebyd uniongyrchol yn ei lle?
Bydd eich tanysgrifiad yn cael ei adnewyddu’n awtomatig oni bai fod y ddebyd uniongyrchol yn cael ei chanslo. Bydd eich taliad debyd uniongyrchol yn cael ei gymryd ym mis Ebrill, a byddwn yn rhoi gwybod i chi 10 diwrnod cyn yr union ddyddiad.
A allaf ganslo fy nhanysgrifiad?
Gallwch, gallwch ganslo ar-lein drwy Fy Nghyfrif neu drwy ffonio 01437 764551. Ni chaiff unrhyw ad-daliadau eu talu. Byddwn yn trefnu i gasglu eich bin.
Pa mor hir bydd fy nhanysgrifiad yn para?
Mae tanysgrifiadau yn rhedeg yn flynyddol ac yn cwmpasu casgliadau o 2 Mawrth i 4 Rhagfyr. Rhaid talu’r ffi lawn pryd bynnag y byddwch yn tanysgrifio.
Defnyddio’r gwasanaeth
Pa mor aml fydd fy min yn cael ei gasglu?
Cynhelir casgliadau bob pythefnos rhwng 2 Mawrth a 4 Rhagfyr ar ddiwrnod casglu penodol.
Pa ddiwrnod fydd fy niwrnod casglu?
Byddwn yn cadarnhau eich diwrnod casglu pan fyddwn yn danfon eich bin. Gallwch hefyd wirio trwy roi eich cod post i mewn yn yr adran ‘Gwasanaethau yn eich ardal’ ar ein gwefan.
Gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer hysbysiadau atgoffa
Ble dylwn i adael fy min i’w gasglu?
Rhowch eich bin yn eich man casglu arferol erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu.
Beth fydd yn digwydd os na chaiff fy min ei gasglu?
- Gwiriwch a drefnwyd i’w gasglu ar y diwrnod hwnnw.
- Sicrhewch mai dim ond eitemau a ganiateir sydd y tu mewn iddo ac nad yw’r cynnwys wedi’i gywasgu.
- Os oedd eich bin allan erbyn 6.30am ac ni chasglwyd ef erbyn 4pm, ffoniwch 01437 764551, neu adroddwch ar-lein trwy'r ffurflen casgliad a fethwyd ar Fy Nghyfrif.
A allaf gael mwy nag un bin?
Gallwch. Bydd angen i chi dalu’r ffi tanysgrifio flynyddol ar gyfer pob bin.
Beth alla i ei roi yn fy min?
Gallwch gael gwared ar y canlynol:
- Toriadau gwrychoedd, coed a llwyni
- Gwreiddiau
- Toriadau gwair a chribinio
- Dail
- Planhigion, blodau a chwyn
Gwybodaeth am y bin
Pam mae biniau olwynion yn cael eu defnyddio yn lle bagiau?
Mae biniau olwynion yn fwy gwydn, yn fwy diogel i’w trin, ac yn dal mwy o wastraff gardd.
A allaf ddefnyddio fy min fy hun?
Na, dim ond biniau a gyflenwir gan y cyngor y gellir eu defnyddio. Maent wedi’u cynllunio i gael eu codi’n ddiogel gan ein cerbydau.
A fyddaf yn cael bin newydd sbon?
Ddim o reidrwydd. Mae biniau a ddychwelwyd yn cael eu hailddefnyddio, felly efallai y byddwch yn derbyn bin ag ôl defnydd.
Beth os nad oes gennyf le i gadw bin?
- Efallai y gallwn gynnig dau fin llai i chi yn lle un bin mawr.
- Gallech rannu bin gyda chymydog i rannu’r gost.
- Os nad yw’r naill opsiwn na’r llall yn gweithio, ffoniwch 01437 764551 am asesiad cynhwysydd.
Beth os na allaf i symud bin olwynion?
Ffoniwch 01437 764551 i drafod opsiynau eraill.
A allaf i gael casgliad â chymorth?
Gallwch, os yw hynny’n ymarferol. Bydd asesiad risg yn cael ei gynnal gan aelod o’r Adran Gwastraff cyn derbyn unrhyw gais am gasgliad â chymorth.
Beth os caiff fy min ei golli neu ei ddifrodi?
- Ar goll neu wedi’i ddwyn? Holwch eich cymdogion cyn rhoi gwybod i ni amdano. Efallai y bydd rhaid i chi dalu am fin newydd.
- Wedi’i ddifrodi? Ffoniwch 01437 764551 i ofyn am un arall. Efallai y codir tâl arnoch yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
A fydd y cyngor yn glanhau fy min?
Na, chi sy’n gyfrifol am lanhau’ch bin.
Taliadau a phrisiau
Pam fod yn rhaid i mi dalu am gasglu gwastraff gardd?
Mae’r gwasanaeth yn ddewisol ac yn cael ei ariannu gan danysgrifwyr yn unig. Mae hyn yn sicrhau tegwch i’r rhai nad oes angen y gwasanaeth arnynt.
A oes unrhyw gonsesiynau?
Na, nid oes unrhyw gonsesiynau ar gael.
Sut alla i dalu?
- Ar-lein: Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif ac ewch i ‘Fy ngwasanaethau’.
- Debyd uniongyrchol: Gwastraff o’r Ardd Ffurflen Taliad Debyd Uniongyrchol, neu ffoniwch 01437 764551, neu codwch un o Wasanaethau Cwsmeriaid Hwlffordd (Derbynfa Neuadd y Sir).
- Dros y ffôn: Ffoniwch 01437 764551 i dalu â cherdyn.
Cwestiynau eraill
Mae gen i wastraff gardd ond dydw i ddim eisiau tanysgrifio – beth alla i ei wneud?
Gallwch wneud y canlynol:
- Compostio yn y cartref – opsiwn rhad ac am ddim ac ecogyfeillgar.
- Ewch ag ef i ganolfan gwastraff ac ailgylchu – mae ei waredu’n rhad ac am ddim, a chaiff y gwastraff ei droi’n gompost.
Beth sy’n digwydd i’m gwastraff gardd ar ôl ei gasglu?
Mae’n cael ei gludo i gyfleuster compostio a’i droi’n gompost ar gyfer defnydd tir.
Pam nad yw’r gwasanaeth ar gael o fis Rhagfyr i fis Chwefror?
Ychydig iawn o wastraff gardd a gynhyrchir yn y gaeaf. Mae atal y gwasanaeth dros dro yn helpu i gadw costau i lawr.
Beth os byddaf yn symud tŷ?
- Symud o fewn Sir Benfro? Gallwch fynd â’ch bin gyda chi. Ffoniwch 01437 764551 o leiaf 10 diwrnod cyn symud er mwyn i ni allu diweddaru eich cyfeiriad casglu.
- Symud y tu allan i Sir Benfro? Bydd angen i chi ganslo’ch tanysgrifiad. Byddwn yn casglu eich bin.
Busnes ydw i – alla i danysgrifio?
Gallwch. Cysylltwch â’n Tîm Gwastraff Masnachol yn tradewaste@pembrokeshire.gov.uk
Telerau ac amodau
Cymerwch amser i ddarllen y telerau ac amodau hyn gan eu bod yn rhan o’n cytundeb â chi
- Bydd casgliadau’n digwydd bob pythefnos rhwng 2 Mawrth a 4 Rhagfyr 2025 (gan gynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus).
- Mae’r gwasanaeth ar gael i gartrefi a busnesau Cyngor Sir Penfro. Gall cymdogion rannu bin ond dim ond i un cyfeiriad y bydd bin yn cael ei gofrestru a chaiff ei gasglu o’r cyfeiriad hwnnw. Mae’r taliad am y gwasanaeth yn flynyddol ymlaen llaw ac nid oes modd ei ad-dalu o dan unrhyw amgylchiadau.
- Mae’r bin(iau) gwastraff gardd yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Sir Penfro a rhaid eu defnyddio ar gyfer gwastraff gardd yn unig ac ni ddylid eu difwyno na’u harysgrifio mewn unrhyw ffordd. Rhaid rhoi gwybod ar unwaith am fin(iau) sydd wedi’u difrodi neu eu dwyn ac mae’n bosibl y codir tâl am eu hatgyweirio neu eu newid.
- Dylid storio bin(iau) ar eiddo deiliad y tŷ ac ar y diwrnod casglu eu gosod mewn man hygyrch, dirwystr, sef eich man casglu arferol ar ymyl y ffordd, a’u dychwelyd i’r eiddo cyn gynted a phosibl ar ôl iddynt gael eu gwacáu. Mae’r hawl gennym i newid amseroedd casglu felly rhaid i’r bin(iau) fod allan erbyn 6.30am bob amser.
- Nid yw’r gwasanaeth yn drosglwyddadwy o un preswylydd i’r llall. Wrth newid cyfeiriad, bydd y gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo i’r cyfeiriad newydd os yw o fewn Sir Benfro. Os yn symud allan o’r sir, rhaid hysbysu’r cyngor a chyflwyno’r bin(iau) i’w symud.
- Ni fydd biniau sy’n rhy drwm i’w trin yn ddiogel neu sy’n anniogel ar gyfer y mecanwaith codi yn cael eu gwacáu. Rhaid i ddeiliad y tŷ dynnu’r pwysau gormodol ac ailgyflwyno’r bin ar gyfer y casgliad nesaf sydd wedi’i amserlennu.
- Dim ond eitemau a ganiateir y gellir eu gwaredu a rhaid iddynt fod yn rhydd yn y bin(iau) a heb eu cynnwys mewn bagiau. Ni fydd bin(iau) gwastraff gardd sydd wedi’u halogi ag eitemau nas caniateir yn cael eu casglu hyd nes y bydd yr eitemau yn cael eu symud a’r bin yn cael ei gyflwyno ar gyfer y casgliad nesaf
- Os yw bin(iau) wedi’u halogi’n rheolaidd, bydd cyngor pellach yn cael ei roi. Os bydd yr halogiad yn parhau, bydd y bin(iau) yn cael eu tynnu oddi yno a chasgliadau yn dod i ben.
- Rhaid i’r holl wastraff gardd gael ei gadw o fewn y bin(iau) a ddarperir. Ni fydd gwastraff gardd nad yw ym bin(iau) gwastraff gardd Cyngor Sir Penfro yn cael ei gasglu.
- Mae’n bosibl na fydd eiddo â mynediad cyfyngedig yn addas i dderbyn y gwasanaeth hwn. Byddwn yn asesu eich eiddo ac, os nad yw’n addas, byddwn yn rhoi gwybod i chi am opsiynau eraill sydd ar gael.
- Nid yw’r awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am anaf oherwydd defnydd amhriodol o’r bin.
- Mae gwasanaeth casglu â chymorth ar gael i’r trigolion hynny sy’n gymwys i gael casgliad sbwriel ac ailgylchu â chymorth ar yr amod ei fod yn ymarferol gwneud hynny.
- Mae’n bosibl y byddwn yn mynd i mewn i’ch eiddo i dynnu bin(iau) oddi yno os na dderbynnir taliad.
- Ein nod yw dosbarthu biniau newydd o fewn 21 diwrnod ond mae’n bosibl na fydd hyn yn bosibl yn ystod cyfnodau prysur. Gall ceisiadau i adnewyddu’r gwasanaeth gymryd 3 diwrnod gwaith i’w prosesu. Ni fydd casgliadau’n dechrau nes bod y broses wedi’i chwblhau. Ni fydd ad-daliad yn cael ei ddarparu os methwn gyflenwi eich bin o fewn 21 diwrnod.
- Mae biniau a ddychwelwyd gan gwsmeriaid blaenorol yn cael eu hailddefnyddio. Ni fydd cwsmeriaid newydd yn cael bin newydd o reidrwydd, ac efallai y bydd rhywfaint o dystiolaeth o draul arno.
- Os cyrhaeddir y capasiti ar gyfer y gwasanaeth, rydym yn cadw’r hawl i atal tanysgrifiadau newydd tra bydd adolygiad yn cael ei gynnal. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd cyfle i ymuno â rhestr aros.
Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Bwyd
Troi gwastraff bwyd yn bŵer yng Nghymru
Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o wastraff bwyd wedi'i ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a chymunedau Cymru. Eithaf pwerus, on’d yw e’? Am ffeithiau, straeon ac awgrymiadau pwerus ewch i Cymru yn Ailgylchu (yn agor mewn tab newydd).
Pum rheswm dros ailgylchu eich gwastraff bwyd
1) Mae'n hawdd
2) Mae'n atal arogleuon bwyd
3) Mae’r blychau’n cloi i atal plâu rhag mynd i mewn iddynt
4) Caiff ei gasglu unwaith yr wythnos
5) Caiff ei droi’n drydan
Awgrymiadau i'ch helpu i ailgylchu eich holl wastraff bwyd
Gall ailgylchu gwastraff bwyd gadw Cymru'n lân a gwyrdd. Ond mae'r broses yn dechrau yn eich cegin, pan fyddwch chi'n ailgylchu bwyd yn iawn.
- Defnyddiwch leinin cadi i gadw'ch gwastraff bwyd rhag gollwng. Gallwch ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy adael nodyn ar ben eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd ar ddiwrnod bin.
- Gwagiwch eich cadi llwyd gwastraff bwyd y tu mewn i'ch cadi gwastraff bwyd gwyrdd y tu allan yn rheolaidd i'w atal rhag mynd yn rhy llawn a thorri neu arllwys.
- Cadwch gaead arno i atal pryfed rhag mynd i mewn, ac atal arogleuon rhag dod allan. Peidiwch ag anghofio cau'r caead y gellir ei gloi ar eich cadi awyr agored, i atal plâu a diogelu rhag tywydd gwyntog.
- Cadwch eich cadi yn ffres ac yn lân trwy ei rinsio, glanhau a'i sychu.
Canllawiau: beth i'w roi yn eich cadi gwastraff bwyd
Os gwelwch yn dda
- Yr holl fwyd sydd heb ei fwyta gan gynnwys bwyd sydd ar ôl ar y plât
- Bagiau te a briwsion coffi
- Bwyd heibio’i ddyddiad terfyn neu fwyd â llwydni
- Cig amrwd ac wedi’i goginio, gan gynnwys esgyrn
- Pysgod amrwd ac wedi'u coginio, gan gynnwys esgyrn
- Cynnyrch llaeth fel caws
- Wyau a phlisgyn wy
- Reis, pasta, ffa
- Nwyddau wedi'u pobi fel bara, cacennau a theisennau
- Ffrwythau a llysiau gan gynnwys llysiau amrwd wedi'u coginio a’u crwyn sydd wedi’u plicio
- Bwyd cathod a chŵn gwastraff o eiddo domestig. Bydd unrhyw beth o safle masnachol yn cael ei gytuno fesul achos.
Cofiwch - Os ydych chi eisoes yn compostio yn eich cartref gallwch barhau i gompostio eich croen llysiau a ffrwythau heb eu coginio yn eich bin neu domen.
Dim diolch
- Deunydd pecynnu o unrhyw fath (cofiwch ailgylchu'r hyn y gallwch mewn bagiau ailgylchu eraill)
- Bagiau plastig
- Hylifau - gall y rhain lifo, gan achosi gollyngiadau wrth gludo'r gwastraff bwyd
- Olew neu fraster hylif (gallwch ailgylchu olew coginio yn eich canolfan gwastraff ac ailgylchu lleol)
Sut galla’ i ailgylchu fy ngwastraff bwyd?
Er mwyn ailgylchu eich gwastraff bwyd, yr oll bydd arnoch angen yw:
- Bin mawr gwyrdd 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd
- Cadi arian 5 litr ar gyfer gwastraff bwyd addy
- Cyflenwad blwyddyn o fagiau ar gyfer leinio'r cadi.
Cam 1
Mynnwch yr offer cywir - bydd arnoch angen cadi cegin, bagiau cadi a blwch ymyl y palmant.
Cam 2
Rhowch y bag yn eich Cadi Cegin.
Cam 3
Rhowch unrhyw wastraff bwyd yn y cadi, gan ofalu eich bod chi’n gwaredu unrhyw ddeunydd pacio.
Cam 4
Pan fo’ch cadi cegin yn llawn, dylech roi’r gwastraff yn y blwch ymyl y palmant, a’i roi allan i’w gasglu bob wythnos er mwyn ei ailgylchu.
Os oes angen bagiau neu flychau newydd arnoch, gallwch eu casglu o nifer o leoliadau o amgylch y sir neu wneud cais.
Casglu Gwydr Wrth Ymyl y Ffordd
Beth ALLAF I ei ddodi yn y blwch?
Poteli a jariau gwydr gwag o bob lliw, math a maint. Nid oes rhaid ichi dynnu bant y labeli, caeadau, na cyrcs ac ati oddi ar boteli.
Beth NA ALLAF I ei ddodi yn y blwch?
Unrhyw fath o wydr nad yw'n botel na jar chwaith e.e. cynwysyddion peirecs, gwydrau yfed, sbectols, gwydr ffenestri, ornaments gwydr, briwfyrddau gwydr, na bylbiau goleuni.
Pam nad ydych chi'n derbyn y pethau hyn?
Mae'r nwyddau hyn yn toddi ar wahanol dymereddau â photeli a jariau gwydr. Pe byddent yn cael eu cymysgu a'u casglu, byddent yn halogi'r broses ailgylchu gwydr. O ganlyniad byddai'r llwyth yn ddiwerth ac ni fyddem yn gallu ei ailgylchu.
Sut allaf i waredu'r pethau hyn, na allaf eu dodi yn y blwch, heb iddynt orfod cael eu hanfon i safle tirlenwi?
Gallwch fynd â hwy i'ch Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf er mwyn iddynt gael eu dodi mewn cynwysyddion arbennig. Fel arall, gallwch roi'r rhan fwyaf o'r nwyddau hyn i'ch siop elusen leol cyhyd â'u bod mewn cyflwr da ac mae'r rhan fwyaf o optegwyr yn fodlon derbyn sbectols.
Ble allaf i gadw fy mlwch?
Rhag ofn y byddwch chi'n cadw'r blwch yn y tŷ, mae'r tyllau gwagio ynddo yn uwch nag arfer, er mwyn i hylifau aros yn y blwch a sicrhau na fydd lloriau'n cael eu baeddu. Bwriad y tyllau yw gadael i'r dŵr glaw lifo bant mewn modd dan reolaeth.
Dim ond y pethau hynny sydd ar y rhestr y dylech eu dodi yn y blwch er mwyn inni eu casglu. Diolch yn fawr. Os bydd y pethau anghywir yn cael eu casglu a'u cymysgu yn y llwyth yna ni ellir ei ailgylchu. Bydd unrhyw bethau nad ydynt yn addas i'w casglu wrth ymyl y ffordd, yn cael eu gadael yn y blwch er mwyn ichi eu didoli a'u gwaredu'n gywir.
Beth fydd yn digwydd i'r gwydr sy'n cael ei gasglu?
Bydd y gwydr yn cael ei gludo i Abertawe er mwyn defnyddio system cylch caeedig i'w ailgylchu. Mae ailgylchu trwy system cylch caeedig yn golygu y bydd y gwydr yn cael ei ailgylchu er mwyn ei droi'n boteli a jariau gwydr unwaith eto, sef y ffordd fwyaf cynaliadwy o wneud hynny.
Awgrymiadau ardderchog ar gyfer ailgylchu eich gwydr
- Defnyddiwch eich bocs ailgylchu gwydr bob wythnos. Os byddwch chi'n gorlanw'ch blwch, bydd e'n drymach a mwy anodd i'w godi a'i gario.
- Cofiwch wagio a strilo'r poteli a'r jariau er mwyn cael gwared ag unrhyw waelodion.
- Dodwch y poteli a'r jariau yn rhydd y tu mewn i'r blwch.
- Peidiwch â llanw eich blwch ailgylchu gwydr yn uwch na'r ymyl. Os bydd y blwch yn cael ei orlanw bydd mwy o berygl i bethau dorri ac anafiadau.
- Does dim rhaid ichi dynnu bant unrhyw labeli, caeadau na chyrcs ac ati oddi ar boteli.
- Does dim rhaid ichi chwaith ddidoli eich gwydr yn ôl ei liw.
Rydym wrthi'n ystyried beth yw'r ffordd orau o fynd i mo'yn gwydr o flociau mawr o fflatiau ac o gartrefi/tai sydd heb unrhyw gwrbyn y gallwn ni fynd ato.
Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551, neu anfon e-bost at wastemanagement@pembrokeshire.gov.uk
Ni ddylem wastraffu dim byd yn Sir Benfro!