Sut i Dalu

Ysgolion Uwchradd

Bellach mae Arlwyo Heb Arian ar gael yn holl Ysgolion Uwchradd Sir Benfro.

Mae’r system arlwyo heb arian yn caniatáu i ddisgyblion dalu am brydau ysgol heb fod angen cludo arian parod. Yn hytrach, mae disgyblion yn gallu talu am eu prydau trwy ddefnyddio eu bys neu gerdyn arlwyo heb arian.

Mae terfyn gwario dyddiol yn ddiofyn ar gyfrif pob disgybl o £6 y dydd. Os hoffech leihau neu gynyddu hyn, cysylltwch â’r Gwasanaethau Arlwyo.

Bydd cyfrifon disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn cael eu credydu bob dydd yn ddiofyn (£2.70). Ni fydd unrhyw gredyd sy’n weddill yn cael ei drosglwyddo i’r diwrnod wedyn a bydd y gweddill yn cael ei newid i ddim cyn ychwanegu lwfans y diwrnod wedyn. Fodd bynnag, gallwch ychwanegu at y lwfans prydau ysgol am ddim drwy unrhyw un o’r dulliau talu hyn. Mae hawl gwario unrhyw werth a ychwanegwyd at y cerdyn dros y lwfans prydau ysgol am ddim a bydd yn cael ei drosglwyddo os na chafodd ei ddefnyddio.

Cerdyn Arlwyo Heb Arian - Taliadau Heb Arian Ar-lein
Taliadau Heb Arian Dros y Ffôn
Canolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid

 

Cerdyn Arlwyo Heb Arian

Caiff cardiau eu darparu gan ysgol eich plentyn. Os bydd eich plentyn yn colli’r cerdyn, bydd yn cael ei atal a cherdyn newydd yn cael ei gyhoeddi. Ni fydd y rhif cyfrif prydau ysgol yn newid a bydd y gweddill o’r hen gerdyn yn cael ei drosglwyddo, ond bydd tâl bach o £2 am y cerdyn newydd.


System Fiometrig Heb Arian

Mae’r System Fiometrig yn caniatáu i’ch plentyn dalu am brydau bwyd ysgol trwy sganio ei fys wrth y til yn lle ei gerdyn Arlwyo Heb Arian.

Llywodraethir y system hon gan Adran Addysg, Diogelu Gwybodaeth Fiometrig mewn Ysgolion a Cholegau Llywodraeth Cymru, y gellir ei gweld yn Diogelu gwybodaeth fiometrig mewn ysgolion a cholegau [HTML] | LLYW.CYMRU

Beth yw biometrig?

Mae'r System Fiometrig yn defnyddio'r bys a'i ddelwedd i adnabod pob myfyriwr yn unigryw. Bydd y system yn cymryd mesuriadau bys plentyn ac yn trosi'r mesuriadau yn god unigryw a fydd yn cael ei storio ar y system.

Dim ond llinyn byr o rifau wedi'u hamgryptio y bydd y system yn ei storio; ni fydd yn storio delwedd o olion bysedd.

Unwaith y caiff y cyfrif ei gredydu, bydd y disgybl yn gosod ei fys ar derfynell EPOS, a fydd yn adnabod manylion ei gyfrif ac yn caniatáu iddo brynu eitemau.

 

A yw gwybodaeth fiometrig fy mhlentyn yn ddiogel?

Cedwir gwybodaeth ar weinydd biometrig diogel o fewn yr ysgol, gyda mynediad cyfyngedig. Mae’n cydymffurfio’n llawn â’r holl ddeddfwriaeth a Deddf Diogelu Data 2018.

Pan fydd eich plentyn yn gadael yr ysgol, bydd ei ddata biometrig yn cael ei ddileu yn ddiogel.

 

Sut mae fy mhlentyn yn cofrestru ar y System Fiometrig?

Mae angen o leiaf un rhiant/gwarcheidwad i gwblhau Ffurflen Ganiatâd Biometrig cyn y gallwn brosesu data biometrig disgybl. Rhaid i'r disgybl wedyn gyflwyno'r ffurflen ganiatâd wedi'i chwblhau yn y derfynell fiometrig yn ffreutur yr ysgol, lle bydd aelod o staff wedyn yn ei gofrestru ar y system.

 

Ni fyddwn yn prosesu data biometrig disgyblion o dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Nid oes unrhyw riant/gwarcheidwad wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig.
  2. Mae disgybl yn gwrthod cymryd rhan (mae gwrthwynebiad disgybl yn drech nag unrhyw ganiatâd rhiant).
  3. Mae rhiant/gwarcheidwad wedi gwrthwynebu yn ysgrifenedig, hyd yn oed os yw rhiant/gwarcheidwad arall wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig.

Bydd caniatâd yn ddilys hyd nes y bydd plentyn yn gadael yr ysgol ond gellir tynnu’r caniatâd hwn yn ôl ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig gan riant/gwarcheidwad.

 

Beth fydd yn digwydd os nad wyf am i'm plentyn gofrestru ar y System Fiometrig?

Nid yw'r System Fiometrig yn orfodol. Os nad ydych am arwyddo’r ffurflen ganiatâd, bydd eich plentyn yn cael cerdyn Arlwyo Heb Arian yn lle, y gall ei sganio wrth y til er mwyn prynu cinio ysgol.

 

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 2076, adolygwyd 26/10/2023