Ceisiadau Cynllunio Cwestiynau Cyffredin

Pa fathau o ganiatâd cynllunio sy'n bodoli?

Mae dau fath o ganiatâd cynllunio:

  • Os byddwch yn meddwl y byddwch eisiau datblygu ar ryw adeg yn y dyfodol, gallwch wneud cais am gymeradwyaeth mewn egwyddor, sy'n cael ei alw'n ganiatâd cynllunio amlinellol. Os byddwch yn cael caniatâd cynllunio amlinellol, yna rhaid i chi gyflwyno rhagor o fanylion (sy'n cael eu galw'n faterion neilltuedig) er mwyn caniatáu i'r datblygu ddechrau. Rhaid i chi wneud hyn o fewn tair blynedd neu bydd y caniatâd amlinellol yn dod i ben.
  • Enw'r ail fath yw 'caniatâd cynllunio llawn', lle byddwch yn darparu'r holl fanylion angenrheidiol i ddechrau gweithio ar unwaith. O'i ganiatáu, rhaid i'r datblygu ddechrau o fewn pum mlynedd (neu unrhyw adeg arall a bennwyd yn yr amodau) neu bydd yn dod i ben.
ID: 2332, adolygwyd 24/01/2018