Ceisiadau Cynllunio Cwestiynau Cyffredin
Protocol Gorfodi Cynllunio
*Ar gyfer y sir ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mabwysiadwyd gan y cabinet ar 4 Tachwedd 2024
Rhagair
Mae uniondeb y swyddogaeth rheoli datblygu yn dibynnu ar ein parodrwydd i gymryd camau gorfodi pan ystyrir ei bod yn fuddiol i wneud hynny. Rydym yn derbyn ei bod yn hanfodol rhoi camau gorfodi ar waith yn gyflym er mwyn atal achos o dorri rheolaeth gynllunio rhag dod yn sefydlog ac yn fwy anodd ei ddatrys. Ni fyddwn yn cymeradwyo achosion bwriadol o dorri cyfraith cynllunio ond byddwn yn arfer ein disgresiwn ynghylch cymryd camau gorfodi, a chymerir camau gweithredu os ystyrir ei bod yn fuddiol i wneud hynny. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sefydlu rheolaethau effeithiol dros ddatblygiad anawdurdodedig ac, wrth wneud hynny, rydym yn cefnogi nodau Cynllun Datblygu Lleol yr awdurdod lleol.
Mae angen i gamau gorfodi fod yn effeithiol ac yn amserol. Mae hyn yn golygu y dylai'r awdurdod cynllunio lleol edrych ar bob dull sydd ar gael iddo gyflawni'r canlyniad dymunol. Ym mhob achos, dylid cynnal deialog gyda pherchennog neu feddiannydd y tir, gan arwain at drafodaethau a datrysiad effeithiol sy'n golygu nad oes angen cymryd camau gorfodi.
Yn unol â’r cyngor a geir yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu (Atodiad Adran 14: Offer Gorfodi) a Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 24/97 (Gorfodi Rheolaeth Gynllunio: Darpariaethau Deddfwriaethol a Gofynion Gweithdrefnol), dylai’r awdurdod cynllunio lleol adolygu’n rheolaidd effeithiolrwydd ei drefniadau gweithdrefnol ar gyfer gorfodi cynllunio a, lle bo angen, cyflwyno trefniadau diwygiedig.
Mae’r Protocol Gorfodi Cynllunio hwn yn gosod fframwaith ar gyfer sut y bydd y cyngor fel arfer yn rheoli’r cwynion y mae’n eu cael ac unrhyw ymchwiliadau dilynol i achosion honedig o dorri rheolaeth gynllunio. Bydd yn nodi ei amcanion yn glir, y cefndir i orfodi cynllunio, a chwmpas y pwerau gorfodi. Bydd hefyd yn pennu ein blaenoriaethau ar gyfer ymatebion i gwynion ac yn ffurfioli sut y bydd ein cwsmeriaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y tîm gorfodi cynllunio. Bydd y cyngor yn dilyn y Protocol Gorfodi Cynllunio oni bai fod rhesymau da dros wyro oddi wrtho. Er enghraifft, gall y cyngor wyro oddi wrth y protocol lle mae cyfraith cynllunio yn newid, neu i gydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol eraill.
1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r Protocol Gorfodi Cynllunio hwn yn nodi'r blaenoriaethau a'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â materion gorfodi cynllunio a chydymffurfio. Derbynnir bod ‘gorfodaeth effeithiol yn ategu’r swyddogaeth rheoli datblygu yn ei chyfanrwydd ac yn sicrhau nad yw datblygu annerbyniol yn atal yr awdurdod cynllunio lleol rhag gwireddu’r weledigaeth a nodwyd yn y cynllun datblygu’ (Llawlyfr Rheoli Datblygu, para. 14.1.1. Llywodraeth Cymru, 5 Mai 2017).
1.2 Mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am orfodi cynllunio yn Sir Benfro ar gyfer pob ardal sydd y tu allan i ffiniau diffiniedig y Parc Cenedlaethol. Mae'n cydnabod pwysigrwydd gwasanaeth gorfodi cynllunio effeithiol ac mae ganddo dîm ymroddedig o swyddogion gorfodi cynllunio a gyflogir i ymchwilio i achosion o dorri rheolaeth gynllunio yr adroddwyd amdanynt.
1.3 Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar warchod ein hamgylchedd rhag effeithiau niweidiol datblygiad anawdurdodedig.
2. Cefndir deddfwriaethol
2.1 Mae cynllunio yn ymwneud â rheoleiddio defnydd a datblygiad tir. Manylir ar y cyd-destun deddfwriaethol ar gyfer cynllunio yng Nghymru ym Mholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12) (Atodiad A). Y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â chynllunio defnydd tir ac sy'n gymwys i orfodi cynllunio yw:
-
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd)
-
Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (fel y'i diwygiwyd)
-
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
Ceir manylion cyngor a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar orfodi cynllunio yn:
-
Y Llawlyfr Rheoli Datblygu
-
Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 24/97 (Gorfodi Rheolaeth Gynllunio)
2.2 Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob datblygiad, a ddiffinnir yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) fel a ganlyn:
'Cyflawni gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu weithrediadau eraill o fewn, dros neu o dan dir, neu wneud unrhyw ddeunydd; newid defnydd unrhyw adeiladau neu dir arall’.
2.3 Mae adran 171A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) yn diffinio tor rheolaeth gynllunio fel:
‘Cyflawni datblygiad heb y caniatâd cynllunio gofynnol neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn amodol arno’.
2.4 Yr eithriad i'r uchod yw datblygiad sydd wedi'i gynnwys yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd). Mae'r gorchymyn hwn yn amlinellu rhai datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’r datblygiadau hyn yn ‘ddatblygu a ganiateir’ ac yn amodol ar fodloni meini prawf penodol.
2.5 ‘Mae’r cyfrifoldeb o benderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad arfaethedig yn gorwedd i ddechrau ar ysgwyddau’r awdurdod cynllunio lleol; yr awdurdod cynllunio lleol hefyd sydd i benderfynu a ddylid caniatáu i ddatblygiad anawdurdodedig barhau ynteu a ddylid gorfodi yn ei erbyn. Ni all dinesydd preifat ddechrau camau gorfodi, ond gall hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â datblygiad anawdurdodedig y mae ef neu hi yn credu ei fod wedi digwydd’ (Llawlyfr Rheoli Datblygu, para. 14.2.1. Llywodraeth Cymru, 5 Mai 2017).
2.6 Mae’r cwynion gorfodi mwyaf cyffredin yn perthyn i un o dri chategori:
-
Datblygiad yn digwydd heb ganiatâd cynllunio (datblygiad gweithredol a newidiadau defnydd sylweddol)
-
Datblygiad heb ei gyflawni yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd drwy roi caniatâd cynllunio
-
Methiant i gydymffurfio â gofynion amodau cynllunio a osodwyd drwy roi caniatâd cynllunio neu drwy delerau cytundebau cyfreithiol
2.7 Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd i ymchwilio i honiadau o dorri rheolaeth gynllunio ac mae'n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.
3. Delio â thoriadau rheolaeth gynllunio
3.1 Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob datblygiad. Rhaid i ddatblygiad anawdurdodedig fod yn annerbyniol o ran polisïau mabwysiedig y Cynllun Datblygu Lleol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol i'r awdurdod cynllunio lleol ystyried camau gorfodi ffurfiol. Dylai datblygiad sydd angen caniatâd cynllunio gydymffurfio â'r amodau a osodir gan unrhyw ganiatâd a roddir. Gall methu â chydymffurfio arwain at ystyried camau gorfodi ffurfiol.
3.2 Wrth ddarparu ei wasanaeth gorfodi a chydymffurfio, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cyflawni amcanion allweddol Atodiad Adran 14 y Llawlyfr Rheoli Datblygu:OfferGorfodi fel y maent yn berthnasol i'r broses orfodi, sef bod yn agored, yn deg a thryloyw wrth ddelio â'r achwynydd a'r tramgwyddwr honedig ill dau.
3.3 Bydd y tîm gorfodaeth gynllunio yn ystyried yr ymateb mwyaf priodol wrth ymchwilio i ymholiadau. Mae’n bosibl y bydd modd datrys materion drwy gydweithrediad y tirfeddiannwr / deiliad tir drwy gydymffurfedd drwy drafodaeth, neu drwy gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol i’w gymeradwyo. Os na fydd achos o dorri rheolaeth gynllunio yn cael ei ddatrys, yna efallai y bydd angen cymryd camau ffurfiol. Mewn achosion o'r fath, bydd datblygiad sy'n achosi niwed sylweddol yn cael ei flaenoriaethu.
3.4 Byddwn yn ystyried cymryd camau pellach yn erbyn partïon sy’n methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiadau ffurfiol a gyflwynir iddynt am dorri rheolaeth gynllunio. Gallwn ystyried erlyniad, camau uniongyrchol neu ryddhad gwaharddeb a allai arwain at gofrestru pridiant cyfreithiol yn erbyn y tir.
3.5 Mae nifer cyfyngedig o doriadau yn droseddau, gan gynnwys:
-
Diffyg cydymffurfio â hysbysiad gorfodi
-
Gwaith anghyfreithlon i adeilad rhestredig
-
Arddangos hysbysebion yn anghyfreithlon
-
Gwaith anawdurdodedig i goeden sy’n destun gorchymyn cadw coed
3.6 Lle bo'n briodol, byddwn yn hapus i drafod ymchwiliadau gyda phartïon â diddordeb, er y bydd achosion lle mae materion cyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data yn atal datgelu. Bydd manylion achwynydd yn aros yn gyfrinachol, a dim ond yn cael eu gwneud yn gyhoeddus os yw'r achwynydd hwnnw'n cytuno i weithredu fel tyst i drosedd a mynychu'r llys.
3.7 Mae gan y cyngor ddyletswydd gofal tuag at ei holl weithwyr, ac ni fydd yn derbyn bod ei swyddogion yn dioddef iaith ddifrïol, bygythiadau nac ymddygiad annerbyniol.
4. Blaenoriathu gorfodi cynllunio
4.1 Nid oes gan rai cwynion a dderbynnir gan yr awdurdod cynllunio lleol rwymedi mewn deddfwriaeth gynllunio a/neu efallai y bydd mesurau mwy effeithiol i ddatrys yr ymholiad gan ddefnyddio dulliau eraill.
4.2 Gall yr awdurdod cynllunio lleol ymchwilio i’r canlynol:
-
Newid defnydd tir/adeiladau heb awdurdod
-
Gwaith adeiladu heb awdurdod
-
Gweithrediadau peirianneg heb awdurdod
-
Methiant i gydymffurfio ag amodau sydd ynghlwm wrth ganiatadau cynllunio
-
Arddangos hysbysebion anghyfreithlon
-
Adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael difrifol
-
Gwaith mewnol ac allanol i adeiladau rhestredig (a gwaith ar atodiadau ffisegol i adeiladau rhestredig) heb ganiatâd
-
Cyflwr ac edrychiad adeiladau a/neu dir a ystyrir yn niweidiol i amwynder ardal
-
Dymchwel
-
Unrhyw weithgaredd sy’n achosi difrod uniongyrchol neu anuniongyrchol i goed sy’n cael eu gwarchod gan orchymyn cadw coed neu gael gwared â gwrychoedd heb awdurdod
4.3 Mae’n annhebygol y bydd gan yr awdurdod cynllunio lleol ateb effeithiol mewn perthynas â’r canlynol:
-
Anghydfodau waliau ffin a materion perchnogaeth tir sy’n faterion sifil y tu allan i gylch gorchwyl deddfwriaeth gynllunio
-
Torri cyfamodau cyfreithiol
-
Canfyddiad o ostyngiad mewn gwerth eiddo
-
Rhwystrau, parcio, gorfodi traffig ac unrhyw faterion eraill sy'n effeithio ar y briffordd gyhoeddus*
-
Graffiti ac ymddygiad gwrthgymdeithasol*
-
Adeileddau peryglus*
-
Niwsans sŵn*
-
Achosion posibl o dorri rheolaeth gynllunio a allai ddigwydd yn y dyfodol
-
Problemau aroglau*
-
Materion o ran cynefinoedd bywyd gwyllt*
*Gweler yr adran cysylltiafau defnyddiol
Os yw’r mater a adroddwyd y tu allan i bwerau’r awdurdod cynllunio lleol, bydd yr achwynydd yn cael ei hysbysu cyn gynted ag sy’n ymarferol gyda’r rhesymau pam na ellir cymryd unrhyw gamau, a bydd yn cael ei hysbysu, os yw’n briodol ac yn hysbys, am unrhyw gorff arall y dylai gysylltu ag ef.
Pan dderbynnir cwyn sy’n ymwneud â mater gorfodi cynllunio o fewn pwerau’r awdurdod cynllunio lleol, bydd statws blaenoriaeth yn cael ei ddyrannu iddi yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
Blaenoriaeth 1
Datblygiad anawdurdodedig sy’n achosi niwed uniongyrchol ac anadferadwy difrifol i’r amgylchedd neu amwynder cyhoeddus, gan gynnwys:
Gwaith anawdurdodedig i adeilad rhestredig, dymchwel adeiladau anrhestredig pwysig mewn ardal gadwraeth, gwaith anawdurdodedig sylweddol i heneb gofrestredig, datblygiad anawdurdodedig ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gwaith anawdurdodedig i goeden sy’n destun gorchymyn cadw coed neu goeden mewn ardal gadwraeth, gwaith sy'n debygol o fod yn niweidiol i ddiogelwch y cyhoedd neu beryglu diogelwch ar y priffyrdd.
Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cynnal ymweliad safle cychwynnol ar gyfer ymchwiliadau Blaenoriaeth 1 o fewn un diwrnod gwaith.
Blaenoriaeth 2
Datblygiad anawdurdodedig, gan gynnwys:
Torri rheolaeth gynllunio mewn modd sy’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol, achosion lle mae’r terfyn amser ar gyfer cymryd camau gweithredu ffurfiol yn agos at ddod i ben, cwynion am niwed sylweddol yn cael ei achosi i amwynder, dechrau datblygiad heb gydymffurfio ag amodau’r caniatâd cynllunio, arddangos hysbysebion anghyfreithlon sy'n cael effaith andwyol sylweddol ar ddiogelwch ar y priffyrdd neu amwynder gweledol, gwaith sy'n arwain at niwed tirwedd i ddynodiadau sensitif.
Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cynnal ymweliad safle cychwynnol ar gyfer ymchwiliadau Blaenoriaeth 2 o fewn deg diwrnod gwaith.
Blaenoriaeth 3
Datblygiad anawdurdodedig, gan gynnwys:
Mân achosion o dorri amodau cynllunio (oni bai yr ymdrinnir â hwy uchod), mân ddatblygiadau anawdurdodedig a newidiadau defnydd nad ydynt yn achosi pryderon amwynder sylweddol ar unwaith, arddangos hysbysebion yn anghyfreithlon (oni bai y nodir uchod), tir blêr, pob cwyn arall.
Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cynnal ymweliad safle cychwynnol ar gyfer ymchwiliadau Blaenoriaeth 3 o fewn 15 diwrnod gwaith os ystyrir bod angen yn dilyn gwerthusiad pen desg.
4.4 Ar ôl derbyn cwyn gorfodi cynllunio, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn:
- Cydnabod a chofrestru pob cwyn o fewn pum diwrnod gwaith a darparu manylion cyswllt y swyddog sy'n delio â'r ymchwiliad i'r achwynydd
- Cynnal asesiad pen desg o unrhyw hanes cynllunio a chyfyngiadau safle
- Cynnal yr ymweliad safle cychwynnol yn unol â'r amserlenni a ddarparwyd uchod a chasglu gwybodaeth i ddod i argymhelliad a chasgliad
- Darparu ddiweddariad cynnydd ar yr ymchwiliad i’r achwynydd yn ystod y cyfnodau allweddol canlynol:
- 12 wythnos o dderbyn cwyn
- Pan fydd cais cynllunio wedi’i gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol
- Pan fydd argymhelliad i gymryd camau gorfodi ffurfiol wedi'i gytuno
- Pan fydd hysbysiad ffurfiol wedi'i gyflwyno
- Pan fydd apêl neu unrhyw achos llys arall wedi'i gyflwyno
- Pan ddaw'r ymchwiliad i gasgliad
5. Sut i roi gwybod am dorri rheolaeth gynllunio
5.1 Gellir gwneud cwynion gorfodi a rhoi gwybod am achosion honedig o dorri rheolaeth gynllunio yn y ffyrdd canlynol:
-
cyflwyno'r ffurflen gwyno ar gyfer gorfodi cynllunio ar wefan Cyngor Sir Penfro
-
e-bost wedi'i gyfeirio at – planningenforcement@pembrokeshire.gov.uk
-
rhif ffôn: 01437 764551
5.2 Gwybodaeth y bydd ei hangen arnom i gofrestru ymchwiliad:
- Enw a manylion cyswllt yr achwynydd
- Cyfeiriad neu leoliad y toriad honedig
- Disgrifiad o'r toriad honedig
- Unrhyw wybodaeth ategol arall a allai gynorthwyo’r ymchwiliad. Gallai hyn gynnwys ffotograffau, cynlluniau, brasluniau neu dystiolaeth dyddiadur (dyddiadau, amseroedd ac oriau gweithredu)
- Manylion y tramgwyddwr (os ydynt yn hysbys)
5.3 Er y bydd hunaniaeth achwynydd yn cael ei diogelu, gall llwyddiant unrhyw gamau gorfodi dilynol ddibynnu ar barodrwydd yr achwynydd i gydweithredu wrth roi tystiolaeth mewn apêl neu yn y llys.
6. Yr ymchwiliad
6.1 Ar ôl derbyn cwyn gorfodi cynllunio, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn:
- Cydnabod a chofrestru pob cwyn o fewn pum diwrnod gwaith a darparu manylion cyswllt y swyddog sy'n delio â'r ymchwiliad i'r achwynydd
- Cynnal asesiad pen desg o unrhyw hanes cynllunio a chyfyngiadau safle
- Cynnal yr ymweliad safle cychwynnol yn unol â’r amserlenni a ddarperir yn Adran 4 uchod a chasglu gwybodaeth i ddod i argymhelliad a chasgliad
- Darparu diweddariad ar gynnydd yr ymchwiliad i'r achwynydd yn y cyfnodau allweddol canlynol:
- 12 wythnos o dderbyn cwyn
- Pan fydd cais cynllunio wedi’i gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol
- Pan fydd argymhelliad i gymryd camau gorfodi ffurfiol wedi'i gytuno
- Pan fydd hysbysiad ffurfiol wedi'i gyflwyno
- Pan fydd apêl wedi’i chyflwyno neu unrhyw achos llys arall
- Pan ddaw'r ymchwiliad i gasgliad
6.2 Gall ymchwiliad fod yn broses gymhleth a hir. Gall yr amser a gymerir i benderfynu ar bob achos amrywio yn dibynnu ar y safle a'r math o doriad a adroddwyd. Gall yr amser a gymerir ddibynnu ar lawer o ffactorau, a amlinellir isod:
-
Y dystiolaeth sydd ar gael
-
Cyfyngiadau ar fynediad i'r safle
-
Aros am gyflwyniad a/neu ganlyniad cais cynllunio neu apêl
-
Trafodaethau hir i sicrhau canlyniad derbyniol
-
Materion cyfreithiol cymhleth
6.3 Os nad oes unrhyw ddatblygiad anawdurdodedig neu os nad oes achos o dorri rheolaeth gynllunio wedi'i gadarnhau, yna bydd yr achos yn cael ei gau gyda'r rheswm dros ei gau yn cael ei gofnodi.
6.4 Os canfyddir bod torri rheolaeth gynllunio wedi digwydd, bydd argymhelliad ar symud yr ymchwiliad yn ei flaen.
6.5 Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd achos o dorri rheolaeth gynllunio yn cael ei gadarnhau, ond nid ystyrir ei bod yn fuddiol i'r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau gorfodi ffurfiol. Wrth ystyried camau gorfodi, dylai’r awdurdod cynllunio lleol ystyried yn fwy na dim ‘a fyddai’r datblygiad anawdurdodedig yn cael effaith annerbyniol ar amwynder y cyhoedd neu ar y defnydd presennol o dir ac adeiladau sy’n werth eu diogelu er budd y cyhoedd. Dylai camau gorfodi fod yn gymesur â’r effeithiau cynllunio a achosir gan y datblygiad anawdurdodedig; fel arfer, nid yw’n briodol cymryd camau gorfodi ffurfiol mewn achos o dorri mân reolau neu fater technegol nad yw’n amharu ar amwynder y cyhoedd. Dylid sicrhau mai’r bwriad yw cywiro effeithiau’r datblygiad anawdurdodedig, nid cosbi’r person(au) sy’n cyflawni’r gweithrediad neu’r defnydd. Ni ddylid cymryd camau gorfodi ychwaith dim ond er mwyn unioni datblygiad na ofynnwyd am ganiatâd ar ei gyfer ond sy’n dderbyniol fel arall.’ Llawlyfr Rheoli Datblygu (para 14.2.3)
7. Cymryd camau gweithredu
7.1 Pan fydd achos o dorri rheolaeth gynllunio wedi ei gadarnhau, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ceisio datrys y toriad trwy drafod a negodi. Yn aml, dyma'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o ddatrys achosion o dorri amodau, oherwydd gall camau ffurfiol fod yn broses hir.
7.2 Os ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol o ran polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, gall yr awdurdod cynllunio lleol ofyn i’r perchennog/meddiannydd gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol ar gyfer y datblygiad anawdurdodedig yn unol ag adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd). Er y gall awdurdod lleol ofyn am gais cynllunio ôl-weithredol, nid yw’n golygu y rhoddir caniatâd cynllunio, a bydd y cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun a’i werthuso yn erbyn polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.
7.3 Efallai na fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gwahodd cyflwyno cais ôl-weithredol os ystyrir bod y datblygiad anawdurdodedig yn gwrthdaro â pholisïau mabwysiedig y Cynllun Datblygu Lleol. Serch hynny, mae gan y tramgwyddwr yr hawl i wneud cais (oni bai fod amgylchiadau cyfyngedig yn berthnasol).
7.4 Efallai y bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dod i'r casgliad, oherwydd treigl amser, y gallai datblygiad anawdurdodedig fod yn rhydd rhag camau gorfodi cynllunio ffurfiol. Ar gyfer gweithrediadau adeiladu a newidiadau defnydd sylweddol i dŷ annedd sengl, gellir sefydlu imiwnedd ar ôl pedair blynedd. Ar gyfer pob newid defnydd sylweddol arall, torri amodau ac arddangos hysbysebion, gellir sefydlu imiwnedd ar ôl deg mlynedd.
7.5 Os ystyrir bod y datblygiad anawdurdodedig yn debygol o sicrhau imiwnedd rhag camau gorfodi, efallai y bydd y tramgwyddwr yn gallu gwneud cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon. Pe byddai'n cael ei rhoi, byddai'r dystysgrif datblygiad cyfreithlon yn cadarnhau bod y datblygiad anawdurdodedig yn rhydd rhag camau gorfodi cynllunio.
7.6 Os na ellir sefydlu imiwnedd, mae trafodaethau’n methu, nid oes cais ôl-weithredol ar y gweill, neu os caiff ei wrthod, neu os yw’r datblygiad anawdurdodedig yn cael effaith sylweddol ar amwynder neu’r amgylchedd, gall yr awdurdod cynllunio lleol ystyried cymryd camau gorfodi ffurfiol.
8. Offer gorfodi cynllunio
Mae nifer o offer a ddarperir gan ddeddfwriaeth sy’n helpu i benderfynu a yw datblygiad yn anawdurdodedig ac sy’n galluogi awdurdod cynllunio lleol i gymryd camau lle mae hyn yn briodol.
a) Hysbysiad tramgwydd cynllunio
Defnyddir hysbysiad tramgwydd cynllunio i ganfod gwybodaeth nad yw'n bosibl, mewn rhai amgylchiadau, ei chadarnhau o'r ymweliad safle neu fanylion y gŵyn.
Ymhellach, rhaid cyflwyno unrhyw hysbysiad ffurfiol i bob parti sydd â buddiant yn y tir. Mewn achosion o'r fath, bydd hysbysiad tramgwydd cynllunio yn cael ei gyflwyno.
Mae hysbysiad tramgwydd cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd ddarparu gwybodaeth y gofynnwyd amdani yn ymwneud ag unrhyw doriad honedig o fewn 21 diwrnod.
Y gosb am beidio â chydymffurfio yw uchafswm o £1,000. Gellir gosod ail euogfarn am ddiffyg cydymffurfio parhaus trwy ddirwy ddyddiol.
Gall darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol yn ymwneud â hysbysiad tramgwydd cynllunio arwain at ddirwy o hyd at £5,000.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad tramgwydd cynllunio, ac eithrio cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.
b) Hysbysiad cais am wybodaeth (hysbysiad adran 330)
Mae hysbysiad adran 330 yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu gwybodaeth am berchnogaeth yr eiddo ac unrhyw berson arall a all fod â buddiant ynddo.
Mae methu ag ymateb i un o’r hysbysiadau hyn yn drosedd y gellir ei chosbi yn y llys ynadon gyda dirwy o hyd at £1,000.
Mae datganiad ffug a roddir mewn ymateb i’r hysbysiad yn gosbadwy, ar euogfarn yn y llys ynadon, gyda dirwy o hyd at £5,000 neu, yn Llys y Goron, gyda dirwy, carchar, neu’r ddau.
c) Hysbysiad tor amod
Mae'r hysbysiad hwn yn ddewis amgen yn lle hysbysiad gorfodi ar gyfer unioni tor amod sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn amodol arno.
Nid yw’n bridiant cyfreithiol ar y tir a dim ond i’r sawl sy’n gyfrifol am y tor amod y gellir ei gyflwyno.
Gall fod yn orfodol (ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud) neu'n waharddol (gofyn i rywbeth ddod i ben).
Bydd yn nodi cyfnod cydymffurfio. na all fod yn llai na 28 diwrnod
Gall methu â chydymffurfio arwain at ddirwy o hyd at £1,000.
Nid oes modd apelio yn erbyn hysbysiad o'r fath.
d) Hysbysiad rhybuddio am orfodi
Mae'r hysbysiad rhybuddio am orfodi wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio pan fo'r awdurdod hwn yn ystyried y gallai datblygiad anawdurdodedig fod yn dderbyniol gyda rheolaeth, trwy gais ôl-weithredol, a thrwy ddefnyddio amodau.
Ni fydd yr hysbysiad rhybuddio am orfodi yn cael ei gyhoeddi mewn sefyllfaoedd lle nad yw'r awdurdod hwn yn disgwyl yn rhesymol y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi. Fodd bynnag, dylid nodi y gall materion newydd ddod i'r amlwg neu, er gwaethaf argymhelliad i ganiatáu, gallai'r pwyllgor rheoli datblygu anghytuno â'r argymhelliad.
Rhaid i'r hysbysiad rhybuddio am orfodi nodi'r tor honedig a nodi'r camau i'w cymryd i unioni'r tor o fewn amserlen benodedig a rhaid ei gyflwyno i bob parti sydd â buddiant yn y tir.
Mae’n rhaid i’r hysbysiad rhybuddio am orfodi ddatgan, oni bai fod cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud o fewn cyfnod a nodir yn yr hysbysiad, y gellir cymryd camau gorfodi pellach.
Mae hyn oherwydd bod cyflwyno hysbysiad rhybuddio am orfodi yn gyfystyr â chymryd camau gorfodi o dan adran 171A o Ddeddf 1990, gan ganiatáu i'r awdurdod gymryd camau gorfodi pellach mewn perthynas â'r tor o fewn pedair blynedd i gyhoeddi'r hysbysiad cychwynnol.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad rhybuddio am orfodi, ac eithrio trwy wneud cais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol. Fodd bynnag, os cyflwynir cais ôl-weithredol oherwydd yr hysbysiad rhybuddio am orfodi, mae gan ymgeisydd yr hawl i apelio yn erbyn naill ai gwrthod caniatâd cynllunio neu gyflwyno hysbysiad gorfodi wedi hynny.
e) Hysbysiad gorfodi
Rhaid i’r hysbysiad hwn, pan gaiff ei gyhoeddi, nodi’r tor honedig a nodi’r camau i’w cymryd i unioni’r tor o fewn amserlen benodedig ac mae’n rhaid ei gyflwyno i bob parti sydd â buddiant yn y tir.
Gall hyn olygu ei gyflwyno i’r morgeisai, h.y. i’r banc neu gymdeithas adeiladu a fenthycodd yr arian i brynu’r eiddo, neu aelodau eraill o’r teulu sydd â buddiant tebyg yn yr eiddo.
Gall yr hysbysiad naill ai gyfeirio at newid defnydd o’r tir neu at ddatblygiad gweithredol.
Mae hawl i apelio o fewn 28 diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad, ac mae saith rheswm y gellir seilio’r apêl honno arnynt. Rhestrir y rhesymau hyn ar ddiwedd yr adran hon.
Os na chaiff gofynion yr hysbysiad eu bodloni, ac os na chyflwynwyd apêl neu os gwrthodwyd unrhyw apêl, yna gellir erlyn y person cyfrifol.
f) Hysbysiad stop
Ar ôl cyflwyno hysbysiad gorfodi, gall yr awdurdod ystyried bod unrhyw dor amod parhaus mor ddifrifol fel y dylai ddod i ben ar unwaith. Mewn achosion o'r fath, bydd hysbysiad stop yn cael ei gyflwyno.
Gall methu â chydymffurfio â hysbysiad stop arwain at ddirwy ddiderfyn.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad stop, ac eithrio trwy wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.
Gall cyflwyno hysbysiad stop arwain at rwymedigaeth i dalu digollediad.
g) Hysbysiad stop dros dro
Nid oes rhaid cyflwyno hysbysiad stop dros dro gyda hysbysiad gorfodi ac mae’r fath hysbysiadau yn dod i rym ar unwaith.
Mae effaith hysbysiad stop dros dro yn gorffen ar ôl 28 diwrnod a dim ond pan fydd yr awdurdod hwn yn credu y dylid atal y tor amod ar unwaith y caiff ei gyhoeddi.
Gall methu â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro arwain at ddirwy ddiderfyn.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad stop dros dro, ac eithrio drwy wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.
h) Hysbysiad dirwyn hysbyseb i ben
Pan fo hysbyseb anawdurdodedig yn achosi niwed sylweddol i amwynder ardal neu berygl i aelodau'r cyhoedd, gall awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad dirwyn hysbyseb i ben i'w gwneud yn ofynnol i symud yr hysbyseb. Gwaharddebau
Os oes cyfiawnhad, gall awdurdodau cynllunio lleol wneud cais i'r Uchel Lys neu'r llys sirol am waharddeb ar unrhyw gam o'r broses orfodi.
Unwaith eto, gall fod yn orfodol neu’n waharddol ac fel arfer y “prawf” ar gyfer cymryd cam o’r fath yw na fyddai dim byd llai na’r cam hwnnw’n effeithiol.
i) Hysbysiad adran 215
Os yw’n ymddangos i’r awdurdod bod cyflwr eiddo neu dir yn effeithio’n andwyol ar fwynderau’r ardal, yna gellir cyflwyno’r uchod, gan nodi’r rhesymau pam yr ystyrir bod y cyflwr yn niweidiol a’r camau sy’n angenrheidiol i unioni’r sefyllfa.
Fel arall, gall yr awdurdod ystyried gwneud gwaith adfer angenrheidiol ei hun a cheisio adennill ei gostau gan y perchennog.
Mae hawl i apelio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn erbyn unrhyw hysbysiad adran 215 a gyflwynir gan yr awdurdod hwn.
j) Hysbysiad atgyweirio brys
Mae hwn yn gofyn am waith sydd yn angenrheidiol i adeilad rhestredig, a ddylai fod yn berthnasol i gyfanrwydd cyffredinol yr adeilad yn unig, a gellir ei gyflwyno i bob parti sydd â buddiant mewn adeilad gwag.
k) Hysbysiad atgyweirio
Gellir cyflwyno hwn mewn perthynas ag adeilad rhestredig a feddiannir nad yw, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol.
Gall hyn arwain at gaffaeliad gorfodol gan yr awdurdod o'r adeilad dan sylw i sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol.
Yn yr un modd, mae deddfwriaeth sy'n rhoi'r grym i'r awdurdod cynllunio weithredu ar safleoedd mwynau neu lle mae gorchmynion cadw coed wedi cael eu hanwybyddu.
l) Hysbysiad dirwyn i ben
Wedi’i gyflwyno os ymddengys i awdurdod cynllunio lleol, o ystyried y cynllun datblygu ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill, ei bod yn fanteisiol er budd cynllunio’n gywir yn ei ardal (gan gynnwys buddiannau amwynder) bod unrhyw ddefnydd o dir yn cael ei derfynu neu y dylid gosod unrhyw amodau ar barhad defnydd o dir, neu y dylid addasu neu symud unrhyw adeiladau neu waith.
m) Gorchymyn dirymu
Gellir cyflwyno hwn os yw'n ymddangos i'r awdurdod cynllunio lleol, o ystyried y cynllun datblygu ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill, ei bod yn fuddiol i ddirymu neu addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir a roddwyd mewn ymateb i gais.
Diffyg cydymffurfio
Os na chydymffurfir ag unrhyw un o’r hysbysiadau uchod, yna bydd yr awdurdod cynllunio lleol fel arfer yn ceisio erlyniad yn y llys ynadon. Cyn cychwyn erlyniad, rhaid iddo fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth a bod erlyniad er budd y cyhoedd.
Mae methu â chydymffurfio â hysbysiadau gorfodi yn drosedd. Yn ogystal, mae gwneud gwaith anawdurdodedig ar adeiladau rhestredig a dymchwel adeiladau anrhestredig mewn ardal gadwraeth hefyd yn droseddau. Mae gwaith anawdurdodedig i goed a warchodir a choed heb eu gwarchod mewn ardal gadwraeth yn drosedd. Mae pwerau ar gael i erlyn pobl sy'n arddangos hysbysebion yn anghyfreithlon. Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol y pŵer i dynnu/dileu hysbysebion sy'n cael eu harddangos yn anghyfreithlon ar ffurf placardiau a phosteri.
n) Camau uniongyrchol
Lle na chydymffurfiwyd â gofynion hysbysiad gorfodi neu hysbysiad adran 215, gall yr awdurdod cynllunio lleol fynd ar dir a chymryd y camau i unioni’r niwed ac adennill gan berchennog y tir unrhyw gostau a ysgwyddir.
o) Gwaharddeb
Lle mae tystiolaeth glir y rhagwelir torri rheolaeth gynllunio a bod effaith y tor hwnnw yn debygol o fod yn ddifrifol ac achosi niwed arwyddocaol, yna gall yr awdurdod cynllunio lleol wneud cais i'r llys am waharddeb. Gellir defnyddio'r rhwymedi hwn hefyd lle na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi a lle na fyddai gweithredu uniongyrchol neu erlyniad yn cynnig ateb effeithiol.
p) Deddf Enillion Troseddau
Lle mae gweithredwr wedi elwa’n ariannol o ddatblygiadau anghyfreithlon a bod ganddo ddigon o asedau cyraeddadwy, gall y cyngor ofyn am gais o dan ddeddfwriaeth y Ddeddf Enillion Troseddau i ganiatáu atafaelu asedau sy’n cyfateb i’r gwerth a gyflawnwyd drwy’r datblygiad anghyfreithlon.
9. Beth os wyf yn destun ymchwiliad gorfodi cynllunio?
9.1 Os byddwch yn derbyn llythyr neu ymweliad gan swyddog gorfodi cynllunio, yna byddem yn eich annog i gydweithredu drwy ymateb i geisiadau am wybodaeth. Ni fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn datgelu manylion na hunaniaeth yr achwynydd/achwynwyr. Ar y safle, gall swyddogion ofyn cwestiynau i unrhyw feddianwyr presennol a gallant dynnu lluniau neu gofnodi mesuriadau. Bydd y swyddog ymchwilio yn cadarnhau cyn gynted ag sy'n ymarferol a oes torri rheolaeth gynllunio wedi digwydd ai peidio, ac fel arfer mewn achosion lle canfyddir nad oes unrhyw dorri rheolaeth gynllunio wedi digwydd, bydd y mater yn cael ei ddatrys yn gyflym. Mewn achosion lle gellir negodi datrysiad, bydd y swyddog ymchwilio yn hapus i gymryd rhan mewn trafodaethau. Fodd bynnag, ni fyddwn yn derbyn oedi gormodol i gamau gweithredu neu ymatebion gofynnol yn ystod trafodaethau a byddwn yn disgwyl ymateb o fewn amserlenni penodol. Mewn rhai achosion, ni fydd y datblygiad na’r gweithgareddau anawdurdodedig yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac efallai y gofynnir i chi roi’r gorau i weithgareddau a nodwyd neu ddileu datblygiad er mwyn osgoi cymryd camau gorfodi ffurfiol a/neu gyfreithiol. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ceisio cyngor annibynnol.
Apeliadau cynllunio
Bydd gan dramgwyddwr fynediad at y llwybrau apelio canlynol:
- o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) yn erbyn penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd cynllunio (os yw’n berthnasol)
- o dan adran 174 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) yn erbyn hysbysiad gorfodi
Mae adran 174(2) o Ddeddf 1990 yn nodi saith rheswm gwahanol ar gyfer cyflwyno apêl gorfodi, a’r seiliau hyn yw:
(a) y dylid rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas ag unrhyw dorri rheolaeth gynllunio a allai fod yn rhan o’r materion a nodir yn yr hysbysiad, neu, yn ôl y digwydd, y dylai’r amod neu’r cyfyngiad dan sylw gael ei ryddhau
(b) nad yw’r materion hynny wedi digwydd
(c) nad yw’r materion hynny (os gwnaethant ddigwydd) yn gyfystyr â thorri rheolaeth gynllunio
(d) na ellid cymryd camau gorfodi, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri rheolaeth gynllunio a all gael ei greu gan y materion hynny
(e) na chyflwynwyd copïau o’r hysbysiad gorfodi fel sy’n ofynnol gan adran 172
(f) bod y camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w cymryd, neu’r gweithgareddau y mae’r hysbysiad yn gofyn iddynt ddod i ben, yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i unioni unrhyw achos o dorri rheolaeth gynllunio a all gael ei greu gan y materion hynny, neu, yn ôl yr achos, i unioni unrhyw niwed i amwynder a achoswyd gan unrhyw dor amod o'r fath
(g) bod unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag adran 173(9) yn llai na’r hyn y dylid yn rhesymol ei ganiatáu
Cofrestr gorfodi
9.2 Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd i gadw a chynnal cofrestr gorfodi fel yr amlinellir o dan adran 188 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd).
Mae’r hysbysiadau sydd wedi’u cynnwys yn y gofrestr fel a ganlyn:
- Hysbysiadau gorfodi
- Hysbysiadau torri amod
- Hysbysiadau stop
Mae hon yn gofrestr gyhoeddus a gellir ei chyrchu trwy gysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol.
10. Manylion cyswllt defnyddiol
Y Tîm Gorfodi Cynllunio
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Freemans Way
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost:PEnforcementteam@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764 551
Gwefan: Cyngor Sir Benfro
Rheoli Datblygu – Gogledd
E-bost: DevManNorth@pembrokeshire.gov.uk
Rheoli Datblygu – De
E-bost: DevManSouth@pembrokeshire.gov.uk
Tîm Cymorth Cynllunio
Rhif ffôn: 01437 775 361
E-bost: Planning.Support.Team@pembrokeshire.gov.uk
Amgylchedd Hanesyddol
Rhif ffôn: 01437 775 720
E-bost: historicenvironment@pembrokeshire.gov.uk
Cynllunio ac Ecoleg
E-bost: ecology@pembrokeshire.gov.uk
Rheolaeth Adeiladu
Mae'r adran Rheolaeth Adeiladu yn delio â cheisiadau a gyflwynir mewn perthynas â Rheoliadau Adeiladu a chyda dymchweliadau ac adeileddau peryglus.
Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn ymdrin â safonau gofynnol gwaith dylunio ac adeiladu ar gyfer adeiladu adeiladau domestig, masnachol a diwydiannol. Yn ogystal, maent yn nodi'r diffiniadau o'r hyn a ystyrir yn 'waith adeiladu' a'r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ei fod yn bodloni'r safonau a osodwyd.
E-bost: Building.control@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 776 190
Lles y Cyhoedd a Diogelu'r Amgylchedd
Mae llawer o weithgareddau mewn digwyddiadau o ran lles y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd y mae'n rhaid eu hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Darparu cyfleusterau toiled
- Gofal meddygol i'r gynulleidfa
- Materion yn ymwneud ag alcohol (cyffuriau a sylweddau eraill)
- Cyflenwad o ddŵr dihalog
- Arlwyo a diogelwch bwyd
- Baw anifeiliaid
- Diogelwch plant
- Rheoli llygredd – sŵn
- Rheoli llygredd – goleuo goramlwg
- Gwastraff/sbwriel
- Cŵn mewn digwyddiadau ac yng nghefn gwlad
- Bioddiogelwch y môr, dyfrffyrdd ac afonydd
- Traethau a diogelwch dŵr
- Ffilmio a dronau
E-bost: pollution.control@pembrokeshire.gov.uk (cwynion masnachol)
E-bost: domestp@pembrokeshire.gov.uk (cwynion domestig)
Seilwaith
Rheoli Datblygu Priffyrdd
Neuadd y Sir
Freemans Way
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551
E-bost: hwdconsult@pembrokeshire.gov.uk
Tîm Mabwysiadu Ffyrdd: highwaysadoption@pembrokeshire.gov.uk
Gofal Stryd: StreetCare@pembrokeshire.gov.uk
Chwiliadau tir lleol / maint y briffordd: highwaysearches@pembrokeshire.gov.uk
Enwi a Rhifo Strydoedd:SNN@pembrokeshire.gov.uk
Tîm y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio CynaliadwySAB@pembrokeshire.gov.uk
Cysylltiadau gwe defnyddiol
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) (Yn agor mewn tab newydd)
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (Yn agor mewn tab newydd)
Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (Yn agor mewn tab newydd)
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Yn agor mewn tab newydd)
Polisi Cynllunio Cymru (Yn agor mewn tab newydd)
Atodiad Adran 14 y Llawlyfr Rheoli Datblygu: Offer Gorfodi (Yn agor mewn tab newydd)
Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru[GE1] (Yn agor mewn tab newydd)
Caniatâd cynllunio: hawliau datblygu a ganiateir i aelwydydd | LLYW.CYMRU (Yn agor mewn tab newydd)
Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987 (Yn agor mewn tab newydd)