Ceisiadau Cynllunio Cwestiynau Cyffredin
Ceisiadau Cynllunio Cwestiynau Cyffredin
1. | Pryd mae angen caniatád cynllunio ? | Ateb |
2. | Pwy all wneud cais cynllunio ? | Ateb |
3. | Sut wyf yn gwneud cais cynllunio ? | Ateb |
4. | Beth sy’n digwydd i’m cais cynllunio ? | Ateb |
5. | Faint o amser fydd ei angen ar gyfer fy nghais ? | Ateb |
6. | Sut wyf yn gallu darganfod manylion cais ? | Ateb |
7. | A gaf wneud sylw ar gais ? | Ateb |
8. | Pa fathau o ganiatâd cynllunio sy’n bodoli ? | Ateb |
9. | Beth sy’n digwydd os yw fy nhir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ? | Ateb |
10. | Beth pe bai rhywun wedi cyflawni datblygiad heb caniatad cynllunio ? | Ateb |
Pryd mae angen caniatad cynllunio?
Mae angen caniatâd cynllunio pryd bynnag y bydd rhywun eisiau datblygu. Mae 'datblygu' yn cynnwys:
- Gwaith adeiladu, gan gynnwys y rhan fwyaf o adeiladau newydd ac estyniadau ac addasiadau i adeiladau presennol,
- Gweithrediadau peirianyddol
- Newidiadau defnydd (e.e. trosi adeilad fferm yn gartref).
Mae'r gyfraith yn caniatáu rhywfaint o waith a newidiadau defnydd heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae hyn yn cynnwys pethau fel mân newidiadau mewnol i adeiladau, a'r rhan fwyaf o waith trwsio a chynnal. Er mwyn bod yn sicr, byddem yn argymell eich bod yn ymgynghori â ni cyn dechrau unrhyw waith.
Pwy all wneud cais cynllunio?
Gall unrhyw un wneud cais cynllunio. Mae’n rhaid i ymgeisydd gadarnhau mai hwy sy’n berchen ar y tir, neu eu bod wedi cyflwyno hysbysiad i’r perchennog ac unrhyw denant amaethyddol.
Sut wyf yn gwneud cais cynllunio?
Mae ffurflen er mwyn i ymgeiswyr roi manylion eu cynigion. Mae’n rhaid i’r cais ddynodi’r tir neu’r adeiladau y mae’r cais ar eu cyfer. Mae’n rhaid i dystysgrif sy’n ymwneud â pherchnogaeth y tir fod gyda’r cais. Mae’n rhaid i rai datblygiadau mawr ddod gyda Datganiad Amgylcheddol (DA) ac mae’r hyn y dylai gynnwys wedi ei restru mewn deddfwriaeth a chyfarwyddyd gan y Cynulliad. Mae ffi nad oes modd ei thalu’n ôl ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau.
Beth sy'n digwydd i'm cais cynllunio?
Rydym yn edrych ar bob cais i sicrhau ei fod yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol a’r gofynion cyfreithiol yn cynnwys cynllun o’r safle, tystysgrif o berchnogaeth a’r ffi briodol. Gwneir copïau a’u hanfon i bobl y mae’n rhaid ymgynghori â hwy yn statudol ac eraill. Gyda’r rhan fwyaf o geisiadau bydd hyn yn cynnwys cyngor y gymuned leol, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Cyfarwyddwr Cludiant a’r Amgylchedd.
Faint o amser fydd ei angen ar gyfer fy nghais?
Mae’r llywodraeth yn disgwyl i awdurdodau lleol benderfynu ynglŷn ag 80% o geisiadau cyn pen wyth wythnos. Bydd eisiau rhagor o amser ar gyfer ceisiadau os bydd gwrthwynebiadau neu os ydynt yn fwy cymhleth.
Sut wyf yn gallu darganfod manylion cais?
Mae rhestr o geisiadau'n cael ei chyhoeddi bob wythnos. Mae copïau o holl geisiadau cynllunio cyfredol yn cael eu dal yn Neuadd y Sir ac maent ar gael i'w gweld yn ystod oriau gwaith arferol.
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth am gais arbennig, eich man galw cyntaf ddylai fod y swyddog achos a neilltuwyd i ddelio â'r cais hwn. Dim ond y swyddog achos hwn fydd â manylion y cais ac ni fydd swyddogion eraill yn gallu cynorthwyo gyda'ch ymholiad. Bydd enw'r swyddog achos a'r cyfeir-rif yn cael eu manylu ar unrhyw lythyr hysbysu neu hysbysiad safle, neu ar y rhestri wythnosol.
Cofnodion Cynllunio, Adeilad Rhestredig ac Ardal Gadwraeth a Manylion Diogelu Data
A gaf wneud sylw ar gais?
Cewch, a hynny pa un a ydych wedi eich gwahodd i wneud sylw ai peidio. Er mwyn i’ch sylwadau gael ystyriaeth mae’n rhaid iddynt ymwneud â materion cynllunio cywir, a dod i law cyn penderfynu ynglŷn â’r cais. Mae gan yr ymgeisydd hawl i weld unrhyw lythyrau a dderbynnir.
Mae arweiniad ar gael ar wneud sylwadau ar geisiadau. I ofyn am gopi, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01437 764551.
Pa fathau o ganiatâd cynllunio sy'n bodoli?
Mae dau fath o ganiatâd cynllunio:
- Os byddwch yn meddwl y byddwch eisiau datblygu ar ryw adeg yn y dyfodol, gallwch wneud cais am gymeradwyaeth mewn egwyddor, sy'n cael ei alw'n ganiatâd cynllunio amlinellol. Os byddwch yn cael caniatâd cynllunio amlinellol, yna rhaid i chi gyflwyno rhagor o fanylion (sy'n cael eu galw'n faterion neilltuedig) er mwyn caniatáu i'r datblygu ddechrau. Rhaid i chi wneud hyn o fewn tair blynedd neu bydd y caniatâd amlinellol yn dod i ben.
- Enw'r ail fath yw 'caniatâd cynllunio llawn', lle byddwch yn darparu'r holl fanylion angenrheidiol i ddechrau gweithio ar unwaith. O'i ganiatáu, rhaid i'r datblygu ddechrau o fewn pum mlynedd (neu unrhyw adeg arall a bennwyd yn yr amodau) neu bydd yn dod i ben.
Beth sy'n digwydd os yw fy nhir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro?
Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer tir oddi mewn i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Felly, dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â materion cynllunio sy’n ymwneud â defnyddio tir yn ardal y Parc Cenedlaethol at Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hytrach na’r Cyngor Sir.
Beth os bydd rhywun wedi datblygu heb ganiatâd cynllunio?
Mae gan yr awdurdod bŵer i gymryd camau gorfodi i ddymchwel adeiladau diawdurdod neu i atal defnyddiau diawdurdod. Mae hwn yn bŵer diamod.
Er mwyn rhoi gwybod am fater gorfodaeth cynllunio, cwblhewch y Ffurflen Gwyno Gorfodi Cynllunio
penforcement@pembrokeshire.gov.uk