Ceisiadau Cynllunio
Cyngor cyn cyflwyno cais
Rydym yn annog ac yn croesawu ymholiadau a cheisiadau am gyngor cyn i gais gael ei gyflwyno.
Mae dwy ffordd o gael gafael ar gyngor cynllunio cyn ymgeisio. Y cyntaf yw’r gwasanaeth statudol, sydd â ffi sefydlog wedi’i phenderfynu gan Lywodraeth Cymru, tra bo’r ail yn wasanaeth ychwanegol, mwy manwl.
Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio statudol
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn-ymgeisio) (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaeth cyn ymgeisio statudol.
Rydym wedi cynhyrchu nodyn canllaw ar y gwasanaeth, y gellir ei lawrlwytho isod:
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, rhaid i ymholwyr gyflwyno ffurflen ymholiad cyngor cyn ymgeisio wedi’i chwblhau ynghyd â’r holl wybodaeth angenrheidiol i alluogi’r awdurdod cynllunio lleol i asesu’r cynnig a darparu ymateb manwl priodol. Gellir lawrlwytho'r ffurflen hon isod:
Cliciwch ar y ddolen hon i weld y ffurflen ymholiad Cyn Ymgeisio Ffurflen ymholiad cyn ymgeisio statudol (yn agor mewn tab newydd)
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen ymholiad cyngor cyn ymgeisio wedi’i chwblhau yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
- disgrifiad o’r cynnig, gan gynnwys arwydd o gynnydd mewn arwynebedd llawr, a/neu nifer yr unedau newydd a gynigir
- cyfeiriad y safle
- cynllun lleoliad
- ffi
Bydd ffi yn daladwy gan yr ymholwr. Heb dderbyn y ffi briodol, ni fydd cyngor cyn ymgeisio yn cael ei ddarparu. Mae manylion y ffioedd i'w gweld yn: Ffioedd cyn cais
Dylai ymgeiswyr am ddatblygiadau deiliaid tai ddisgwyl derbyn yr wybodaeth ganlynol yn eu hymateb ysgrifenedig:
- hanes cynllunio perthnasol y safle
- y polisïau cynllun datblygu perthnasol yr asesir y cynnig datblygu yn eu herbyn
- canllawiau cynllunio atodol perthnasol – er enghraifft, gwybodaeth dylunio neu gadwraeth
- unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
- asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth uchod
Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylid hysbysu ymgeiswyr hefyd p'un a yw'n debygol y bydd angen unrhyw gyfraniadau adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol, a gwybodaeth am yr hyn y gall y cyfraniadau hyn ei gynnwys.
Gwasanaeth cyn ymgeisio anstatudol
Ein nod yw caniatáu datblygiadau o ansawdd uchel a'u hyrwyddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i annog awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu gwasanaeth cyn ymgeisio mwy cynhwysfawr na’r isafswm statudol, ac mae’n cydnabod y bydd tâl ychwanegol amdano. Mae nodyn canllaw i’w weld yma:-
Cyngor cyn cais nadyn cyfarwyddyd
Ni fydd unrhyw gyfarfodydd neu ymweliadau â'r safle ar gyfer ymholiad cyn ymgeisio yn rhan o’r gwasanaeth statudol.
Ymgynghoriad cyn ymgeisio
1. Mae’r gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad “mawr” (llawn neu amlinellol) a cheisiadau am ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol.
2. Nid yw'r gofyniad yn gymwys i geisiadau arfaethedig o dan adran 73 neu 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), materion a gedwir yn ôl, diwygiadau ansylweddol neu fân ddiwygiadau perthnasol.
Mae canllawiau manwl ar y gofyniad am ymgynghoriad cyn ymgeisio o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio Cymru 2015 wedi’u cynnwys yn Atodiad 1.
Mae’n bwysig nodi, er y bydd y darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 ar gyfer ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas â cheisiadau am ddatblygiadau mawr yn dod i rym ym mis Mawrth 2016, na fydd y gofyniad i ymgeiswyr gyflwyno’r adroddiad ymgynghori cyn ymgeisio yn ofyniad dilysu ar gyfer ceisiadau a wnaed cyn 1 Awst 2016.
Bydd y cyfnod pontio hwn yn caniatáu i ddarpar ymgeiswyr a fydd yn cyflwyno ar ôl 01 Awst gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio, a bydd yn gosod dyletswydd ar ymgyngoreion statudol i ddarparu ymatebion o sylwedd o fewn 28 diwrnod i’r ceisiadau hyn. Fodd bynnag, ni fydd yn rhagfarnu ymgeiswyr sydd ar fin cyflwyno cais cynllunio ac a fyddai'n canfod na fyddai'n ddilys oherwydd nad yw gofynion statudol y broses cyn ymgeisio wedi'u cyflawni.
Dylid anfon ymholiadau cyn ymgeisio at:
Tîm Rheoli Datblygu,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
SA61 1TP
e-bost - planning.support.team@pembrokeshire.gov.uk