Ceisiadau Cynllunio
Gwneud cais cynllunio
Pwy sy'n gallu gwneud cais cynllunio?
Gall pawb wneud cais cynllunio, ond rhaid i geiswyr dystio mai hwy yw perchenogion y tir, neu eu bod wedi cyflwyno rhybudd i'r perchennog ac unrhyw denantiaid amaethyddol.
Cyngor Cyn Gwneud Cais
Os gwnewch chi wneud ymholiad cyn gwneud cais, bydd hynny'n eich cynorthwyo i gael cyngor clir, diduedd a phroffesiynol yn brydlon ynghylch unrhyw faterion allweddol y mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â hwy cyn cyflwyno cynnig datblygu ffurfiol.
Gall y cyfarwyddyd hwn gynorthwyo i sicrhau nad yw cynlluniau sy'n annhebygol o gael caniatâd, yn cael eu cynnwys yn y broses ac felly gall hynny arbed amser ac arian i chi a'r Cyngor. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth
Y Ffurflen Gais
Mae ffurflen safonol i chi roi manylion eich cynigion. Rhaid i'r cais nodi'r tir neu adeiladau sy'n destun y cais. Rhaid i dystysgrif berthnasol i berchenogaeth tir fod gyda'r cais. Rhaid i rai datblygiadau mawr ddod gyda Datganiad Amgylcheddol (ES) hefyd ac mae'r hyn y dylai hwnnw gynnwys yn cael ei amlinellu yn neddfwriaeth a chyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae copïau o fapiau'r Arolwg Ordnans ar gael i helpu gwneud cais cynllunio, ond mae tâl am y gwasanaeth hwn. Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais o'r wefan, neu gallwn eu hanfon atoch ar gais.
Bydd nodiadau cyfarwyddo ar sut i lenwi'r ffurflenni yn cael ei anfon atoch. Cofiwch sicrhau bod y ffurflenni, cynlluniau a thystysgrifau priodol yn cael eu cwblhau'n gywir ac yn gynhwysfawr gan y bydd hyn yn ymochel rhag unrhyw oedi yn ystod prosesu'r cais.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu rhestr o'r gwybodaeth anghenrheidiol i'w ddanfon gyda'r cais:
Rhestr wirio ynghylch yr wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cais caniatâd cynllunio llawn
Ffïoedd
Canllaw i'r ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio yng Nghymru
Mae gofyn i ni gasglu ffi mewn cysylltiad â chyflwyno cais cynllunio. Mae'r swm yn dibynnu ar natur y datblygiad a'r math o gais. Rhaid cyflwyno'r taliad cywir neu gall beri oedi. Mae cyfrifiannell ffioedd ar gael ar dudalen y Porth Cynllunio.
Rydym yn falch o gynorthwyo gyda'r math o gais sydd ei angen a'r ffi dan sylw. Cofiwch gysylltu â ni ar 01437 764551.
Datganiadau ar Ddylunio a Mynediad
Ar 16eg Mawrth 2016, newidiwyd y gofynion ar gyfer Datganiad Dylunio a Mynediad (DDM) i fynd gyda mathau arbennig o gais. Ers hynny, ni fydd angen DDM heblaw ar gyfer y canlynol:
- Ceisiadau cynllunio am ddatblygiadau “sylweddol”, heblaw’r rhai am weithrediadau mwyngloddio; gweithrediadau gwastraff; llacio amodau (ceisiadau Adran 73); a cheisiadau am newid defnydd hanfodol o dir neu adeiladau, neu
- Ceisiadau cynllunio am ddatblygiad mewn ardal gadwraeth neu Safle Treftadaeth y Byd sy’n cynnwys darparu un annedd neu fwy neu greu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr (crynswth) neu fwy.
Pan fo angen DDM fel yr uchod, rhaid i’r DDM wneud y canlynol:
- Egluro’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad.
- Dangos y camau a gymrwyd i gloriannu cyd-destun y datblygiad a sut mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw.
- Egluro’r polisi neu agwedd a fabwysiadwyd o ran mynediad a sut ystyriwyd polisïau cysylltiedig â mynediad yn y cynllun datblygu.
- Egluro sut roddwyd sylw i faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad.
Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth
Ers 1af Medi 2017 (Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017), rhaid i holl geisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth gynnwys Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth. Mae Cadw wedi cynhyrchu canllawiau i gynorthwyo paratoi'r datganiadau hyn.
Dolenni Defnyddiol Arall
Mae gwybodaeth fuddiol ynghylch sut i ymdrin â phwnc Dylunio a Mynediad, wedi cael ei chyhoeddi gan y Comisiwn Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig (CABE) - ‘How to write, read and use them'. Sylwer: mae'r cyfarwyddyd hwn wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer datganiadau Dylunio a Mynediad yn Lloegr ond mae e'n cael ei ystyried yn ganllaw ‘arfer da' ynghylch sut i ymdrin â dylunio a mynediad.
Hefyd, mae gan Gomisiwn Dylunio Cymru ganllaw dylunio model ar gyfer Datblygiad Preswyl yng Nghymru.